Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio (Rhif 3) y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000. (2) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 2. Yn Atodlen 10 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[2], mewnosodir y cofnodion canlynol ymysg y cofnodion yn y mannau sy'n briodol yn ôl trefn yr wyddor -
Propecia;".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn peri diwygiadau pellach i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau"), sy'n rheoleiddio'r telerau y mae Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliad 2 yn ychwanegu'r cyffur Finasteride 1mg (Propecia) at y rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau sy'n rhestru cyffuriau a sylweddau eraill na ellir eu rhoi ar bresgripsiwn i'w cyflenwi yng nghwrs gwasanaethau fferyllol sy'n cael eu darparu o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Notes: [1] 1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p. 53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p. 41), Atodlen 6, paragraff 2; gan Ddeddf Feddygol 1983 (p.54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2), ac (yn Lloegr) gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo.back [2] O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620 a 1997/981.back
|