Wedi'i wneud | 27 Mawrth 2001 | ||
Yn dod i rym | 1 Ebrill 2001 |
Dangosyddion Perfformiad
4.
Rhaid i berfformiad awdurdod gwerth gorau wrth arfer ei swyddogaethau gael ei fesur drwy gyfeirio at y dangosyddion perfformiad a bennir yn y Tabl isod mewn perthynas â'r swyddogaethau a nodir yn y Tabl.
TABL
Swyddogaethau'r Awdurdodau Gwerth Gorau a'r Dangosyddion Perfformiad y Mesurir Perfformiad y Swyddogaethau hynny drwyddynt |
Rhan 1 |
Llywodraeth Gorfforaethol |
Pob dangosydd yn Atodlen 1 |
Addysg |
Pob dangosydd yn Atodlen 2 |
Gwasanaethau Cymdeithasol |
Pob dangosydd yn Atodlen 3 |
Tai |
Pob dangosydd yn Atodlen 4 |
Gwasanaethau'r Amgylchedd |
Pob dangosydd yn Atodlen 5 |
Trafnidiaeth |
Pob dangosydd yn Atodlen 6 |
Cynllunio |
Pob dangosydd yn Atodlen 7 |
Iechyd Amgylcheddol a Safonau Masnach |
Pob dangosydd yn Atodlen 8 |
Gwasanaethau Diwylliannol a Pherthynol |
Pob dangosydd yn Atodlen 9 |
Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor |
Pob dangosydd yn Atodlen 11 |
Diogelwch Cymunedol Trawsbynciol |
Pob dangosydd yn Atodlen 12 |
Rhan 2 |
Llywodraeth Gorfforaethol Awdurdod Parciau Cenedlaethol |
Pob dangosydd yn Atodlenni 10 a 7 |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 1.1 | Lefel cydymffurfio â chynllun Iaith Gymraeg yr awdurdod gwerth gorau a gymeradwywyd yn ôl yr adroddiad i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. |
Mae lefel gyffredinol cydymffurfio â Chynllun Iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau fel y'i cadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel a ganlyn: Cyflwyno gwasanaethau: da iawn; da; gweddol; gwael Rheoli'r cynllun: da iawn; da; gweddol; gwael lle gellir ychwanegu "ac/ond yn gwella" neu "ac/ond yn dirywio" at lefel y perfformiad lle bo'n gymwys. |
NAWPI 1.2 | Lefel safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
Diffinnir lefelau'r safon ar gyfer llywodraeth leol yn y bennod sy'n dwyn y teitl "Measurements" yn nogfennau'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol sy'n dwyn y teitlau "Auditing for Equality" a "Racial Equality means Quality". Dylai awdurdodau gwerth gorau gyflwyno adroddiad fel a ganlyn ar y lefel y maent wedi'i chyrraedd : - Lefel 1: Mae'r awdurdod gwerth gorau wedi ysgrifennu datganiad polisi ar hiliaeth. Lefel 2: Mae gan yr awdurdod gwerth gora gynllun gweithredu ar gyfer monitro a llwyddo yn ei bolisi cydraddoldeb hiliol. Lefel 3: Defnyddir canlyniadau monitro ethnig yn erbyn y polisi cydraddoldeb a lefel ymgynghori â chymunedau lleol i adolygu polisi cyffredinol yr awdurdod gwerth gorau. Lefel 4: Gall yr awdurdod gwerth gorau ddangos gwelliannau clir yn ei wasanaethau yn sgil monitro, ymgynghori â chymunedau lleol, a gweithredu yn ôl ei bolisïau cyfleoedd cyfartal. Lefel 5: Mae'r awdurdod gwerth gorau yn enghraifft o ymarfer gorau yn y ffordd y mae'n monitro ac yn darparu gwasanaethau i leiafrifoedd ethnig, ac yn helpu awdurdodau gwerth gorau eraill i gyrraedd safonau uchel. Rhaid cael cadarnhad bod yr awdurdod gwerth gorau wedi cyrraedd y lefel hon gan y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol. Er mwyn cyflwyno adroddiad ar y lefelau hyn, rhaid bod awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol. Os nad yw'r awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu'r safon hon, dylai adrodd fel a ganlyn: "Nid yw'r awdurdod hwn wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol". |
NAWPI 1.3 | Nifer y cwynion i Ombudsman a ddosberthir fel camweinyddu. | Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru ac a ddosberthir fel "camweinyddu'n achosi anghyfiawnder" neu "camweinyddu". |
NAWPI 1.4 | Nifer canrannol y rhai a bledleisiodd mewn etholiadau lleol. | Diffinnir "nifer y rhai a bleidleisiodd" fel y gyfran ar y gofrestr etholwyr sy'n pledleisio mewn unrhyw etholiad yn y flwyddyn ac eithrio is-etholiadau unigol. Pan nad oes etholiad yn y flwyddyn ariannol honno, dylai'r awdurdodau gwerth gorau adrodd nifer y rhai a bleidleisiodd yn yr etholiad diweddaraf un. |
NAWPI 1.5 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl math o darfodaeth, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
Ystyr cydadweithau yw unrhyw gysylltiad rhwng dinesydd ac awdurdod gwerth gorau gan gynnwys (yn ôl y math): Dylid diffinio 100% o fewn strategaeth e-lywodraeth yr awdurdod gwerth gorau i gymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth yn seiliedig ar y rhestr lawn o wasanaethau y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gyfrifol amdanynt a'r mathau o gydadweithiau sy'n berthnasol i bob gwasanaeth. Mae'r dangosydd yn rhagdybio y gellir galluogi pob gwasanaeth ar gyfer cyflwyno electronig onid oes rheswm cyfreithiol neu weithredol pam na ellir gwneud hyn. Ystyr "electronig" yw cyflwyno drwy brotocolau rhyngrwyd a dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (ICT) eraill ac mae'n cynnwys cyflwyno dros y ffôn os yw'r drafodaeth wedi'i galluogi'n electronaidd h.y. mae'r swyddog sy'n derbyn yr alwad yn gallu cael gafael ar wybodaeth electronig ac/neu yn diweddaru cofnodion ar-lein yn y fan a'r lle. |
NAWPI 1.6 | Y ganran o anfonebau diddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn 30 diwrnod ar ôl derbyn yr anfonebau gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Er mwyn cael y ganran hon bydd angen i'r awdurdod gwerth gorau rannu nifer yr holl anfonebau am nwyddau a gwasanaethau masnachol a dalwyd i gontractwyr a chyflenwyr allanol o fewn 30 diwrnod o'u derbyn yn ystod y flwyddyn ariannol, â chyfanswm yr holl anfonebau a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau yn y flwyddyn honno, a lluosi'r canlyniad â 100. Caiff yr awdurdodau gwerth gorau ddiystyru anfonebau a anfonwyd i ysgolion ac a dalwyd o gyllidebau a ddirprwywyd i ysgolion. Yn y dangosydd hwn, ac at ddibenion canfod a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi talu'r anfoneb o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, bydd y cyfnod yn dechrau ar yr adeg y cafwyd yr anfoneb gan yr awdurdod gwerth gorau (nid adran dalu'r awdurdod gwerth gorau). Yna, bydd yr awdurdod gwerth gorau yn talu'r anfoneb honno o fewn 30 diwrnod. Mae talu'n cynnwys - Pan nad yw'r awdurdod gwerth gorau yn cofnodi'r dyddiad y mae'n cael yr anfoneb, dylai ychwanegu dau ddiwrnod at ddyddiad yr anfoneb oni bai ei fod wedi samplu anfonebau yn ystod y flwyddyn honno er mwyn cael cyfnod mwy cywir i'w ychwanegu at y dyddiad. Os defnyddir samplu, dylai'r sampl fod yn nodweddiadol yn fras o'r holl anfonebau a geir gan drannau gwahanol ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, a dylai gynnwys o leiaf 500 anfoneb. Os ceir anfoneb cyn i'r gwasanaethau gael eu darparu neu i'r nwyddau ddod i law, mae'r 30 diwrnod neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno yn dechrau pan geir y nwyddau'n foddhaol neu pan gwblheir y gwasanaethau'n foddhaol. |
NAWPI 1.7 | Swm y dreth gyngor a gafwyd yn y flwyddyn ariannol fel canran o gyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol. | Ni ddylai swm y dreth gyngor a geir gynnwys unrhyw ôl-ddyledion treth gyngor a geir mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol, nac unrhyw ragdaliadau o dreth gyngor mewn perthynas â blynyddoedd yn dilyn y flwyddyn ariannol. Ni ddylai cyfanswm y debyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gynnwys unrhyw ôl-ddyledion treth gyngor sy'n ddyledus mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol. Dylai pob ffigur beidio â chynnwys budd-daliadau neu ad-daliadau treth gyngor, p'un a delir hwy gan lywodraeth leol neu gan y llywodraeth ganolog. |
NAWPI 1.8 | Swm yr ardrethi annomestig sy'n daladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol, wedi'i addasu ar gyfer rhyddhad trosiannol, yn llai rhyddhad ar eiddo bach a phob rhyddhad gorfodol. | Ni ddylai swm yr ardrethi annomestig gynnwys unrhyw ôl-ddyledion ardrethi annomestig a geir mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol, nac unrhyw ragdaliadau o ardrethi annomestig mewn perthynas â blynyddoedd yn dilyn y flwyddyn ariannol. Ni ddylai ffigur yr ardrethi gros taladwy ar gyfer y flwyddyn ariannol gynnwys unrhyw ôl-ddyledion ardrethi annomestig sy'n ddyledus mewn perthynas â blynyddoedd cyn y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 1.9 | Y ganran o swyddi rheoli uwch a ddelir gan fenywod. |
Bydd angen i'r dangosydd hwn adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol. Amcangyfrifir y ganran drwy gyfrifo nifer y menywod mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch fel canran o'r holl staff mewn swydd ar lefel rheolaeth uwch, lle diffinnir "rheolaeth uwch" fel y tair haen uchaf rheolaeth yn yr awdurdod gwerth gorau. Mae PrifWeithredwyr a Dirprwy Brif Weithredwyr yn cyfrif fel un haen i'r diben hwn. Dylid eithrio'r holl staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau o'r cyfrif hwn. |
NAWPI 1.10 | Y nifer o'r dyddiau gwaith/sifftiau am bob staff cyfwerth amser llawn a gollwyd trwy absenoldeb oherwydd salwch. |
Ceir y gyfran o ddyddiau neu sifftiau a gollir o achos absenoldeb drwy salwch wrth i'r awdurdod gwerth gorau gyfrifo'r rhifiadur a'r enwadur fel y diffinnir hwy isod. Ystyr " dyddiau/sifftiau gwaith" yw'r dyddiau sifftiau a restrwyd ar gyfer gwaith, ar ôl tynnu allan unrhyw ddyddiau o wyliau neu ryddhad. Diffinnir y rhifiadur fel y cyfanswm o'r dyddiau gwaith a gollwyd o achos absenoldeb drwy salwch heb ystyried a ardystiwyd hynny gan y person ei hunan neu drwy dystysgrif ymarferydd cyffredinol neu a yw'n absenoldeb drwy salwch hir-dymor. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiau a gollwyd o achos salwch gan holl weithwyr parhaol awdurdod gwerth gorau, gan gynnwys athrawon, staff a gyflogir mewn ysgolion a staff a gyflogir mewn Cyrff Llafur Uniongyrchol a Chyrff Gwasanaeth Uniongyrchol. Er hynny, at ddibenion y rhifiadur hwn, dylid anwybyddu'r dyddiau a gollwyd o achos salwch gan staff dros dro neu gan staff asiantaeth. Yn ychwanegol, dylid anwybyddu hefyd y dyddiau a gollwyd gan staff ar seibiant mamolaeth neu dadolaeth. Diffinnir yr enwadur fel nifer cyfartalog y staff Cyfwerth ag Amser Llawn sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn blwyddyn ariannol. Ar gyfer staff sy'n gweithio'n rhan amser, dylai'r awdurdod gwerth gorau gyfrifo'r hyn sy'n Gyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer y rhifiadur a'r enwadur ar sail gyson. |
NAWPI 1.12 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o weithlu llawn yr awdurdod gwerth gorau. |
Gall "ymddeoliad ar sail afiechyd" ddigwydd ar unrhyw oedran pan fydd ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol â chymhwyster mewn iechyd galwedigaethol wedi ardystio fod y gweithiwr yn barhaol analluog i berfformio dyletswyddau'r gyflogaeth honno neu gyflogaeth mewn awdurdod gwerth gorau sydd ar y cyfan yn gyflogaeth y gellir ei chymharu â hi gyda'i awdurdod cyflogi gwerth gorau o achos afiechyd neu eiddilwch meddwl neu gorff. Cyfrifir y dangosydd hwn fel a ganlyn: Nifer yr ymddeoliadau ar sail afiechyd, wedi'i rannu â chyfanswm nifer staff yr awdurdod gwerth gorau, wedi'i luosi â 100. At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.13 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (1995 p.50) yn datgan "a person has a disability for the purposes of this Act if he has a physical or mental impairment which has a substantial and long-term adverse effect on his ability to carry out normal day-to-day activities." Cyfrifir y dangosydd fel a ganlyn: Nifer y staff anabl, wedi'i rannu â chyfanswm nifer staff yr awdurdod gwerth gorau, wedi'i luosi â 100. At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.14 | Y ganran o weithwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol o fewn gweithlu'r awdurdod gwerth gorau. |
Bydd yr awdurdod gwerth gorau yn cyfrifo'r dangosydd hwn drwy rannu nifer y staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn yr awdurdod gwerth gorau â nifer llawn staff yr awdurdod gwerth gorau. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100. At ddibenion cyfrifo'r dangosydd hwn, dylid cynnwys staff mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 1.15 | Y ganran o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd ac sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl. |
Cyfrifir y ganran drwy rannu nifer yr adeiladau sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl gan y nifer o adeiladau sy'n agored i'r cyhoedd, wedi'i luosi â 100. At ddiben y dangosydd hwn, ystyr "adeiladau" yw adeiladau y mae'r awdurdod gwerth gorau yn darparu gwasanaeth ohonynt, ac y mae rhan ohonynt fel arfer yn agored i aelodau'r cyhoedd, (ond gan eithrio toiledau cyhoeddus nad ydynt yn rhan annatod o adeiladau o'r fath, ysgolion a sefydliadau addysgol). Mae ystyr "yn addas ac yn hygyrch i bobl anabl" i'w ddehongli yn unol â Rhan M o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531). |
