British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20022532w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 2532 (Cy.248)(C.81)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
7 Hydref 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38(1), 42(3) a (4)(c), (d) ac (e)(iii) a (iv) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[
1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf "("
the Act") yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y diwrnod penodedig
2.
10 Hydref 2002 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
7 Hydref 2002
YR ATODLENErthygl 2
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 10 HYDREF 2002
Darpariaethau'r Ddeddf
|
Y Pwnc
|
Adran 6 |
Byrddau Iechyd Lleol |
Adran 9 |
Cyllido Byrddau Iechyd Lleol |
Adran 10 |
Gwariant cyrff GIG |
Adran 23 |
Cydweithio â'r gwasanaeth carchardai |
Adran 24 |
Strategaethau Iechyd a Llesiant yng Nghymru |
Adran 37 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 8 ac Atodlen 9 a bennir isod: - |
Mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau |
Yn Atodlen 8 -
Paragraff 1;
Paragraff 2;
Paragraff 3;
Paragraff 4(1),(2)(b) ac (c);
Paragraff 8;
Paragraff 9;
Paragraff 10;
Paragraff 11;
Paragraff 18;
Paragraff 19;
Paragraff 20;
Paragraff 21;
Paragraff 22;
Paragraff 23;
Paragraff 24;
Paragraff 25;
Paragraff 26;
Paragraff 27;
Paragraff 30;
Paragraff 31;
Paragraff 32;
Paragraff 33;
Paragraff 34;
Paragraff 36;
Paragraff 37.
|
|
Yn Atodlen 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, diddymu: - |
|
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (C.49):
Yn adran 22(1A), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (c); adran 28(A)(1), y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a); adran 29B(3), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (b); yn adran 33(1A)(b), y geiriau "for areas in Wales"; yn adran 44(2), y geiriau "with the approval of the Health Authority"; adran 51(3), y gair ("and") ar ddiwedd paragraff (bb); adran 97(6)(bb) ac (c) ac (8); adran 125, y gair "and" ar ddiwedd paragraff (bb); adran 126(4A), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (b) ac yn Atodlen 12A, ym mharagraff 4(2) y gair "or" ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(1) y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(2) y gair "or" ar ddiwedd paragraff (a) ac ym mharagraff 7(3) "or Primary Care Trust".
|
|
Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (C.46):
Yn adran 2, yn is-adran (2)(a), y geiriau "whose areas are in Wales".
|
|
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38):
Yn Atodlen 5, ym mharagraff 20, y geiriau "for an area in, or consisting of, Wales" ac yn Atodlen 17 ym mharagraff 12, y geiriau "for an area in, or consisting of, Wales".
|
|
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49):
Yn adran 97D(1) (b), y geiriau "apart from subsection (5A)".
|
|
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19):
Yn adran 12(4), y geiriau ar ôl paragraff (b).
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19):
Yn atodlen 10, paragraff 11(4).
|
|
Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17):
Adran 1 ac yn Atodlen 1, paragraffau 32(b), 53 a 107(12)(b).
|
|
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46):
Yn Atodlen 2, paragraffau 71(3), 73 a 75.
|
|
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38):
Adran 148.
|
|
Deddf Iechyd 1999 (p. 8):
Yn Atodlen 4, paragraffau 5, 31(2) a 35.
|
|
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15):
Adrannau 1(4) a (5), 3(3) (4) a 43(5) ac yn Atodlen 5, paragraff 5(12)(b).
|
|
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yng Ngorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 mewn perthynas â Chymru.
Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n gwneud y canlynol: -
(a). galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu Byrddau Iechyd Lleol ac i roi swyddogaethau i'r Byrddau a fydd newydd eu sefydlu (adran 6);
(b). sefydlu mecanwaith ar gyfer cyllido Byrddau Iechyd Lleol a gosod dyletswyddau ariannol penodol mewn perthynas â therfynau gwariant ac adnoddau ar y Byrddau (adran 9);
(c). galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau mewn perthynas â statws, cyfansoddiad, aelodaeth a swyddogaethau atodol Byrddau Iechyd Lleol (Atodlen 4) ac yn gwneud newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes (Atodlen 5);
(ch). cadw'r trefniadau presennol ar gyfer cyllido cyrff GIG yng Nghymru nes y bydd Awdurdodau Iechyd Cymru yn cael eu diddymu, yn darparu ar gyfer diffinio gwariant Rhan 1 a Rhan 2 Byrddau Iechyd Lleol i adlewyrchu'r hyn sy'n gymwysadwy i'r Awdurdodau Iechyd a chaniatáu dosrannu'r gydnabyddiaeth y gellir ei phriodoli i gostau cyffuriau rhwng Byrddau Iechyd Lleol (adran 10);
(d). gofyn am gydweithio rhwng cyrff GIG a'r gwasanaeth carchardai gyda golwg ar sicrhau a chynnal iechyd carcharorion (adran 23);
(dd). gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u tir o fewn ardal yr awdurdod lleol i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol (adran 24);
(e). cychwyn mân ddiwygiadau a diddymiadau canyniadol (adran 37).
Notes:
[1]
2002 p.17.back
[2]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090576 8
|
Prepared
17 October 2002