OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1967 (Cy.212)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
29 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2003 | |
TREFN YR ERTHYGLAU
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, yn gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Awst 2003.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ac eithrio buail ac iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;
mae i "ardal i anifeiliaid" ("animal area") yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3)(c);
ystyr "crynhoad anifeiliaid" ("animal gathering") yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd er mwyn -
(a) gwerthiant, sioe neu arddangosfa;
(b) eu hanfon ymlaen o fewn Prydain Fawr i'w magu ymhellach, eu pesgi neu eu lladd;
(c) archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;
mae "cyfarpar" ("equipment") yn cynnwys corlannau a chlwydi; ac
ystyr "diheintydd a gymeradwywyd" ("approved disinfectant") yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] sydd o'r cryfder y mae ei angen o dan y Gorchymyn hwnnw yn "gorchmynion cyffredinol".
Eithriadau
3.
Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys os -
(a) yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;
(b) bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un gr p o safleoedd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi fel grp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003[3]; ac
(c) bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar safle y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arno neu yn ei feddiannu.
Defnyddio safleoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
4.
- (1) Ni chaiff neb ddefnyddio safle ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y safle hwnnw wedi ei drwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
(2)
(a) Rhaid i drwydded o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig;
(b) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon ei diwygio, ei hatal dros dro, neu ei dirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan arolygydd milfeddygol; ac
(c) Caiff trwydded o dan yr erthygl hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sydd, yn nhyb yr arolygydd milfeddygol, yn angenrheidiol i atal clefydau rhag cael eu cyflwyno neu eu lledaenu o fewn y safle trwyddedig neu allan ohono.
(3) Mae trwydded i bennu -
(a) enw'r trwyddedai;
(b) y safle lle y ceir cynnal crynhoad anifeiliaid; ac
(c) yr ardal y caiff yr anifeiliaid fynd arni ("ardal i anifeiliaid").
Cyfyngiad 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
5.
Ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar safle y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arno nes bydd 27 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod -
(a) y gadawodd yr anifail olaf y safle hwnnw; a
(b) ar ôl i'r anifail olaf adael y safle, y glanheir halogiad gweladwy oddi ar yr holl gyfarpar y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato.
Eithrio safleoedd ag ardal i anifeiliaid sydd wedi ei phalmantu o'r cyfnod cyfyngedig o 27 diwrnod
6.
- (1) Nid yw'r cyfyngiad yn erthygl 5 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid ar y safle trwyddedig wedi ei phalmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled ac anhydraidd arall y mae modd ei lanhau a'i diheintio'n effeithiol, ac os yw'r ardal i anifeiliaid yn cael ei glanhau a'i diheintio ac y ceir gwared ar y gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn cynnal crynhoad anifeiliaid arall.
(2) Rhaid i'r glanhau a'r diheintio
(a) beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a
(b) gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y safle trwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.
(3) Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r ardal i anifeiliaid (gan gynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd.
(4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, yr ysgarthion a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r safle trwyddedig eto -
(a) yn cael eu distrywio;
(b) yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu
(c) yn cael eu gwaredu fel na chaiff anifeiliaid fynd atynt.
(5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir ag ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y safle trwyddedig eto.
Cyfyngiadau amser
7.
- (1) Ni chaiff yr un crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion -
(a) gwerthiant neu archwiliad a gynhelir ar safle y mae erthygl 6 yn gymwys iddo; neu
(b) llwyth i'w anfon ymlaen a drwyddedir o dan y Gorchymyn hwn,
barhau yn hwy na 48 awr.
(2) Bydd y cyfnod 48 awr yn dechrau ar ganol dydd a dod i ben ar ganol dydd y trennydd.
(3) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau -
(a) na ddeuir â'r un anifail i'r safle cyn i'r cyfnod 48 awr ddechrau; a
(b) bod pob anifail yn cael ei symud o'r safle erbyn i'r cyfnod 48 awr ddod i ben.
(4) Caiff arolygydd milfeddygol, os yw wedi ei fodloni -
(a) bod angen gwneud hynny er lles yr anifeiliaid; neu
(b) mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny;
estyn y terfyn amser o 48 awr mewn cysylltiad â gwerthiant drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.
Dyletswyddau personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
8.
Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.
Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
9.
- (1) Bydd darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys pan fydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y safle trwyddedig.
(2) Ni chaiff neb ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y safle trwyddedig nes bydd halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar yr holl gyfarpar yr oedd yr anifeiliaid yn y crynhoad yn cael mynd ato.
