British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 976 (Cy.135)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030976w.html
[
New search]
[
Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 976 (Cy.135)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
1 Ebrill 2003 | |
|
Yn dod i rym |
11 Ebrill 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn dod i rym ar 11 Ebrill 2003.
Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002
2.
Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002[3] yn unol â'r Rheoliadau hyn.
Diwygio rheoliad 2
3.
- (1) Diwygir rheoliad 2(1) yn unol â'r rheoliad hwn -
(2) Ar ôl y diffiniad o "the Customs Code", mewnosodir y diffiniad canlynol- -
"
"customs officer" means an officer as defined by section 1(1) of the Customs and Excise Management Act 1979[4]) (a person commissioned by the Commissioners);"; a
(3) Ar ôl y diffiniad o "physical check" mewnosodir y diffiniad canlynol - -
"
"point of entry" means any place where goods are subject to customs supervision under Articles 37 and 38 of the Customs Code, other than a border inspection post;".
Diwygio rheoliad 4
4.
Mewnosodir y geiriau "subject to regulation 16," ar ddechrau rheoliad 4(c).
Mewnosod rheoliad 12A
5.
Ar ôl rheoliad 12, mewnosodir y rheoliad canlynol -
"
Exchange of Information
12A.
(1) For the purposes of the execution or enforcement of these Regulations, the National Assembly for Wales, the Commissioners, any local authority and the Agency may exchange amongst themselves, any information received by them in the execution or enforcement of these Regulations.
(2) The National Assembly, the Commissioners, any local authority and the Agency may share information received by them in the execution or enforcement of these Regulations with the enforcement agencies in England, Northern Ireland and Scotland for the purposes of enforcing the legislation on the introduction of products of animal origin from third countries in England, Northern Ireland and Scotland respectively.
(3) Paragraphs (1) and (2) are without prejudice to any other power of the National Assembly, the Commissioners, any local authority and the Agency to disclose information.".
Diwygio rheoliad 13
6.
Yn rheoliad 13(1)(b), rhoddir y geiriau "or in Commission Decision 2001/812/EC" yn lle "or the Annex to Commission Decision 2001/812/EC".
Amnewid rheoliad 16
7.
Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 16 -
"
Prohibition on introduction of products except at border inspection posts
16.
- (1) No product shall be introduced into Wales from a third country except at a border inspection post designated and approved for veterinary checks on that product.
(2) No Article 9 product, the border inspection post of introduction of which is outside the United Kingdom, and the border inspection post of destination of which is in Wales, shall be introduced into Wales except at a border inspection post designated and approved for veterinary checks on that product.
(3) This regulation shall be enforced -
(a) at points of entry by the Commissioners;
(b) at premises referred to in regulation 4(b) by the Agency; and
(c) at any other place by the local authority.
(4) In cases where an officer of a local authority, when exercising any statutory function, discovers at a point of entry a consignment or product which he or she considers may have been introduced in breach of this regulation, he or she must notify a customs officer and detain the consignment or product until a customs officer takes charge of it.
(5) For the purposes of the application of the Customs and Excise Management Act 1979 to products introduced in contravention of this regulation, the time of introduction shall be the time of importation in accordance with with section 5 of that Act.".
Diwygio rheoliad 28
8.
- (1) Yn lle paragraff 1 o reoliad 28, rhoddir y paragraff canlynol -
"
(1) The person responsible for the product or consignment concerned or, where a notice has been served on the person appearing to have charge of the product or consignment, the owner of the product or consignment, or the person on whom a notification of seizure pursuant to the Customs and Excise Management Act 1979 has been served, must pay on demand the costs of storing, transporting, redispatching, disposing of and destroying any product or consignment redispatched or destroyed pursuant to regulation 21, 24, 25 or 26 or any powers exercised under the Customs and Excise Management Act 1979 in the enforcement of regulation 16.".
(2) Yn rheoliad 28(2), rhoddir y geiriau "an official veterinary surgeon, an authorised officer, the National Assembly, a local authority, the Agency or the Commissioners" yn lle "an official veterinary surgeon, an authorised officer, the National Assembly, a local authority or the Agency".
Diwygio Rhan I o Atodlen 6
9.
Yn Rhan I o Atodlen 6 rhoddir y geiriau "16 (Prohibition of introduction of products except at border inspection posts)" yn lle "16 (Introduction of products at border inspection posts)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
1 Ebrill 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd ) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1387 (Cy.136), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/3011 (Cy.282) ac O.S. 2002/3239 (Cy.307)) ('y prif Reoliadau') sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif . L24, 30.1.98, t.9).
Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Comisiynwyr y Tollau Tramor a Chartref ("y Comisiynwyr"), unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyfnewid gwybodaeth ymysg ei gilydd a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Mae rheoliad 6 yn gwneud mân newid drafftio i reoliad 13 o'r prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 16 o'r prif Reoliadau. Mae'r rheoliad 16 newydd yn darparu bod y gwaharddiad ar gyflwyno cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid i Gymru (ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffin) yn cael ei orfodi yn y pwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr yn hytrach na chan yr awdurdodau lleol.
Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 28 o'r prif Reoliadau i ddarparu y caiff y Comisiynwyr godi tâl am y costau wrth ailddosbarthu neu ddifetha cynnyrch neu lwyth ar y person y cyflwynwyd hysbysiad atafaelu iddo.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2002/1387 (Cy.136), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/3011 (Cy. 282), a 2002/3230 (Cy. 307).back
[4]
1979 p. 2.back
English version
ISBN
0 11090715 9
|
© Crown copyright 2003 |
Prepared
10 April 2003
|