Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20020045w.html
[
New search]
[
Help]
2002 Rhif 45 (Cy.4)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002
|
Wedi'i wneud |
14 Ionawr 2002 | |
|
Yn dod i rym |
4 Chwefror 2002 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 356(2)(c) a (5) i (8) ac adran 568(5) a (6) o Ddeddf Addysg 1996[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yn y Cynulliad[
2].
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 4 Chwefror 2002.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion sydd ym mlwyddyn olaf y cyfnod allweddol cyntaf yn Gymraeg, Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i ysgolion a gynhelir yng Nghymru yn unig.
(4) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys at ddibenion canfod cyraeddiadau disgyblion mewn Cymraeg yn dilyn rhaglen astudio a elwir "Cymraeg Ail Iaith"[
3].
Diddymu
2.
Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997[
4] yn cael ei ddiddymu.
Dehongli
3.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "a bennir" ("specified"), onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yw a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf, gan orchymyn adran 356(2)(a) a (b);
ystyr "yr Awdurdod" ("the Authority") yw'r awdurdod a elwir Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru[5];
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "y dogfennau cysylltiedig" ("the associated documents") yw'r dogfennau sy'n cael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod, sy'n nodi'r lefelau cyrhaeddiad, y targedau cyrhaeddiad a'r rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol, sef y dogfennau sy'n cael effaith yn rhinwedd y gorchmynion adran 356(2)(a) a (b) priodol ar gyfer y pynciau hynny sydd mewn grym am y tro[6];
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysg 1996;
ystyr "gorchmynion adran 356(2)(a) a (b)" ("section 356(2)(a) a (b) orders") yw gorchmynion sy'n cael eu gwneud o dan adran 356(2)(a) a (b) o'r Ddeddf ac sy'n pennu targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio mewn perthynas â'r pynciau perthnasol;
ystyr "y pynciau perthnasol" ("the relevant subjects") yw -
(i) mathemateg a gwyddoniaeth;
(ii) mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg, Cymraeg; a
(iii) mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg;
ystyr "TC" ("AT") yw targed cyrhaeddiad;
ystyr "tymor yr haf" ("summer term") yw'r trydydd tymor mewn blwyddyn ysgol;
mae i "ysgol a gynhelir" yr ystyr a roddir i "maintained school" gan adran 350(1) o'r Ddeddf[7];
mae cyfeiriad at ddosbarth neu ysgol cyfrwng Cymraeg yn gyfeiriad yn eu tro at ddosbarth neu ysgol lle, mewn perthynas â disgyblion yn y cyfnod allweddol cyntaf, addysgir mwy na hanner o'r pynciau canlynol, sef -
rhaid dehongli cyfeiriadau at y cyfnod allweddol cyntaf yn unol â'r cyfeiriad at "the first key stage" yn adran 355 o'r Ddeddf; ac
onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall mae cyfeiriadau at lefelau cyrhaeddiad, targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio yn gyfeiriadau at y lefelau, y targedau a'r rhaglenni sydd wedi'u nodi yn y dogfennau cysylltiedig.
(2) Os nad yw unrhyw rif cyfartalog y mae'n ofynnol ei benderfynu drwy'r Gorchymyn hwn yn rhif cyfan, rhaid ei dalgrynnu i'r rhif cyfan agosaf, gan dalgrynnu'r ffracsiwn un hanner i fyny i'r rhif cyfan nesaf.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl yn y Gorchymyn hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw ac mae unrhyw gyfeiriad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn yr erthygl y mae'r cyfeiriad yn ymddangos ynddi.
Asesiadau athrawon
4.
- (1) Bydd yn ddyletswydd ar y pennaeth i wneud trefniadau i bob disgybl gael ei asesu gan athro neu athrawes ym mhob pwnc perthnasol yn ystod tymor yr haf yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a bod cofnod o'r canlyniadau yn cael ei wneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno.
(2) Diben yr asesu fydd penderfynu'r lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd ym mhob TC a bennir ar gyfer pob pwnc perthnasol sy'n gymwys i'r disgybl ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.
(3) Rhaid i'r athro neu'r athrawes asesu'r disgybl a chofnodi'r canlyniadau erbyn pythefnos cyn diwedd tymor yr haf fan bellaf.
(4) Bydd y cofnod o'r canlyniadau yn cynnwys datganiad ynghylch pob lefel cyrhaeddiad y mae'r disgybl wedi'i chyrraedd (p'un a yw'r lefel honno yn lefel a bennir mewn perthynas â'r cyfnod allweddol cyntaf o dan y gorchymyn adran 356(2)(a) a (b) perthnasol neu beidio) mewn perthynas â phob TC a grybwyllir ym mharagraff (2) ac, oni bai bod erthygl 6(3) yn gymwys, lefel y disgybl yn y pwnc fel y'i cyfrifir yn unol ag erthygl 5.
(5) Wrth asesu disgybl yn unol â'r erthygl hon gall athro neu athrawes gymryd i ystyriaeth ganlyniadau unrhyw asesiadau blaenorol o'r disgybl (gan gynnwys asesiadau drwy gyfrwng tasgau safonol o dan y Gorchymyn sy'n cael ei ddiddymu gan erthygl 2), p'un a oedd yr asesiadau blaenorol wedi'u gwneud gan yr athro hwnnw neu'r athrawes honno neu beidio.
Penderfynu cyrhaeddiad yn ôl y pwnc: asesiadau athrawon
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i erthygl 6, mae darpariaethau'r erthygl hon yn rheoli agregiad lefelau cyrhaeddiad TC sy'n cael eu penderfynu yn unol ag erthygl 4 i gyfrifo lefelau cyrhaeddiad mewn pynciau.
