OFFERYNNAU STATUDOL
2000 Rhif 1075 (Cy.69)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000
|
Wedi'i wneud |
29 Mawrth 2000 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2000 | |
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1] ac a freinir ynddo, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: -
Enw, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn: -
ystyr "cludwr" ("transporter") yw perchennog neu huriwr cerbyd, neu'r person sy'n gyfrifol am unrhyw gerbyd, a ddefnyddir i gario cynhyrchion pysgodfeydd;
mae ystyr "cwch pysgota" ("fishing boat") yn cynnwys cwch derbyn a chwch trydydd gwlad o fewn yr ystyr yn Rheoliad 2847/93;
ystyr "cwch pysgota Albanaidd" ("Scottish fishing boat") yw cwch pysgota a gofrestrwyd ar y rhestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnachol 1995[3] ac y mae'r manylion ar y gofrestr yn dangos porthladd yn yr Alban fel y porthladd y dylid ei drin fel y porthladd y mae'n perthyn iddo;
ystyr "cwch pysgota Prydeinig perthnasol" ("relevant British fishing boat") yw cwch pysgota nad yw'n gwch pysgota Albanaidd sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Rhan II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sydd wedi ei pherchnogi'n llwyr gan bersonau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Deddf;
mae "cynhyrchion pysgodfeydd" ("fishery products") yn cynnwys pysgod;
ystyr "dogfen drafnidiaeth" ("transport document") yw dogfen wedi'i pharatoi yn unol ag Erthygl 13 o Reoliad 2847/93;
ystyr "mesurau rheoli'r Gymuned" ("Community control measure") yw darpariaeth o Reoliad 2847/93 neu o Reoliad 1382/87 a bennir yng Ngholofn 1 o'r Atodlen;
ystyr "Rheoliad 2807/83" ("Regulation 2807/83") yw Rheoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 2807/83 a osododd allan reolau manwl ar gyfer cofnodi gwybodaeth ar ddalfeydd o bysgod Aelod-Wladwriaethau[4] fel a ddiwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 473/89[5], Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 2945/95[6], Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 395/98[7], Rheoliad y Comisiwn 1488/98[8] a Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 2737/99[9];
ystyr "Rheoliad 1382/87" ("Regulation 1382/87") yw Rheoliad y Comisiwn (CEE) Rhif 1382/87 a sefydlodd reolau manwl yngl n ag archwilio cychod pysgota[10];
ystyr "Rheoliad 2847/93" ("Regulation 2847/93") yw Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 a sefydlodd gyfundrefn reoli gymwys i'r polisi pysgodfeydd cyffredin[11] fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 2870/95[12], Penderfyniad y Cyngor (CE) 95/528[13], Rheoliad y Cyngor (CE) 2489/96[14], Rheoliad y Cyngor (CE) 686/97[15], Rheoliad y Cyngor (CE) 2205/97[16], Rheoliad y Cyngor (CE) 2635/97[17] a Rheoliad y Cyngor (CE) 2846/98[18];
ystyr "Rheoliad 1449/98" ("Regulation 1449/98") yw Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 1449/98 a osododd allan reoliadau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 i adroddiadau ymdrech[19],
ystyr "tramgwydd perthnasol" ("relevant offence") yw tramgwydd o dan:
(a) Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu
(b) unrhyw ddarpariaeth mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wnaed at ddibenion gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, sydd yn ddarpariaeth, yn rhinwedd adran 30(2A) o Deddf Pysgodfeydd 1981[20], y gellid cychwyn achos yngl n ag ef mewn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Mae "Cymru" i'w ddehongli yn unol ag Adrannau 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21].
(2) Yn y Gorchymyn hwn mae unrhyw gyfeiriad at goflyfr, datganiad neu ddogfen yn cynnwys, yn ogystal â choflyfr, datganiad neu ddogfen ysgrifenedig -
(i) unrhyw fap, plan, graff neu ddarlun,
(ii) unrhyw ffotograff,
(iii) unrhyw ddata, ym mha bynnag ffordd yr hatgynhyrchir, a gyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Reoliad 2847/93,
(iv) unrhyw ddisg, tâp, trac sain neu ddyfais arall sy'n recordio synau neu ddata arall (heb fod yn gymhorthion gweledol) fel bod modd eu hatgynhyrchu (gyda neu heb gymorth unrhyw gyfarpar arall), a
(v) unrhyw ffilm (gan gynnwys meicroffilm), negatif, tâp, disg neu ddyfais arall y mae un neu fwy o ddelweddau gweledol yn cael eu recordio arnynt fel bod modd eu hatgynhyrchu ohonynt.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn -
(a) at Atodlen yn gyfeiriad at Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a
(b) at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i offeryn o'r fath ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn;
(c) at Erthygl wedi'i rifo o Reoliad y Cyngor 2847/93 yn gyfeiriad i'r Erthygl a rifwyd felly yn y Rheoliad hwnnw wrth ei ddarllen gydag unrhyw reolau manwl ar gyfer dehongli'r Erthygl hwnnw a ragnodir yn yr eitem briodol yng ngholofn 2 o'r Atodlen.
(4) Ni ddylid darllen colofn 3 o'r Atodlen (sy'n dangos pwnc pob mesur rheoli'r Gymuned) mewn modd sy'n cyfyngu cwmpas unrhyw fesur rheoli'r Gymuned a dylid ei anwybyddu mewn perthynas ag unrhyw gwestiwn sy'n codi yngl n â dehongli'r Gorchymyn hwn.
Tramgwyddo
3.
