Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1], sydd bellach wedi'u breinio ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:- Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Cymunedol ar gyfer Monitro â Lloeren) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 7 Ebrill 2000. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a bydd darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 yn effeithiol ar gyfer penderfynu pa rannau o'r môr y dylid eu trin fel rhai sy'n gyfagos at Gymru a pha rai na ddylid eu trin felly[3]. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(b) yn rhoi'r wybodaeth a fynnwyd i'r Ganolfan honno ar unwaith mewn ymateb;
ystyr "gwybodaeth a fynnwyd" ("required information") yw data ynghylch -
(b) lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota wedi'i fynegi mewn graddau a munudau o hydred a lledred o fewn lwfans cyfeiliornad o lai na 500 metr ac o fewn cyfwng hyder o 99%; ac (c) dyddiad ac amser pennu'r lleoliad hwnnw;
(b) Rheoliad 1489/97;
ystyr "Rheoliad 2847/93" ("Regulation 2847/93") yw Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system rheoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin[5] fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2870/95[6], Penderfyniad y Cyngor (EC) 95/528[7], Rheoliad y Cyngor (EC) 2489/96[8], Rheoliad y Cyngor (EC) 686/97[9], Rheoliad y Cyngor (EC) 2205/97[10], Rheoliad y Cyngor (EC) 2635/97[11], a Rheoliad y Cyngor (EC) 2846/98[12];
(b) tramgwydd o dan unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir er mwyn gweithredu mesur Cymunedol ar gyfer monitro â lloeren, sef darpariaeth y gellir dwyn achos mewn perthynas â hi mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[17];
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad, dogfen neu wybodaeth a fynnwyd mewn ysgrifen -
(ii) unrhyw ffotograff, (iii) unrhyw ddata, sut bynnag y'i hatgynhyrchir, a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd o ddyfais olrhain loerennol, (iv) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio seiniau neu ddata arall (nad ydynt yn ddelweddau gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (gyda chymorth unrhyw gyfarpar arall neu hebddo), a (v) unrhyw ffilm (gan gynnwys microffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu oddi arnynt (fel y dywedwyd uchod).
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r offeryn hwnnw sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn.
(b) nad yw byth yn treulio mwy na 24 awr ar y môr, o'i gymryd o'r amser ymadael hyd at amser dychwelyd i'r porthladd.
(3) Rhaid i ddyfais olrhain loerennol -
(b) cael ei chadw yn hollol weithredol,
ar gwch pysgota y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo.
(ii) mewn achos y pennir cyfnod hiraf gwahanol ar ei gyfer yn Atodiad I i Reoliad 1489/97, yn ôl y cyfnod hwnnw neu o fewn y cyfnodau hynny; neu
(b) pan nad yw'r ddyfais olrhain loerennol yn gallu cael ei pholio, bob awr, a hynny i Ganolfan Monitro Pysgodfeydd yn y fformat a ragnodir gan Atodiad II i Reoliad 1489/97.
Tramgwyddau
(b) mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota y mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, ag Erthygl 6.1 neu 6.2 o Reoliad 1489/97,
bydd y perchennog, y siartrwr (os oes un) a'r meistr yn euog o dramgwydd.
(b) yn tynnu'r ddyfais olrhain loerennol oddi ar gwch pysgota o'r fath;
heb roi gwybod ymlaen llaw i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn euog o dramgwydd.
(b) yn ymyrryd â gallu dyfais olrhain loerennol i gael ei pholio; neu (c) yn fwriadol yn trosglwyddo neu'n rhoi gwybodaeth a fynnwyd ffug,
yn euog o dramgwydd.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Bydd person a geir yn euog o unrhyw dramgwydd perthnasol arall yn agored-
(b) o'i gollfarnu ar dditiad i ddirwy.
Casglu dirwyon
(b) gorchymyn cadw'r cwch am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu hyd nes y telir y ddirwy neu y cesglir swm y ddirwy yn unol ag unrhyw warant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
(2) Bydd adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[18] (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan yr erthygl hon fel y maent yn gymwys i warant atafaelu a gyhoeddir o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen yngln â'r cwch neu offer y cwch, unrhyw weithrediadau pysgota neu weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng nghadwraeth neu feddiant y person hwnnw; (c) er mwyn canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r chwilio; (ch) caiff archwilio a chopïo unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch, a'u cadw yn ei feddiant tra bydd yn cwblhau unrhyw chwiliad, archwiliad ac arolygiad y darperir ar eu cyfer o dan yr erthygl hon; (d) heb ragfarn i is-baragraffau (c) ac (ch), caiff ei gwneud yn ofynnol bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn trosi'r holl ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol i ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd â hi oddi yno; ac (dd) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gipio a chadw unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn achos yngln â'r dramgwydd.
