British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022615w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 2615 (Cy.253) (C.82)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
15 Hydref 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) a (4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnod a benodwyd
2.
1 Tachwedd 2002 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dod ag adrannau 60 a 61 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (cynlluniau gwella hawliau tramwy) i rym mewn perthynas â Chymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Hydref 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â rhai darpariaethau Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym, mewn perthynas â Chymru, ar 1 Tachwedd 2002, sef:
(1) adran 60, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod priffyrdd lleol i baratoi ac i gyhoeddi cynllun (a adwaenir fel "cynllun gwella hawliau tramwy") o fewn 5 mlynedd ar ôl i'r adran honno ddod i rym ac i adolygu'r cynllun o leiaf unwaith pob 10 mlynedd ac sy'n rhoi p
![ycirc](/wales/legis/num_reg/2002/images/ycirc.gif)
n â chynnwys cynllun a'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod eu hasesu wrth baratoi cynllun.
(2) adran 61, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ymgynghori â chyrff penodedig (a chyda'r personau eraill y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu trwy reoliadau) ac sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod ystyried sylwadau a wneir ar gynllun drafft a rhoi sylw i ganllawiau a gyflwynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Adran neu Atodlen
|
Dyddiad Cychwyn
|
Rhif O.S.
|
46(1)(b) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
68 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70 (2) a (4) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
72 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Rhan IV (h.y. adrannau 82-93) (ac felly Atodlenni 13, 14 ac 15) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 |
30 Ionawr 2001 (Cy.9) (C.10) |
O.S. 2001/203 |
102 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 6. |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraff 18(a) ac 19 (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau I a II (yn rhannol) |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhannau III, IV, V a VI. |
1 Mai 2001 |
O.S. 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Notes:
[1]
2000 p.37.back
[2]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090577 6
|
Prepared
28 October 2002