NAWPI 1.16 |
Digwyddiadau hiliol
b) y ganran o'r digwyddiadau hiliol a arweiniodd at weithredu pellach. |
Ystyr "digwyddiadau hiliol" yw unrhyw ddigwyddiadau a ystyrir yn rhai o'r fath gan y dioddefydd, yr heddlu neu swyddogion awdurdod gwerth gorau. Mae'r dangosydd yn gymwys i bob un o wasanaethau'r awdurdod gwerth gorau gan gynnwys ysgolion a chyflogaeth gan yr awdurdod gwerth gorau. Ystyr "gweithredu pellach" yw cofnodi'r digwyddiad hiliol mewn ysgrifen ac mae'n cynnwys:
ii) atgyfeirio i'r heddlu neu gorff arall (er enghraifft y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol neu'r Ganolfan Gynghori) iii) cyflafareddu iv) rhybudd i'r cyflawnydd neu'r cyflawnwyr (y mae'n rhaid ei gofnodi ar y pryd os ar lafar) v) adleoli'r dioddefydd vi) dileu'r graffiti tramgwyddus |
NAWPI 1.17 | Y nifer o leoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'r boblogaeth a ddarperir neu a gefnogir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Ystyr "lleoedd" yw nifer yr ystafelloedd sy'n darparu lleoedd gwelyau i ddioddefydd trais domestig a'i phlant neu a'i blant. Ni ellir cyfrif yn y cyfanswm ystafelloedd na ddynodir fel arfer yn ystafelloedd gwely. Dylai'r ffigurau adlewyrchu'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Os yw'r awdurdod gwerth gorau yn cyllido sefydliad yn rhannol yna gall hawlio credyd (o ran lleoedd gwelyau) pro rata am ei gyfraniad i gostau cynnal y sefydliad. Ystyr "lloches rhag trais domestig" yw llety mewn argyfwng i bersonau a gyfeiriwyd at gymorth ar ôl iddynt brofi bygythiadau i'w diogelwch corfforol, a rhaid iddynt ddarparu cymorth, cyngor a chymorth digonol yn ogystal â bod yn rhan o ymagwedd leol integredig at drais domestig sy'n cynnwys partneriaeth gyda chyrff lleol a statudol eraill. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 2.1 | Cyfartaledd sgôr pwyntiau TGAU/GNVQ plant 15/16 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Cyfanswm nifer y pwyntiau a enillwyd cyn neu yn ystod haf y flwyddyn ariannol gan y disgyblion 15 oed ar 31 Awst o'r flwyddyn flaenorol ac ar gofrestr yr ysgol ar adeg Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion yn Ionawr y flwyddyn ariannol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau wedi'u rhannu gan nifer y disgyblion hynny. Pwyntiau fel y nodir hwy yn Atodiad F i Gylchlythyr CCC 4/99. |
NAWPI 2.2 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf blaenorol sy'n ennill 5 TGAU neu fwy gyda graddau A* i C neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. | Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol ac ar gofrestr yr ysgol ar adeg Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion yn Ionawr y flwyddyn ariannol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau sy'n ennill pump neu fwy o raddau TGAU A* i C neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol yn yr arholiadau a gynhelir yn haf y flwyddyn ariannol a phan yw'n berthnasol mewn arholiadau blaenorol yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 2.3 | Canran y disgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu uwch neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol. | Canran y disgyblion 15 oed ar 31 Awst yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol ac ar gofrestr yr ysgol yn Ionawr y flwyddyn ariannol ar adeg Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau sy'n ennill un TGAU neu fwy gyda gradd G neu uwch neu'r cymhwyster galwedigaethol cyfatebol yn yr arholiadau a gynhelir yn haf y flwyddyn a phan yw'n berthnasol mewnarholiadau blaenord yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 2.4 |
Canran y plant 11 oed Mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf cyn y flwyddyn ariannol sy'n ennill:
b) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ym mhrawf Saesneg Cyfnod Allweddol 2 c) Lefel 4 neu'n na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf) ch) Lefel 4 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. |
Gweler Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999 [O.S. 1999 Rhif 1811] a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. Mae'r canrannau'n berthnasol i ddisgyblion sy'n cael eu hasesu yn y pynciau unigol. |
NAWPI 2.5 |
Canran y plant 14 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau yn yr haf cyn y flwyddyn ariannol sy'n ennill:
(b) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Saesneg. (c) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Cymraeg (iaith gyntaf). (ch) Lefel 5 neu'n uwch na hynny ar raddfa'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth. |
Gweler Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999 [O.S. 1999 Rhif 1811] a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. Mae'r canrannau'n berthnasol i ddisgyblion sy'n cael eu hasesu yn y pynciau unigol. |
NAWPI 2.6 |
Canran y plant 15/16 oed sy'n ennill y "dangosydd pwnc craidd" - Y disgyblion hynny sy'n ennill gradd C o leiaf mewn TGAU, Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth mewn cyfuniad. |
Gweler Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999 [O.S. 1999 Rhif 1811] a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. Mae'r canrannau'n berthnasol i ddisgyblion sy'n cael eu hasesu yn y pynciau unigol. |
NAWPI 2.7 | Canran y plant 15/16 oed sy'n ymadael ag addysg amser-llawn heb gymhwyster cydnabyddedig. | Gweler Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb Heb Ganiatâd) (Cymru) 1999 [O.S. 1999 Rhif 1811] a ddaeth i rym ar 1 Medi 1999. |
NAWPI 2.8 |
Nifer y disgyblion a waharddwyd yn barhaol yn ystod y flwyddyn o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1000 o o ddisgyblion ar gofrestri ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau:
(b) mewn ysgolion uwchradd. (c) mewn ysgolion arbennig. |
Y cyfnod o dan sylw yw'r flwyddyn academaidd yn dechrau ym mis Medi yn union o flaen y flwyddyn ariannol. Cesglir yr wybodaeth yn Ffurflen Monitro Gwaharddiadau Parhaol (bob tymor). |
NAWPI 2.9 | Y ganran o hanner diwrnodau a gollwyd oherwydd absenoldeb mewn ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Mae'r cyfnod yn cychwyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ac yn diweddu ar ddyddiad yr Wyl Banc hwyr ym mis Mai yn y flwyddyn ariannol. Cesglir yr wybodaeth ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Gwybodaeth Perfformiad Ysgolion: Ffurflen Presenoldeb Disgyblion ar gyfer y flwyddyn academaidd sy'n dechrau yn y mis Medi cyn y flwyddyn ariannol (eitem (c) fel canran o eitem (a)). Nid yw ysgolion uwchradd yn cynnwys ysgolion arbennig. |
NAWPI 2.11 |
Y ganran o'r disgyblion a waharddwyd yn barhaol sy'n dilyn:
b) rhwng deg a phum awr ar hugain yr wythnos o addysgu arall c) rhagor na phum awr ar hugain yr wythnos o addysgu arall. |
Cyfrifir y dangosydd drwy gymryd nifer yr oriau o addysgu arall a ddilynir mewn gwirionedd yn ystod y flwyddyn ariannol gan ddisgybl tra bo wedi ei wahardd yn barhaol, rhannu'r oriau hynny gyda nifer y dyddiau ysgol pan oedd y disgybl wedi ei wahardd yn barhaol yn ystod y flwyddyn ariannol a lluosi'r canlyniad gyda phump i gael y cyfartaledd wythnosol. Yna gosodir y ffigur ar gyfer pob disgybl yn y band priodol:
(b) 10-25 awr (c) mwy na 25 awr
Mae addysgu arall yn cynnwys addysgu gartref, unedau cyfeirio disgyblion, unrhyw addysgu wyneb i wyneb arall neu amser a dreilir mewn unrhyw sefydliad addysg. Pan ryddheir disgybl a waharddwyd i baratoi ar gyfer arholiadau TGAU, yn unol â pholisi arferol yr awdurdod gwerth gorau ar ryddhad arholiad, ni ddylid cynnwys y cyfnod hwnnw yn y cyfrifiad. |
NAWPI 2.12 |
Y ganran o'r dosbarthiadau ysgol gynradd gyda rhagor na 30 disgybl yn y blynyddoedd:
(b) tri i chwech. |
Mae'r dangosydd hwn fel yn y blychau priodol yn CCC STATS 1 Ffurflen ysgol gynradd Eitem 1.4, ond ar gyfer y golofn "dosbarthiadau cyffredin" yn unig. Pan fo dau neu ragor o athrawon yn addysgu dosbarth, dylid cyfrif nifer y dosbarthiadau ar ôl rhannu nifer y disgyblion yn y dosbarth gyda'r nifer perthnasol o athrawon - e.e. dylid cyfrif 40 disgybl a addysgir gan ddau o athrawon fel dau ddosbarth o 20 disgybl. Dylid cyfrif dosbarthiadau yn cynnwys plant yn y blynyddoedd y cyfeirir atynt yn (a) a (b) fel (a). |
NAWPI 2.13 |
a) Nifer y datganiadau a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn. b) Y ganran o'r datganiadau anghenion addysgol arbennig a baratowyd o fewn 18 wythnos, gan eithrio y rhai a gyfrifir yn "eithriadau i'r rheol" yn unol â'r Cod Ymarfer SEN. |
a) Mae hwn fel a geir yn CCC STATS 2, cyfanswm eitem 3. Y ffigurau sy'n ofynnol gan y dangosydd hwn yw rhai'r flwyddyn galendr yn cychwyn ym mis Ionawr cyn y flwyddyn ariannol. b) Datganiadau a baratoir o fewn 18 wythnos fel canran o'r holl ddatganiadau (gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud ag asiantaethau eraill) Ni ddylid cynnwys achosion lle y mae unrhyw un o'r eithriadau a restrir ym mharagraffau 3.40 i 3.42. yn y Cod Ymarfer Anghenion Addysg Arbennig (SEN) yn gymwys. Y ganran yw nifer y datganiadau y cyfeirir atynt uchod wedi'u rhannu â nifer y datganiadau a roddwyd yn ystod y flwyddyn a'i luosi â 100. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 3.1 | Sefydlogrwydd lleoliadau'r plant yn derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at ganran y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth a gafodd dri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn ariannol. |
Ystyr y rhifiadur o'r plant a ddiffiniwyd yn yr enwadur isod, yw'r nifer a gafodd dri lleoliad neu ragor (fel y'i diffinnir gan y casgliad 903 SSDA) yn ystod y flwyddyn ariannol yn diweddu 31 Mawrth. Cynhwyswch unrhyw leoliadau a oedd eisoes yn agored ar 1 Ebrill ar ddechrau'r flwyddyn, ac unrhyw rai a oedd yn agored ar 31 Mawrth ar ddiwedd y flwyddyn. Cynhwyswch bob lleoliad a ystyrir yn rhai "dros dro"; yr unig eithriadau yw'r achosion arbennig canlynol:- cyfnodau i ffwrdd dros dro ar wyliau neu mewn ysbyty neu gyfnodau eraill o absenoldeb dros dro am saith dilynol diwrnod dychwelyd neu lai, gyda'r plentyn wedyn yn fel a gynlluniwyd i'r lleoliad blaenorol. Ystyr yr enwadur yw cyfanswm plant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth. Peidiwch â chynnwys yn y cyfrif unrhyw blant a oedd yn derbyn gofal ar y dyddiad hwnnw o dan gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheoliad13 o Reoliadau Trefniadau Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 O.S. 1991/890). Dylai'r rhifiadur gael ei rannu â'r enwadur a lluosi â 100 i gael y ganran. |
NAWPI 3.2 | Cymwysterau addysgol plant sy'n derbyn gofal drwy gyfeirio at y ganran o'r bobl ifainc 16 oed a throsodd sy'n gadael gofal gydag o leiaf un TGAU gradd A* i G neu Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol (GNVQ). |
Ystyr y rhifiadur yw'r nifer hwnnw o bobl ifanc wrth adael gofal, a enillodd o leiaf un TGAU, gyda gradd A*-G, neu GNVQ. Cynhwyswch gymwysterau a enillwyd cyn i'r person ifanc dderbyn gofal neu yn sgil arholiadau a gymerwyd tra oedd yn derbyn gofal, hyd yn oed os cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar ôl i'r person ifanc beidio â derbyn gofal. Cynhwyswch gyrsiau byr TGAU, GNVQs rhan un neu GNVQs llawn ar lefel sylfaen neu lefel ganolradd, ac unedau iaith GNVQ. Peidiwch â chynnwys Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) Ystyr yr enwadur yw nifer y bobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal yn ystod y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth yn 16 oed neu drosodd. Cynhwyswch bawb yn y gr p oedran hwn a ymadawodd â gofal, ni waeth ers faint y buont yn derbyn gofal cyn ymadael, ond peidiwch â chynnwys pobl ifanc a beidiodd â derbyn gofal ar ôl ei dderbyn yn ystod y flwyddyn mewn cyfres gytûn o leoliadau byr-dymor yn unig. Dylai'r rhifiadur gael ei rannu â'r enwadur a lluosi â 100 i gael y ganran. |
NAWPI 3.3 | Y ganran o bobl ifanc mewn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed y mae ganddynt gynllun addas ar gyfer eu gofal parhaol. |
Y rhifiadur: ei ystyr yw nifer y bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau yn y flwyddyn ar eu pen-blwydd yn 16 oed oedd â chynllun ysgrifenedig ar y dyddiad hwnnw. Cynlluniau o'r fath yw:
(b) cynlluniau trywydd ar gyfer plant "cymwys", h.y. plant sy'n derbyn gofal ar ôl 16-17 oed a oedd yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos gronnol ers 14 oed (gweler paragraffau 19b(4) a (5) o Ran II o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989).