- (1) Pan fydd, mewn cysylltiad ag -
(a) unrhyw gwch pysgota o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru[22];
(b) unrhyw fynediad i'r môr tiriogaethol cyfagos at Gymru gan unrhyw gwch pysgota; neu
(c) unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd, tir ac adeiladau neu gerbyd yng Nghymru,
mesur rheoli'r Gymuned a ragnodir yng ngholofn 1 o'r Atodlen yn cael ei dorri, neu fethiant i gydymffurfio ag ef, bydd y personau a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 5 o'r Atodlen yn euog o dramgwyddo.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) bydd unrhyw berson sydd yn honni cydymffurfio ag Erthyglau 6, 7, 8.1, 9.1, 9.2, 9.5, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28.2a, 28c, 28e neu 28f o Reoliad 2847/93 drwy roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei fod yn anghywir mewn manylyn perthnasol, neu sy'n rhoi gwybodaeth sy'n anghywir mewn manylyn perthnasol yn fyrbwyll, yn euog o dramgwydd.
(3) Mae paragraff (2) yn gymwys i roddi unrhyw wybodaeth -
(a) yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru),
(b) i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig sy'n cyflawni unrhyw swyddogaeth o dan Erthygl 6 neu 7 o'r Gorchymyn hwn,
(c) mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd gan gwch pysgod Prydeinig perthnasol, i'r awdurdodau cymwys mewn Aelod-Waldwriaeth arall o fewn ystyr Rheoliad 2847/93.
Cosbi
4.
- (1) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, yn agored -
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r swm a bennir yn yr eitem briodol yng ngholofn 4 o'r Atodlen;
(b) ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.
(2) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(1) o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, wedi'i seilio ar doriad o, neu fethiant i gydymffurfio ag -
(a) Erthyglau 19a.2, 20.1, 20a neu 21c.2 o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored -
(i) i fforffedu unrhyw rwyd neu offer pysgota arall y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu a ddefnddiwyd ar gyfer cyflawni'r tramgwydd, neu a ddefnyddiwyd ar gyfer dal unrhyw bysgod arall y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â hwy; a
(ii) i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu, ar gollfarn ddiannod yn unig, i ddirwy o ddim mwy na gwerth unrhyw bysgod y cyflawnwyd y dramgwydd mewn cysylltiad â nhw; neu
(b) Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13 neu 17.2, Erthyglau 19b a 19c neu Erthyglau 19e, 20.2, 28c (mewn perthynas â'r gofynion yngl n â choflyfr a nodi dalfeydd ar fwrdd y cwch) neu 28d o Reoliad 2847/93 hefyd yn agored i fforffedu unrhyw bysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw, neu i ddirwy o ddim mwy na gwerth y pysgod y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad â nhw.
(3) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan Erthygl 3(2) o'r Gorchymyn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, os y bu i'r achos gael ei ddwyn yng Nghymru yn rhinwedd adran 30(2A) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981, hwn yn agored -
(a) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na £50,000;
(b) ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.
Casglu Dirwyon
5.
- (1) Pan orfodir dirwy gan lys ynadon ar feistr, perchennog, siartrwr, person sy'n gyfrifol am gwch neu unrhyw berson arall a gollfernir gan y llys o dramgwydd perthnasol neu dramgwydd o dan Erthygl 10 o'r Gorchymyn hwn, caiff y llys, at ddibenion casglu'r ddirwy, -
(a) gyhoeddi gwarant atafaelu yn erbyn y cwch a oedd yn gysylltiedig â chyflawni'r dramgwydd a'i offer a'i haldiad ac unrhyw eiddo'r person a gollfarnwyd at bwrpas casglu swm y ddirwy; neu
(b) wneud gorchymyn i atal y cwch a'i offer a'i dalfa am gyfnod o ddim mwy na thri mis o ddyddiad y gollfarn neu'r dyddiad y telir y ddirwy neu y cesglir y ddirwy yn unol â gwarant o'r fath, p'un bynnag fydd yn digwydd gyntaf.
(2) Bydd Adrannau 77(1) a 78 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[23] (gohirio cyhoeddi gwarantau atafaelu, a diffygion ynddynt) yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddir o dan yr Erthygl hwn yn y modd y maent yn gymwys i warantau atafaelu a gyhoeddwyd o dan Ran III o'r Ddeddf honno.
(3) Pan fydd gorchymyn trosglwyddo dirwy mewn cysylltiad â thramgwydd perthnasol yn cael ei wneud o dan adran 90 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, Erthygl 95 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Gogledd Iwerddon) 1981[24] neu adran 222 o Ddeddf Gweithdrefn Troseddol (yr Alban) 1995[25] ac yn pennu rhanbarth llys ynadon yng Nghymru, bydd yr Erthygl hwn yn gymwys fel petai'r ddirwy wedi ei rhoi gan lys o fewn y rhanbarth llys ynadon hwnnw.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig mewn perthynas â chychod pysgota
6.
- (1) At ddibenion gorfodi Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig weithredu mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota arall sydd o fewn y môr tiriogaethol cyfagos at Gymru y pwerau a freiniwyd gan baragraffau (2) i (4) o'r Erthygl hwn.
(2) Caiff y swyddog fynd ar fwrdd y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo, a chaiff fynnu bod y cwch yn stopio a gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso un ai mynd ar fwrdd y cwch neu fynd oddi arni.
(3) Caiff y swyddog fynnu presenoldeb y meistr ac unrhyw berson arall sydd ar y cwch a chaiff wneud archwiliad ac ymholiadau sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol at y diben a nodwyd ym mharagraff (1) o'r Erthygl hwn ac, yn arbennig -
(a) caiff chwilio am bysgod neu offer pysgota ar y cwch a chaiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod pobl sydd ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar fwrdd y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfen yngl n â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar fwrdd y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw;
(c) at bwrpas canfod a oes tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen a gall fynnu bod unrhyw berson ar fwrdd y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(ch) arolygu, copïo a chadw meddiant yn ystod y chwilio, archwilio ac arolygu y darparwyd ar ei gyfer o dan yr Erthygl hwn, o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu a ddeuir o hyd iddo ar fwrdd y cwch,
(d) heb ragfarn i is-baragraffau (c) a (ch), gall fynnu bod y meistr ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y cwch yn cyflwyno unrhyw ddogfennau o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac
(dd) os oes gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn perthynas â'r cwch, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu a ddeuir o hyd iddhi ar fwrdd y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngl n â'r tramgwydd;
ond nid yw unrhyw beth yn is-baragraff (dd) uchod yn caniatáu cymryd a chadw unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar fwrdd y cwch, ac eithrio pan fydd y cwch yn cael ei ddal mewn porthladd.
