Wedi'u gwneud | 21 Mehefin 2001 | ||
Yn dod i rym | 28 Gorffennaf 2001 |
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
2.
- (1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau -
(b) penderfynu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath, yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth penderfynu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi -
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth -
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun a awdurdodir neu a fynnir gan reoliadau o dan adran 18 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[5], neu swyddogaeth diwygio, diddymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau penderfynu -
(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth) o'r Ddeddf honno;
(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodrath Leol a Thai 1989, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu rhoi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a
(d) pan gaiff tâl ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nid yw swyddogaeth -
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Oni ddarperir fel arall gan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol a all, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gael ei gyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Ym mharagraffau (1) a (9), mae "deddfiad" yn cynnwys deddfiad a gynhwysir mewn Deddf leol neu mewn is-ddeddfwriaeth .
Swyddogaethau a all fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
3.
- (1) Fe all y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod (ond nid oes angen iddynt fod felly).
(2) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag cyflawni'r swyddogaethau hynny a ddirprwyir i weithrediaeth o'r awdurdod.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig
4.
- (1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth -
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) ("camau paragraff (3)") beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(2) Ac eithrio camau paragraff (3), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (1) fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath.
(3) Dyma'r camau a ddynodir gan y pararaff hwn -
(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw blan, cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (boed wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) -
(b) rhaid iddi beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i unrhyw raddau eraill.
(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), rhaid i swyddogaeth gwneud cais -
fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.
(7) Rhaid i swyddogaeth gwneud cais o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni -
(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth -
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (11) ("camau paragraff (11)") fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Ac eithrio camau paragraff (11), rhaid i unrhyw swyddogaeth o fath a grybwyllir ym mharagraff (9) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath i'r awdurdod.
(11) Dyma'r camau a ddynodir gan y paragraff hwn -
(b) ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;
(c) cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod i gael eu hystyried.
Cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan awdurdodau
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, heblaw am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod), beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o'r fath o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 -
(3) Ym mharagraff (2) ystyr "pwyllgor trosolygu a chraffu perthnasol" yw pwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod o dan sylw y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y per i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2) gyflwyno adroddiad i'r awdurdod y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion -
(5) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mehefin 2001
(1) | (2) |
Y Swyddogaeth | Y Ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
A. Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio wlad a thref a rheoli datblygu | |
1.
Y per i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio. |
Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio . Gwlad a Thref 1990 (p.8)[11] |
2.
Y per i benderfynu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen. |
Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
3.
Y per i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni. |
Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[12]. |
4.
Y per i wrthod penderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio. |
Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[13]. |
5.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio. |
Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt. |
6.
Y per i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall. |
Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)[14]). |
7.
Y per i wneud penderfyniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir. |
Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418). |
8.
Y per i wneud cytundeb sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir. |
Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
9.
Y per i roi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig. |
Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[15]. |
10.
Y per i gyflwyno hysbysiad cwblhau. |
Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
11.
Y per i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion. |
Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992[16]). |
12.
Y per i awdurdodi mynd ar dir. |
Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[17]. |
13.
Y per i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir. |
Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
14.
Y per i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop. |
Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[18]. |
15.
Y per i roi hysbysiad gorfodi. |
Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[19]. |
16.
Y per i wneud cais am waharddeb i atal torri rheoli cynllunio. |
Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[20]. |
17.
Y per i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10). |
18.
Y ddyletswydd i benderfynu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd gweithredol Rhan I neu II, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl fel y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt. |
Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno. |
19.
Y per i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn. |
Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
20.
Y per i benderfynu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig. mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9). |
Adrannau 16(1) a (2), 17, 27(2) a 33(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau |
21.
Y per i benderfynu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth. |
Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno[21]). |
22.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth. Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau |
Adrannau 13(1) a 14(1) a (4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)1990 a rheoliadau 3 i 6 ac 13 o Rhestredig ac Adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o Gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96 Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol; Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth. |
23.
Y per i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
24.
Y per i roi hysbysiad gorfodi mewn perthynas â dymchwel adeilad sydd heb ei restru mewn ardal gadwraeth. |
Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
25.
Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio. |
Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
26.
Y per i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig. |
Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth 1990[22]. |
27.
Y per i wneud gwaith brys. |
Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
28.
per yn gysylltiedig â gweithio mwynau. |
Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
29.
per yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
30.
per ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol. |
Adran 117 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33). |
31.
Y per i gyflwyno gorchmynion prynu. |
Adrannau 137 - 144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
32.
