Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20013064w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 3064 (Cy. 253 )
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001
|
Wedi'i wneud |
4 Medi 2001 | |
|
Yn dod i rym |
12 Medi 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 [
1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Teitl, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001 a daw i rym ar 12 Medi 2001.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "Rheoliad 2467/98 y Cyngor" ("Council Regulation 2467/98") yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr [3];
ystyr "Rheoliad 1251/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1251/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol[4];
ystyr "Rheoliad 1254/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1254/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo[5].
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2.
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw'r uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc., fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Medi 2001
ATODLENErthyglau 1(2) a 2
RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Colofn 3
|
Defnydd ffermio
|
Uned gynhyrchu
|
Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu £
|
1. Da byw |
|
|
|
Buchod llaeth: |
|
|
Bridiau Ynysoedd y Sianel |
buwch |
296 |
Bridiau eraill |
buwch |
375 |
Buchod bridio cig eidion: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001(a) |
buwch |
51(1) |
Ar dir arall |
buwch |
43(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) |
pen |
45(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau |
pen |
30(3) |
Mamogiaid: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Tir Mynydd 2001 |
mamog |
10(4) |
Ar dir arall |
mamog |
11(5) |
yn benyw a werthir fel hesbinod blwydd) |
pen |
0.87 |
Moch: |
|
|
Hychod a banwesi torrog |
hwch neu fanwes |
70 |
Moch porc |
pen |
1.37 |
Moch torri |
pen |
2.59 |
Moch bacwn |
pen |
3.79 |
Dofednod: |
|
|
Ieir dodwy |
aderyn |
0.90 |
Brwyliaid |
aderyn |
0.09 |
Cywennod ar ddodwy |
aderyn |
0.20 |
Tyrcwn |
aderyn |
1.27 |
2. Cnydau âr fferm |
|
|
|
Haidd |
hectar |
140(6) |
Ffa |
hectar |
158(7) |
Had glaswellt |
hectar |
125 |
Had llin |
hectar |
22(8) |
Ceirch |
hectar |
163(9) |
Rêp had olew |
hectar |
82(10) |
Pys: |
|
|
Sych |
hectar |
200(11) |
Dringo |
hectar |
205 |
Tatws: |
|
|
Cynnar cyntaf |
hectar |
835 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) |
hectar |
860 |
Betys siwgr |
hectar |
250 |
Gwenith |
hectar |
197(12) |
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored |
|
|
|
Ffa cyffredin |
hectar |
410 |
Ysgewyll Brwsel |
hectar |
1505 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro |
hectar |
1730 |
Moron |
hectar |
2270 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf |
hectar |
975 |
Seleri |
hectar |
8255 |
Cennin |
hectar |
2945 |
Letys |
hectar |
4150 |
Wynwns: |
|
|
Bylbiau sych |
hectar |
1305 |
Salad |
hectar |
4125 |
Bylbiau awyr agored |
hectar |
1600 |
Pannas |
hectar |
2591 |
Riwbob (naturiol) |
hectar |
4845 |
Maip a swêds |
hectar |
1210 |
4.Cnydau gwarchodedig |
|
|
|
Narsisi gorfod |
1000 metr sgwâr |
6980 |
Tiwlipau gorfod |
1000 metr |
7175 |
5. Ffrwythau'r berllan |
|
|
|
Afalau: |
|
|
Seidr |
hectar |
420 |
Coginio |
hectar |
1275 |
Melys |
hectar |
1250 |
Ceirios |
hectar |
690 |
Gellyg |
hectar |
965 |
Eirin |
hectar |
1215 |
6. Ffrwythau meddal |
|
|
|
Cyrens Duon |
hectar |
740 |
Mafon |
hectar |
3000 |
Mefus |
hectar |
3500 |
7. Amrywiol |
|
|
|
Hopys |
hectar |
1670 |
8. Neilltir(1) |
|
|
|
|
hectar |
28 |
NODIADAU I'R ATODLENErthygl 2(4)
Nodyn i golofn 1
(1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 2001/2002 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn uniongyrchol yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.
Nodiadau i golofn 3
(1) Didynner £126 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/ycirc.gif)
n â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.
Didynner £91 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
Ychwaneger £20 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu.
Ychwaneger £40 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngl
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £91 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngl
n â phremiwm anarddwysáuestyniad) y swm o £20 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa is) neu £40 (lle telir y premiwm anarddwysáuestyniad ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4) Didynner £12 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.
(5) Didynner £8 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm defaid blynyddol.
(6) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor.
(7) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(8) Didynner £264 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(9) Didynner £219 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(10) Didynner £258 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(11) Didynner £253 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(12) Didynner £220 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2001 hyd 11 Medi 2002 yn gynhwysol.
Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Notes:
[1]
1986 p.5.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).back
[4]
OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back
[5]
OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.back
[6]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090383 8
|
Prepared
17 December 2001