Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012982w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2982 (Cy.249)
LANDLORD A THENANT, CYMRU
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
29 Awst 2001 | |
|
Yn dod i rym |
31 Awst 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 [
1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[
2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Teitl, cychwyn a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2001 a daw i rym ar 31 Awst 2001.
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(4) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr "Rheoliad 805/68 y Cyngor" ("Council Regulation 805/68") yw Rheoliad (EEC) Rhif 805/68 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo[3];
ystyr "Rheoliad 1765/92 y Cyngor" ("Council Regulation 1765/92") yw Rheoliad (EEC) Rhif 1765/92 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol[4];
ystyr "Rheoliad 2467/98 y Cyngor" ("Council Regulation 2467/98") yw Rheoliad (EC) Rhif 2467/98 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig dafad a chig gafr [5];
ystyr "Rheoliad 1251/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1251/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1251/99 y Cyngor sy'n sefydlu system gynnal i gynhyrchwyr cnydau âr penodol[6];
ystyr "Rheoliad 1254/99 y Cyngor" ("Council Regulation 1254/99") yw Rheoliad (EC) Rhif 1254/99 y Cyngor ar drefniadaeth gyffredin y farchnad mewn cig eidion a chig llo[7]).
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
2.
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) o'r erthygl hon yn cael effaith at ddibenion asesu cynhwysedd cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw yr uned honno'n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr is-baragraff (1) o baragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Pan ellir defnyddio'r tir dan sylw, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd, ffrwythau, etc, fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 7 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o dir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan ellir defnyddio tir, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net a phan ddynodir hwnnw fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnod 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(a) yr uned a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen gyferbyn â'r cofnod hwnnw fydd yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â'r defnydd hwnnw o'r tir, a
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 1999 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
Diddymu
3.
Drwy hyn diddymir Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998[8] mewn perthynas â thir a leolir yng Nghymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Awst 2001
ATODLENErthyglau 1(2) a 2
RHAGNODI UNEDAU CYNHYRCHU A PHENDERFYNU INCWM BLYNYDDOL NET
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Colofn 3
|
Defnydd ffermio
|
Uned gynhyrchu
|
Incwm blynyddol net gan uned gynhyrchu
|
|
|
£
|
1.
Da byw
|
Buchod llaeth: |
|
|
Bridiau Ynysoedd y Sianel |
buwch |
283 |
Bridiau eraill |
buwch |
335 |
Buchod bridio cig eidion: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996(a) |
buwch |
50(1) |
Ar dir arall |
buwch |
41(1) |
Gwartheg pesgi cig eidion (lled arddwys) |
pen |
48(2) |
Buchod llaeth i lenwi bylchau |
pen |
41(3) |
Mamogiaid: |
|
|
Ar dir cymwys o dan Reoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal) 1996 |
mamog |
20(4) |
Ar dir arall |
mamog |
21(5) |
W n benyw a werthir fel hesbinod blwydd) |
pen |
0.87 |
Moch: |
|
|
Hychod a banwesi torrog |
hwch neu fanwes |
90 |
Moch porc |
pen |
2.06 |
Moch torri |
pen |
3.66 |
Moch bacwn |
pen |
5.13 |
Dofednod: |
|
|
Ieir dodwy |
aderyn |
1.08 |
Brwyliaid |
aderyn |
0.12 |
Cywennod ar ddodwy |
aderyn |
0.27 |
Tyrcwn |
aderyn |
1.23 |
2.
Cnydau âr fferm
|
Haidd |
hectar |
158(6) |
Ffa |
hectar |
75(7) |
Had glaswellt |
hectar |
189 |
Had llin |
hectar |
137(8) |
Ceirch |
hectar |
142(9) |
Rêp had olew |
hectar |
164(10) |
Pys: |
|
|
Sych |
hectar |
61(11) |
Dringo |
hectar |
257 |
Tatws: |
|
|
Cynnar cyntaf |
hectar |
675 |
Prif gnwd (gan gynnwys hadau) |
hectar |
790 |
Betys siwgr |
hectar |
357 |
Gwenith |
hectar |
201(12) |
3.
Cnydau garddwriaethol awyr agored
|
Ffa cyffredin |
hectar |
409 |
Ysgewyll Brwsel |
hectar |
1460 |
Bresych, safwy a brocoli blaguro |
hectar |
1684 |
Moron |
hectar |
2307 |
Blodfresych a brocoli'r gaeaf |
hectar |
1017 |
Seleri |
hectar |
6175 |
Cennin |
hectar |
3255 |
Letys |
hectar |
3914 |
Wynwns: |
|
|
Bylbiau sych |
hectar |
1087 |
Salad |
hectar |
4477 |
Bylbiau awyr agored |
hectar |
1416 |
Pannas |
hectar |
2539 |
Riwbob (naturiol) |
hectar |
3096 |
Maip a swêds |
hectar |
1289 |
4.