Pwerau yn gysylltiedig â gorchmynion malltod. |
Adrannau 149 - 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
33.
Y per i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau. |
Adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66). |
B. Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy) | |
1.
Y per i roi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir yn safle carafanau ("trwyddedau safle"). |
Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafanau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62). |
2.
Y per i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla. |
Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49). |
3.
Y per i drwyddedu cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. |
(a) o ran cerbydau hacni, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 &11 Vict. p.89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 & 39 Vict. p.55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p.67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57); (b) o ran hurio preifat, adrannau 48, 57, 68, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
4.
Y per i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
5.
Y per i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
6.
Y per i gofrestru hyrwyddwyr pyllau. |
Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963 (p.2)[23]. |
7.
Y per i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963[24]. |
8.
Y per i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i gilydd. |
Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Gamblo a Loteriau 1963 [25]. |
9.
Y per i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd sydd â pheiriannau chwarae. |
Atodlen 9 i Ddeddf Gamblo 1968 (p. 65)[26]). |
10.
Y per i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hybu loterïau. |
Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)[27]. |
11.
Y per i roi trwyddedau mewn perthynas â safleoedd lle darperir difyrion â gwobrau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Gamblo a Loterïau 1976 [28]). |
12.
Y per i roi trwyddedau sinema a thrwyddedau clybiau sinema. |
Adran 1 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p. 13). |
13.
Y per i roi trwyddedau theatr. |
Adrannau 12 i 14 o Ddeddf Theatrau 1968 (p. 54)[29]. |
14.
Y per i roi trwyddedau adloniant. |
Adran 12 o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p. 12), adran 79 o Ddeddf Trwyddedu 1964 (p. 26), adrannau 1 i 5 a 7 o Ddeddf Lleoedd Adloniant Preifat (Trwyddedu) 1967 (p. 19) a Rhannau I a II o'r Atodlen iddi, a Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p. 30) ac Atodlenni 1 a 2 iddi. |
15.
Y per i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw. |
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3. |
16.
Y per i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth. |
Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46). |
17.
Y per i drwyddedu safleoedd ar gyfer acwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis. |
Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. |
18.
Y per i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser. |
Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)[30]. |
19.
Y per i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd. |
Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi. |
20.
Y per i drwyddedu caffis nos a siopau prydau parod. |
Adran 2 o Ddeddf Tai Lluniaeth Hwyr y Nos 1969 (p. 53)[31]. |
21.
Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth. |
Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972 (p. 66)[32]). |
22.
Y per i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig. |
Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedu Helgig 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adrannau 12(3) a 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1874 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). |
23.
Y per i gofrestru a thrwyddedu safleoedd ar gyfer paratoi bwyd. |
Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16). |
24.
Y per i drwyddedu iardiau sgrap. |
Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p.69). |
25.
Y per i roi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon. |
Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p.52)[33]. |
26.
Y per i roi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer eisteddleoedd rheoledig mewn meysydd chwaraeon. |
Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). |
27.
Y per i roi trwyddedau tân. |
Adran 5 o Ddeddf Rhagofalon Tân 1971 (p.40) |
28.
Y per i drwyddedu safleoedd ar gyfer bridio cwn. |
Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11). |
29.
Y per i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)[34]; adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)[35]; Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70[36]); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)[37]), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999. |
30.
Y per i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p.38)[38]. |
31.
Y p au. |
Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu S au 1981 (p.37)[39]). |
32.
Y per i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p.38). |
33.
Y per i drwyddedu iardiau naceriaid. |
Adran 4 o Ddeddf Lladd-dai 1974. Gweler hefyd Orchymyn Sgîl-gynhyrchion Anifeiliaid 1999 (O.S. 1999/646). |
34.
Y per i drwyddedu cyflogi plant. |
Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1933 (p.33), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phersonau Ifanc 1963 (p.37). |
35.
Y per i gymeradwyo safleoedd ar gyfer gweinyddu priodasau. |
Rhan 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76) a Rheoliadau Priodasau (Safleoedd a Gymeradwywyd) 1995 (O.S. 1995/510)[40]. |
36.
Y per yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig -
(b) gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p.118). |
Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tiroedd Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843). |
37.
Y per i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin. |
Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)[41]. |
38.
Y per i drwyddedu personau i gasglu ar gyfer achosion elusennol ac achosion eraill. |
Adran 5 o Ddeddf yr Heddlu, Ffatrïoedd etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916 (p.31) ac adran 2 o Ddeddf Casglu o D 1939 (p. 44)[42]). |
39.
