Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 29B a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a'r holl bwerau eraill sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw: - Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[2]. (3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau (Dehongli) mewnosodir y paragraff canlynol -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio ymhellach ar Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau"), sy'n rheoleiddio'r telerau y bydd meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977"). Mae'r Rheoliadau yn peri bod y diwygiadau testunol i'r prif reoliadau sydd wedi'u gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) Diwygio 2000 ("Rheoliadau 2000") ac sy'n gymwys yn Lloegr, yn effeithiol yng Nghymru. Mae rheoliad 2 o Reoliadau 2000 yn ei gwneud yn ofynnol bod Awdurdod Iechyd yn tynnu enw unrhyw feddyg a gollfernir o lofruddio neu a gollfernir o dramgwydd troseddol a'i garcharu i chwe mis o garchar o leiaf oddi ar ei restr feddygol (a hynny drwy ddiwygio rheoliad 7 o'r prif Reoliadau (tynnu oddi ar y rhestr feddygol)). Mae Rheoliad 5 o Reoliadau 2000 hefyd yn gosod gofyniad ar feddyg sy'n gwneud cais i Awdurdod Iechyd am gael ei enwebu neu ei gymeradwyo ar gyfer swydd wag mewn practis wneud datganiad a yw wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, wedi'i rwymo neu wedi'i rybuddio, neu yn destun achos troseddol ar y pryd, ac a yw, neu a yw wedi bod, yn destun achos disgyblu gan ei gorff proffesiynol neu gorff rheoleiddio, boed yn y DU neu mewn man arall (a hynny drwy fewnosod paragraff 6A ym mharagraff 6 o Ran III o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (yr wybodaeth a'r ymrwymiadau sydd i'w rhoi gan ymarferydd mewn cysylltiad â chais am gael ei enwebu neu ei gymeradwyo ar gyfer swydd wag mewn practis)). Mae rheoliad 3 o Reoliadau 2000 yn darparu bod rhaid i Awdurdod Iechyd beidio â chymeradwyo meddyg os ydynt o'r farn ei fod yn anaddas ar ôl ystyried y datganiad (a hynny drwy fewnosod paragraff (1)(bb) yn rheoliad 18E o'r prif Reoliadau (meini prawf cymeradwyo ac enwebu)). Mae rheoliad 4 o Reoliadau 2000 yn darparu bod rhaid i fanylion y datganiad hwn gael eu cynnwys yn yr wybodaeth a roddir gan Awdurdod Iechyd wrth roi tystlythyr i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol (a hynny drwy ddiwygio paragraff 8 o Ran I o Atodlen 3 i'r prif Reoliadau (yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn adroddiad gan yr Awdurdod Iechyd wrth roi tystlythyr i'r Pwyllgor Practisiau Meddygol)). Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 26 (2)(g) ac (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7; gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) ("Deddf 1997"). Mewnosodwyd adran 29B gan Ddeddf 1997, adran 32. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 65(2); a (mewn perthynas â Lloegr) Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29, 29B a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo).back [2] O.S. 1992/635 ("y prif Reoliadau"); y Rheoliadau diwygio perthnasol yw O.S.1995/3093 ac O.S. 1998/2838 (ychwanegwyd Rheoliad 18E at y prif Reoliadau drwy reoliad 5(2) o O.S. 1998/2838 ac Atodlen 1 iddo ac amnewidiwyd Atodlen 3 i'r prif Reoliadau gan O.S. 1998/2838).back
|