Cyflawnwyd y gofynion a nodir yn Atodlen 1. Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 354(6) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol y gosodwyd drafft ohono gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pwnc Sylfaen (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 20 Gorffennaf 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
Diwygio
(b) yn is-adran (5) fel y'i hamnewidwyd ar ôl "(4)(a)" mewnosoder "or (b)".
4.
Gwelir testun adran 354(1) i (5) o'r Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Gorchymyn y cyfeirir ato yn erthygl 2 ac fel y'i diwygir ymhellach gan y Gorchymyn hwn, yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn. Adran 368(2) Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol gynnig i'r Awdurdod gan roi cyfarwyddiadau amser yngln â'r cyfnod yr oedd yr Awdurdod i roi adroddiad[7]. Adran 368(3) Hysbysodd yr Awdurdod y cynnig i'r cyrff a'r personau y cyfeirir atynt yn adran 368(3) o Ddeddf Addysg 1996 a rhoi cyfle rhesymol iddynt gyflwyno tystiolaeth a sylwadau ar y materion a oedd yn codi. Adran 368(5) Cyflwynodd yr Awdurdod ei adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Adran 368(5) Trefnodd yr Awdurdod gyhoeddi'r adroddiad. Adran 368(6) a (7) Cyhoeddwyd drafft o'r Gorchymyn a'r ddogfen gysylltiedig a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau yngln â materion a oedd yn codi. Adran 368(6) a (7) Anfonwyd copi o'r Gorchymyn drafft a'r ddogfen gysylltiedig i'r Awdurdod ac at bob un person yr ymgynghorodd yr Awdurdod â hwy a chaniatawyd cyfnod o fis ar gyfer cyflwyno tystiolaeth a sylwadau yngln â marterion a oedd yn codi.
(b) English; (c) science; and (d) in relation to schools in Wales which are Welsh-speaking schools,Welsh.
(2) In relation to schools in England, the following are the other foundation subjects -
(b) physical education; (c) in relation to the first, second and third key stages -
(ii) geography; (iii) art and design; (iv) music;
(d) in relation to the third and fourth key stages -
(ii) a modern foreign language.
(3) In relation to schools in Wales, the following are the other foundation subjects -
(b) Welsh, if the school is not a Welsh-speaking school; (c) in relation to the first, second and third key stages -
(ii) geography; (iii) art; (iv) music; (v) technology;
(d) in relation to the third key stage, a modern foreign language.
(4) "Modern foreign language" -
(b) in relation to schools in Wales, means a modern foreign language specified in an order of the National Assembly for Wales, or, if the order so provides, any modern foreign language.
(5) An order under subsection (4)(a) or (b) may -
(b) provide for the determination under the order of any question arising as to whether a particular language is a modern foreign language.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 354 o Ddeddf Addysg 1996 yn rhestru'r pynciau sy'n bynciau sylfaen at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7-9 yn fras), mae un o'r pynciau sylfaen a restrir yn yr adran yn iaith dramor fodern a bennir drwy Orchymyn gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 354 fel nad oes angen bellach i ieithoedd tramor modern gael eu pennu mewn Gorchymyn o dan yr adran honno. Yn lle hynny, caiff y Gorchymyn ddarparu bod unrhyw iaith dramor fodern yn iaith dramor fodern at ddibenion y Cwricwlwm Cenedlaethol. Hefyd caiff Gorchymyn o dan yr adran fel y'i diwygiwyd -
(b) darparu mecanwaith ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi ynghylch a yw iaith benodol yn iaith dramor fodern.
Gwelir testun adran 354(1) i (5) fel y'i diwygiwyd yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn. Notes: [1] 1996 p.56.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran354(6) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.back [6] 1996 p.56. Diwygir adran 368 gan baragraff 28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 368 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [7] O dan adran 23(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) gall y Cynulliad Cenedlaethol barhau gydag unrhyw beth a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â swyddogaethau a freiniwyd ynddo gynt a byddant yn cael effaith fel pe baent wedi'u gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.back
|