Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 354(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol: 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Awst 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
mae cyfeiriadau at ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriadau at ieithoedd a bennwyd yn ieithoedd swyddogol sefydliadau'r Gymuned Ewropeaidd gan Erthygl 1 o Reoliad Rhif 1 Cyngor yr EEC dyddiedig Ebrill 15 1958[2].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae "iaith dramor fodern" yn un o bynciau sylfaen y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru mewn perthynas â'r trydydd cyfnod allweddol. Mae'n ofynnol i'r ieithoedd hynny sydd i gyfrif fel ieithoedd modern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol gael eu pennu mewn Gorchymyn a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu, fel arall, caiff Gorchymyn o'r fath ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at y dibenion hynny. Ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd yw'r ieithoedd a bennir gan y Gorchymyn ym mhob achos. Yn ychwanegol, yn achos ysgol lle cynigir cyfle i ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol astudio o leiaf un o ieithoedd swyddogol y Gymuned Ewropeaidd, mae'r Gorchymyn yn darparu bod "unrhyw" iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Yn hyn o beth, mae'n wahanol i Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) 1991, y mae'n ei ddisodli, yn yr ystyr mai dim ond yr ieithoedd tramor modern hynny a restrwyd ynddo a bennwyd gan y Gorchymyn cynharach tra bod y Gorchymyn presennol yn pennu unrhyw iaith dramor fodern. Notes: [1] 1996 p.56. Diwygir adran 354 gan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) 2000 (O.S. 2000/1146) sy'n gymwys i Loegr a chan Orchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1882 (Cy.192)) sy'n gymwys i Gymru.back [2] O.J. 1958, 385; DJ 1952-58, 59. Diwygiwyd Erthygl 1 gan Ddeddfau Ymuno un ar ôl y llall. Ar ddyddiad y Gorchymyn hwn Almaeneg, Daneg, Eidaleg, Ffinneg, Ffrangeg, Groeg, Gwyddeleg, Iseldireg, Portiwgaleg, Saesneg, Sbaeneg a Swedeg yw'r ieithoedd swyddogol.back [3] O.S. 1991/2567. Mae'r offeryn hwn wedi'i ddiwygio mewn perthynas â Lloegr yn unig gan O.S. 1999/2214.back
|