Yr enwadur: ei ystyr yw nifer y bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod gwerth gorau a gafodd eu pen-blwydd yn 16 oed yn y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 3.4 | Canran y lleoliadau cyntaf (i blant sy'n derbyn gofal) sy'n dechrau gyda chynllun gofal. |
Y rhifiadur: Nifer y lleoliadau cyntaf yn y y flwyddyn a oedd â chynllun gofal, fel y'i diffiniwyd ar gyfer dangosydd 3.3, i'r plentyn ar ddechrau'r lleoliad. Yr enwadur: Cyfanswm nifer y lleoliadau cyntaf a ddechreuwyd yn y flwyddyn. Dylid rhannu'r rhifiadur â'r enwadur a'i luosi â 100 i gael y ganran. |
NAWPI 3.5 | Costau gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod gwerth gorau drwy gyfeirio at wariant wythnosol gros am bob plentyn y gofelir amdano, mewn gofal maeth neu gartref i blant. |
Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar blant yn derbyn gofal mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau 11 a 17. Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd - drefniadau (colofn 5). Ystyr yr enwadur yw'r cyfanswm o wythnosau a dreuliwyd gan y plant mewn cartrefi gofal maeth a chartrefi plant yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth. O dan gartrefi plant cynhwyswch gartrefi cymunedol, cartrefi gwirfoddol a hosteli a chartefi plant cofrestredig preifat. Peidiwch â chynnwys unrhyw leoliadau yn y cyfrif a oedd yn rhan o gyfres gytûn o leoliadau tymor-byr (o dan ddarpariaethau Rheoliad 13 o Reoliadau Trefn Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 O.S. 1991/890). Dylid seilio'r cyfrif ar gyfanswm y diwrnodau gofal wedi'u rhannu â saith. |
NAWPI 3.6 | Cost gofal preswyl neu ofal cartref i oedolion drwy gyfeirio at gost gros bob wythnos |
Cyfartaledd cost wythnosol gros darparu gofal preswyl neu ofal cartref i oedolion. Ystyr y rhifiadur yw'r gwariant gros ar ofal preswyl a gofal nyrsio a chymorth /gofal cartref i bob grp o gleientau sy'n oedolion gan gynnwys pobl oedrannus (£miloedd) yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben 31 Mawrth. Ceir hyn o'r ffurflen Alldro Refeniw 3 (RO3), llinellau (32 i 34 + 38 + 48 i 50 + 54 + 64 i 66 + 70 + 84 i 86 + 90) Diffinnir gwariant gros o RO3 fel swm costau cyflogedigion (colofn 1) a chostau rhedeg gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 2) llai incwm arall gan gynnwys cyd-drefniadau (colofn 5). Ystyr yr enwadur yw cyfanswm yr wythnosau y cynhaliwyd pob gr p o gleientau sy'n oedolion gan gynnwys pobl oedrannus mewn gofal preswyl a gofal nyrsio a hefyd cyfanswm nifer yr wythnosau yr oedd cleientau sy'n oedolion gan gynnwys pobl oedrannus yn cael gofal cartref. Ceir y cyfartaledd drwy rannu'r rhifiadur â'r enwadur. Sylwer: os nad yw nifer yr wythnosau gofal cartref ar gael gellir denyddio ffigur sampl, drwy luosi nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal cartref yn wythnos lawn olaf mis Medi â 52. |
NAWPI 3.7 | Y gyfradd o'r bobl hn (65 oed neu drosodd) y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref am bob 1,000 o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd. |
Y rhifiadur: Pobl 65 oed a throsodd y rhoddwyd cymorth iddynt fyw gartref. Dim ond cleientau sy'n cael pecyn gofal a ddarperir neu a gomisiynir gan yr awdurdod yn dilyn asesiad ddylai gael eu cyfrif, ac nid y rhai sydd yn unig yn cael gwybodaeth neu gyngor, gwasanaeth "mynediad agored" heb asesiad, bathodyn cerbyd neu yn syml eu hychwanegu at y gofrestr. Y diffiniad achos enghreifftiol Asesiadau a Phecynnau Atgyfeirio ("Diffiniad RAP"): Ffurflen P2 swm y tudalennau 3,5,7 rhes "Cyfanswm yr uchod" colofn "Cyfanswm y cleientau". Y diffiniad Ymholiad Blynyddol ar Wasanaethau Cymdeithasol ("Diffiniad AS"): Ffurflen AS2 rhes 2.1 swm y tair colofn bandiau oed ar gyfer pobl 65 oed a throsodd. Yr enwadur: y boblogaeth sy'n 65 oed a throsodd (mewn miloedd). |
NAWPI 3.8 | Y gyfradd o drosglwyddiadau gofal a ohirir am resymau gofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75 oed neu drosodd |
Y rhifiadur: Cyfanswm ar gyfer y flwyddyn o'r niferoedd misol o breswylwyr yr awdurdod gwerth gorau sy'n cael profiad o drosglwyddiad gofal wedi'i ohirio ar ddyddiad y cyfrifiad misol oherwydd y rhesymau a gynhwysir yng nghategorïau 1 a 2 (Wedi'u Gohirio am Resymau Gofal Cymdeithasol) mewn adroddiadau Ymddiredolaethau NHS a wiriwyd gan awdurdod gwerth gorau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yr enwadur: y boblogaeth sy'n 75 oed a throsodd (mewn miloedd). |
NAWPI 3.9 | Y ganran o oedolion o gleientau sy'n cael datganiad o'u hanghenion a sut y byddant yn cael eu diwallu |
y ganran o gleientau 18 oed neu drosodd a aseswyd neu a adolygwyd yn y flwyddyn sydd wedi cael copi o'u cynllun gofal. Diffiniad RAP: Y rhifiadur: 100* swm y ddau flwch "nifer y cleientau neu'r gofalwyr sydd wedi cael neu wedi cael cynnig copi o'u cynllun gofal" ar gyfer asesu ac adolygu ar ffurlen A3. Yr enwadur: swm y ddau flwch "Cyfanswm nifer y cleientau y cynhyrchwyd cynllun gofal newydd neu wedi'i adolygu iddynt" ar gyfer asesu ac adolygu ar ffurlen A3. |
NAWPI 3.10 | Y gyfradd o asesiadau o bobl 65 oed a throsodd am bob 1000 o'r boblogaeth 65 oed neu drosodd |
Y rhifiadur: Cyfanswm nifer y cleientau 65 oed neu drosodd gydag asesiadau wedi'i cwblhau neu wedi'u terfynu yn y flwyddyn at 31 Mawrth. Peidiwch â chynnwys cleientau y mae eu hasesiadau yn dal ar y gweill ar 31 Mawrth, a fydd yn cael eu cyfrif yn y flwyddyn ddilynol. Diffiniad RAP: Ffurflen A1 tudalennau 1 a 2 cyfanswm y cleientau Diffiniad AS: Cyfanswm nifer y cleientau y cyfrifwyd asesiadau ar eu cyfer ar ffurflen AS1 (Ymholiad Chwarterol ar Wasanaethau Cymdeithasol ar gyfer gweithgaredd oedolion, canlyniad a rhestrau aros) rhes 1.1, colofn 6. Yr enwadur: Poblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd (mewn miloedd). |
NAWPI 3.11 | Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdod gwerth gorau am bob 1,000 o'r boblogaeth 18 oed neu drosodd |
Y rhifiadur: Nifer y nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir i gleientau dros 18 oed. Gofal byrdymor dros nos yw gofal seibiant pan fydd oedolion yr asesir bod angen gofal arnynt , sydd fel arfer yn ddibynnol ar aelodau eraill o'u haelwydydd ar gyfer rhai agweddau o leiaf ar eu gofal a'u cymorth personol, yn cael gofal yn eu cartref eu hunain gan ofalwr arall neu mewn lle heblaw eu cartref eu hunain. Dylai'r cyfnod gofal ymwneud ag o leiaf un noson. Os bydd y cyfnod gofal am unrhyw reswm yn hwy na 3 mis, cynhwyswch hwy yn y cyfrif, ond pennwch nifer y cleientau mewn nodyn. Yr enwadur: Poblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n 65 oed neu drosodd (mewn miloedd). Diffiniad RAP: Cynhwyswch nosweithiau o ofal seibiant a ddarperir i gleientau a gyfrifir ar y ffurflen ganlynol: Ffurflen P2f swm tudalennau 1 a 3 rhes "Cyfanswm yr uchod" colofn "Gofal seibiant dros nos - cartref y cleient" a'r golofn "Gofal seibiant dros nos - heb fod yng nghartref y cleient". |
NAWPI 3.12 | Y ganran o'r plant ar y gofrestr amdiffyn plant ("CPR"), yr adolygwyd eu hachosion. |
Caiff hyn ei gyfrifo drwy ddefnyddio'r mynegiad (A/B)*100 lle y mae: A = Plant sydd ar y Gofrestr Amdiffyn Plant ("CPR") ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a fu ar yr CPR o leiaf am y chwe mis blaenorol ac yr adolygwyd eu hachos o leiaf bob chwe mis. B = Plant sydd ar yr CPR ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am o leiaf y chwe mis blaenorol. Dylai adolygiad ystyried diogelwch, iechyd a datblygiad y plentyn, gyferbyn a'r canlyniadau a fwriedir fel a nodir yn y cynllun amddiffyn plentyn a dylid cadw cofnod ysgrifenedig o'r adolygiad. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 4.1 |
Y gyfran o anheddau sector preifat lle mae gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau wedi golygu:
b) anheddau yn dychwelyd i feddiannaeth yn ystod blwyddyn ariannol pan fuont yn sefyll yn wag am ragor na chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol. |
Dylai'r rhifiadur fesur y nifer blynyddol o eiddo a gafodd eu gwneud yn ffit neu a chwalwyd yn dilyn un o'r camau uchod.
