British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012705w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2705 (Cy.225) (C.90)
ADDYSG, CYMRU
CYFLOGAETH A HYFFORDDIANT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
17 Gorffennaf 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(2) a (4) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[
1]:
Enwi a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Dysgu a Medrau 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2001.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru, a daw'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i rym mewn perthynas â Chymru at bob diben.
Y darpariaethau sy'n dod i rym
2.
- (1) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Daw'r darpariaethau yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2002.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
17 Gorfennaf 2001
YR ATODLENErthygl 2
RHAN
I
Darpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2002
Adran 36.
Adran 113.
Adran 140 (1) a (2) a (4), (5) a (6) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 9 a bennir isod.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
Atodlen 7.
Yn Atodlen 9 -
paragraff 1 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,
Yn Atodlen 11 diddymiadau'r canlynol i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru -
yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn Atodlen 7, ym mharagraff 13(4) y gair "and" yn union ar ôl paragraff (b) ac ym mharagraff 13(7) y gair "or" yn union ar ôl paragraff (a) ac yn Atodlen 22, ym mharagraff 5(1) y gair "or" yn union ar ôl paragraff (a)(i).
RHAN
II
Darpariaethau sy'n dod i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2002
Adran 97.
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau hynny yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2002. Mae hefyd yn dod â'r darpariaethau hynny yn y Ddeddf honno a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym, a hynny ar 1 Medi 2002.
Esbonnir effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen isod.
Mae adran 36 yn rhoi p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er i Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor Cenedlaethol") roi grantiau i awdurdod addysg lleol ar gyfer addysg a ddarperir gan ysgolion ar gyfer y rheiny sydd dros oedran ysgol gorfodol.
Mae adran 113 yn dod ag Atodlen 7 i rym, sy'n cynnwys pwerau a dyletswyddau sy'n ymwneud â dosbarthiadau chwech annigonol. Yn benodol, mae'n rhoi p
![](/wales/legis/num_reg/2001/images/wcirc.gif)
er i'r Cyngor Cenedlaethol gyhoeddi cynigion i gau darpariaeth chweched dosbarth a gynhelir yn dilyn dau adroddiad arolygu anffafriol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i ymdrin â gwrthwynebiadau y mae'n rhaid ei dilyn cyn y gellir gweithredu unrhyw gynigion o'r fath.
Mae adran 140 ((1) - (2) a (4) i(6)) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol mewn amgylchiadau penodol i drefnu ar gyfer asesiad i berson y cedwir datganiad o anghenion arbennig ar ei gyfer. Rhaid i'r asesiad gael ei wneud yn ystod blwyddyn olaf orfodol y person hwnnw yn yr ysgol.
Mae Atodlenni 9 ac 11 yn eu trefn yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
Esbonnir effaith y ddarpariaeth a bennir yn Rhan II o'r Atodlen isod.
Mae adran 97 yn gymwys i sefydliad neu gyflogwr, sy'n darparu cyrsiau ar gyfer y rhai 19 oed a throsodd, ac a ariennir gan awdurdod addysg lleol neu'r Cyngor Cenedlaethol. Mae'n gosod sefydliad neu gyflogwr o'r fath o dan ddyletswydd i beidio â gwneud unrhyw daliad mewn perthynas â chymhwyster allanol onid yw'r cymhwyster hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd neu deuir â'r darpariaethau canlynol yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 i rym, mewn perthynas â Chymru, gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth
|
Y Dyddiad Cychwyn
|
Rhif yr O.S.
|
Adrannau 104, 105, 107 a 108 |
3 Awst 2000 |
2000/2114(C.56) |
Adran 94 ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 87 o Atodlen 9.
Yn atodlen 9, paragraff 87.
|
1 Medi 2000 |
2000/2114(C.56 |
Adrannau 30, 47, 49 a 51, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod.
Atodlen 4.
Yn Atodlen 9, paragraffau 3, 4 a 93.
|
19 Medi 2000 |
2000/2540 (Cy.163)(C.70) |
Adrannau 134 - 136 a 146, ac adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 14 o Atodlen 9.