(4) Pan fydd yn ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff -
(a) fynnu bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef yn mynd â'r cwch a'i griw i'r porthladd sy'n ymddangos i'r swyddog fel y porthladd cyfleus agosaf, neu chaiff y swyddog wneud hynny ei hun; a
(b) ddal, neu fynnu bod y meistr yn dal, y cwch yn y porthladd;
a phan fydd swyddog o'r fath yn dal, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei ddal, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig y bydd, neu fod, angen dal y cwch hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig ar y tir
7.
- (1) At bwrpas gorfodi darpariaethau Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth cyfatebol mewn gorchymyn sy'n ymestyn i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, wedi'i wneud er mwyn gweithredu mesur rheoli'r Gymuned, caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, yng Nghymru -
(a) fynd i mewn ac archwilio ar unrhyw adeg rhesymol unrhyw adeiladau a ddefnyddir ar gyfer rhedeg busnes mewn cysylltiad â gweithio cychod pysgota neu unrhyw weithgarwch sy'n gysylltiedig â hynny neu'n ategol ato neu mewn cysylltiad â thrin, cadw a gwerthu pysgod môr;
(b) cymeryd gydag ef neu hi unrhyw bersonau eraill sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ac unrhyw gyfarpar ac offer;
(c) archwilio unrhyw bysgod yn yr adeiladau a mynnu bod unrhyw bersonau yno'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwilio;
(ch) cyflawni yn yr adeiladau o'r fath unrhyw archwiliadau ac arbrofion eraill a fydd yn rhesymol angenrheidiol;
(d) mynnu na fydd neb yn cael gwared neu beri i rywun gael gwared ar unrhyw bysgod o adeiladau o'r fath yn ystod y cyfnod a fydd yn rhesymol angenrheidiol i sefydlu os cyflawnwyd tramgwydd perthnasol ar unrhyw adeg;
(dd) mynnu fod unrhyw berson yn yr adeiladau yn cyflwyno unrhyw ddogfennau yn eu gwarchodaeth neu feddiant mewn perthynas â dal, dadlwytho, cario, trawslwytho, gwerthu neu gael gwared ar unrhyw bysgod môr;
(e) (at bwrpas canfod a oes unrhyw berson wedi cyflawni tramgwydd perthnasol) chwilio'r adeiladau am unrhyw ddogfen o'r fath a mynnu bod unrhyw berson yn yr adeiladau'n gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(f) arolygu a chymeryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath a gyflwynir i'r swyddog neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau;
(ff) fynnu bod unrhyw berson addas neu gyfrifol yn cyflwyno unrhyw ddogfen o'r fath sydd ar system gyfrifiadurol mewn ffurf weladwy a darllenadwy, gan gynnwys mynnu bod unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chyflwyno mewn ffurf y gellir mynd a hi oddi yno; ac
(g) os oes gan y swyddog reswm dros amau bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni, caiff gymryd a chadw unrhyw ddogfen a gyflwynir neu y deuir o hyd iddi yn yr adeiladau at bwrpas galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos yngl n â'r tramgwydd.
(2) Bydd darpariaethau paragraff (1) uchod yn gymwys, gyda'r newidiadau angenrheidiol, mewn perthynas ag unrhyw dir a ddefnyddir mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r gweithgareddau a ddisgrifir ym mharagraff (1) uchod, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gerbyd y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig achos rhesymol dros gredu ei fod wedi cael ei ddefnyddio i gario cynhyrchion pysgodfeydd, yn yr un modd ac y maent yn gymwys i adeiladau, ac yn achos cerbyd maent yn cynnwys yr hawl i fynnu ar unrhyw adeg bod cerbyd yn stopio, ac, os oes angen, i gyfarwyddo'r cerbyd i ryw fan arall i hwyluso'r archwilio.
(3) Os yw ynad heddwch ar ôl derbyn datganiad ysgrifenedig ar lw wedi'i fodloni -
(a) bod sail rhesymol dros gredu bod unrhyw ddogfennau neu eitemau eraill y mae gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig hawl i'w harchwilio o dan yr Erthygl hon ar unrhyw dir neu yn unrhyw adeilad a bod eu harchwilio yn debyg o ddatgelu tystiolaeth bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni; a
(b) naill ai -
(i) bod mynediad i'r tir ac adeiladau wedi'i wrthod neu'n debyg o gael ei wrthod a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roddi i'r meddiannydd; neu
(ii) y byddai cais am fynediad neu roi hysbysiad o'r fath yn rhwystro bwriad y mynediad i'r tir ac adeiladau, neu fod y tir ac adeiladau yn wag, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro, ac y gallai rwystro'r bwriad petaent yn aros i'r meddianydd ddychwelyd;
fe gaiff yr ynad lofnodi warant fydd yn ddilys am fis, a fydd yn awdurdodi swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig i fynd ar y tir ac i'r adeiladau, gan ddefnyddio grym rhesymol petai angen, ac i fynd a'r bobl y mae'r swyddog yn credu sydd eu hangen.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig i atafaelu pysgod ac offer pysgota
8.