Dylai'r awdurdod gwerth gorau gynnwys unrhyw annedd a lenwir oherwydd gweithredu uniongyrchol gan yr awdurdod gwerth gorau trwy:
* cyngor yngln â gosod, gan gynnwys gofynion cyfreithiol a budd-dâl tai * cyngor yngln â grantiau a chymorth ariannol arall, gan gynnwys consesiynau treth sydd ar gael * manylion am fforwm landlordiaid neu gynllun achredu * cyngor yngln ag atgyweirio, gan gynnwys manylion am gontractwyr adeiladu sy'n bodloni'r safonau isaf
Mae'r rhifiadur yn mesur nifer yr anheddau hyn a gafodd eu dychwelyd i feddiannaeth yn dilyn un o'r camau uchod yn ystod y flwyddyn ariannol. Yr enwadur yw nifer yr anheddau a fu'n wag am chwe mis ar ddechrau'r flwyddyn ariannol yn hytrach nag unrhyw eiddo a oedd yn wag am chwe mis yn ystod y flwyddyn ariannol. |
NAWPI 4.2 | Effeithlonrwydd Ynni - dosbarthiad SAP cyfartalog anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau |
Dosbarthiad cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau yn ôl y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP). Y newid blynyddol cyfartalog yn nosbarthiad SAP cyfartalog yr anheddau ym mherchenogaeth yr awdurdod gwerth gorau, a'r SAP yw mynegrif o gost flynyddol gwresogi annedd i sicrhau trefn wresogi safonol ac fe'i disgrifir fel rheol fel un sy'n rhedeg o 1 (aneffeithlon iawn) i 100 (effeithlon iawn). Mae'n fesur o'i effeithlonrwydd ynni cyffredinol ac mae'n dibynnu ar y gwres sy'n cael ei golli o'r annedd ac ar berfformiad y system wresogi. Mae'r dangosyddion perfformiad yn ofynnol i arolwg ynni gael ei gynnal er mwyn ei gwneud yn pennu'r waelodlin. Dylid cynnal arolygon o leiaf bob pum mlynedd. Mewn blynyddoedd pan na chynhelir arolwg ynni dylai'r awdurdodau gwerth gorau ddiweddaru'r wybodaeth a geir o'r arolwg i gymryd i ystyriaeth y gwaith a wnaed i'r stoc dros y cyfnod. |
NAWPI 4.4 | Costau wythnosol cyfartalog rheoli tai fesul annedd awdurdod gwerth gorau | Mae hyn yn cynnwys y gost ariannol o reoli tai i'r awdurdod gwerth gorau wedi ei fesur drwy wariant gwirioneddol o'r Cyfrif Refeniw Tai ("HRA") ar reoli yn y flwyddyn ariannol wedi'i rannu â nifer cyfartalog yr anheddau yn yr HRA ar ddechrau a diwedd y flwyddyn, wedi'i rannu â 52. Dylai'r wybodaeth gyd-fynd â'r wybodaeth yn furflen Flynyddol Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS) ar gyfer costau cyffredinol a chostau rheoli arbennig (celloedd 3000 a 3010). |
NAWPI 4.5 |
Casglu rhent ac ôl-ddyledion gan awdurdod gwerth gorau:a) y gyfran o'r rhent a gasglwyd. b) ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod. c) rhent a ysgrifennwyd ymaith gan na ellir ei gasglu, fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod. |
(a) Cyfrifir y gyfran o'r rhent a gasglwyd o'r data ar y rhent HRA gros a gasglwyd yn ystod y flwyddyn (h.y. gan gynnwys rhenti a dalwyd drwy Fudd-dâl Tai) fel cyfran o gyfanswm y rhent HRA sydd ar gael i'w gasglu yn y flwyddyn ond heb gynnwys yr gronwyd cyn diwedd y flwyddyn ariannol (h.y. yr incwm rhent gwag a chan gynnwys ôl-ddyledion chan gynnwys o Ôl-ddyledion tenantiaid presennol a oedd heb u talu ar ddechrau'r flwyddyn ariannol). Cyfanswm y rhent a gasglwyd yn ystod y flwyddyn yw'r rhent a gasglwyd, llai unrhyw daliadau o ô-l ddyledion ar gyfer y blynyddoedd cynt oddi wrth gyn-denantiaid. (b) Cyfrifir yr ôl-ddyledion rhent fel cyfran o gyfanswm rhestr rhenti'r awdurdod gwerth gorau ar sail cyfanswm y rhent HRA sy'n ddyledus gan denantiaid cyfredol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a chyfanswm y rhestr rhenti HRA. Y rhestr rhenti yw cyfanswm y rhent posibl y gellid ei gasglu yn y flwyddyn ariannol am yr holl anheddau sy'n perthyn i'r awdurdod gwerth gorau boed wedi eu gosod neu beidio. Y cyfanswm o ôl rhent yw swm ôl-ddyledion tenantiaid blaenorol a chyfredol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. (c) Rhent a ysgrifennwyd ymaith fel cyfran o incwm rhenti'r awdurdod gwerth gorau - cyfrifir y rhent a ysgrifennwyd ymaith fel cyfran o'r rhestr rhenti ar sail cyfanswm y rhent HRA a ysgrifennwyd ymaith yn ystod y flwyddyn ariannol a chyfanswm y rhestr rhenti HRA. Y rhestr rhenti yw cyfanswm y rhent posibl y gellid ei gasglu yn y flwyddyn ariannol am yr holl anheddau sy'n perthyn i'r awdurdod gwerth gorau, boed wedi eu meddiannu neu beidio. Y cyfanswm a ysgrifennir ymaith yw cyfanswm ôl-ddyledion tenantiaid cyfredol a blaenorol, a ysgrifennir ymaith yn ystod y flwyddyn ariannol oherwydd na ellir eu casglu. |
NAWPI 4.6 | Y gyfran o geisiadau digartrefedd y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwneud penderfyniad arnynt ac yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd o fewn 33 diwrnod gwaith |
Y nifer o geisiadau digartrefedd (o dan adran 184 o Ddeddf Tai 1996, p.52) y gwnaed penderfyniad amdanynt ac yr anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd (o dan adran 184) o fewn 33 diwrnod gwaith, fel cyfran o'r holl geisiadau digartrefedd lle gwnaed penderfyniad ac anfonwyd hysbysiad ysgrifenedig (o dan adran 184). Mae hyn yn gymwys i bob cais digartrefedd, gan gynnwys rhai o geiswyr lloches lle mae hysbysiad wedi'i anfon o dan adran 184. Mewn achosion ceiswyr lloches, nid oes rhaid i awdurdodau gwerth gorau aros am benderfyniad y Swyddfa Gartref ar y cais lloches cyn anfon yr hysbysiad o dan adran 184, os maent yn fodlon fod yna ddyletswydd digartrefedd. |
NAWPI 4.7 | Cyfartaledd amserau ailosod ar gyfer anheddau'r awdurdod gwerth gorau a osodwyd yn y flwyddyn ariannol flaenorol |
Cyfrifir y dangosydd hwn o gyfanswm yr achosion gosod a wnaed yn ystod y flwyddyn (gan eithrio rhai a oedd yn cael eu gosod yn dilyn cyfnod o atgyweirio helaeth) a chyfanswm y dyddiau y bu'r anheddau hynny yn wag. Mae cyfanswm yrachosion gosod yn cwmpasu pob gosod (ac eithrio cyfnewid cilyddol) yn ystod y flwyddyn ariannol, pan na wnaed gwaith atgyweirio sylweddol, a ariannwyd o raglen gyfalaf yr awdurdod gwerth gorau, yn y cyfnod pan oedd yr annedd yn wag (diffinnir gwaith atgyweirio sylweddol fel gwaith sy'n costio £2,000 neu ragor). Ni ddylid cyfrif annedd sy'n dod yn wag ac wedyn sy'n derbyn gwaith cyfalaf pan yn wag, ac mae'r gwaith o fath a fyddai yn cael ei wneud yn arferol gyda'r tenant yn byw yno, fel eiddo sydd wedi derbyn atgyweirio helaeth. Ystyr dyddiau y mae annedd yn wag yw nifer y dyddiau calendr o'r diwrnod pan ddaw'r eiddo'n wag a'r diwrnod pan ailosodir ef. Mae hyn yn cynnwys y diwrnod y daeth yr eiddo'n wag hyd at a chan gynnwys y diwrnod cyn dyddiad dechrau'r denantiaeth newydd y mae rhent yn daladwy ar ei gyfer. Mae atgyweiriadau cyfalafol sylweddol sy'n cael eu hariannu drwy refeniw yn cyfrif fel atgyweiriadau sylweddol at ddibenion y dangosydd hwn. |
NAWPI 4.8 |
Effeithioldeb y System Dai Cymdeithasol:
b) y nifer cyfartalog o aelwydydd digartref mewn llety dros dro yn ystod y flwyddyn, mewn llety gwely a brecwast. |
Yr enwadur yw: nifer cyfartalog y cartrefi o dan reolaeth drwy'r flwyddyn ariannol, ac eithrio eiddo sy'n disgwyl neu sydd wrthi'n cael gwaith atgyweirio sylweddol.
|
NAWPI 4.9 |
Y nifer o anheddau'r awdurdod gwerth gorau y mae gwaith adnewyddu yn cael ei wneud iddynt yn ystod y flwyddyn ariannol fel canran o'r nifer y mae angen gwaith adnewyddu arnynt ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.
b) gwaith yn costio dros £5,000 |
b) Asesiad yr awdurdod gwerth gorau o nifer yr anheddau yn ei berchenogaeth sydd angen gwaith atgyweirio neu wella sylweddol (yn costio dros £5,000) ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol a nifer yr anheddau a gafodd y gwaith hwnnw wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol wedi'i fynegi fel canran o'r rhai sydd angen gwaith o'r fath ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol.
Dylid eithrio eiddo a nodir ar gyfer dymchwel neu drosi o'r dangosydd hwn. Byddai gwaith atgyweirio a gwella sylweddol, at ddiben y dangosydd hwn, yn gymwys i waith atgyweirio a gwella sy'n costio dros £500 heb ystyried ai cyllid refeniw neu gyfalaf ydyw. |
NAWPI 4.10 |
Y ganran o atgyweiriadau a gwblhawyd o fewn yr amser targed
b) Wedi'u ddosbarthu fel brys |
b) Ar gyfer atgyweiriadau brys a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Dylid diffinio atgyweiriad fel atgyweiriad brys pan effeithir yn ddifrifol ar gysur neu hwylustod y tenantiaid: neu pan fydd peidio ag atgyweirio yn peri i'r meddiannwr dynnu costau. Dylid pennu'r amser targed i gwblhau os yw'n wahanol i saith diwrnod calendr, gan ddatgan os yw'n cael ei fesur mewn dyddiau calendr neu ddyddiau gwaith. Diffinnir yr amser i gwblhau'r atgyweiriad fel yr amser a dreulir rhwng yr amser y tynnir sylw'r awdurdod gwerth gorau at yr atgyweiriad, a'r amser pan yw'r gwaith wedi'i gwblhau'n foddhaol.Er enghraifft, o cafwyd cais atgyweirio ar ddydd Mercher a bod y gwaith wedi'i gwblhau ar y dydd Mawrth yn yr wythnos ganlynol, y nifer o ddyddiau a dreuliwyd fyddai (Iau, Gwener, Sadwrn, Sul, Llun, Mawrth) chwe diwrnod calendr, neu bedwar diwrnod gwaith.
