Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2) a (4), 6(2) a (3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Gwerth Gorau) (Adolygiadau a Chynlluniau Perfformiad) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
(b) ystyried ar ba lefel ac ym mha ffordd y dylai fod yn arfer y swyddogaeth; (c) ystyried ei amcanion mewn perthynas ag arfer y swyddogaeth; (ch) asesu ei berfformiad wrth arfer y swyddogaeth drwy gyfeirio at unrhyw ddangosydd perfformiad a bennir ar gyfer y swyddogaeth; (d) asesu cystadleurwydd ei berfformiad wrth arfer y swyddogaeth drwy gyfeirio at y ffordd y mae awdurdodau gwerth gorau eraill a busnesau masnachol a busnesau eraill, a chyrff yn y sector gwirfoddol, yn arfer yr un swyddogaeth, neu swyddogaethau tebyg; (dd) ymgynghori ag awdurdodau gwerth gorau eraill, busnesau masnachol a busnesau eraill, a chyrff yn y sector gwirfoddol, ynghylch arfer y swyddogaeth; (e) asesu ei lwyddiant o ran cyrraedd unrhyw safon berfformiad sy'n gymwys i'r swyddogaeth; (f) asesu ei gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw safon berfformiad berthnasol sydd wedi'i phennu ond nad yw'n gymwys eto; (ff) asesu ei gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw darged perfformiad perthnasol.
Cynnwys cynlluniau perfformiad gwerth gorau
(b) crynodeb o unrhyw asesiad a wnaed gan yr awdurdod i ddarganfod ar ba lefel ac ym mha ffordd y mae'n arfer ei swyddogaethau; (c) datganiad sy'n pennu'r cyfnod y mae'n ofynnol i'r awdurdod adolygu ei swyddogaethau ynddo o dan adran 5(2) o'r Ddeddf ac erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn; (ch) datganiad sy'n dangos yr amserlen y mae'r awdurdod yn bwriadu ei dilyn wrth gynnal adolygiad gwerth gorau; (d) datganiad sy'n pennu unrhyw ddangosyddion, safonau a thargedau perfformiad a bennwyd neu a osodwyd yngln â swyddogaethau'r awdurdod; (dd) crynodeb o asesiad yr awdurdod o'i berfformiad yn y flwyddyn ariannol flaenorol o ran dangosyddion perfformiad; (e) cymhariaeth o berfformiad hwnnw â pherfformiad yr awdurdod yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; (f) cymhariaeth o berfformiad yr awdurdod fel y'i crynhowyd yn unol â pharagraff (dd) uchod, â pherfformiad awdurdodau gwerth gorau eraill yn y blynyddoedd ariannol blaenorol; (ff) crynodeb o'i asesiad o'i lwyddiant o ran cyrraedd unrhyw safon berfformiad a oedd yn gymwys ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol flaenorol; (g) crynodeb o'i asesiad o'i gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw safon berfformiad a bennwyd ond nad yw'n gymwys eto; (ng) crynodeb o'i asesiad o'i gynnydd tuag at gyrraedd unrhyw darged perfformiad; (h) crynodeb o unrhyw gynllun gweithredu sydd i'w gyflawni yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynllun yn ymwneud â hi at ddibenion cyrraedd targed perfformiad; (i) crynodeb o'r rhesymau dros bennu unrhyw darged perfformiad, a phenderfynu ar unrhyw gynllun gweithredu, mewn perthynas â swyddogaeth a adolygwyd o dan adran 5 o'r Ddeddf ac erthyglau 2 a 3 o'r Gorchymyn hwn, yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi'r cynlluniau perfformiad gwerth gorau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i baratoi cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Bwriedir pennu drwy orchymyn a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y cyfnod y mae'n rhaid i awdurdod yng Nghymru (ac eithrio un a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf) adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo, y materion y mae'n rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys yn yr adolygiad a'r materion y mae rhaid i'r awdurdod hwnnw eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer blwyddyn ariannol. Gall Cynullaid Cenedlaethol Cymru hefyd bennu drwy orchymyn cyn pa ddyddiad y mae rhaid i awdurdod gyhoeddi ei gynllun perfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid anfon copïau o adroddiad archwilydd yngln â'r cynllun hwnnw at yr awdurdod, y Comisiwn Archwilio ac, os oes gofyn, at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r cyfnod adolygu gwerth gorau, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn adolygiad o'r fath, y materion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cynllun perfformiad gwerth gorau, cyn pa ddyddiad y mae rhaid cyhoeddi cynllun awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol a'r dyddiad erbyn pryd y dylai copïau o adroddiad archwilydd gael eu hanfon. Notes: [1] 1999 p.27.back
|