Yng Nghymru (sy'n cynnwys y môr tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru) caiff unrhyw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig, mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota, atafaelu -
(a) unrhyw bysgod (gan gynnwys unrhyw gynhwysydd sy'n dal y pysgod) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy, a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 6, 8.1, 9, 11, 12, 13, 17.2 neu 19a.2, Erthyglau 19b a 19c, Erthyglau 19e, 20.2 neu 21c.2 neu Erthyglau 28c neu 28d o Reoliad 2847/93;
(b) unrhyw bysgod a ddaliwyd gan rwyd y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; ac
(c) unrhyw rwyd neu offer pysgota arall -
(i) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau fod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad ag ef a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 20.1 neu 20a o Reoliad 2847/93; neu
(ii) y mae gan y swyddog sail resymol dros amau ei fod wedi cael ei ddefnyddio i ddal pysgod a bod tramgwydd perthnasol wedi'i gyflawni mewn cysylltiad â hwy a'r tramgwydd hwnnw wedi'i seilio ar dorri neu fethu a chydymffurfio ag Erthyglau 19a.2 neu 21c.2 o Reoliad 2847/93.
Amddiffyn swyddogion
9.
Ni fydd swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig neu berson sy'n ei gynorthwyo yn rhinwedd Erthyglau 6(2) neu 7(1)(b) o'r Gorchymyn hwn yn agored i achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wnaeth drwy arfer honedig o'r pwerau a freiniwyd ynddo neu ynddi yn rhinwedd Erthygl 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn os yw'r llys wedi'i fodloni fod y weithred wedi'i gwneud yn ddidwyll, bod sail resymol dros wneud hynny a'i bod wedi'i gwneud gyda gallu a gofal rhesymol.
Rhwystro etc.
10.
Bydd unrhyw berson sydd -
(a) heb esgus rhesymol yn peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig o dan y pwerau a freiniwyd ynddo yn rhinwedd Erthyglau 6, 7 neu 8 o'r Gorchymyn hwn;
(b) heb esgus rhesymol yn rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio â gofynion o'r fath; neu
(c) yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw un o'r pwerau hynny,
yn euog o dramgwydd ac yn agored -
(i) ar gollfarn ddiannod, i ddirwy o ddim mwy na'r uchafswm statudol; neu
(ii) ar gollfarn ar inditiad, i ddirwy.
Darpariaethau yngl n â thramgwyddau ac achosion
11.
- (1) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gorff corfforedig â chydsyniad neu gymeradwyaeth cyfarwyddydd, rheolydd, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff corfforedig, neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal â'r corff corfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(2) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan bartneriaeth gyda chydsyniad neu gymeradwyaeth partner, neu y gellir ei briodoli i fethiant partner, bydd, yn ogystal â'r bartneriaeth yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb yn unol â hynny.
(3) Pan brofir bod unrhyw dramgwydd o dan Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn wedi'i gyflawni gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) gyda chydsyniad neu oddefiad swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu neu y gellir ei briodoli i fethiant person o'r fath, bydd, yn ogystal a'r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o dramgwydd ac felly yn agored i achos a chosb.
Derbynioldeb coflyfrau a dogfennau eraill fel tystiolaeth
12.
- (1) Bydd unrhyw
(a) goflyfr a gedwir o dan Erthyglau 6, 17.2 neu 28c;
(b) ddatganiad a gyflwynir o dan Erthyglau 8.1, 11, 12, 17.2 neu 28f;
(c) adroddiad ymdrech a gwblhawyd o dan Erthyglau 19b ac 19c;
(ch) ddogfen a baratoir o dan Erthyglau 9 neu 13;
(d) ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth a fynnwyd ac a dderbynniwyd gan ganolfan monitro pysgodfeydd a sefydlwyd o dan Erthygl 3.7,
o Reoliad 2847/93, yn dystiolaeth o'r materion a ddatgenir ynddynt mewn unrhyw achos am dramgwydd perthnasol.
(2) At ddibenion paragraff (1) bydd "gwybodaeth a fynnwyd" yn golygu data sy'n gysylltiedig ag -
(a) manylion adnabod y cwch pysgota;
(b) lleoliad daearyddol diweddaraf y cwch pysgota, wedi'i gyfleu mewn graddau a munudau lledredd a hydred; ac
(c) y dyddiad a'r amser pan sefydlwyd y safle hwnnw, fel y cyfathrebir trwy system fonitro cychod sy'n seiliedig ar loeren a sefydlwyd o dan Erthygl 3.1 o Rheoliad 2847/93.
Diddymu
13.
Diddymir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994[26] a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996[27], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis Thomas
Y Llywydd
29 Mawrth 2000
ATODLENErthyglau 3 a 4(1) a (2)
MESURAU RHEOLI'R GYMUNED, Y BYDDAI EU TORRI YN DRAMGWYDD
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Colofn 3
|
Colofn 4
|
Colofn 5
|
Darpariaeth y Gymuned
|
Rheolau Manwl
|
Testun
|
Uchafswm y ddirwy ar gollfarn ddiannod
|
Y person atebol
|
1. Rheoliad 1382/87 |
(a) Erthygl 3.1
|
|
Gofynion i aros, symud neu gyflawni unrhyw weithred arall i hwyluso mynd ar y cwch. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. |
(b) Erthygl 3.2 ac Atodiad II
|
|
Darparu ysgol i fynd ar y cwch. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. |
(c) Erthygl 3.3
|
|
Defnyddio offer cyfathrebu a pherson i'w ddefnyddio. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch. |
2. Rheoliad 2847/93 |
(a) Erthygl 4.2
|
|
Gofynion i gydweithio i hwyluso archwilio cychod pysgota, tir ac adeiladau a cherbydau cario. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, y siartrwr (os oes un), ac unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y cwch, neu, yn ôl y galw, y person sydd â chyrifoldeb am y tir ac adeiladau neu'r cerbyd. |
(b) Erthygl 6
|
Erthygl 1 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddo |
Gofynion i gadw coflyfr mewn ffurf y gellir ei ddarllen ar gyfrifiadur neu ar bapur, i gychod pysgota 10 metr neu fwy o hyd, a'i gyflwyno i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yn wahanol, o fewn 48 awr o'r dadlwytho. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(c) Erthygl 7
|
|
Gofynion i gwch pysgota'r Gymuned sydd am lanio dalfa mewn Aelod - Wladwriaeth wahanol i'r un y mae'n cario ei baner i |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
|
(a) cydymffurfio â gofynion unrhyw gynllun porthladdoedd cofrestredig a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 38 o Reoliad 2847/93 gan yr Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth; neu
(b) os nad oes cynllun o'r fath wedi'i sefydlu, i roi o leia 4 awr o rybudd ymlaen llaw (neu 2 awr pan fo erthygl 1 o Reoliad 728/1999[28] yn gymwys) i awdurdod rheoli yr Aelod-Wladwriaeth y mae'n bwriadu dadlwytho'r ddalfa yn ei pharth o
|
|
|
|
|
(i) leoliad y dadlwytho ac amcangfyrif o'r amser cyrraedd; a
|
£50,000 |
|
|
|
(ii) maint y ddalfa o bob rhywogaeth sydd i'w dadlwytho.