I gael enghreifftiau o atgyweiriadau argyfwng neu atgyweiriadau brys gweler Rheoliadau Tenentiaid Diogel Awdurdodau Tai Lleol (Hawl i Atgyweirio) 1994 (O.S. 1994/133). |
NAWPI 4.11 | Yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau atgyweiriadau ymatebol nad ydynt yn rhai brys | Ar gyfer yr atgyweiriadau ymatebol nad oeddent yn rhai brys ac a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, nifer cyfartalog y dyddiau (calendr) rhwng gofyn am yr atgyweiriad ymatebol nad oedd yn un brys a'i gwblhau'n foddhaol. Dylid diffinio atgyweiriad nad ydyw'n atgyweiriad brys pan na chynhwysir ef mewn categori argyfwng neu frys, a phan na chafodd ei ymgorffori mewn rhaglen o gynnal-a chadw wedi'i chynllunio. |
NAWPI 4.12 | A yw'r awdurdod gwerth gorau yn dilyn cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ynglyn â thai ar rent neu beidio | Mae dilyn y cod yn golygu glynu at holl argymhellion y cod, ac eithrio'r rhai mewn perthynas ag arferion cyflogi, gan gynnwys gweithdrefnau i ddelio ag aflonyddu hiliol ac adrodd amganlyniadau monitro ethnig wrth bwyllgor o'r awdurdod gwerth gorau. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd | |||||||
NAWPI 5.1. |
Cyfanswm y gwastraff trefol sy'n codi mewn tunelli-
(b) y ganran sydd wedi'i gompostio (c) y ganran a ddefnyddir i adfer gwres, p er a ffynonellau ynni eraill (ch) y ganran sydd wedi'i dirlenwi |
Ystyr "gwastraff trefol" yw'r holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau gwerth gorau o dan adran 45(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (1990 p.43), ynghyd â'r holl wastraff sy'n codi o Safleoedd Amwynder Dinesig a'r gwastraff a gesglir gan ailgylchudrydydd partïon y telir credydau ailgylchu casglu neu gredydau ailgylchu gwaredu amdanynt o dan adran 52 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ystyr "Safle Amwynder Dinesig" yw mannau a ddarperir gan yr awdurdodau gwerth gorau lle gall personau sy'n byw yn yr ardal roi eu gwastraff cartrefi (gwasanaethau a ddarperir o dan adran 51(1)(b) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990). I osgoi amheuaeth, bydd yr holl wastraff a gesglir gan yr awdurdodau gwerth gorau yn cynnwys sy'n codi yn sgîl: - rowndiau casglu gwastraff (gan gynnwys rowndiau ar wahân ar gyfer casglu deunyddiau y gellir eu hailgylchu) - glanhau strydoedd a chasglu sbwriel - glanhau traethau - casglu gwastraff swmpus - casglu gwastraff cartrefi peryglus - casglu gwastraff clinigol cartrefi - casglu gwastraff gardd - systemau gollwng/dod ag ef - clirio gwastraff wedi'i ollwng heb ganiatâd - gwasanaethau sgip ar y penwythnos - rwbel - cerbydau gadawedig -unrhyw wastraff cartrefi arall a gesglir gan yr awdurdod gwerth gorau
I gyfrifo'r ganran o wastraff a ailgylchwyd, ni ddylid cynnwys rwbel, gwastraff glanhau traethau na cherbydau gadawedig yng nghyfanswm y gwastraff a gesglir.
(c) Ystyr "a ddefnyddir i adfer gwres, p er a ffynonellau ynni eraill" yw - hylosgi gwastraff o dan reolaeth mewn peiriant arbenigol yn unswydd i greu p er a/neu wres o'r deunydd gwastraff sy'n bwydo'r peiriant - hylosgi o dan reolaeth tanwydd sy'n deillio o sbwriel mewn peiriant arbenigol yn unswydd i gynhyrchu p er a/neu wres o'r deunydd gwastraff sy'n bwydo'r peiriant - cynhyrchu tanwyddau nwyol drwy adweithio gwastraff carbonaidd poeth ag aer, stêm neu ocsigen (nwyeiddio) -dadelfennu gwastraff organig yn thermol i gynhyrchu cynhyrchion nwyaidd, hylifol a soled drwy pyrolysis - dadelfennu gwastraffoedd organig yn fiolegol drwy dreuliad anaerobig.
Ni chynhwysir y canlynol
|
|||||||
NAWPI 5.5 | Y ganran o briffyrdd a thir perthnasol a archwiliwyd sydd â'u safon glanweithdra yn uchel neu'n dderbyniol |
Diffinnir "Safon glanweithdra uchel neu dderbyniol" fel cyrraedd Graddau A neu B o'r cod ymarfer ar sbwriel a gwastraff (1999). Ar gyfer diffiniad o "Tir perthnasol" gweler adran 86 o Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 (1990 p.43). Ystyr "a archwiliwyd" yw archwiliad gan ddefnyddio'r fethodoleg a bennir isod. Archwiliadau glanhau strydoedd: 1. Rhaid i'r cleient glanhau-strydoedd weithredu neu drefnu'r archwiliadau. 2. Dylai'r archwiliad gynnwys y strydoedd ym mharthau 1, 2 a 3 (o'r Cod Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff). 3. Dylai o leiaf 2% o strydoedd gael eu harchwilio bob dau fis. Caiff y sampl hwn gynnwys yr un strydoedd mewn misoedd gwahanol (h.y. gall y samplau orgyffwrdd), neu gallant hyd yn oed olygu dau archwiliad ar bwyntiau gwahanol yn yr un stryd yn yr un mis, os credir bod hyn yn addas ar gyfer strydoedd hirach neu brysurach. Ond dylai nifer yr archwiliadau gyfateb i 2% o gyfanswm nifer strydoedd yr awdurdod gwerth gorau. 4. Rhaid i'r rhaglen samplu fod yn gynrychioliadol o'r awdurdod gwerth gorau yn gyfan o ran lleoliad strydoedd a balans y strydoedd ym mhob parth. Dylid cynnal yr archwiliadau ar amserodd hap - nid yw hyn yn cynnwys monitro a weithredir ar ôl glanhau i'r diben o fonitro contract glanhau strydoedd. Er hynny, byddai monitro hap o gontract ar sail cynnyrch yn dderbyniol. "Archwiliad" yw archwiliad gweledol o ddarn o stryd i gyfateb y safonau ffotograffig yn y Cod Ymarfer ar Sbwriel a Gwastraff. Pan fydd awdurdodau gwerth gorau yn targedu eu harchwiliadau ar ardaloedd "budr" amlwg, dylent addasu eu canlyniadau fel y bont yn adlewyrchu'r balans cyffredinol o'r strydoedd yn eu hardal (er enghraifft, os ydynt yn gwneud pum gwaith gymaint o archwiliadau mewn ardaloedd "budr" ag y gwnânt mewn ardaloedd eraill), dylent gyfrifo'r canlyniad cyffredinol i'r awdurdod drwy "ddad-bwyso'r" canlyniadau o'r ardaloedd hynny. |
|||||||
NAWPI 5.6 | Nifer y casgliadau a gollwyd am bob 100,000 o gasgliadau gwastraff cartrefi |
Ystyr "casgliad a gollwyd" yw - unrhyw gasgliad a hysbyswyd gan breswylydd/corff masnachol lle na chafodd y preswylydd ei hysbysu yn ysgrifenedig bod y trefniadau wedi'u newid - unrhyw gasgliad y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gwybod na chafodd ei wneud ar y diwrnod rhagnodedig am fod yr awdurdod gwerth gorau neu ei gontractiwr wedi methu, gan gynnwys y rhai a gollwyd oherwydd y tywydd neu weithredu diwydiannol - unrhyw gasgliad na chafodd ei wneud ar y diwrnod rhagnodedig lle na chafodd y preswylwyr eu hysbysu yn ysgrifenedig bod y trefniadau wedi'u newid Ystyr "diwrnod rhagnodedig" yw'r diwrnod o'r wythnos pan gâi'r sbwriel ei gasglu fel rheol. Ystyr "hysbysu yn ysgrifenedig" yw drwy gyfrwng sachau sbwriel wedi'u hargraffu, taflenni, papurau newydd neu unrhyw gyfrwng ysgrifenedig arall a roddir i bob cartref/busnes perthnasol gan yr awdurdod neu ei gontractiwr.
Y = Nifer yr eiddo fel y'u rhestrir yn Rhestr Newidiadau y Swyddfa Brisio, y tudalen o dan y teitl "Statement of Numbers and Bands of All Properties Shown in the Valuation List for the Billing Authority Area", "Grand Total Line". Defnyddiwch y datganiad diwethaf sydd ar gael cyn 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol. Z = Nifer yr amserau penodedig ar gyfer casglu biniau yn y cyfnod |
|||||||
NAWPI 5.7 | Y ganran o'r boblogaeth a wasanaethir gan gasgliad wrth ymyl y ffordd o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu | Ystyr "poblogaeth" yw'r boblogaeth yn ardal yr awdurdod gwerth gorau. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 6.1 | Cost cynnal priffyrdd am bob km a deithir gan gerbyd ar y prif ffyrdd | Y ffigur ym mlwch memorandwm M2 ar y ffurflen Alldro Cyfalaf ddiweddaraf COR1 plws llinell 2 (cynnal strwythurol) a 4 (cynnal rhigolaidd) ar y ffurflen Alldro Refeniw RO2 ddiweddaraf colofn 7; wedi'i rannu â'r ffigur am gilometrau cerbydau sy'n deillio o Dabl A yn setliad diweddaraf y Grant Cynnal Refeniw. |
NAWPI 6.2 | Cost gwasanaethau bysiau â chymhorthdal am bob siwrnai a wneir gan deithiwr | Y gwariant net (llinell 11 ffurflen RO2) ar gymhorthdal gwasanaethau bysiau lleol, fel y'i diffinnir yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (1985 p.67), yn y flwyddyn ariannol, wedi'i rannu â nifer y siwrneiau gan deithwyr ar y gwasanaethau hynny yn y flwyddyn honno. Ni ddylai hyn gynnwys gwariant ar gynlluniau tocynnau gostyngedig o dan adrannau 93 i 105 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. |
NAWPI 6.3 |
Cyflwr y ffyrdd
(b) Cyflwr ffyrdd heblaw'r prif ffyrdd |
Arolwg gweledol o hyd yr holl briff ffyrdd yn y flwyddyn gan ddefnyddio Arolwg Archwilio Gweledol Bras (arolwg sy'n cofnodi diffygion ffyrdd a nodir drwy eu gweld). Cynhelir yr arolwg o dan Reolau a Pharamedrau System Rheoli v Pafinau'r Deyrnas Unedig (UKPMS), fersiwn 2.0 Bydd yr arolwg yn cynnwys y rhwydwaith cyfan heblaw'r rhan a enwebir ar gyfer "archwiliad tybiedig" - rhaid cyfyngu honno i 30% ov rwydwaith prif ffyrdd yr awdurdod. Gofynnir i'r awdurdodau gwerth gorau ddynodi'r ganran o'r rhwydwaith sydd â sgôr diffygion UKPMS o 70 neu'n uwch.