(3) Ni chaiff neb symud unrhyw gyfarpar y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato o'r safle trwyddedig os -
(a) nad yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac os nad yw cyfnod 27 diwrnod wedi dod i ben ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y safle trwyddedig; neu
(b) nad yw'r cyfarpar wedi ei ysgubo neu ei grafu'n lân, ei lanhau drwy olchi a'i ddiheintio drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd.
Gorfodi
10.
- (1) Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion penodol neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.
Dirymu
11.
Dirymir y canlynol -
(a) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925[4];
(b) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1926[5];
(c) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1927[6];
(ch) Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau (Diwygio) 1996[7];
(d) Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003[8].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Y Dirprwy Lywydd
29 Gorffennaf 2003
Ben Bradshaw
Yr Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003
YR ATODLENErthygl 8
Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid
Dyletswyddau trwyddedai
1.
- (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y safle trwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y safle trwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai -
(a) sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a
(b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
Dyletswyddau personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
2.
- (1) Ni chaiff neb fynd ar safle trwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai -
(a) eu diheintio;
(b) newid y dillad am ddillad glân;
(c) eu taflu; neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â charthion anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis o -
(a) glanhau y dillad allanol,
(b) newid y dillad am ddillad glân,
(c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu
(ch) ymadael â'r safle trwyddedig a hynny ar ei union.
Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
3.
Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.
Cerbydau
4.
- (1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd nac offer a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y safle trwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â charthion anifeiliaid.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i -
(a) unrhyw gerbyd neu offer sydd wedi'u halogi â charthion yr anifeiliaid a oedd yn cael eu cludo ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y safle trwyddedig;
(b) unrhyw gerbyd neu offer sydd wedi'u halogi â charthion anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o'r cerbyd ar y safle trwyddedig;
(c) unrhyw gerbyd neu offer y daethpwyd â hwy yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os yr eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y safle.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw -
mae'n ehangu diffiniad "crynoadau anifeiliaid" i gynnwys anifeiliaid a ddaethpwyd ynghyd i'w harchwilio er mwyn sicrhau bod ganddynt nodweddion brid penodol (erthygl 2);
mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd mewn gr p meddiannaeth unigol (erthygl 3);
mae'n gosod terfyn amser 48 awr ar grynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu ac anfon anifeiliaid ymlaen o fewn Prydain Fawr er mwyn eu lladd, eu magu ymhellach neu eu pesgi. Caiff arolygydd milfeddygol estyn y terfyn amser ar werthiannau anifeiliaid os bydd angen gwneud hynny er lles yr anifeiliaid neu os bach yw'r perygl o gyflwyno salwch yn y gwerthiant neu wrth anfon anifeiliaid ymlaen wedi hynny (erthygl 7);
mae'n ehangu paragraff 4 o'r Atodlen i gynnwys ysgarthion anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o gerbyd mewn safle trwyddedig. Mae hefyd yn darparu mai at ddibenion glanhau a diheintio cerbyd yn unig y caiff cerbydau neu gyfarpar sydd wedi eu halogi ag ysgarthion anifeiliaid fynd i mewn i safle trwyddedig.
Mae'n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded am grynoadau anifeiliaid, fel y bu hi'n ofynnol eisoes (erthygl 4). Mae'n pennu na cheir cynnal crynhoad anifeiliaid os nad yw'n digwydd 27 diwrnod ar ôl i'r anifail olaf adael y safle hwnnw ac ar ôl i halogiad gweladwy gael ei lanhau oddi ar gyfarpar ar y safle hwnnw (erthygl 5). Os ar safle wedi ei balmantu y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r safle hwnnw ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae'n gosod dyletswyddau ar bersonau sy'n mynd i grynhoad anifeiliaid (erthygl 8 a'r Atodlen). Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 9).
Mae'n dirymu Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (Rh. & G.S. 1925/1349) a'r offerynnau sy'n ei ddiwygio (erthygl 11). Yr awdurdod lleol sy'n ei orfodi (erthygl 10).
Mae methu cydymffurfio â'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac mae'r gosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi a'i roi yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol . Ceir copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 1978/32 fel y'i diwygiwyd gan O. S. 1999/919 ac, o ran Cymru, O. S. 2001/641 (Cy.31).back
[3]
O.S. 2003/1966 (Cy. 211).back
[4]
Rh. a G.S. 1925/1349.back
[5]
Rh. a G.S. 1926/546.back
[6]
Rh. a G.S. 1927/982.back
[7]
O.S. 1996/3265.back
[8]
O.S. 2003/481 (Cy.67).back
English version
ISBN
0 11090778 7
|