|
£50,000 |
|
(ch) Erthygl 8.1
|
Erthygl 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni I, IIa, III, IV, a V. |
Gofynion i gyflwyno datganiad dadlwytho o faint dalfeydd pob rhywogaeth a'r ardal y daliwyd hwynt, wedi bob taith ac o fewn 48 awr o ddadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner ac Aelod-Wladwriaeth y dadlwytho, os yw'n wahanol, ar gyfer cychod 10 metr neu fwy o hyd. |
£50,000 |
Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(d) Erthygl 9.1 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.5
|
|
Gofynion i gyflwyno nodyn gwerthu wedi'i gwblhau o fewn 48 awr i'r gwerthiant, pan fydd y marchnata cyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd yn cael ei wneud gan ganolfan ocsiwnia neu gan berson neu gorff wedi'i awdurdodi. |
£50,000 |
Gwerthwr cyntaf y pysgod. |
(dd) Erthygl 9.2 wedi'i ddarllen gydag Erthyglau 9.3, 9.4, 9.4b, 9.5 a 13
|
|
Gofynion i gyflwyno'r canlynol cyn y bydd y cynhyrchion yn cael eu casglu: - |
£50,000 |
Yngl n aˆ'r gofynion i gyflwyno - |
|
|
(a) nodyn gwerthu wedi'i gwblhau (pan fydd cynhyrchion wedi eu gwerthu neu yn cael eu cynnig i'w gwerthu yn y man dadlwytho); neu
|
|
(a) nodyn gwerthiant wedi'i gwblhau - prynwr y pysgod;
|
|
|
(b) copi o ddogfen gario (pan fydd cynhyrchion wedi'u cynnig i'w gwerthu mewn lleoliad gwahanol i'r man dadlwytho); neu
|
|
(b) dogfen gario - cariwr y pysgod;
|
|
|
(c) datganiad cymryd trosodd wedi'i gwblhau (os na fydd y cynhyrchion i gael eu cynnig ar gyfer eu gwerthu neu y - bwriedir eu gwerthu ar ddyddiad diweddarach) pan fydd y marchnata cyntaf o'r cynhyrchion pysgodfeydd i'w wneud heb fod yn unol ag erthygl 9.1 o Reoliad 2847/93.
|
(c) datganiad cymeryd trosodd wedi'i gwblhau - perchennog y pysgod a'i asiant (os oes un).
|
|
(e) Erthygl 9.5 wedi'i ddarllen gydag Erthygl 9.2
|
|
Gofynion i -
(a) gyflwyno nodyn gwerthu o fewn 48 awr o'r dadlwytho neu'r marchnata cyntaf o gynhyrchion (ar wahân i achosion pan fydd rhaid cyflwyno nodyn gwerthu cyn casglu'r cynhyrchion) ac atodi, pan fydd angen, copi o'r ddogfen gario mewn perthynas â'r cynhyrchion;
|
£50,000 |
Yngl n aˆ'r gofynion i -
(a) nodyn gwerthiant, prynwr y pysgod;
|
|
|
(b) i gyflwyno datganiad cymeryd drosodd o fewn 48 awr o lanio'r dalfeydd (heblaw pan fydd angen cyflwyno'r datganiad cymeryd trosodd cyn casglu'r cynhyrchion);
|
£50,000 |
(b) datganiad cymeryd drosodd, perchennog y pysgod a'i asiant, os oes un;
|
|
|
(c) anfon copi o'r ddogfen gario i'r awdurdodau cymwys yn yr Aelod-Wladwriaeth lle digwyddodd y marchnata cyntaf, pan fydd y marchnata cyntaf yn digwydd mewn Aelod-Wladwriaeth wahanol i'r un y dadlwythwyd y pysgod ynddi.
|
£50,000 |
(c) dogfen gario, cariwr y pysgod.
|
(f) Erthygl 11
|
|
Gofynion i gadw a hysbysu manylion o unrhyw drawslwytho yn unrhyw le, a dadlwytho cyflenwad y tu allan i diriogaeth y Gymuned, mewn cysylltiad ag unrhyw gwch trawslwytho, y cwch sy'n derbyn a chwch trydedd gwlad. |
£50,000 |
Y meistr; y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(ff) Erthygl 12
|
|
Gofynion i gadw a hysbysebu o fewn 15 diwrnod o'r ddalfa, y manylion a fynnir o dan erthyglau 8 ac 11 o Reoliad 2847/93 pan fydd trawslwytho neu lanio yn digwydd fwy na 15 diwrnod wedi'r ddalfa. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(g) Erthygl 13
|
|
Pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu cario y tu allan i safle'r porthladd dadlwytho neu le mewnforio -
(a) (ac nid yw'r gwerthiant cyntaf wedi digwydd) gofynion i ddarparu dogfen gario wedi'i chwblhau a sicrhau ei bod yn mynd gyda'r cynhyrchion pysgodfeydd hyd y gwerthiant cyntaf;
(b) (a phan fydd datganiad wedi'i wneud fod y nwyddau wedi'u gwerthu yn unol ag erthygl 9 o Reoliad 2847/93) gofynion i brofi ar bob adeg drwy dystiolaeth ddogfennol bod gwerthiant wedi digwydd.