|
NAWPI 6.4 | Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio |
Y ganran o lampau stryd nad ydynt yn gweithio. Cyfrifir hyn fel: {(W * Y)/Z} * 100 lle W yw cyfanswm y methiannau goleuadau stryd a welwyd yn y flwyddyn drwy archwiliadau rheolaidd a dulliau eraill wedi'u rhannu â 365; Y yw'r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i drwsio'r golau stryd ar ôl ei weld plws hanner yr amser ar gyfartaledd rhwng yr archwiliadau; a Z yw cyfanswm y goleuadau stryd yn yr awdurdod. gwerth gorau. Archwiliadau gan yr awdurdod gwerth gorau neu ei asiantaethau o leiaf 4 gwaith y flwyddyn yw "archwiliadau rheolaidd". Os yw'r awdurdod gwerth gorau yn archwilio ei oleuadau yn fwy aml neu'n llai aml, dylai weithio'r ganran ar gyfer pob amledd drwy ddefnyddio'r fformwla uchod ac wedyn cyfuno'r canrannau yn un cyfartaledd wedi'i bwysoli. |
NAWPI 6.5 | Diogelwch ffyrdd |
Nifer yr anafusion mewn damweiniau ffyrdd am bob 100,000 o boblogaeth, wedi'i ddadansoddi yn ôl (i) natur yr anafusion a (ii) y math o ddefnyddiwr ffordd. Categorïau'r anafusion: a) wedi'u lladd/wedi'u hanafu'n ddifrifol; b) mân anafiadau. Mathau o ddefnyddiwr ffordd: a) cerddwyr; b) beicwyr; c) defnyddwyr cerbyd modur dwy-olwyn; ch) defnyddwyr ceir, a d) defnyddwyr cerbydau eraill. Bydd y data'n cyfeirio at y flwyddyn galendr yn diweddu 15 mis cyn diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol. |
NAWPI 6.6 | Nifer y dyddiau o reolaeth traffig dros dro neu o gau ffyrdd ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig wedi'u hachosi gan waith ar ffyrdd yr awdurdod gwerth gorau am bob km o ffordd sy'n sensitif o safbwynt traffig |
Cyfanswm y dyddiau yr oedd rheolaeth traffig dros dro (â llaw neu drwy gyfrwng goleuadau traffig) ar waith ar ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig neu pan oedd y ffordd ar gau, oherwydd gwaith ar ffyrdd yr awdurdodau gwerth gorau am bob km o ffyrdd sy'n sensitif o safbwynt traffig. (Peidiwch â chynnwys rheolaeth draffig wrth waith ffyrdd a gwblhawyd mewn llai na diwrnod). Mae "sensitif o safbwynt traffig" yn golygu "traffic sensitive" fel y'i diffiniwyd yn Rheoliad 13 o Reoliadau Gwaith Stryd (Cofrestrau, Hysbysiadau, Cyfarwyddiadau a Dynodiadau) 1992 (O.S. 1992/2985). |
NAWPI 6.8 | Difrod i ffyrdd a phafinau | Cyfanswm y digwyddiadau a hysbyswyd o ddifrod peryglus i ffyrdd a phafinau ac a drwsiwyd neu a wnaed yn ddiogel o fewn 24 awr o'r adeg y daeth yr awdurdod gwerth gorau i wybod am y difrod gyntaf, fel canran o'r digwyddiadau hyn. |
NAWPI 6.9 | Y ganran o'r croesfannau cerddwyr gyda chyfleusterau i bobl anabl |
Ystyr croesfannau cerddwyr yw croesfannau sebra, pelican a thwcan, a goleuadau traffig gyda chyfnodau cerddwyr. Dylid cyfrif yr holl groesfannau mewn un set o oleuadau traffig, neu mewn un gylchfan, fel un groesfan yn unig. Yn yr un modd, dylid cyfrif yr holl groesfannau mewn un gylchfan fawr gyda chyfres o gylchfannau mini, fel un groesfan yn unig. Er mwyn cymhwyso ar gyfer cael cyfleusterau i bobl anabl, dylai fod arwyneb cyffyrddol ar bob mynedfa at y groesfan ac ymyl y palmant wedi ei ostwng neu gyfuwch â'r groesfan; ac yn achos croesfannau pelican a goleuadau traffig, arwydd clywedol neu gyffyrddol i ddangos ei bod yn ddiogel i groesi'r ffordd. |
NAWPI 6.10 | Y ganran o gyfanswm hyd y llwybrau troed a hawliau tramwy eraill sy'n hawdd eu defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd |
Mae'r dangosydd hwn yn gyfanswm hyd yr hawliau tramwy, sy'n hawdd ei defnyddio, fel canran o gyfanswm hyd yr holl hawliau tramwy Mae hawliau tramwy yn ymddangos ar y map diffiniadol o hawliau tramwy cyhoeddus ar gyfer ardal yr awdurdod gwerth gorau ac wedi'u rhifo. Ystyr "hawdd eu defnyddio" yw:
b) eu bod yn rhydd rhag rhwystrau anghyfreithlon neu ymyriadau eraill, (gan gynnwys llysdyfiant sy'n hongian drosodd) rhag hawl y cyhoedd i dramwyo; c) bod eu hwynebau a'r atalfeydd cyfreithiol (e.e.camfeydd a gatiau) mewn cyflwr da ac safon angenrheidiol i alluogi'r cyhoedd ddefnyddio'r ffordd heb ormod o anghyfleustra.
Dylai archwiliadau i asesu "hawdd eu defnyddio" gael eu seilio ar sampl hap fan lleiaf o 5% o hydoedd llwybrau yn y flwyddyn ariannol. Mae'r fethodoleg a gymeradwywyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar gyfer ei "Archwiliad Llwybrau Cymunedol" yng nghanol y 1990au yn briodol i asesu'r dangosydd hwn. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 7.1 |
Cynlluniau Datblygu:
Os nad oes, ewch i (b) a (c)
(c) Pa ganran o boblogaeth yr awdurdod gwerth gorau sy'n cael ei gwmpasu gan gynlluniau lleol a fabwysiadwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf? |
Cynllun Datblygu Unedol: Cynllun statudol a gynhyrchwyd gan awdurdodau gwerth gorau i gynnwys polisïau strategol i ardal a datganiad ysgrifenedig o bolisïau manwl ar ddefnyddio tir a chyfiawnhad ynghyd â map o gynigion yn dangos y polisïau ar sail ddaearyddol. Pan gânt eu mabwysiadu, mae'r cynlluniau hyn yn disodli cynlluniau strwythurol a lleol mewn grym yn yr ardal. Adneuo: Y cam pan drefnir bod y cynllun statudolar gael yn ffurfiol i'w archwilio'n gyhoeddus a chyflwyno gwrthwynebiadau a sylwadau. Cynllun lleol: Cynllun statudol sy'n nodi polisïau manwl yr awdurdod a chynigion penodedig ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn ei ardal. Wedi'i fabwysiadu: Fersiwn derfynol y cynllun datblygu sydd wedi'i fabwysiadu gan yr awdurdod gwerth gorau. |
NAWPI 7.3 | Nifer y gwyriadau o'r cynllun statudol a hysbysebwyd fel canran o gyfanswm y caniatadau a roddwyd | Nifer y caniatadau a roddwyd lle hysbysebwyd y cais o dan ddarpariaethau Erthygl 8(2)(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Ddatblygu Gyffredinol) 1995 1995 (O.S. 1995/419) fel canran o gyfanswm y penderfyniadau a wnaed. |
NAWPI 7.4 | Canran o gyfanswm y ceisiadau a ceisiadau a benderfynwyd o fewn 8 wythnos | Fel yn Arolwg Chwarterol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Reoli Datblygu. Wrth bennu targedau lleol dylai'r awdurdodau gwerth gorau roi sylw i'r targed cenedlaethol o 80% o fewn 8 wythnos. |
NAWPI 7.6 | Ansawdd mewn gwasanaeth defnyddwyr (Rhestr Gyfeirio Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru) |
Mae'r dangosydd hwn yn defnyddio Rhestr Wirio'r Gwasanaeth Defnyddwyr sydd ar hyn o bryd yn cael ei pheilota gan Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru. Nifer y dangosyddion ansawdd a gyrhaeddir wedi'i fynegi fel cyfran o gyfanswm y dangosyddion ansawdd e.e. os yw'r cyfanswm yn ddeg byddai awdurdod gwerth gorau sy'n cyrraedd pump o'r dangosyddion yn sgorio 5/10. Dyma'r dangosyddion ansawdd:
|
NAWPI 7.7 | Y ganran o chwiliadau safonol a gwblhawyd mewn 10 diwrnod gwaith |
Ystyr "Chwiliad Safonol" yw'r chwiliad tir statudol a ddiffinnir ar Ffurflen LLC1 plws y chwiliad safonol a bennir yng nghod ymarfer Cymdeithas y Gyfraith ar y Ffurflen CON 29, Rhan 1 ("Ymholiadau Safonol"). Cynhwyswch bob un o'r chwiliadau uchod, ac nid y rhai deiliaid tai yn unig, a hefyd y gwahanol ddosbarthiadau o chwiliadau os oes rhai lle y codir ffioedd chwiliadau safonol gwahanol, ac eithrio pan godir tâl ychwanegol am wasanaeth estynedig. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y Dangosydd | Manylion y Dangosydd |
NAWPI 8.1 |
Y ganran o'r archwiliadau adeiladau bwyd y dylid bod wedi'u cynnal a gynhaliwyd mewn gwirionedd ar gyfer:
(b) adeiladau eraill |
Ystyr archwiliadau a oedd i gael eu cynnal yw archwiliadau ar adeiladau perthnasol a oedd i gael eu cynnal yn ystod y y flwyddyn, yn ôl y nifer lleiaf o archwiliadau ar gyfer yr adeiladau hynny y dylid bod wedi'u cynnal at ddibenion hylendid bwyd yn unol â COP9. Diffinnir archwilio yng nghod ymarfer Rhif 3 Deddf Diogelwch Bwyd 1990, paragraff 2 (heb gynnwys adran (f)). Mae "COP9" isod yn cyfeirio at Cod Ymarfer rhif 9 Deddf Diogelwch Bwyd (1990 p.16) ystyr "adeiladau bwyd" yw pob categori fel y'u diffinnir yn atodiad (1) o COP9 ystyr "adeiladau risg uchel" yw adeiladau yn y categorïau risg (a) i (c) yn COP9 ystyr "adeiladau eraill" yw adeiladau yng nghategorïau (d) i (f) yn COP9. |
NAWPI 8.2/BV166 | Sgôr iechyd amgylchedd/ safonau masnach yn erbyn rhestr gyfeirio o arferion gorau gorfodi. |
Mae'r rhestr gyfeirio arfaethedig isod wedi'i drafftio gyda 10 pwynt, ac un neu ragor o gwestiynau ambob pwynt. Mae pob pwynt yn werth 1 marc. Mae'r cwestiwn/cwestiynau o dan bob pwynt yn werth ffracsiwn o'r marc hwnnw. Mae angen ateb "ydyw" neu "nac ydyw" i bob cwestiwn. Er enghraifft, ceir wyth cwestiwn o dan bwynt 1, felly mae ateb "ydyw" i un cwestiwn o dan bwynt 1 yn ennill sgôr o 1/8fed, ac mae "ydyw" i bum cwestiwn yn ennill sgôr o 5/8fed. Polisïau Gorfodi Ysgrifenedig: 1.
(b) A yw enghreifftiau o beidio â chydymffurfio â gofynion statudol yn cael eu dilyn yn unol â'r polisi/polisïau gorfodi? (c) A yw'r polisi/polis•au yn cadarnhau bod yr awdurdod gwerth gorau wedi llofnodi'r Concordat Gorfodi? (ch) A yw'r polisi/polisïau yn cymryd y canllawiau a nodir yn "The Code for Crown Prosecutors" i ystyriaeth? (d) A yw'r polisi/polisïau yn cynnwys y meini prawf sydd i'w bodloni cyn camau gorfodi ffurfiol gan yr awdurdod gwerth gorau? (dd) A yw'r polisi/polisïau yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfaoedd lle mae'r swyddogaeth orfodi yn cael ei rhannu? (e) A yw'r polisi/polisïau yn gwneud darpariaeth ar gyfer buddiannau penodol defnyddwyr o fewn ardal yr awdurdod gwerth gorau, ga gynnwys perchnogion busnesau, gweithwyr cyflogedig a'r cyhoedd? (f) A yw'r polisi/polisïau uchod yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, ac a fydd unrhyw amrywiadau yn cael sylw yn y cynllun gwasanaethau neu'r Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau (BVPP)?
Gweithgareddau gorfodi cynlluniedig
(b) yn rhoi sylw fel arall i ganllawiau swyddogol; (c) yn rhoi sylw fel arall i ganllawiau a safonau proffesiynol priodol eraill.
Rhaid i'r awdurdod gwerth gorau allu dangos ei fod yn adolygu yn rheolaidd sut y mae'n dehongli ac yn cymhwyso'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau. Er enghraifft, ym maes safonau masnachu, dylai gynnal cymhariaeth flynyddol o'r gyfran o'i adeiladau masnachu y mae wedi'u dosbarthu fel rhai sydd â risg anchwiliadwy "uchel", "canolig" neu "isel" gyda'r ffigyrau ar gyfer awdurdodau eraill. Yna dylai fynd ati i feincnodi'r broses gydag awdurdodau eraill os yw'r cyfrannau hyn yn sylweddol wahanol i'r cyfartaledd, e.e. os yw ffigyrau'r awdurdod yn y ddengradd isaf neu v uchaf.
b) Cefnogi darparu cyngor i ddefnyddwyr, gan gynnwys cymryd rhan mewn Rhwydwaith Cymorth y Defnyddwyr?