Yn Atodlen 9, paragraff 14.
|
1 Hydref 2000 |
2000/2559(C.73) |
Adrannau 42, 43, 44, 46, 48, 73, 87, 93, 95, 139, 141 a 145. Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a restrir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.
Atodlen 5.
Yn Atodlen 9, paragraffau 21(b), 34, 36, 44(3) a (4), 45, 64, 70, 81, 86 a 92.
Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol -
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 18 a 60A, ac Atodlen 5A,
Deddf Addysg 1996, paragraff 113 o Atodlen 37, Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 19 a 22,
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 125 a 126, ac Atodlen 27, Deddf Llywodraeth Cymru 1998, adran 104(4).
|
1 Ionawr 2001 |
2000/3230 (Cy.213) (C.103) |
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod.
Adran 151 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth yn Atodlen 10 a bennir isod.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 11 y cyfeirir atynt isod.
Yn Atodlen 9, paragraffau 11, 35, 37, 38, 39, 41 - 43, 47 - 50, 52(3), 83 ac 88.
Yn Atodlen 10, Rhan IV.
Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol -
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adran 91(2),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 142(1).
|
1 Ebrill 2001 |
2001/654(C.25) |
Adrannau 31 - 35, 37 - 41, 45, 50, 74 - 86, 88, 91, 99. Adran 103(1), (2) a (3) i'r graddau y mae angen hynny at ddibenion adran 103(4)(b).
Adrannau 103(4), 110 - 112, 123 - 129, 137, 138, 140(3). Adran 140(4), (5) a (6) i'r graddau y mae eu hangen at ddibenion adran 140(3). Adrannau 142 - 144.
Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau yn Atodlen 9 a bennir isod. Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
Yn Atodlen 9, paragraffau 5 - 10, 12, 13, 15 - 17, 20, 21(a), 22 - 30, 32, 33, 40, 44(1) a (2), 46, 51, 52(1) a (2), 53 - 56, 59, 65, 66, 67 (5), 68, 72 - 74. Paragraff 75(a) a (b), ac (c) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 34 o Ddeddf Medrau a Dysgu 2000. Paragraffau 76 - 80 a 94.
Yn Atodlen 11 y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol -
Deddf Blwydd-dâl 1972, Atodlen 1,
Deddf Anghymhwyso o Dy 'r Cyffredin 1975, Rhan III o Atodlen I ,
Deddf Gwahaniaethau ar sail Rhyw 1975, adran 25(6)(d),
Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976, adran 19(6)(d),
Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 124(2)(b),
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, adrannau 1 - 9, 28(2)(b), 32(2A), 44(6), 45(6), 52(1), 55(1) - (3) a (7), 56, ac Atodlen 2,
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, adrannau 19(6)(f) a 30(2) - (4),
Deddf Addysg 1996, adrannau 15, 509(1) a pharagraffau 70 a 112 o Atodlen 37,
Deddf Addysg 1997, adran 30(1) a (3),
Deddf y Comisiwn Archwilio 1998, adran 36(1) a (2),
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, adrannau 26(1) a (2), 28(1)(a) a 34,
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraffau 41 a 42 o Atodlen 30.
|
1 Ebrill 2001 |
2001/ 1274 (Cy.73) (C. 46) |
Adrannau 96, 100(2), 102, 103(5) a 148. 1Adran 149 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 57 o Atodlen 9.
Adran 153 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 11 a bennir isod.
Yn Atodlen 9, paragraff 57.
Yn Atodlen 11, y diddymiadau a bennir yno mewn perthynas â'r canlynol -
Deddf Addysg 1996, adran 403(1),
Deddf Addysg 1997, adran 37(1) - (4), a 37(5).
|
1 Medi 2001 |
2001/ 1274 (Cy.73) (C.46 ) |
Notes:
[1]
2000 p.21.back
[2]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090351 X
|
Prepared
17 October 2001