British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012497w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2497 (Cy. 201)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001
|
Wedi'i wneud |
5 Gorffennaf 2001 | |
|
Yn dod i rym |
1 Awst 2001 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[
1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[
2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y gall Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, o ystyried eu hamcanion cyffredinol, gyflawni'n briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn ac ar ôl cyflawni unrhyw ymgynghori y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enw a chychwyn
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Awst 2001.
Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000
2.
Mae Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000[
3] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn -
(a) yn erthygl 3(2), ar ôl "Gorchymyn hwn", mewnosodir -
"
am unrhyw gyfnod (os o gwbl) a bennir yn y Rhan honno ac"; a
(b) yn Rhan II o'r Atodlen, ar ôl paragraff 23, mewnosodir -
"
23A.
Telerau unrhyw orchymyn disgyblu, heblaw cerydd, sydd am y tro mewn grym, a wnaed gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr.
23B.
Telerau unrhyw gerydd a roddwyd gan y Cyngor neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr, am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad y rhoddwyd y cerydd.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis. Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000. Mae'n darparu ar gyfer cofnodi unrhyw orchmynion disgyblu sy'n cael eu gwneud yn erbyn athro neu athrawes gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Lloegr. Mae ceryddon sy'n cael eu rhoi gan y naill neu'r llall o'r Cynghorau i'w cofnodi yn erbyn enw'r athro neu'r athrawes am gyfnod o ddwy flynedd o'r dyddiad pan fydd y cerydd yn cael ei roi.
Notes:
[1]
1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3]
O.S. 2000/1941 (Cy.139).back
[4]
998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090299 8
|
Prepared
6 August 2001