|
£50,000 |
Cariwr y pysgod |
(ng) Erthygl 17.2
|
Erthyglau 1 a 2 o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, II, IIa, IV, V, VI a VII iddo |
Mewn cysylltiad â dalfeydd a wnaed y tu allan i ddyfroedd y Gymuned, gofynion i - |
|
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
|
(a) cadw coflyfr yn cofnodi dalfeydd; a
|
£50,000(b) cyflwyno datganiad dadlwytho, i'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n cyhwfan ei baner a'r Aelod-Wladwriaeth y mae'n dadlwytho pysgod ynddi, os yw'n wahanol, pan fydd yn dadlwytho mewn porthladd yn y Gymuned; ac
|
£50,000 |
|
|
(c) cyflwyno manylion trawslwytho i gychod pysgota trydedd gwlad neu ddadlwytho mewn trydydd gwledydd.
|
£50,000 |
|
(h) Erthygl 19a.2
|
|
Gwahardd gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn erthygl 19a.1 ac 19a.1a o Reoliad 2847/93 mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn ac nas awdurdodwyd gan Aelod-Wladwriaethau yn unol ag Erthyglau 2, 3, 5 a 9 o Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 685/95 ar reoli ymdrechion pysgota mewn perthynas â rhai ardaloedd ac adnoddau pysgota'r Gymuned[29] Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 779/97 a gyflwynodd drefniadau ar gyfer rheoliymdrechion pysgota yn y Môr Baltig[30]. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(i) Erthyglau 19b ac 19c
|
Erthygl 3a o Reoliad 2807/83 ac Atodlenni VIIIa a VIIIb a Rheoliad 1449/98 |
Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gyflwyno adroddiad ymdrech sy'n cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd gan Erthygl 19b o Reoliad 2847/93 wedi'i ddarllen gyda Rheoliad 1449/98 - |
|
Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
|
(a) drwy un o'r dulliau a ragnodwyd yn erthygl 19c.1 (wedi'i ddarllen gydag Erthygl 19c.3) o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn nyfroedd y Wladwriaeth y cofrestrwyd hwy ynddi, yn unol â threfniadau a fabwysiadwyd o dan ail gil-osodiad Erthygl 19c.2 o Reoliad 2847/93;
|
£50,000 |
|
|
|
(b) i roi gwybod am dano i'r awdurdodau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93;
|
£50,000 |
|
|
(c) ar yr amser neu'r amserau a ragnodwyd yn Erthygl 19c.1 o Reoliad 2847/93 neu -
|
£50,000 |
|
|
|
|
(i) yn achos cychod sy'n cyflawni pysgota trawsbarthol fel y'i diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19b.2 a 19c.2, cil osodiad cyntaf, Rheoliad 2847/93;
(ii) yn achos cychod sy'n treulio llai na 72 o oriau ar y môr, a ragnodwyd yn Erthygl 19c.2, trydydd cil-osodiad, o Rheoliad 2847/93 (gan gynnwys gofynion, yn yr achos hwnnw, i roi gwybod am newidiadau sy'n digwydd yn y wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad).
|
|
|
(l) Erthyglau 19e.1 a 19e.2
|
Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddo |
Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn i gofnodi mewn coflyfrau yr wybodaeth (yngl n ag amser a dreuliwyd ar y môr) a ragnodwyd yn Erthygl 19e.1 o Reoliad 2847/93 neu, yn achos cychod sy'n pysgota'n drawsbarthol fel y diffiniwyd yn Erthygl 19b.2, ac a ragnodwyd yn Erthygl 19e.2 o Reoliad 2847/93. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(ll) Erthygl 19.3
|
Erthygl 1a o Reoliad 2807/83 ac Atodiadau I, IVa a VIa iddo |
Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn a awdurdododd gyflawni gweithgareddau pysgota a anelwyd at rywogaethau dyfnforol i gofnodi mewn coflyfrau adroddiad ymdrech yn cynnwys yr wybodaeth a ragnodwyd yn Erthygl 19b o Reoliad 2847/93. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(m) Erthygl 20.1
|
|
Gofynion i gadw rhwydau ar gychod pysgota'r Gymuned, pan na fyddant yn cael eu defnyddio. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(n) Erthygl 20.2
|
Gofynion mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned i gofnodi mewn coflyfrau a datganiadau dadlwytho bob newid mewn maint rhwydwaith a chyfansoddiad y ddalfa ar adeg y newid. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
(o) Erthygl 20a
|
|
Gofynion mewn perthynas a chario, defnyddio a chadw offer ar gychod pysgota'r Gymuned sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau neu fwy na 18 metr o hyd cyflawn sy'n cyflawni gweithgareddau pysgota yn yr ardaloedd a bennwyd yn Erthygl 19a.1 o Reoliad 2847/93. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(p) Erthygl 21c.2
|
|
Gwaharddiad mewn perthynas â chychod pysgota'r Gymuned rhag cyflawni gweithgareddau pysgota mewn pysgodfa o'r dyddiad, a bennir gan Gomisiwn y Gymuned Ewropeaidd, y tybir bod uchafswm ymdrech bysgota'r Wladwriaeth honno ar gyfer y bysgodfa honno wedi ei gyrraedd. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(ph) Erthygl 28.2a
|
|
Gofynion i brofi tarddiad daearyddol neu darddiad dyframaethol y cynhyrchion, pan fydd cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu cynnig i'w gwerthu, eu cadw neu eu cario, yn llai na lleiafswm y maint a osodir ar gyfer y rhywogaeth honno yn unol ag Erthygl 4 o Reoliad 3760/92. |
Yr Uchafswm Statudol |
Y person sy'n gyfrifol am werthu, cadw, neu gario'r pysgod. |
(r) Erthygl 28b.1
|
|
Gwaharddiad ar ddal, cadw ar fwrdd cwch, neu brosesu cynhyrchion pysgodfeydd gan gychod pysgota trydedd gwlad oni bai eu bod wedi eu trwyddedu a bod caniatâd pysgota arbennig wedi'i roi iddynt yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad y Cyngor (CE) 1627/94[31]. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(rh) Erthygl 28c
|
|
Gofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd sy'n gweithredu ym mharth pysgota'r Gymuned - |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
|
|
(a) cofnodi mewn coflyfr yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rheoliad 6 o Reoliad 2847/93;
|
£50,000 |
|
|
|
(b) i gydymffurfio â system ar gyfer adrodd dalfeydd a gedwir ar y cwch;
|
£50,000 |
|
|
|
(c) i gydymffurfio â gorchmynion yr awdurdodau sy'n gyfrifol am fonitro a chwilio;
|
Yr Uchafswm Statudol |
|
|
|
(ch) i gydymffurfio â'r rheolau ar farcio ac adnabod cychod pysgota a'u hoffer.
