Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16D, 17, 18(1) ac (1A) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1]: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) (Cymru) 1996[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. - (1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn. (2) Yn rheoliad 4 (cyfyngiadau ar arfer swyddogaethau gan Awdurdodau Iechyd) ar ôl paragraff (3A) mewnosodir y paragraff canlynol -
(1) In exercising the functions of the National Assembly for Wales under section 4 of the Act[3] a Health Authority in Wales may enter into an NHS contract for the provision of high security psychiatric services with the following providers only -
(b) an approved NHS trust
and may not arrange with any other person or body (including voluntary organisations) for that person or body to provide such services.
(b) in England, by the Secretary of State.".
(3) Bydd i'r diwygiadau i Atodlen 1 i'r prif Reoliadau a wnaed gan Reoliadau Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 2000[6] effaith mewn perthynas â Chymru. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a Threfniadau Gweinyddu) 1996 drwy ddarparu i awdurdodau iechyd yng Nghymru arfer swyddogaeth y Cynulliad Cenedlaethol o ddarparu cyfleusterau ysbyty yn unol ag adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r gwasanaethau perthnasol mewn perthynas â phersonau y gellir eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac yr ydys o'r farn eu bod angen triniaeth o dan amodau o ddiogelwch mawr oherwydd eu tueddiadau peryglus, treisgar neu droseddol. Cyfyngir ar arfer y swyddogaeth o ddarparu gwasanaethau seiciatrig o ddiogelwch mawr gan y Rheoliadau hyn i gontractau NHS gydag Awdurdod Ysbyty Ashworth, Broadmoor neu Rampton neu ymddiriedolaeth NHS yng Nghymru a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu yn Lloegr a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Notes: [1] 1977 p.49. Amnewidiwyd adrannau 16D, 17 a 18(1) ac (1A) gan Ddeddf Iechyd 1999(p.8)("Deddf 1999"), adran 12. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan y darpariaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back [2] Diwygiwyd O.S.1996/708 gan O.S.1998/646, 1999/628, 1999/1902 a 2000/267.back [3] Amnewidir adran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 gan Ddeddf 1999, adran 41(1) sydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2000 (gweler O.S. 1999/2793).back [4] Gweler O.S. 1966/488 a 489 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/90.back [5] Mewnosodir paragraff 10(2) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 gan Ddeddf 1999, adran 41(3) sydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2000 (gweler 1999/2793).back
|