(2) Yn achos y Saesneg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.
(3) Yn achos y Gymraeg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (llafar, (siarad, gwrando a gwylio)) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.
(4) Yn achos mathemateg, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC2 (rhifau ac algebra) wedi'i phwysoli â ffactor o ddau fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.
(5) Yn achos gwyddoniaeth, cyfartaledd lefel y disgybl ym mhob TC ond gyda'i lefel yn TC1 (ymchwil wyddonol) wedi'i phwysoli â ffactor o dri fydd lefel cyrhaeddiad y disgybl yn y pwnc.
Disgyblion nad ydynt yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol
6.
- (1) Bydd effaith i erthygl 5 mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig) gyda'r addasiadau a bennir yn yr erthygl hon.
(2) Os nad yw un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, bydd effaith i erthygl 5 fel petai'r nifer o TC sydd yn gymwys i'r disgybl yn gyfanswm y TC yn y pwnc.
(3) Os nad oes mwy nag un TC mewn pwnc perthnasol yn gymwys i ddisgybl o'r fath, ni fydd erthygl 5 yn gymwys i'r disgybl mewn perthynas â'r pwnc hwnnw a rhaid peidio â phenderfynu unrhyw lefel cyrhaeddiad ar ei gyfer mewn perthynas â'r pwnc hwnnw.
Gwerthuso trefniadau asesu
7.
Rhaid i'r Awdurdod wneud unrhyw drefniadau y maent yn ymddangos iddynt eu bod yn briodol ar gyfer penderfynu i ba raddau y mae darpariaethau erthyglau 4 i 6 a'u gweithrediad yn sicrhau'r diben a grybwyllir yn erthygl 1(2).
Pwerau atodol y Cynulliad Cenedlaethol
8.
Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud darpariaethau o'r fath sy'n rhoi effaith lawn i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn hwn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall (heblaw darpariaethau sy'n rhoi neu sy'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 356(5)(a) o'r Ddeddf) y mae'n ymddangos iddo eu bod yn hwylus.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
Rhodri Morgan
Prif Ysgrifennydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Ionawr 2002
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 356(1) a (2) o Ddeddf Addysg 1996 yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i sefydlu'r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy bennu, drwy Orchymyn, y targedau cyrhaeddiad, y rhaglenni astudio a'r trefniadau asesu y mae'n barnu eu bod yn briodol ar gyfer pob un o'r pynciau sylfaen. Mae'r ddyletswydd honno wedi'i datganoli ac i'w harfer gan y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i ysgolion yng Nghymru yn unig, yn ailddeddfu (gyda rhai newidiadau a grybwyllir isod) Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Trefniadau Asesu ar gyfer Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997. Mae'r Gorchymyn yn pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio "pynciau perthnasol" y Cwricwlwm Cenedlaethol ym mlwyddyn olaf y Cyfnod Allweddol cyntaf. Mae'r "pynciau perthnasol" wedi'u diffinio fel mathemateg, gwyddoniaeth ac, mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg (fel y'u diffinnir yn erthygl 3(1)), Cymraeg neu mewn perthynas ag ysgolion a dosbarthiadau nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg, Saesneg.
Mae
Erthygl 2 yn diddymu Gorchymyn 1997.
Mae
Erthygl 3 yn diffinio'r termau sy'n cael eu defnyddio yn y Gorchymyn.
Mae
Erthygl 4 yn darparu bod disgyblion yn cael eu hasesu gan athro neu athrawes ac yn nodi diben asesiadau o'r fath.
Mae
Erthygl 5 yn nodi'r rheolau technegol dros benderfynu lefel cyrhaeddiad y disgyblion yn ôl pwnc.
Mae
Erthygl 6 yn nodi rheolau arbennig sy'n gymwys mewn perthynas â disgyblion nad yw darpariaethau'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn gymwys iddynt (gan gynnwys disgyblion â datganiadau anghenion addysgol arbennig).
Mae
Erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer gwerthuso'r trefniadau asesu.
Mae
Erthygl 8 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud darpariaeth sy'n rhoi effaith i'r darpariaethau sy'n cael eu gwneud gan y Gorchymyn neu sy'n ychwanegu atynt fel arall.
Yr unig newid o sylwedd sy'n cael ei wneud gan y Gorchymyn cyfredol yw'r ffaith nad yw'n darparu mwyach ar gyfer profion ar gyfer disgyblion. Gan hynny, mae erthyglau 5 a 6 o Orchymyn 1997 wedi'u hepgor.
Notes:
[1]
1996 p.56. Diwygiwyd adran 356 (5) ac (8) gan baragraff 87 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Diwygiwyd adran 568(5) gan baragraff 175 o'r Atodlen honno.back
[2]
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back
[3]
Gweler O.S. 2000/1101 (Cy.79) a'r ddogfen sy'n dwyn y teitl "Cymraeg yn y Cwricwlwm Cenedlaethol", ISBN 0 7504 24036.back
[4]
O.S. 1997/2011.back
[5]
Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru o dan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd i fodoli o dan adran 360 o Deddf Addysg 1996 ac fe roddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997 (1997 p.34).back
[6]
Y gorchmynion cyfredol yw O.S. 2000/1154 (Cy.85) (Saesneg), O.S. 2000/1101 (Cy.79) (Cymraeg), O.S. 2000/1100 (Cy.78) (mathemateg) ac O.S. 2000/1099 (Cy.77) (gwyddoniaeth).back
[7]
Amnewidiwyd adran 350(1) gan baragraff 85 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.back
[8]
1998 p.38.back
English
version
ISBN
0 11090412 5
|
Prepared
6 February 2002