|
Yr Uchafswm Statudol |
|
(s) Erthygl 28d
|
|
Gwahardd cychod pysgota trydydd gwledydd rhag pysgota, cadw ar fwrdd y cwch, trawslwytho a dadlwytho cyflenwad sy'n ddarostyngedig i gwota o'r dyddiad, a bennwyd gan Gomisiwn y Cymunedau Ewropeaidd, pan dybir bod y cyflenwad wedi'i ddihysbyddu. |
£50,000 |
Y meistr, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
(t) Erthygl 28e
|
|
Gofynion i gwch bysgota trydedd gwlad sydd am ddadlwytho dalfa mewn Aelod-Wladwriaeth
(a) i roi o leiaf 72 awr o rybudd i awdurdod rheoli'r Aelod-Wladwriaeth y bwriedir dadlwytho pysgod yn ei pharth o -
(i) amser cyrraedd y porthladd dadlwytho,
|
£50,000 |
|
Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
|
|
(ii) y dalfeydd a gedwir ar fwrdd y cwch,
|
£50,000 |
|
|
|
(iii) y parth neu'r parthau lle cafwyd y dalfeydd;
|
£50,000 |
|
|
|
(b) i gael ei awdurdodi gan awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth cyn y bydd dadlwytho'n dechrau.
|
£50,000 |
|
(th) Erthygl 28f
|
|
Gofynion i gychod trydydd gwledydd gyflwyno, o fewn 48 awr o lanio, ddatganiad o -
(a) lwyth y cynhyrchion pysgodfeydd a laniwyd yn ôl eu rhywogaeth; a
(b) y dyddiad a'r lleoliad lle cafwyd y ddalfai
awdurdod cymwys yr Aelod-Wladwriaeth y dadlwythwyd y cynhyrchion pysgodfeydd ynddi.
|
£50,000 |
Y meistr, ei gynrychiolydd, y perchennog, neu'r siartrwr (os oes un). |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn.)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diddymu Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) 1994 ("Gorchymyn 1994") a Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Diwygio) 1996, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.
Sefydlwyd y gyfundrefn reoli ar gyfer y polisi pysgodfeydd cyffredinol gan Reoliad y Cyngor (CEE) Rhif 2847/93 ("Y Rheoliad Rheoli"). Ceir manylion o dan y cyfeirnod (O.J. Rhif L261, 20.10.93, t.1).
Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Cyngor (CE) 2846/98. (Gweler O.J. Rhif L192, 8.7.98, t.4).
Er mwyn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Cyngor, mae'r Gorchymyn hwn yn bennaf yn ail-ddeddfu darpariaethau Rheoliad 1994 gan gyflwyno rhai darpariaethau newydd yn ogystal.
Mae'r Gorchymyn yn creu tramgwyddau mewn cysylltiad â thoriadau o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ac yn Erthygl 3 ohono.
Mae'r diwygiadau i'r Rheoliad Rheoli sydd wedi'u gwneud gan Reoliad y Cyngor (CE) rhif 2846/98 yn cynnwys yn arbennig -
1.
y gofyn i gadw coflyfr yn gysylltiedig â llwythi o bysgod dros 50kg;
2.
y gofyn i gychod sydd am ddadlwytho dalfeydd i Aelod-Wladwriaeth gwahanol i Aelod-Wladwriaeth eu baner gydymffurfio â gofynion cynllun porthladdoedd dynodedig (os oes un) neu roi 4 awr o rybudd i awdurdodau cymwys yr Aelod-Wladwriaeth dadlwytho o'u bwriad i ddadlwytho;
3.
rheolau newydd yngl n â chyflwyno nodiadau gwerthu, datganiadau trafnidiaeth a datganiadau cymryd trosodd; a
4.
estyn nifer o ofynion i gychod pysgota trydydd gwledydd.
Gwelir cosbau am dorri darpariaethau'r Gymuned yn Erthyglau 4 o'r Gorchymyn a'r Atodlen iddo.
At ddibenion gorfodi mesurau rheoli'r Gymuned a benodwyd yn yr Atodlen, mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i swyddogion pysgodfeydd morol Prydain, yn gweithredu tu mewn i Gymru (sy'n cynnwys y moroedd tiriogaethol sy'n gyfochrog â Chymru), y pwerau canlynol: -
- i fynd ar dir neu i mewn i adeiladau;
- i fynd ar gychod pysgota;
- i stopio ac archwilio cerbydau sy'n cario pysgod;
- i orfodi cyflwyno dogfennau;
- i fynd â chwch i'r porthladd cyfleus agosaf; ac
- i atafaelu pysgod a chyfarpar pysgota.
