Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] a phob pwer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:- Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2000, a deuant i rym ar 10 Ebrill 2000. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Y swm y mae ei angen at anghenion personol 2. Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £15.45 yr wythnos. Diddymu 3. Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) 1999[3], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, drwy hyn wedi'u diddymu. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 6 Ebrill 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r swm wythnosol y mae'r awdurdodau lleol yng Nghymru i ragdybio, yn niffyg amgylchiadau arbennig, y bydd ar breswylwyr sydd mewn llety a drefnwyd o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 ei angen at eu hanghenion personol. O 10 Ebrill 2000 ymlaen, rhagdybir y bydd ar bob preswylydd o'r fath angen £15.45 yr wythnos at eu hanghenion personol. Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, yng Nghymru, Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) 1999 (a oedd yn darparu ar gyfer y swm y rhagdybid bod ar breswylwyr ei angen o 12 Ebrill 1999 ymlaen) sy'n cael eu diddymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Notes: [1] 1948 p.29. Gweler adrannau 35(1) a 64(1) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i gael diffiniadau o the Minister a prescribed yn y drefn honno, ac erthygl 2 o Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wasanaethau Cymdeithasol 1968 (O.S. 1968/1699) a drosglwyddodd holl swyddogaethau'r Gweinidog Iechyd i'r Ysgrifennydd Gwladol.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
|