British
and Irish Legal Information Institute
Freely Available British and Irish Public Legal Information
[
Home]
[
Databases]
[
World Law]
[
Multidatabase Search]
[
Help]
[
Feedback]
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales
You are here:
BAILII >>
Databases >>
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >>
Offerynnau Statudol 2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2001/20010139w.html
[
New search]
[
Help]
2001 Rhif 139 (Cy. 5 ) (C. 7 )
PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001
|
Wedi'i wneud |
23 Ionawr 2001 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1].
Enwi, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2001.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
ystyr "cartref bach i blant" ("small children's home") yw cartref o fewn ystyr adran 63 o Ddeddf 1989, sy'n darparu (neu sydd fel arfer yn darparu neu y bwriedir iddo ddarparu) gofal a llety i nifer nad yw'n fwy na thri o blant ar unrhyw un adeg;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989[2].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Dyddiau penodedig
2.
- (1) At ddibenion galluogi cais cofrestru i gael ei wneud o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn unig, 1 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i adran 40 o'r Ddeddf (ymestyn dros dro ystyr "cartref plant") ddod i rym.
(2) 28 Chwefror 2001 yw'r dydd a benodir i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym -
(a) adran 40 i'r graddau nad yw mewn grym eisoes, ac adran 41 (darpariaeth dros dro ynghylch dileu cofrestriad); a
(b) adran 116 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae'n berthnasol i is-baragraff (15) o baragraff 14 o Atodlen 4 i'r Ddeddf.
Darpariaethau Trosiannol
3.
- (1) Os yw person sy'n rhedeg cartref bach i blant wedi gwneud cais cofrestru yn briodol cyn 28 Chwefror 2001 o dan is-baragraffau (1) a (2) o baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989, bydd paragraffau canlynol yr erthygl hon yn gymwys.
(2) Ni fydd adran 63(1) a (10) o Ddeddf 1989 yn gymwys i'r person hwnnw -
(a) nes yr adeg y caniateir y cais, naill ai'n ddiamod neu'n ddarostyngedig i'r amodau hynny a grybwyllir ym mharagraff (3); neu
(b) os caniateir y cais yn ddarostyngedig i amodau heblaw rheini a grybwyllir ym mharagraff (3), neu os gwrthodir y cais -
(i) os na ddygir apêl, hyd nes y daw 28 diwrnod i ben ar ôl cyflwyno hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol; a
(ii) os dygir apêl, hyd nes y penderfynir arni neu ei gollwng.
(3) Dyma'r amodau -
(a) unrhyw amodau (os oes rhai) o'r math a grybwyllir ym mharagraff 5(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 (amodau y cytunwyd arnynt); neu
(b) amod na chaiff y cartref letya a gofalu am fwy na thri o blant.
(4) Ni fydd paragraffau 1(9) a 7(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 1989 yn gymwys i'r cais.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2001
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") yng Nghymru.
Mae'n dwyn i rym adran 40 o'r Ddeddf, sy'n diwygio Deddf Plant 1989 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gartrefi plant sy'n cael eu gweithredu'n breifat ac sy'n lletya a gofalu am lai na phedwar o blant (cartrefi bach i blant) gael eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol y lleolir hwy yn ei ardal. Bydd adran 40 yn dod i rym ar 1 Chwefror 2001 er mwyn galluogi ceisiadau cofrestru i gael eu gwneud, ac ar 28 Chwefror 2001 i bob diben arall. Mae'r Gorchymyn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel nad yw cartref bach i blant y mae cais cofrestru wedi'i wneud yn briodol ar ei gyfer erbyn 28 Chwefror 2001 i gael ei drin fel cartref plant anghofrestredig hyd nes bod y broses gofrestru ar ei gyfer wedi'i chwblhau. Mesurau interim yw'r rhain a fydd yn cael eu diddymu, maes o law, pan fydd Rhan II o'r Ddeddf, a fydd yn sefydlu cynllun newydd ar gyfer cofrestru pob cartref plant, gan gynnwys cartrefi bach, yn cael ei gweithredu'n llawn. O ganlyniad, mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym fân ddiwygiad i adran 66 o Ddeddf Plant 1989 sy'n ymwneud â'r diffiniad o faethu preifat.
Mae'r Gorchymyn hefyd yn dwyn i rym, o 28 Chwefror 2001 ymlaen, adran 41 o'r Ddeddf. Mae honno yn diwygio Deddf Plant 1989 i ddarparu y gellir dileu cofrestriad cartref plant o unrhyw ddisgrifiad hyd yn oed os yw'r cartref wedi peidio â bod, megis pan yw'r perchennog yn ei gau cyn i unrhyw achos gorfodi ddod i ben. Bydd canlyniadau'r dileu gan hynny yn gymwys p'un a yw'r cartref yn bodoli ai peidio ar ddyddiad y dileu. Mae hwn hefyd yn fesur interim nes gweithredir Rhan II o'r Ddeddf.
NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael, neu ar fin cael, eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/2992 (Cy.192)(C.93)
Darpariaeth/Provision
Adran/Section 72
Atodlen/Schedule 2
Adran/Section 54(1), (3)-(7)
Adran/Section 55 ac Atodlen 1/and Schedule 1
Adran/Section 113 (2)-(4)
Adran/Section 114 (yn rhannol) / (partially)
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, gan O.S. 2000/2544 (C.72).
Darpariaeth/Provision
Adran/Section 96 (yn rhannol) / (partially)
Adran/Section 99
Adran/Section 80(8) (yn rhannol) / (partially)
Adran/Section 94
Adran/Section 96 (y gweddill) / (remainder)
Adran/Section 100
Adran/Section 101
Adran/Section 103
Adran/Section 116 ac Atodlen 4/and Schedule 4 (yn rhannol) (partially)
Adran/Section 117(2) ac Atodlen 6/and Schedule 6 (yn rhannol) / (partially)
Yn ychwanegol, mae darpariaethau amrywiol eraill o'r Ddeddf wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 2000/2795 (C.79).
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol. Diffinnir y Gweinidog priodol yn adran 121(1) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.back
[2]
1989 p.41.back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0-11-090155-x
|
Prepared
15 February 2001