(Erthyglau 6, 7 ac 8 o'r Gorchymyn).
Gwneir darpariaeth hefyd ar gyfer erlyn tramgwyddwyr a chosbi unrhyw un a geir yn euog o roi gwybodaeth anghywir neu o rwystro swyddog pysgodfeydd morol Prydeinig (Erthyglau 3 a 10 o'r Gorchymyn). Ar hyn o bryd, yr uchafswm statudol a bennir yn yr Atodlen yw £5,000.
Mae'r Gorchymyn yn darparu pwerau i gasglu dirwyon a roddir gan lysoedd ynadon (Erthygl 5 o'r Gorchymyn).
Mae Erthyglau 9, 11 a 12 yn cynnwys darpariaethau atodol.
Notes:
[1]
1981 p.29. Gweler adran 30(3) am ddiffiniadau "cyfyngiad Cymunedol gorfodadwy" (enforceable Community restriction), "rhwymedigaeth Cymunedol gorfodadwy" (enforceable community obligation) ac "y Gweinidogion" (the Ministers), fel y diwygiwyd gan Atodlen 2 paragraff 68(5) i Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820). Mae Erthygl 3(1) o Orchymyn Deddf yr Alban (Swyddogaethau Cydgyfeiriol) 1999 (O.S. 1999/1592) ac Atodlen 1 iddo yn darparu bod y swyddogaethau o dan adran 30(2) o Ddeddf 1981 i gael eu gweithredu gan y Gweinidogion, yn gydgyfeiriol â Gweinidogion yr Alban, mewn perthynas â chychod pysgota Prydeinig perthnasol o fewn y parth Albanaidd; a chychod pysgota Albanaidd o fewn ffiniau pysgota Prydain ond y tu allan i'r parth Albanaidd (am "y parth Albanaidd" gweler adran 126 o Ddeddf yr Alban 1998 (p.46) a Gorchymyn Ffiniau Dyfroedd Cyfagos yr Alban 1999 (O.S. 1999/1126)).back
[2]
Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifennydd Gwladol yngl n â physgota môr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o dan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y bônt yn arferadwy mewn perthynas â Chymru.back
[3]
1995 p.21.back
[4]
OJ Rhif L276 10.10.83, t.1.back
[5]
OJ Rhif L53 25.2.89, t.34.back
[6]
OJ Rhif L308, 21.12.95, t.18.back
[7]
OJ Rhif L50, 20.2.98, t.17.back
[8]
OJ Rhif L196, 14.7.98, t.3.back
[9]
OJ Rhif L328, 22.12.99. t.54.back
[10]
OJ Rhif L132, 21.5.87, t.11.back
[11]
OJ Rhif L261, 20.10.93, t.1.back
[12]
OJ Rhif L301, 14.12.95, t.1.back
[13]
OJ Rhif L301, 14.12.95, t.35.back
[14]
OJ Rhif L338, 28.12.96, t.12.back
[15]
OJ Rhif L102, 19.4.97, t.1.back
[16]
OJ Rhif L304, 7.11.97, t.1.back
[17]
OJ Rhif L356, 31.12.97, t.14.back
[18]
OJ Rhif L358, 31.12.98, t.5.back
[19]
OJ Rhif L192, 8.7.98, t.4.back
[20]
A fewnosodwyd gan Orchymyn Deddf yr Alban Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820).back
[21]
1998 p.38.back
[22]
At ddibenion y Gorchymyn hwn dehonglir "môr tiriogaethol cyfagos at Gymru" yn unol â darpariaethau adran 1 o Ddeddf Môr Tiriogaethol 1987 (p.47) a gyda unrhyw ddarpariaethau a wnaed, neu sydd ag effaith fel petaent wedi eu gwneud, o dan yr adran honno. Bydd y ffin rhwng y darnau hynny o Aberoedd yr Hafren a'r Ddyfrdwy sydd i'w hystyried fel môr tiriogaethol cyfagos at Gymru, a'r darnau sydd ddim, i'w pennu yn unol ag Erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[23]
1980 p.43.back
[24]
O.S. 1981/1675 (G.I. 26).back
[25]
1995 p.46.back
[26]
O.S. 1994/451.back
[27]
O.S. 1996/2.back
[28]
Darparodd Rheoliad y Comisiwn (CE) Rhif 728/1999, (yn unol ag Erthygl 7(3) o Rheoliad 2847/93), am gyfnod o hysbysiad ar gyfer cychod pysgota'r Gymuned oedd yn ymwneud â gweithgareddau pysgota ym Môr y Baltig, y Skagerrak a'r Kattegat (O.J. Rhif L93, 8.4.1999, t.10).back
[29]
OJ Rhif L71, 31.3.95, t.5. Mae'r darpariaethau a osodir yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad 685/95 yn gymwys i gychod y Gymuned sydd fwy na 15 metro hyd rhwng sythlinau yn unig. O dan Erthygl 19a.2 o Reoliad 2847/93 bernir bod cychod sydd fwy na 15 metr o hyd rhwng sythlinau yn gydradd â chychod dros 18 metr o hyd cyflawn. Mae Erthygl 19f.3 o Reoliad 2870/95 yn mynnu bod Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd yn sicrhau bod Aelod-Wladwriaethau yn gyfrifol am reoli a bod ganddynt ar gael manylion yngl n ag adnabod cychod pysgota sydd â mynediad i'w dyfroedd.back
[30]
OJ Rhif L113, 30.4.97, t.1.back
[31]
Mae Rheoliad y Cyngor (CE) Rhif 1627/94 yn gosod allan darpariaethau cyffredinol yngl n â chaniatâd pysgota arbennig. (OJ Rhif L17, 6.7.94, t.7).back
English version
|