(4) Os yw'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i chyflawni ar unrhyw amser, caiff y swyddog -
(b) cadw'r cwch yn y porthladd neu ei gwneud yn ofynnol bod y meistr yn ei gadw yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw neu'n ei gwneud yn ofynnol cadw'r cwch rhaid i'r swyddog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r meistr yn datgan y caiff y cwch ei gadw neu ei bod yn ofynnol ei gadw hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
(b) heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath; neu (c) yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sydd wrthi'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o drosedd, ac yn agored -
(ii) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
Darpariaethau yngln â throseddau ac achosion
(b) datganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f; (c) adroddiad ymdrech a gwblheir o dan Erthyglau 19b a 19c; (ch) dogfen a lunnir o dan Erthyglau 9 neu 13,
o Reoliad 2847/93 ac unrhyw wybodaeth a fynnwyd a dderbynnir gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd, mewn unrhyw achos yngln â throsedd berthnasol, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru a'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, yn darparu ar gyfer gorfodi Erthyglau 3 a 28c o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 sy'n sefydlu system reoli sy'n gymwys ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredin a Rheoliad y Comisiwn (EC) 1489/97 sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 o ran systemau sydd wedi'u seilio ar loeren ar gyfer monitro cychod. Mae'r Rheoliadau hynny yn darparu ar gyfer trosglwyddo adnabyddiaeth cychod ac adroddiadau ar eu lleoliad drwy gyfrwng lloeren gan gychod pysgota sy'n mesur mwy nag 20 metr rhwng y sythlinau neu fwy na chyfanswm o 24 metr o hyd. Erthygl 3 o'r Gorchymyn yw'r brif ddarpariaeth sy'n rhoi eu heffaith i'r gofynion hyn. Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn perthynas â thorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn, gan gynnwys torri erthyglau 6.1 a 6.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1489/97. Mae erthyglau 6.1 a 6.2 yn ei gwneud yn ofynnol bod yr wybodaeth a fynnwyd (fel y'i diffinnir yn erthygl 2(1) o'r Gorchymyn) yn cael ei hanfon at Aelod-wladwriaeth y faner ac at Aelod-wladwriaeth yr arfordir o dan sylw drwy ddull arall, o leiaf bob 24 awr, os ceir methiant technegol neu os bydd naill ai dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu system monitro cychod Aelod-wladwriaeth y faner yn methu â gweithredu. Hefyd, os ceir methiant technegol neu os na fydd dyfais olrhain loerennol yn gweithredu, mae'n ofynnol i'r perchennog drefnu ei thrwsio neu ei hamnewid o fewn un mis neu, pan geir digwyddiad o'r fath yn ystod taith bysgota sy'n para mwy na mis, cyn gynted ag y daw'r cwch pysgota i borthladd. Nid awdurdodir meistr y cwch pysgota i ddechrau taith bysgota newydd nes bod y ddyfais olrhain loerennol wedi'i thrwsio neu wedi'i hamnewid felly. Mae'r cosbau am dorri'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn i'w gweld yn erthygl 5 o'r Gorchymyn. Er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn, yn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru rhoddir pwerau i swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig fynd ar fwrdd cychod pysgota, chwilio, archwilio a phrofi offer y cwch, ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau'n cael eu cyflwyno a chymryd y cwch i'r porthladd cyfleus agosaf (erthygl 7). Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddau newid adnabyddiaeth dyfais olrhain loerennol a osodwyd ar gwch pysgota neu dynnu'r ddyfais oddi ar y cwch heb awdurdod blaenorol (erthygl 4(3)), ymyrryd â throsglwyddiadau o'r ddyfais neu roi gwybodaeth ffug yn fwriadol (erthygl 4(4)), a rhwystro swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig (erthygl 9). Nodir y cosbau yn sgil collfarnu yn erthyglau 5(2) a 9. Uchafswm statudol y gosb a bennir yn y Gorchymyn yw £5,000 ar hyn o bryd. Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau ar gyfer casglu dirwyon a osodwyd gan lysoedd ynadon (erthygl 6). Mae erthyglau 8, 10 ac 11 yn cynnwys darpariaethau ategol. Notes: [1] 1981 p.29; gweler adran 30(3) i gael y diffiniadau o "cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy" ("enforceable Community restriction"), "rhwymedigaeth Gymunedol orfodadwy" ("enforceable Community obligation") ac "y Gweinidogion" ("the Ministers") fel y'u diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Swyddogaethau Cyfamserol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddi yn darparu i'r swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 gael eu harfer gan y Gweinidogion, yn gyfamserol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â'r canlynol: cychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota yr Alban o fewn ffiniau pysgodfeydd Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am "y parth Albanaidd" gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos at yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, a swyddogaethau'r Ysgrifenyddion Gwladol yngln â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [3] Pennir y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) ac ag unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sy'n dwyn effaith fel pe baent wedi'u gwneud, o dan yr adran honno. Pennir y ffin rhwng y rhannau hynny o'r môr yn Aberoedd Hafren a Dyfrdwy a drinir fel moroedd tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r rhannau na thrinir felly, yn unol â'r cyfesurannau a nodir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [5] OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.back [6] OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.back [7] OJ Rhif L301, 14.12.95. t.35.back [8] OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.back [9] OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.back [10] OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.back [11] OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.back [12] OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.back [13] OJ Rhif L202, 30.7.97, t.18.back [14] OJ Rhif L054, 25.2.98, t.5.back [15] OJ Rhif L105, 22.4.99, t.20.back [16] OJ Rhif L298, 19.11.99, t.5.back [17] A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).back [19] O.S. 1981/1675 (G.I. 26)back
|