Y per i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd. |
Atodlen 2 i Ddeddf Sn a Niwsans Statudol 1993 (p.40). |
40.
Y per i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd. |
Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22). |
41.
Y per i drwyddedu asiantaethau ar gyfer cyflenwi nyrsys. |
Adran 2 o Ddeddf Asiantaethau Nyrsys 1957 (p.16). |
42.
Y per i roi trwyddedau ar gyfer symud moch. |
Erthygl 12 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11). |
43.
Y per i drwyddedu gwerthu moch. |
Erthygl 13 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995. |
44.
Y per i drwyddedu canolfannau casglu ar gyfer symud moch. |
Erthygl 14 o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995. |
45.
Y per i roi trwydded i symud gwartheg o farchnad. |
Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871). |
46.
Y per i ganiatáu gosod sgip adeiladwr ar briffordd. |
Adran 139 o Ddeddf Priffyrdd 1980 . |
47.
Y per i drwyddedu plannu, cadw a chynnal coed etc. ar ran o'r briffordd. |
Adran 142 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
48.
Y per i drwyddedu gweithfeydd mewn perthynas ag adeiladau etc. sy'n rhwystro'r briffordd. |
Adran 169 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
49.
Y per i gydsynio i ollyngiadau neu gloddiadau mewn strydoedd. |
Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
50.
Y per i hepgor y rhwymedigaeth i godi palis neu ffens. |
Adran 172 o o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
51.
Y per i gyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc. dros briffyrdd. |
Adran 178 o o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
52.
Y per i gydsynio i adeiladu selerydd etc. o dan y stryd. |
Adran 179 o Ddeddf Priffyrdd 1980[43]. |
53.
Y per i gydsynio i wneud agoriadau i selerydd etc. o dan strydoedd, a goleuadau ac awyryddion ar y pafn. |
Adran 180 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
54.
Y per i ganiatáu defnyddio rhannau o adeiladau ar gyfer storio selwloid. |
Adran 1 o Ddeddf Ffilm Selwloid a Sinematograff 1922 (p.35). |
55.
Y per i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion cig. |
Rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) 1994 (O.S. 1994/3082)[44]. |
56.
Y per i gymeradwyo safleoedd i gynhyrchu briwgig neu baratoadau cig. |
Rheoliad 4 o Reoliadau Briwgig a Pharatoadau Cig (Hylendid) 1995 (O.S. 1995/3205). |
57.
Y per i gymeradwyo sefydliadau llaeth. |
Rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Cynhyrchion Llaeth (Hylendid) 1995(O.S. 1995/1086)[45]. |
58.
Y per i gymeradwyo sefydliadau cynhyrchion wyau. |
Rheoliad 5 o Reoliadau Cynhyrchion Wyau 1993 (O.S. 1993/1520). |
59.
Y per i roi trwyddedau i siopau cigyddion manwerthol sy'n cyflawni gweithrediadau masnachol mewn perthynas â chig amrwd sydd heb ei lapio ac sy'n gwerthu neu'n cyflenwi cig amrwd a bwydydd sy'n barod i'w bwyta. |
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3341)[46]). |
60.
Y per i gymeradwyo safleoedd cynhyrchion pysgod. |
Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998 (O.S. 1998/994). |
61.
Y per i gymeradwyo canolfannau dosbarthu neu ganolfannau puro. |
Rheoliad 11 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998. |
62.
Y per i gofrestru llongau pysgota y mae perdys neu fwlysgiaid yn cael eu coginio arnynt. |
Rheoliad 21 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998. |
63.
Y per i gymeradwyo llongau ffatri a sefydliadau cynhyrchion pysgodfeydd. |
Rheoliad 24 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw) (Hylendid) 1998. |
64.
Y per i gofrestru marchnadoedd ocsiwn a marchnadoedd cyfanwerthu. |
Rheoliad 26 o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Cynhyrchion Pysgodfeydd a Physgod Cregyn Byw (Hylendid) 1998. |
65.
Y ddyletswydd i gadw cofrestr o safleoedd busnesau bwyd. |
Rheoliad 5 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991 (O.S. 1991/2828). |
66.
Y per i gofrestru safleoedd busnesau bwyd. |
Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16) a Rheoliad 9 o Reoliadau Safleoedd Bwyd (Cofrestru) 1991. |
C. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith | |
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r "darpariaethau statudol perthnasol" o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogewlch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni heblaw yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. | Rhan I o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37)[47]. |
CH. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau | |
1.
Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol. |
Adran 8(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)[48]. |
2.
Y per i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru. |
Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
3.
Y per i ddileu cynghorau cymuned. |
Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y per i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau. |
Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
5.
Y per i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau. |
Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
6.
Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
7.
Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd. |
Paragraff 4(3) a (4) o Atodlen 1 i Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1978 (p. 10)[49]. |
8.
Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio. |
Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
9.
Y per i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
10.
Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau. |
Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
11.
Y per i dalu costau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol. |
Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
12.
Y per i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau. |
Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985. |
13.
Y ddyletswydd i ddatgan bod yna le gwag mewn swydd mewn rhai achosion. |
Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
14.
Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol. |
Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
15.
Y per i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned. |
Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
16.
Y per i benderfynu ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt. |
Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215). |
17.
Y per i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. |
Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). |
18.
Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, OS 1999/450. |
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999, OS 1999/450. |
D. Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion | |
1.
Y per i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol |
Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
2.
Y per i newid enw cymuned. |
Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
3.
Y per i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn henadur mygedol. |
Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y per i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol. |
Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
DD. Y per i wneud, diwygio, diddymu neu ail-ddeddfu is-ddeddfau | Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac Adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30)[50]. |
E. Y per i hybu neu i wrthwynebu Mesruau lleol neu bersonol. | Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
F. Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc. | |
1.
Swyddogaeth sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc. |
Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 (p. 11)[51]. |
2.
Swyddogaethau o dan Gynllun Pensiwn Dynion Tân sy'n ymwneud â phensiynau, etc, mewn perthynas â phersonau a gyflogir yn aelodau o frigadau tân a gynhelir yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947. |
Adran 26 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân 1947 (10 ac 11 Geo.6 p. 41)[52]. |
FF. Swyddogaethau amrywiol | |
1.
Y per i greu llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adrannau 25 a 26 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p. 66). |
2.
Y per i gau llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
3.
Y per i wyro llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adran 119 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
4.
Y ddyletswydd i ddatgan a diogelu hawliau i'r cyhoedd ddefnyddio a mwynhau priffyrdd. |
Adran 130 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
5.
Pwerau sy'n ymwneud â symud pethau a ollyngwyd ar briffyrdd mewn modd sy'n eu gwneud yn niwsans. |
Adran 149 o Ddeddf Priffyrdd 1980. |
6.
Y ddyletswydd i barhau i adolygu map a datganiad diffiniol. |
Adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69). |
7.
Y ddyletswydd i ailddosbarthu ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus. |
Adran 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 |
8.
Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl fel y digwydd). |
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio 1996 (O.S. 1996/590)[53]. |
9.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr. |
Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38). |
10.
Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed. |
Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Coed 1999 (OS. 1999/1892). |
11.
Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd pwysig. |
Rheoliadau Gwrychoedd 1997 (O.S. 1997/1160). |
12.
Y per i wneud gorchymyn calchbalmant. |
Adran 34(2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p. 69). |
13.
Y per i wneud rheolau sefydlog. |
Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[54] a pharagraff 42 i Atodlen 12 iddi. |
14.
Y per i benodi staff. |
Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
15.
Y per i wneud rheolau sefydlog ynghylch . contractau |
Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
16.
Y per i ystyried adroddiadau anffafriol gan y Comisiynydd Lleol . |
Adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,
a diddymu unrhyw benodiad o'r fath.
20.
Y per i wneud taliadau neu i ddarparu manteision eraill mewn achosion o gamweinyddu etc[67].
21.
Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
(1) | (2) |
Cynlluniau a strategaethau | Cyfeiriad |
Cynlluniau Cymorth Ymddygiad | Adran 527A o Ddeddf Addysg 1996 |
Cynllun Perfformiad y Gwerth Gorau | Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27) |
Cynllun Gwasanaethau Plant | Paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (p.41) |
Cynllun Gofal Cymunedol | Adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) |
Strategaeth Gymunedol | Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22) |
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn | Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37) |
Cynllun Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar | Adran 120 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
Cynllun Strategol Addysg | Adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
Cynllun Gwasanaethau Gorfodi'r Gyfraith Bwyd | |
Cynllun Trafnidiaeth Lleol | Adran 92 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 |
Cynllun Trefniadaeth Ysgolion | Adran 26 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 |
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu | Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 |
Cynllun Iaith Gymraeg | Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 |
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid | Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37) |
(1) | (2) |
Y Swyddogaeth | Yr Amgylchiadau |
1.
Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol), heblaw cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun neu strategaeth y cyfeirir atynt yn Atodlen 3. |
Mae'r awdurdod yn dyfarnu y dylai'r penderfyniad a ddylai'r cynllun neu'r strategaeth gael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gael ei gymryd ganddynt hwy. |
2.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth -
(b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu eu benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno -
(ii) y cynllun neu'r strategaeth sydd am y tro wedi'u cymeradwyo neu wedi'u mabwysiadu gan yr awdurdod mewn perthynas â'u benthyciadau neu eu gwariant cyfalaf; a
(b) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny. |
3.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth - unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf
(b) y mae cynllun neu strategaeth (boed statudol neu anstatudol ) wedi'u mabwysiadu neu wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod mewn perthynas â hi. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a honno o blaid dyfarfnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl fel y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod. |
[4] O.S. 1990/1553. Diwygiwyd rheoliad 4 gan O.S. 1998/1918.back
[5] 1989 p.42. Diwygiwyd adran 18 gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back
[6] Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Lleol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed eithriad perthnasol gan erthygl 3(2) o Orchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Eithriadau) 1991 (OS 1991/344).back
[7] 1993 p.28, y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[8] 1985 p.68. Gwnaed diwygiadau perthnasol, yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43, gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.back
[9] 1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27) Atodlen 1, paragraff 1.back
[11] Adran 70(1)(a) a (b) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).back
[12] Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.back
[13] Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.back
[14] Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.back
[15] Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[16] O.S. 1992/666, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[17] Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael yr amgylchiadau y gall yr hawl gael ei harfer odanynt, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.back
[18] Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio Gwlad ac Iawndal 1991.back
[19] Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[20] Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[21] Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adeiladau Rhestredig ac Adeiladau mewn Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[22] Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) Atodlen 3, paragraff 7.back
[23] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[24] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[25] Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6).back
[26] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[27] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[28] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[29] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(6) a Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6 paragraff 11 ac Atodlen 34, Rhan VI.back
[30] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol, (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).back
[31] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, adran 204(9).back
[32] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1).back
[33] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno ac Atodlen 2 iddi.back
[34] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 42 ac Atodlen 8.back
[35] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[36] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[37] Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[38] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.back
[39] A ddiwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Ddiogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1988.back
[40] Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).back
[41] A ddiwygiwyd gan O.S. 1968/658.back
[42] A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back
[43] A ddiwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back
[44] A ddiwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Cynhyrchion Cig (Hylendid) (Diwygiadau) 1999 (O.S. 1999/683).back
[45] A ddiwygiwyd gan O.S. 1996/699.back
[46] Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Diogelwch Bwyd yn Gyffredinol) 1995 (O.S. 1995/1763).back
[47] I gael y diffiniad o "y darpariaethau statudol perthnasol" gweler adran 53(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974. Gweler hefyd y diffiniadau o "the existing statutory provisions" a "health and safety regulations" yn adran 53(1) ac, o ran "health and safety regulations", adran 15(1) o'r Ddeddf honno a amnewidiwyd gan Ddeddf Diogelu Cyflogaeth 1975 (p.71), Atodlen 15, paragraff 5.back
[48] Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlen 4.back
[49] A ddeddfwyd yn wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.back
[50] Mae adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 yn cael ei chymhwyso at is-ddeddfau a wneir o dan Adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 2 iddi.back
[51] O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dâl 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).back
[52] Y ceir diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[53] A wnaed o dan adran 23 (rheoliadau ynghylch cyfrifon) o Ddeddf Cyllid Llyodraeth Leol 1982 (p.32) fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 (p.18).back
[54] Gweler hefyd adrannau 8 ac 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.back
[55] 1998 p.14. Mae adran 34(4) yn disodli adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992. Mae effaith Rheoliadau Budd-daliadau'r Dreth Gyngor 1992 (O.S. 1992/1814) a Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971), y ceir diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn, yn parhau yn rhinwedd adran 17(2)(b) o Ddeddf Dehongli 1978 (p.30), er bod adran 63(3) o Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 wedi'i diddymu.back
[58] Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y Rhan honno.back
[59] Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).back
[60] Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[61] Adran 8 o Ddeddf Sn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).back
[62] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[63] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[66] Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991 (p.22), adran 23.back
[67] Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back