British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021897w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1897 (Cy.198)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
CADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
18 Gorffennaf 2002 | |
|
Yn dod i rym |
5 Awst 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(1), (4) a (6) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[
1] a phob p
er arall sy'n ei alluogi yn hynny o beth, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crancod Heglog Rhy Fach (Cymru) 2002 a daw i rym ar 5 Awst 2002.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru fel y'i diffiniwyd yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.[
2].
Dehongli
2.
- Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "cranc heglog" ("spider crab") yw cranc o'r rhywogaeth Maia squinado;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
ystyr "maint" ("size") mewn perthynas â chranc heglog, yw hyd y gragen, ar hyd y llinell ganol, o ymyl y gragen rhwng y gylfin hyd at ymyl cefn y gragen a chaiff ei fesur fel y dangosir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr "y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" ("the territorial sea adjacent to Wales") yw'r môr cyfagos at Gymru allan cyn belled â ffin forol y môr tiriogaethol.
Isafswm maint rhagnodedig ar gyfer glanio crancod heglog
3.
- (1) At ddibenion adran 1(1) o'r Ddeddf (sy'n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad, sef pysgodyn sy'n llai o ran maint na'r maint y gellir ei ragnodi mewn perthynas â physgod môr o'r disgrifiad hwnnw), rhagnodir drwy hyn mai 130 milimedr yw'r isafswm maint ar gyfer crancod heglog gwryw.
(2) Caiff cychod pysgota tramor eu heithrio o'r gwaharddiad sy'n cael ei osod gan adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen â pharagraff (1) uchod.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr mewn perthynas â chychod pysgota
4.
- (1) At ddibenion gorfodi adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau (2) i (4) isod mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig perthnasol ac unrhyw gwch pysgota Albanaidd yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru.
(2) Gall y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i'w gynorwthyo yn ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw gall fynnu bod y cwch yn stopio ac yn gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Gall y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw bersonau eraill ar fwrdd y cwch a gall gynnal unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod ac, yn benodol -
(a) gall archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch gan gynnwys yr offer pysgota, a mynnu bod y personau ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth y mae'n ymddangos iddo ef neu hi eu bod yn angenrheidiol i hwyluso'r archwiliad;
(b) gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn dangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, ei weithgareddau pysgota neu weithgareddau sy'n ategol i hynny neu i'r personau ar ei bwrdd sydd yn ei warchodaeth neu ei feddiant a gall gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) at y diben o ganfod a yw meistr, perchennog neu'r sawl sydd wedi siartro'r cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 1(1) o'r Ddeddf fel y caiff ei darllen gyda'r Gorchymyn hwn, gall chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhywbeth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol er mwyn hwyluso'r chwilio; ac
(ch) pan fo'r cwch yn gwch y mae gan y swyddog reswm dros gredu bod tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, gall feddiannu a chadw unrhyw ddogfen o'r fath sy'n cael ei dangos neu y deuir ar ei thraws ar ei fwrdd at y diben o sicrhau bod modd i'r ddogfen gael ei defnyddio fel tystiolaeth mewn achos sydd ynghlwm â'r dramgwydd,
ond ni chaiff dim yn is-baragraff (ch) uchod ganiatáu i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chadw ar y cwch yn ôl y gyfraith gael ei dal na'i chadw heblaw pan fo'r cwch yn cael ei gadw mewn porthladd.
(4) Pan ei bod hi'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig bod y Gorchymyn hwn wedi'i dramgwyddo ar urhyw adeg o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydeinig gall -
(a) fynnu bod meistr y cwch y mae'r dramgwydd wedi'i wneud mewn perthynas ag ef yn mynd â'r cwch, a'i griw, neu gall y swyddog fynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd cyfleus agosaf, ym marn y swyddog hwnnw, a
(b) cadw neu fynnu bod y meistr yn cadw'r cwch yn y porthladd;
a phan fo swyddog o'r fath yn cadw neu yn mynnu bod cwch yn cael ei gadw bydd ef neu hi yn cyflwyno rhybudd ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y bydd y cwch yn cael, neu ei bod hi'n ofynnol ei fod yn cael ei gadw hyd nes y bydd y rhybudd yn cael ei dynnu yn ôl drwy gyflwyno rhybudd ysgrifenedig pellach i'r meistr gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Gorffennaf 2002
YR ATODLENErthygl 2
MESUR MAINT CRANC HEGLOG
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi isafswm maint ar gyfer glanio crancod heglog gwryw (
Maia squinado) yng Nghymru (erthygl 3 (1)). Mae cychod pysgota tramor yn cael eu heithrio o'r isafswm maint hwn ar gyfer glanio crancod heglog yng Nghymru o gychod pysgota tramor (erthygl 3(2)). Mae cymeryd mesurau ar gyfer cadw a rheoli stociau o dan Erthygl 46 o Reoliad y Cyngor 850/98 yn ddarostyngedig i amod fod y mesurau yn gymwys i bysgotwyr yr Aelod-wladwriaeth berthnasol yn unig.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn rhoi pwerau gorfodi pellach i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota Prydeinig yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru (erthygl 4).
Rhagnodir tramgwyddau a chosbau yn y drefn honno gan adran 1(7) ac (8) ac adran 11 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53).
Gwneir y Gorchymyn hwn gan ddibynnu ar Erthygl 46.1 o Reoliadau'r Cyngor (EC) Rhif 850/98 (OJ Rhif L125, 27.04.98, p.1), ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn amddiffyn organebau morol bychan, sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddilyn rhai mesurau cenedlaethol penodol er mwyn cadw a rheoli stociau.
Paratowyd Asesiad Effaith Rheoliadol ar sail y D.U. gyfan. Gellir cael copïau oddi wrth y Gangen Pysgodfeydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.
Notes:
[1]
1967 p.84. Amnewidiwyd adran 1 gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) adran 19(1), a chafodd ei diwygio gan baragraff 38(a) o Atodlen 13 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21) a pharagraff 43(2) a (3) o Atodlen 2 i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Newidiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Amnewidiwyd adran 15(3) gan Ddeddf Pysgodfeydd Môr 1978 (p.77) Atodlen 1, paragraff 38(3) a chafodd ei diwygio gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86) Atodlen 2, paragraff 16(1) ac O.S. 1999/1820, paragraff 43(2)(b). Gweler adran 22(2) am ddiffiniad o "y Gweinidogion" at ddibenion adran 1 a 15(3); cafodd adran 22(2) ei diwygio gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981, adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, paragraff 43(12) o Atodlen 2. Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 1 a 15(3) o Ddeddf 1967 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y bônt yn arferadwy yng Nghymru (cânt eu diffinio yn adran 155(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) fel eu bod yn cynnwys "the sea adjacent to Wales out as far as the seaward boundary of the territorial sea"); mewn perthynas â dyfroedd y tu hwnt i Gymru mae'r swyddogaethau hyn yn parhau i gael eu harfer gan y Gweinidogion.back
[2]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090543 1
|
Prepared
12 August 2002