7.
A oes gan yr awdurdod gwerth gorau bolisïau, gweithdrefnau a safonau, ac yn rhoi'r rheiny ar waith, ar gyfer ymateb i'r canlynol ac ymdrin â hwy;
b) cyfeirio gwybodaeth berthnasol sydd wedi dod i law at reolyddion eraill os oes yna fuddiannau rheoliadol ehangach?
8.
A yw'r polisïau, y gweithdrefnau a'r safonau a grybwyllwyd uchod ym Mhwyntiau 6 a 7 yn cael eu dilyn, eu monitro, ac yn destun adroddiadau, gan roi sylw i unrhyw amrywiadau o fewn y cynllun gwasanaethau neu'r BVPP?
b) A oes gan yr awdurdod gwerth gorau ystod o fecanweithiau ar gyfer ymgynghori â budd-ddeiliaid y mae eu gwasanaeth yn effeithio arnynt ynghylch lefelau boddhad? c) ac a yw'r ymatebion i'r ymgynghori yn cael eu hystyried, ac yn destun gweithredu? |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 9.1 | Nifer y disgyblion yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau mewn grwpiau wedi'u trefnu gan ysgolion |
Dim ond amgueddfeydd/orielau sy'n bodloni diffiniad Cymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) (The Museums Association Code of Ethics - 3ydd Argraffiad 1999) a ddylai gael eu cyfrif a lle bo'r amgueddfa yn cael ei rhedeg gan yr awdurdod gwerth gorau, neu fod yr awdurdod gwerth gorau yn cyfrannu o leiaf 20% o'r costau rhedeg, yn net o daliadau, neu'n darparu'r adeilad. Diffiniad MA yw "Museums enable people to explore collections for inspiration, learning and enjoyment. They are institutions that collect, safeguard and make accessible artefacts and specimens which they hold in trust for." Grp sydd wedi archebu ymlaen llaw gyda'r amgueddfa/oriel. |
NAWPI 9.2 | Nifer yr ymweliadau corfforol â llyfrgelloedd cyhoeddus | Amcangyfrif o gyfanswm yr ymweliadau gan aelodau'r cyhoedd â llyfrgelloedd at ba ddiben bynnag yn ystod y flwyddyn ariannol. Wedi'i seilio ar sampl o wythnos yn ystod y flwyddyn gan ddefnyddio'r diffiniadau a'r weithdrefn a nodir yn "Public Library Statistics 1989/99 Actuals (SIS ref:84.00) note on page 98, questionnaire reference line 124 for visits" Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth Gyhoeddus (CIPFA) (ISSN 0260 4078), neu drwy ddefnyddio dull mwy cywir o amcangyfrif. Os dymunant, caiff yr awdurdodau gwerth gorau seilio'u ffigurau ar sampl ystadegol mwy na'r sampl a awgrymir gan CIPFA. |
NAWPI 9.3 |
Pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon: Nifer y nofiadau ac ymweliadau eraill am bod 1,000 o'r boblogaeth. |
Ystyr nofiadau ac ymweliadau eraill yw amcangyfrif gorau'r awdurdod gwerth gorau o nifer y mynediadau i ddefnyddio'r cyfleusterau mewn pyllau nofio a chanolfannau chwaraeon, gan gynnwys ysgolion a grwpiau eraill ond gan eithrio gwylwyr, wedi ei rannu gan boblogaeth yr awdurbod gwerth gorau a'i luosi a 1,000. |
NAWPI 9.4 |
Meysydd chwarae:
b Y ganran o'r rhain sydd:
(ii) yn cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol i lecynnau chwarae lleol gyda chyfarpar (iii) cydymffurfio â'r safonau cenedlaethol i lecynnau chwarae mwy, ar gyfer cymdogaeth, gyda chyfarpar. |
Ystyr "maes chwarae" yw unrhyw arwynebedd a ddynodir yn ffurfiol gan yr awdurdod gwerth gorau fel man i blant chwarae, sy'n agored i'r cyhoedd. Y safonau y cyfeirir atynt yn Rhan (b)(i) yw'r meysydd chwarae hynny sy'n cyrraedd safon "llecyn lleol i chwarae" y Gymdeithas Meysydd Chwarae Genedlaethol "NPFA", fel a ddiffinnir ym mlwch 2. Y safonau y cyfeirir atynt yn Rhan (b)(ii) yw'r meysydd chwarae hynny sy'n cyrraedd safon "llecyn lleol i chwarae gyda chyfarpar" y Gymdeithas Meysydd Chwarae Genedlaethol (NPFA), fel a addiffinir ym mlwch 2. Y safonau y cyfeirir atynt yn Rhan (b)(iii) yw'r meysydd chwarae hynny sy'n cyrraedd safon "llecyn cymdogaeth i chwarae" y Gymdeithas Meysydd Chwarae Genedlaethol (NPFA), fel a ddiffinnir ym mlwch 2. |
Rhif y dangosydd | Disgrifiad y dangosydd | Manylion y dangosydd |
NAWPI 10.1 | Lefel cydymffurfiaeth â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy yr awdurdod gwerth gorau, fel a adroddwyd i Fwrdd yr Iaith Gymraeg |
Mae lefel gyffredinol cydymffurfio â chynllun iaith Gymraeg cymeradwy'r awdurdod, fel y'i cadarnhawyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fel a ganlyn: Cyflwyno gwasanaethau: da iawn da gweddol gwael Rheoli'r cynllun: da iawn da gweddol gwael gan ychwanegu "ac/ond yn gwella" neu "ac/yn dirywio" at y lefel perfformiad lle bo'n gymwys. |
NAWPI 10.2 | Lefel safon y Comisiwn dros Gydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol y mae'r awdurdod gwerth gorau yn cydymffurfio â hi. |
Diffinnir lefelau'r safon ar gyfer llywodraeth leol yn y bennod sy'n dwyn y teitl "Measurements" yn nogfennau'r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol sy'n dwyn y teitlau "Auditing y for Equality" a "Racial Equality means Quality". Dylai awdurdodau gwerth gorau gyflwyno adroddiad fel a ganlyn ar y lefel y maent wedi'i chyrraedd: - Er mwyn cyflwyno adroddiad ar y lefelau hyn, rhaid bod awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol. Os nad yw'r awdurdod gwerth gorau wedi mabwysiadu'r safon hon, dylai adrodd fel a ganlyn: "Nid yw'r awdurdod hwn wedi mabwysiadu safon y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer llywodraeth leol". |
NAWPI 10.3 | Nifer y cwynion i Ombudsman a ddosberthir fel camweinyddu. | Nifer yr achosion a gofnodwyd ac yr adroddwyd arnynt i'r awdurdodau gan y Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a ddosbarthir fel "camweinyddu'n achosi anghyfiawnder" neu "camweinyddu". |
NAWPI 10.4 | Y ganran o'r anfonebau anfonebau di-ddadl a dalwyd gan yr awdurdod gwerth diwrnod iddynt gorau o fewn 30 ddod i law gan yr awdurdod gwerth gorau. |
Er mwyn cael y ganran hon bydd angen i'r awdurdod gwerth gorau rannu nifer yr holl anfonebau am nwyddau a gwasanaethau masnachol a dalwyd i gontractwyr a chyflenwyr yr holl anfonebau a dalwyd gan yr awdurdod gwerth gorau yn y flwyddyn honno, a lluosi'r canlyniad â 100. Yn y dangosydd hwn, ac at ddibenion canfod a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi talu'r anfoneb o fewn y cyfnod o 30 diwrnod, bydd y cyfnod yn dechrau ar yr adeg y cafwyd yr anfoneb gan yr awdurdod gwerth gorau (nid adran dalu'r awdurdod gwerth gorau). Yna, bydd yr awdurdod gwerth gorau yn talu'r anfoneb honno o fewn 30 diwrnod. Mae talu'n cynnwys - Pan nad yw'r awdurdod gwerth gorau yn cofnodi'r dyddiad y mae'n cael yr anfoneb, dylai ychwanegu dau ddiwrnod at ddyddiad yr anfoneb oni bai ei fod wedi samplu anfonebau yn ystod y flwyddyn honno er mwyn cael cyfnod mwy cywir i'w ychwanegu at y dyddiad. Os defnyddir sampl, dylai'r sampl fod yn nodweddiadol yn fras o'r holl anfonebau a geir gan adrannau gwahanol ac ar adegau gwahanol o'r flwyddyn, a dylai gynnwys o leiaf 500 anfoneb. Os ceir anfoneb cyn i'r gwasanaethau gael eu darparu neu i'r nwyddau ddod i law, mae'r 30 diwrnod neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno dechrau pan geir y nwyddau'n foddhaol neu pan gwblheir y gwasanaethau'n foddhaol. |
NAWPI 10.5 | Y nifer o'r dyddiau gwaith/sifftiau am bob staff cyfwerth amser llawn a gollwyd drwy absenoldeb oherwydd salwch. |
Ceir y gyfran o ddyddiau neu sifftiau a gollir o absenoldeb drwy salwch wrth i'r awdurdod gwerth gorau gyfrifo'r rhifiadur a'r enwadur fel y diffinnir hwy isod. Ystyr "dyddiau/sifftiau gwaith" yw'r dyddiau/sifftiau a restrwyd ar gyfer gwaith, ar ôl tynnu allan unrhyw ddyddiau o wyliau neu ryddhad. Diffinnir y rhifiadur fel y cyfanswm o'r dyddiau gwaith a gollwyd o achos absenoldeb drwy salwch heb ystyried a ardystiwyd hynny gan y person ei hunan neu drwy dystysgrif ymarferydd cyffredinol neu a yw'n absenoldeb drwy salwch hir-dymor. Bydd hyn yn cynnwys y dyddiau a gollwyd o achos salwch gan holl weithwyr parhaol awdurdod gwerth gorau. Er hynny, at ddibenion y rhifiadur hwn, dylid anwybyddu'r dyddiau a gollwyd o achos salwch gan staff dros dro neu gan staff asantiaeth. Yn ychwanegol, dylid anwybyddu hefyd y dyddiau a gollwyd gan staff ar seibiant mamolaeth neu dadolaeth. Diffinnir yr enwadur fel nifer cyfartalog y staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod gwerth gorau o fewn blwyddyn ariannol. Ar gyfer staff sy'n gweithio'n rhan amser, dylai'r awdurdod gwerth gorau gyfrifo'r hyn sy'n Gyfwerth ag Amser Llawn ar gyfer y rhifiadur a'r enwadur ar sail gyson. |
NAWPI 10.7 | Ymddeoliadau ar sail afiechyd fel canran o'r gweithlu llawn. | Gall "ymddeoliad ar sail afiechyd" ddigwydd ar unrhyw oedran pan fydd ymarferydd meddygol cofrestredig annibynnol â chymhwyster mewn iechyd galwedigaethol wedi ardystio fod y gweithiwr yn barhaol analluog i berfformio dyletswyddau'r gyflogaeth honno neu gyflogaeth mewn awdurdod gwerth gorau sydd ar y cyfan yn gyflogaeth y gellir ei chymharu â hi gyda'i awdurdod cyflogi gwerth gorau o achos afiechyd neu eiddilwch meddwl neu gorff. |
NAWPI 10.8 | Nifer y staff sy'n datgan eu bod yn ateb y diffiniad o anabledd yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, fel canran o weithlu'r awdurdod gwerth gorau |
Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 (1995 p.50) yn datgan "a person has a physical disability for the purposes of this Act if he has a physical or mental impairment which has a substantial and long-term adverse effect on his ability to carry out normal day-to-day activities". Caiff y dangosydd ei gyfrifo fel a ganlyn: Nifer y staff anabl, wedi'i rannu â chyfanswm staff. yr awdurdod gwerth gorau, wedi'i luosi â 100. |
NAWPI 10.9 | Y ganran o weithwyr cyflogedig o gymunedau ethnig lleiafrifol yng ngweithlu'r awdurdod gwerth gorau | Bydd yr awdurdod gwerth gorau yn cyfrifio'r dangosydd hwn drwy rannu nifer staff o gymunedau ethnig lleiafrifol yn yr awdurdod gwerth gorau â nifer llawn staff yr awdurdod gwerth gorau. Bydd canlyniad y rhaniad hwn wedyn yn cael ei luosi â 100. |
