British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012782w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2782 (Cy.235) (C.92)
COMISIYNYDD PLANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
25 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 [
1]:
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn -ystyr "y Ddeddf" ("
the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000.
Y diwrnod penodedig
2.
- (1) 26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn darpariaethau'r Ddeddf a bennir ym mharagraff (2) i rym mewn perthynas â Chymru.
(2) Dyma'r darpariaethau -
(a) Adran 72A (prif nod y Comisiynydd);
(b) Adran 72B (adolygu arfer swyddogaethau gan y Cynulliad a chan bersonau eraill);
(c) Adran 73 (adolygu a monitro trefniadau);
(ch) Adran 74 (archwilio achosion);
(d) Adran 75 (rhwystro etc.);
(dd) Adran 75A (per ychwanegol i ystyried a chynrychioli);
(e) Adran 76 (swyddogaethau pellach);
(f) Adran 77 (cyfyngiadau);
(ff) Adran 78 (dehongli);
(g) Atodlen 2A (personau sy'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 72B);
(ng) Atodlen 2B (personau y mae eu trefniadau'n destun adolygiad gan y Comisiynydd o dan Adran 73)
(h) Paragraff 3 o Atodlen 5 (darpariaethau trosiannol ac eithriadau) ac adran 117(1) i'r graddau y mae'n ymwneud ag ef.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi diwrnod i ddarpariaethau penodol yn Neddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ddod i rym ynghylch Comisiynydd Plant Cymru ("y Comisiynydd"). Mewnosodir rhai o'r darpariaethau gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 ("Deddf 2001") y mae Gorchymyn Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (Cychwyn) yn gymwys iddi.
26 Awst 2001 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym:
(a) Adran 72A, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n darparu mai diogelu a hybu hawliau a lles plant y mae Rhan V o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt yw prif nod y Comisiynydd wrth arfer ei swyddogaethau;
(b) Adran 72B, a fewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu yr effaith ar blant a gâi arfer unrhyw swyddogaeth sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad") neu sydd gan unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2A i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001;
(c) Adran 73, fel y'i diwygir gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Comisiynydd i adolygu a monitro sut mae trefniadau ar gyfer c ynion, eiriolaeth a chwythu'r chwiban yn cael eu gweithredu gan ddarparwyr gwasanaethau plant a reoleiddir o dan Ddeddf 2000, y Cynulliad, personau a grybwyllir yn Atodlen 2B i Ddeddf 2000, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, a phersonau penodol eraill, ac i asesu effaith methiant i wneud trefniadau o'r fath;
(ch) Adran 74, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ac sy'n gwneud darpariaeth arall am archwilio achosion penodol gan y Comisiynydd;
(d) Adran 75, sy'n galluogi'r Comisiynydd i ardystio tramgwydd i'r Uchel Lys yn achos ymddygiad rhwystrol penodol;
(dd) Adran 75A, fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf 2001, sy'n ymwneud â ph er y Comisiynydd i ystyried unrhyw fater sy'n effeithio ar hawliau neu les plant yng Nghymru, a chyflwyno sylw i'r Cynulliad yn eu cylch;
(e) Adran 76, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau ynghylch cymorth ariannol a chymorth arall y gall y Comisiynydd ei roi mewn achosion penodol, ac ynghylch adroddiadau a phwerau a dyletswyddau eraill y gall y Cynulliad eu rhoi o dan Ran V o Ddeddf 2000. Mae adran 76 hefyd yn galluogi'r Comisiynydd i roi cyngor a gwybodaeth i unrhyw un mewn cysylltiad â'i swyddogaethau, ac yn ymdrin ag enwi unigolion mewn adroddiadau ac yn rhoi braint absoliwt ar gynnwys adroddiadau'r Comisiynydd;
(f) Adran 77, sy'n darparu ar gyfer cyfyngu ar swyddogaethau'r Comisiynydd mewn perthynas ag achosion penodol ac mewn perthynas â swyddogaethau personau a ragnodir gan reoliadau a wneir gan y Cynulliad;
(ff) Adran 78, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001, sy'n cynnwys darpariaethau dehongli ac sy'n galluogi'r Cynulliad i wneud rheoliadau sy'n estyn ychydig ar awdurdodaeth y Comisiynydd mewn perthynas â phlant penodol;
(g) Atodlenni 2A a 2B a grybwyllir uchod, fel y'u mewnosodwyd gan Ddeddf 2001; ac
(h) Paragraff 3 o Atodlen 5 sy'n gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymdrin â chyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau fel cyfeiriadau at ddarparwyr a gwasanaethau a fyddai'n cael eu rheoleiddio yn unol â Deddf 2000, pe bai rhai o ddarpariaethau eraill Deddf 2000 mewn grym.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym neu i'w dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod drwy orchmynion cychwyn sydd wedi'u gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir eu cofnod ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir â '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir ag '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir ag '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354(Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir â '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/ 2504(Cy.205) (C.82); a chafodd y rhai a ddilynir â '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538(Cy.213) (C.83).
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adrannau 1 - 5 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 7(7) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 9(3) - (5) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 11 - 12 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 14 - 15 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 16 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 22 - 23 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 25 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 33 - 35 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 38 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) |
31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (y gweddill) (d) |
31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) |
1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (y gweddill) (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) |
28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42 - 43 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 48 - 52 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 54(1), (3) - (7) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 55 ac Atodlen 1 (a) |
13 Tachwedd 2001 |
Adran 63 (dd) |
31 Gorffennaf 2001 |
Adran 66 (dd) |
31 Gorffennaf 2001 |
Adran 67 (dd) |
1 Hydref 2001 |
Adran 70(1) (dd) |
1 Hydref 2001 |
Adran 71 (dd) |
31 Gorffennaf 2001 |
Adran 72 ac Atodlen 2 (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 79(3),(4) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 98 (ch) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107 - 108 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 112 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 113 (2) - (4) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) |
1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (y gweddill) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 115 (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b) |
1 Gorffennaf 2001 |
Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c) |
1 Gorffennaf 2001 |
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod ar eu cyfer yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72) mewn perthynas â Chymru, yn ogystal ag mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir ochr yn ochr â'u cofnod.
Y ddarpariaeth
|
Y dyddiad cychwyn
|
Adran 80(8) |
2 Hydref 2001 |
Adran 94 |
2 Hydref 2001 |
Adran 96 (yn rhannol) |
15 Medi 2001 |
Adran 96 (y gweddill) |
2 Hydref 2001 |
Adran 99 |
15 Medi 2001 |
Adran 100 |
2 Hydref 2001 |
Adran 101 |
2 Hydref 2001 |
Adran 103 |
2 Hydref 2001 |
Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) |
2 Hydref 2001 |
Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) |
2 Hydref 2001 |
Yn ychwanegol, mae amryw o ddarpariaethau eraill y Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); a O.S 2001/2041 (C.68).
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r per yn arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1). Mewn perthynas â Chymru mae'n golygu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adrannau 72A, 72B, 75A ac Atodlenni 2A a 2B a diwygiwyd adrannau 73, 74, 76 a 78 gan Ddeddf Comisiynydd Plant Cymru 2001 (p.18).back
[2]
1998 p.38back
English version
ISBN
0 11090326 9
|
Prepared
24 August 2001