Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(4) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw a dehongli 1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 2002" yw Deddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Cychwyn 2.
Daw adrannau 97 a 98 o Ddeddf 2002 (partneriaethau gostwng nifer yr achosion o drosedd ac anhrefn a swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â strategaethau) yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003 i'r graddau y maent yn ymwneud ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau adrannau 97 a 98 o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 ("Deddf 2002") i rym ar 1 Ebrill 2003, i'r graddau y mae'r adrannau hynny'n ymwneud â Chymru.
Mae adran 97 o Ddeddf 2002 yn gwneud amrywiol newidiadau i bartneriaethau gostwng trosedd ac anhrefn, trwy ddiwygio adrannau 5, 6, 17(2), 114 a 115(2) o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ("Deddf 1998").
Mae adran 98 o Ddeddf 2002 yn mewnosod adran 6A newydd, yn Neddf 1998. I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r adran 6A newydd hon yn nodi swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â strategaethau ar gyfer gostwng nifer yr achosion o drosedd.