NAWPI 10.10 | Y ganran o gydadweithiau â'r cyhoedd, yn ôl math o darfodaeth, y gellir eu cyflwyno drwy wasanaeth electronig sydd yn cael eu cyflwyno wrth ddefnyddio protocolau rhyngrwyd a dulliau dibapur eraill. |
Ystyr cydadweithau yw unrhyw gysylltiad rhwng dinesydd ac awdurdod gwerth gorau gan gynnwys (yn ôl y math): Dylid diffinio 100% o fewn strategaeth e-lywodraeth yr awdurdod gwerth gorau i gymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth yn seiliedig ar y rhestr lawn o wasanaethau y mae'r awdurdod gwerth gorau yn gyfrifol amdanynt a'r mathau o gydadweithiau sy'n berthnasol i bob gwasanaeth. Mae'r dangosydd yn rhagdybio y gellir galluogi pob gwasanaeth ar gyfer cyflwyno electronig onid oes rheswm cyfreithiol neu weithredol pam na ellir gwneud hyn. Ystyr "electronig" yw cyflwyno drwy brotocolau rhyngrwyd a dulliau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (ICT) eraill ac mae'n cynnwys cyflwyno dros y ffôn os yw'r drafodaeth wedi'i galluogi'n electronaidd h.y. mae'r swyddog sy'n derbyn yr alwad yn gallu cael gafael ar wybodaeth electronig ac/neu yn diweddaru cofnodion ar-lein yn y fan a'r lle. |
NAWPI 10.11 | Y nifer canrannol o adeiladau'r awdurdod gwerth gorau sy'n agored i'r cyhoedd a'r ganran sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl |
Cyfrifir y ganran drwy rannu nifer yr adeiladau sy'n addas ac yn hygyrch i bobl anabl gyda'r nifer o adeiladau sy'n agored i'r cyhoedd, wedi'i luosi â 100. At ddibenion y dangosydd hwn, ystyr "adeiladau" yw adeiladau y mae'r awdurdod gwerth gorau yn darparu gwasanaeth ohonynt, ac y mae rhan ohonynt fel arfer yn agored i aelodau'r cyhoedd, (ac eithrio toiledau cyhoeddus nad ydynt yn rhan annatod o adeiladau o'r fath, ysgolion a sefydliadau addysgol). Mae ystyr "yn addas ac yn hygyrch i bobl anabl"i'w ddehongli yn unol â Rhan M o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2000 (O.S. 2000/2531) |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y Dangosydd | Manylion y Dangosydd |
NAWPI 11.1/BV76 | Diogelwch: A oes gan yr awdurdod gwerth gorau strategaeth ysgrifenedig a blaenweithgar i fynd i'r afael â thwyll a chamgymeriadau sy'n ymgorffori mentrau penodedig gan gynnwys y rhai a noddir gan yr Adran Nawdd Cymdeithasol ("ANC") sy'n cael ei mynegi i'r holl staff yn rheolaidd. |
Bydd y dangosydd hwn wedi'i fodloni os oes gan yr awdurdod gwerth gorau, erbyn 31 Mawrth 2002, strategaeth diogelwch ysgrifenedig sydd o leiaf yn ei ymrwymo i ymgymryd â dwy o'r setiau canlynol o weithgareddau a bod mentrau a bennir yn y strategaeth i'w gweld ar waith:
ii. rhoi polisi ar waith ar gyfer erlyn sy'n manylu ar yr amgylchiadau lle câi achosion eu hystyried ar gyfer erlyn neu ar gyfer defnyddio sancsiynau eraill, a bod yr awdurdod i'w weld yn cydymffurfio ag ef; iii. rhoi o leiaf 3 o'r mentrau canlynol ar waith, a hynny yn weledol: gwasanaeth y Post Brenhinol i ddychwelyd post budd-daliadau sydd wedi'i ail-gyfeirio; Gwasanaethau Cyfateb Budd-dâl Tai; Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cenedlaethol gyda'r Asiantaeth Budd-daliadau; Cytundeb Lefel Gwasanaeth Twyll gyda'r Asiantaeth Budd-daliadau. Bernir bod y strategaeth yn cael ei mynegi'n rheolaidd i'r staff os oes gan yr holl staff y copi diweddaraf o strategaeth bresennol yr awdurdod gwerth gorau; a bod copi o'r strategaeth yn cael ei rhoi i staff newydd, gydag esboniad o'i ddefnydd a'i ddiben, yn rhan o'u hymsefydlu. |
NAWPI 11.2/BV77 | Cost gyfartalog trafod cais am Fudd-dâl Tai neu Fudd-dâl y Dreth Gyngor, gan gymryd i ystyriaeth wahaniaethau yn y mathau o gais sy'n dod i law. |
Mae'r dangosydd hwn wedi'i seilio ar y costau y mae'r awdurdodau gwerth gorau yn dweud eu bod yn cael eu tynnu i weinyddu'r Budd-dâl Tai a Budd-dâl Dreth Gyngor. Cymerir gwybodaeth am y costau hyn oddi ar ffurflenni Cyfrif Refeniw Gwasanaethau'r Gronfa Gyffredinol (ffurflen RO4) ymchwiliad ystadegol ar y cyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Adran Amgylchedd, Trafnidiaeth a'r Rhanbarthau (DETR). Y celloedd perthnasol yn ffurflen 1999/00 oedd llinell 15, colofn (3) a llinell 17, colofn (3). Er mwyn sicrhau bod modd cymharu'r costau a adroddir yn fwy uniongyrchol, cânt eu pwysoli yn ôl y cymysgedd achosion a nodweddion y ceisiadau a'i trosiant drwy ddefnyddio data ystadegol a gedwir gan yr ANC. Mae hyn yn adlewyrchu'r dull a ddefnyddir ar hyn o bryd gan yr ANC i wahaniaethu cymhorthdal gweinyddu grantiau uniongyrchol yr awdurdodau gwerth gorau a bydd yn helpu i sicrhau bod y perfformiad yn erbyn y dangosydd yn adlewyrchu gwir wahaniaethau yn y costau a dynnir gan awdurdodau gwerth gorau sy'n deillio o nifer a nodweddion y ceisiadau y maent yn eu trin. |
NAWPI 11.3/BV78a |
Cyflymder prosesu:
|
Mae'r dangosydd hwn yn mesur faint o amser gymerir ar gyfartaledd i brosesu'r holl geisiadau a newydd y mae eu dyddiad penderfynu o fewn y cyfnod yr adroddir arno. Caiff amser pob cais ei fesur o'r dyddiad y daw'r cais i law hyd at ddyddiad y penderfyniad llawn, h.y. y penderfyniad cyntaf nad yw'n ymwneud â thaliad ar gyfrif. |
BV78b |
Cyflymder prosesu:
|
Mae'r dangosydd hwn yn mesur faint o amser a gymerir ar gyfartaledd i brosesu'r holl hysbysiadau ysgrifenedig am newidiadau y mae angen ail benderfyniad ar eu cyfer lle mae dyddiad yr ail benderfyniad o fewn y cyfnod yr adroddir arno. Cyfyngir ystyr ail-benderfynu i'r achosion hynny lle mae'r hysbysiadau'n effeithio ar hawl y person i gael budd-dâl; neu ar swm eu hawl i gael budd-dâl; neu eu hawl i gael taliadau budd-dâl. |
BV78c |
Cyflymder prosesu:
|
Mae'r dangosydd hwn yn mesur nifer y ceisiadau adnewyddu y penderfynir arnynt cyn diwedd y cyfnod budd-dâl presennol fel canran ar draws yr holl geisiadau adnewyddu y mae dyddiad y penderfyniad arnynt o fewn y cyfnod yr adroddir arno. |
NAWPI 11.4/BV79a |
Cywirdeb prosesu:
|
Mae'r dangosydd hwn yn mesur canran yr achosion o fewn sampl a gymerir ar hap, y gwelir bod y budd-dâl wedi'i gyfrifo'n gywir ar eu cyfer. Pennir maint sampl pob awdurdod gwerth gorau gan yr ANC, ar sail y data diweddaraf sydd ar gael am yr achosion. Ceir rhagor o ganllawiau ar faint samplau ac ar ddewis achosion ar hap yng nghylchlythyron Budd-dâl Tai a Budd-dâl y Dreth Gyngor S1/2000 a S5/2000. |
BV79b |
Cywirdeb prosesu:
|
Mae'r dangosydd hwn yn mesur gwerth yr arian a adenillwyd yn ystod y cyfnod yr adroddir arno fel canran o werth y gordaliadau adenilladwy a nodwyd gan yr awdurdod gwerth gorau ar neu ar ôl 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol. |
Rhif y Dangosydd | Disgrifiad y Dangosydd | Manylion y Dangosydd |
NAWPI 12.1/BV126 | Byrgleriaethau domestig am bob 1000 o aelwydydd yn ardal y gwerth gorau | Mae "byrgleriaethau domestig" yn ymwneud â byrgleriaethau mewn annedd a byrgleriaethau gwaethygedig mewn annedd. |
NAWPI 12.2/BV127 | Lladradau am bob 1000 o boblogaeth yn ardal yr awdurdod gwerth gorau | |
NAWPI 12.3/BV128 | Troseddau cerbydau am bob 1000 o boblogaeth yn ardal yr awdurdod gwerth gorau |
Mae "troseddau cerbydau" yn cynnwys dwyn cerbyd modur, cymryd cerbyd modur heb awdurdod, dwyn o gerbyd a chymryd cerbyd modur yn waethygedig. Nid yw ymyrryd â cherbyd wedi'i gynnwys. |
NAWPI 12.4/BV173 |
A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu strategaeth gorfforaethol i leihau troseddau ac anhrefn yn eu hardal? Ydy/Nac ydy. Os nac ydy, a yw'r awdurdod gwerth gorau wedi sefydlu amserlen ar gyfer gwneud hynny? |
Er mwyn ateb "ydy" rhaid i'r awdurdod gwerth gorau allu ateb "ydy" i'r canlynol:
b) A yw'r strategaeth yn gyson ‰'r Strategaeth Gostwng Troseddau ac Anhrefn a'r Polisi Plismona ar gyfer yr ardal? c) A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi datblygu Cynlluniau Gwasanaeth Adrannol sy'n amlinellu targedau ar ostwng troseddau ac anhrefn sy'n gyson â'r strategaeth gorfforaethol? ch) A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi enwebu swyddogion ymhob Adran Gwasanaethau i fod yn gyfrifol am gyrraedd y targedau ar ostwng troseddau ac anhrefn? d) A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi penderfynu ar gerrig milltir ac wedi creu systemau ar gyfer monitro a gwerthuso targedau a mentrau adrannol sydd wedi'u datblygu i ostwng troseddau ac anhrefn? dd) A yw'r awdurdod gwerth gorau wedi datblygu proses ymgynghori barhaus ar gyfer asesu anghenion a galwadau mewn perthynas â gostwng troseddau ac anhrefn yn y gymuned leol? e) A oes gan yr awdurdod gwerth gorau Swyddog Diogelwch Cymunedol? |
NAWPI 12.5/BV176 | Nifer y lleoedd mewn lloches rhag trais domestig am bob 10,000 o'i boblogaeth a ddarperir neu a gynorthwyir gan yr awdurdod gwerth gorau |
Ystyr lleoedd yw nifer yr ystafelloedd sy'n cynnig gwelyau. Ni all ystafelloedd nad ydynt fel rheol yn cael eu defnyddio yn ystafelloedd gwely fel rheol gael eu cyfrif tuag at y cyfanswm. Dylai'r ffigurau adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Os yw'r awdurdod gwerth gorau yn ariannu sefydliad yn rhannol, yna gall hawlio credyd pro rata am ei gyfraniad at gostau rhedeg y cyfleuster. Gall y cymorth fod yn ariannol neu'n gymorth mewn da e.e. adeilad neu staff. Ystyr lloches yw llety mewn argyfwng i'r rhai sydd wedi'u cyfeirio yno i gael cymorth ar ôl profi bygythiadau i'w diogelwch corfforol yn y cartref (gan gynnwys eu plant) a rhaid iddo ddarparu cymorth, cyngor a chefnogaeth eiriolaeth yn ogystal â bod yn rhan o ymagwedd leol integredig sy'n cynnwys partneriaeth gyda chyrff lleol a statudol eraill. |
[2] O.S. 2000 Rhif 1030 (Cy.65)back