British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021358w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 1358 (Cy.134)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002
|
Wedi'i wneud |
14 Mai 2002 | |
|
Yn dod i rym |
15 Mai 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, drwy arfer ar y cyd y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7 a 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 [
1] yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dod i rym ar 15 Mai 2002.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
(a) ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[2]; a
(b) mae "cyfarpar" ("equipment") yn cynnwys corlannau a chlwydi.
Diwygio erthygl 2
3.
- (1) Bydd erthygl 2 y prif Orchymyn yn cael ei diwygio yn unol â darpariaethau'r erthygl hon.
(2) Dilëwch y geiriau ", oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall".
(3) Ym mharagraff (d), dilëwch y geiriau "yn achos gwartheg stôr,".
Diwygio Paragraff 2 o'r Atodlen
4.
Rhowch y paragraff dilynol yn lle paragraff 2 o'r Atodlen -
"
2.
Pan fydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi ymadael y tir a'r adeiliadau, ni chaiff neb
(a) yn ddarostyngedig i baragraff 3 isod, ganiatáu i anifeiliaid ddod i'r tir a'r adeiladau hynny nes y bydd yr holl waith glanhau halogiad, sy'n weladwy ar y cyfarpar yr oedd gan yr anifeiliaid yn y crynhoad fynediad iddo, wedi'i gwblhau; neu
(b) symud o'r tir a'r adeiladau hynny unrhyw gyfarpar yr oedd gan anifeiliaid yn y crynhoad fynediad iddo, oni bai -
(i) bod gwaith glanhau'r halogiad gweladwy y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) uchod oddi ar y cyfarpar sydd i'w symud oddi yno wedi ei gwblhau a bod y cyfnod o 28 diwrnod wedi mynd heibio ers i'r gwaith hwnnw gael ei gwblhau; neu
(ii) bod y cyfarpar sydd wedi cael ei symud oddi yno wedi cael ei ysgubo neu ei grafu'n lân, wedi ei lanhau drwy olchi a bod diheintydd a gymeradwywyd wedi ei daenu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr."
Diwygio paragraff 6 o'r Atodlen
5.
Ym mharagraff 6 o'r Atodlen, yn lle'r geiriau "(am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno)" rhowch y geiriau a ganlyn -
"
, yn dilyn y tro diwethaf i'r tir a'r adeiladau gael eu glanhau a'u diheintio yn unol â pharagraffau 4 a 5 uchod,".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Mai 2002
Lord Whitty
Is-ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
14 Mai 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Mae'n diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S.2002/283 (Cy.34)) (y prif Orchymyn), sydd, am gyfnod dros dro hyd nes 30 Tachwedd 2002, yn datgymhwyso ac yn cymryd lle Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 1925 (O.S. 1925/1349) (fel y'i diwygiwyd), ac mae'n gwahardd defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid oni bai bod trwydded i ganiatáu'r gweithgaredd hwnnw ac oni bai bod ymlyniad wrth ddarpariaethau ei Atodlen.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio -
(a) y diffiniad o "crynhoad anifeiliaid" yn Erthygl 2(d) o'r prif Orchymyn (erthygl 3).
(b) y darpariaethau ym mharagraff 2 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn sy'n gymwys yn dilyn crynhoad anifeiliaid er mwyn cael gwared ar y gofyniad bod rhaid i 28 diwrnod fynd heibio cyn y gellir caniatáu i anifeiliaid eraill fod ar y tir ac adeiladau (erthygl 4).
(c) y darpariaethau ym mharagraff 6 o'r Atodlen i'r prif Orchymyn er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r tir ac adeiladau gael ei lanhau a'i ddiheintio ymhellach os yw yn cael ei halogi am unrhyw reswm ar ôl iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio yn unol â'r prif Orchymyn (erthygl 5).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
Notes:
[1]
1981 p.22. Gweler adran 86(1) ar gyfer y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac i'r graddau yr oedd y swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, trosglwyddwyd hwy i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd holl swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back
[2]
O.S. 2002/283 (Cy.34).back
English
version
ISBN
0 11090499 0
|
Prepared
6 June 2002