Cnydau gwarchodedig
|
Narsisi gorfod |
1000 metr sgwâr |
8294 |
Tiwlipau gorfod |
1000 metr sgwâr |
6226 |
Madarch |
1000 metr sgwâr |
11272 |
5.
Ffrwythau'r berllan
|
Afalau: |
|
|
Seidr |
hectar |
603 |
Coginio |
hectar |
1412 |
Melys |
hectar |
1378 |
Ceirios |
hectar |
1297 |
Gellyg |
hectar |
1100 |
Eirin |
hectar |
1030 |
6.
Ffrwythau meddal
|
Cyrens Duon |
hectar |
1093 |
Eirin Mair |
hectar |
1579 |
Mafon |
hectar |
2974 |
Mefus |
hectar |
3093 |
7.
Amrywiol
Hopys
|
hectar |
1700 |
8.
Neilltir(1)
|
hectar |
62 |
|
NODIADAU I'R ATODLENErthygl 2(4)
{
d1}{h1}
Nodyn i golofn 1
(1) Ar gyfer y flwyddyn farchnata 1999/2000 mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(5) o Reoliad 1765/92 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 7(4) o Reoliad 1765/92 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at gweithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.
O 1 Gorffennaf 2000 ymlaen mae hyn yn cyfeirio at dir sydd wedi'i neilltuo o dan Erthygl 2(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor, ac eithrio pan ddefnyddir tir felly (yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad 1251/99 y Cyngor) ar gyfer darparu deunyddiau at weithgynhyrchu cynhyrchion o fewn y Gymuned na fwriedir iddynt yn anad dim gael eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid.
Nodiadau i golofn 3
(1) Didynner £103 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4d o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)[10].
Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)[11].
Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4h o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)[12].
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis.
Didynner £82 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4b o Reoliad 805/68 y Cyngor (Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor)[13].
Ychwaneger £26 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a gedwir am 12 mis y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa is y premiwm anarddwysáu .
Ychwaneger £37 at y ffigur yng ngholofn 3 yn achos anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am y cyfnod hwnnw ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â graddfa uwch y premiwm anarddwysáu .
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngl
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £82 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis ac y mae'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnws swm yngl
n â phremiwm anarddwysáu ) y swm o £26 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa is) neu £37 (lle telir y premiwm anarddwysáu ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn.
(4) Didynner £22 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm ar gyfer gwrthbwyso colli incwm gan gynhyrchwyr cig defaid (premiwm blynyddol defaid) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5 o Reoliad 2467/98 y Cyngor.
(5) Didynner £17 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl
n â'r premiwm defaid blynyddol.
(6) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â iawndal y gall cynhyrchwyr cnydau âr wneud cais amdano (taliad arwynebedd) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2 o Reoliad 1765/92 y Cyngor (Erthygl 2 o Reoliad 1251/99 y Cyngor)[14].
(7) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(8) Didynner £467 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(9) Didynner £240 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(10) Didynner £303 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(11) Didynner £349 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
(12) Didynner £241 o'r ffigur hwn yn achos tir nad yw'r incwm blynyddol net ar ei gyfer yn cynnwys swm yngl
n â thaliad arwynebedd.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 1999 hyd 11 Medi 2000 yn gynhwysol. Mae'r Gorchymyn hwn yn diddymu Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) 1998 mewn perthynas â Chymru.
Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) a 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw.
Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn.
Notes:
[1]
1986 p.5.back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[3]
OJ Rhif L148, 28.6.68, t.24 (OJ / SE 1968(I) t.187) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1633/98 (OJ Rhif L210 28.7.98, t.17) (a oedd yn gymwys hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 1999).back
[4]
OJ Rhif L181, 1.7.92, t.12, yn ôl y diwygiad diweddaraf gan Reoliad(EC) Rhif 1624/98 y Cyngor (OJ Rhif L210, 28.7.98, t.3) (a oedd yn gymwys tan 30 Mehefin 2000).back
[5]
OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1.back
[6]
OJ Rhif. L160, 26.6.99, t.1 (a fu'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen).back
[7]
OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21 (ac eithrio. Erthygl 18, sy'n gymwys ers 1 Ionawr 2000).back
[8]
O.S. 1998/2025.back
[9]
1998 p.38.back
[10]
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back
[11]
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back
[12]
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back
[13]
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Ionawr 2000 ymlaen.back
[14]
Mae'r Erthygl mewn cromfachau'n gymwys o 1 Gorffennaf 2000 ymlaen.back
English version
ISBN
0 11090359 5
|
Prepared
13 November 2001