British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20012196w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 2196 (Cy. 156) (C. 72)
GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
12 Mehefin 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 12(2) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000[
1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.
Y Diwrnod Penodedig
2.
Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yw 1 Gorffennaf 2001.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mehefin 2001
YR ATODLENErthygl 2
DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 1 Gorffennaf 2001
Adran 1 (Hawl gofalwyr i gael asesiad)
Adran 2 (Gwasanaethau i ofalwyr)
Adran 4 (Asesiadau a gwasanaethau i'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal)
Adran 5 (Taliadau uniongyrchol)
Adran 6 (Asesiadau: personau sydd â gofal rhieni dros blant anabl)
Adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989, ac adran 7(2) a (3) (Taliadau uniongyrchol i blant anabl ac i bersonau â chyfrifoldeb rhiant drostynt)
Adran 8 (Codi tâl)
Adran 9 ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir ganddi yn cyfeirio at ddarparu talebau (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
Adran 10 (Darpariaeth ariannol)
Adran 11 ac eithrio is-adran (4) (Dehongli a rheoleiddio).
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau penodol o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 ("y Ddeddf") i rym ar 1 Gorffennaf 2001 mewn perthynas â Chymru.
Mae'n dwyn i rym adran 1 sy'n creu hawl i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn yr adran hon) gael asesiad; adran 2 sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau i ofalwyr; adran 4 sy'n diwygio Deddf Gofalwyr (Cydnabyddiaeth a Gwasanaethau) 1995[
3] er mwyn caniatáu asesiad o dan adrannau 1 neu 6 o'r Ddeddf i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth wneud asesiad o dan Ddeddf 1995; adran 5 sy'n diwygio Deddf Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1996[
4] er mwyn caniatáu taliadau uniongyrchol i gael eu gwneud i ofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 1) am wasanaethau gofalwyr (fel y'u diffinnir yn adran 2); adran 6 sy'n creu hawl i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl i gael asesiad; adran 7(1) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 17A yn Neddf Plant 1989[
5] sy'n caniatáu i daliadau uniongyrchol gael eu gwneud i bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl ac i blant anabl 16 oed a 17 oed, ac adran 7(2) a (3).
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym adrannau 8 i 11 (yn gynhwysol) (ac eithrio i'r graddau y mae'r darpariaethau a fewnosodir gan adran 9 yn cyfeirio at ddarparu talebau, ac adran 11(4) sy'n cyfeirio at reoliadau a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol), sy'n cynnwys darpariaeth o ran codi tâl am wasanaethau gofalwyr, mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, darpariaeth ariannol a dehongli ac o ran defnyddio pwerau gwneud rheoliadau.
Dyma'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf mewn perthynas â Chymru. Mae darpariaethau penodol o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2001 Rhif 510 (C.20).
Notes:
[1]
2000 p.16.back
[2]
1998 p.38.back
[3]
1995 p.12.back
[4]
1996 p.30.back
[5]
1989 p.41.back
English version
ISBN
0 11090266 1
|
Prepared
16 July 2001