British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003 Rhif 1774 (Cy.191)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031774w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 1774 (Cy.191)
BWYD, CYMRU
Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003
|
Wedi'i wneud |
15 Gorffennaf 2003 | |
|
Yn dod i rym |
31 Gorffennaf 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Llongau ac Awyrennau) (Cymru) 2003; daw i rym ar 31 Gorffennaf 2003 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn -
mae i "Cymru" yr ystyr a ddarperir ar gyfer "Wales" gan adran 155 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2];
mae i "dyfroedd mewnol" yr ystyr a roddir i "internal waters" at ddibenion Erthygl 8(1) o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr;
ystyr "y Ddeddf ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "llong neu awyren esempt" ("exempt ship or aircraft") yw unrhyw long neu awyren freintrydd sofran neu unrhyw long o Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig sy'n arfer yr hawl i dramwyo'n ddiniwed drwy'r rhan honno o'r môr tiriogaethol o fewn Cymru ystyr "llong neu awyren freintrydd sofran" ("sovereign immune ship or aircraft") yw unrhyw
long neu awyren sy'n perthyn i Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig na chaiff ei defnyddio at ddibenion masnachol;
ystyr "llong sy'n mynd tuag adref" ("home-going ship") yw llong sy'n ymwneud yn unig â'r canlynol -
(a) mynd a dod ar ddyfroedd mewnol, neu
(b) teithiau nad ydynt yn hwy na diwrnod, sy'n dechrau ac yn gorffen ym Mhrydain Fawr ac nad ydynt yn golygu galw yn unlle y tu allan i Brydain Fawr;
mae i'r "môr tiriogaethol" yr ystyr a roddir i "territorial sea" at ddibenion Deddf Môr Tiriogaethol 1987[3];
ystyr "y prif ddarpariaethau Rheoli Hylendid a Thymheredd" ("the principal Hygiene and Temperature Control provisions") yw -
(a) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995[4] ac eithrio rheoliad 4A o Atodlen 1A i'r Rheoliadau hynny (trwyddedau i siopau cigyddion);
(b) Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995[5] ac eithrio rheoliadau 4 - 9 a 12 a Rhan III o'r Rheoliadau hynny.
mae i "tramwyo'n ddiniwed" yr ystyr a roddir i "innocent passage" at ddibenion Rhan II Adran 3A o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr.
Mae llongau ac awyrennau yn fangreoedd at ddibenion penodedig
3.
Mae "mangreoedd" yn cynnwys unrhyw long neu awyren o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at unrhyw ddiben a bennir mewn perthynas â'r llong neu'r awyren honno yn yr Atodlen honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Gorffennaf 2003
YR ATODLENErthygl 3
Llongau ac awyrennau sy'n fangreoedd at ddibenion penodedig
1.
Unrhyw long sy'n mynd tuag adref at ddibenion cymhwyso'r Ddeddf ac unrhyw reoliadau a wneir odani.
2.
Unrhyw long neu awyren arall nad yw'n llong neu awyren esempt -
(a) at ddibenion sicrhau a oes yn y llong neu'r awyren unrhyw fwyd a fewnforir fel rhan o'r cargo yn groes i ddarpariaethau rheoliadau a wneir o dan Ran II o'r Ddeddf;
(b) at ddibenion cymhwyso'r prif ddarpariaethau Hylendid a Thymheredd; ac
(c) at ddibenion cymhwyso adrannau 11 a 12 o'r Ddeddf:
ac mae cyfeiriadau at "premises" yn adran 2, 3, 29, 32 a 50 o'r Ddeddf yn cynnwys unrhyw long neu awyren o ddisgrifiad a bennir yn y paragraff hwn mewn perthynas ag unrhyw ddibenion a bennir yn y paragraff hwn a hefyd mewn perthynas ag adrannau 8 i 10 o'r Ddeddf.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sydd yn gymwys i Gymru, yn pennu'r llongau a'r awyrennau a'r dibenion y maent yn "fangreoedd" ar eu cyfer o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Mae'r Gorchymyn -
(a) yn disodli darpariaethau a wnaed gynt gan adran 59(3) o Ddeddf 1990 ac Atodlen 4 paragraff 1 iddi ar gyfer llongau sy'n mynd tuag adref ac ar gyfer archwilio mewnforion cargo llongau ac awyrennau (erthygl 3 a pharagraffau 1 a 2(a) yn yr Atodlen);
(b) er mwyn gweithredu ymhellach Gyfarwyddeb y Cyngor 93/43/EEC ar hylendid bwydydd[6] a Chyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC ar reolaeth swyddogol ar fwydydd[7], yn pennu llongau ac awyrennau penodol eraill at ddibenion cymhwyso darpariaethau'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) 1995 a Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Rheoli Tymheredd) 1995 ac ar gyfer adrannau cysylltiedig penodol o'r Ddeddf (erthygl 3 a pharagraff 2(b) ac (c) o'r Atodlen).
(c) yn darparu y bydd cyfeiriadau at "premises" yn adrannau 2, 3, 29, 32 a 50 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cynnwys y llongau a'r awyrennau eraill hynny at y dibenion a bennir ym mharagraff 2(a), (b) ac (c) o'r Atodlen ac adrannau 8 i 10 o Ddeddf 1990 (Yr Atodlen, paragraff 2).
Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Cymuned Ewropeaidd y cyfeiriwyd ati uchod yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig drwy'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.
Notes:
[1]
1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.back
[2]
1998 c.38.back
[3]
1987 p.49.back
[4]
O.S. 1995/1763 fel y'i diwygiwyd gan OS 1995/2148, 1995/3205, 1996/1699, 1997/2537, 1998/994, 1999/1360, 1999/1540, 2000/656 ac yn benodol gan Reoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341 (Cy. 219)).back
[5]
O.S. 1995/2200 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3205, 1996/1499, 1998/994, 1998/1398 a 2000/656.back
[6]
OJ Rhif L175, 19.7.93, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 96/3 (OJ Rhif L21, 27.1.96, t.42) a Chyfarwyddeb 98/28 (OJ Rhif L140, 12.5.98, t.10).back
[7]
OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23, fel y'i cyflawnwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar bwnc mesurau ychwanegol ynghylch y rheolaeth swyddogol ar fwydydd (OJ L290, 24.11.1993, t.14).back
English version
ISBN
0 11090759 0
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
23 July 2003
|