British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010203w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 203 (Cy. 9 ) (C. 10 )
BYWYD GWYLLT, CYMRU
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
24 Ionawr 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 [
1].
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Diwrnod Penodedig
2.
30 Ionawr 2001 yw'r diwrnod penodedig y daw adran 99 o'r Ddeddf i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]).
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("y Ddeddf") i rym ar 30 Ionawr 2001.
Mae adran 103(3) o'r Ddeddf yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y p
er i bennu'r dyddiad pan ddaw darpariaeth nad yw'n cael ei dwyn i rym yn awtomatig gan y Ddeddf i rym. Mae adran 99 o'r Ddeddf yn ddarpariaeth y mae adran 103(3) yn gymwys iddi ac sy'n darparu -
(a) mewn perthynas â Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (S.I. 1999/672), fod y cyfeiriadau at Ddeddf Priffyrdd 1980 ac at Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw i'w darllen fel petaent yn cyfeirio at y Deddfau hynny fel y'u diwygiwyd gan y Ddeddf; a
(b) bod Atodlen 11 i'r Ddeddf i'w hychwanegu at Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Bydd hyn yn galluogi swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a gynhwysir yn Atodlen 11 i'r Ddeddf i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
2000 p.37back
[2]
1998 c.38back
English version
ISBN
0-11-090175-4
|
Prepared
18 April 2001