Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo, gan Adran 63 o Ddeddf Iechyd 1999[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Practisiau Deiliad-cronfa) (Trosglwyddo Asedau, Arbedion, Hawliau a Rhwymedigaethau a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000. (2) Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu'n wahanol -
ii) y tynnwyd eu cydnabyddiaeth yn unol â rheoliad 32 o Reoliadau Diwyigio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Practisiau Deiliad-cronfa) 1999[5]); neu
b) a oedd yn aelodau o bractis deiliad-cronfa gweddilliol;
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ac eithrio lle'r ymddengys y gwrthwyneb, mae unrhyw gyfeiriad at Awdurdod Iechyd yn gyfeiriad at yr Awdurdod Iechyd perthnasol, a ddehonglir yn unol ag Adran 15(1B) ac (1C)[11] o Ddeddf 1997 fel yr oedd mewn grym yn union cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Trosglwyddo Asedau 2. - (1) Trosglwyddir y swm dynodedig, neu unrhyw ran ohono sy'n weddill, am y flwyddyn ariannol 1999-2000, neu unrhyw flwyddyn flaenorol, p'un a ddaliwyd ef gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa neu gan yr Awdurdod Iechyd, ar 1 Ebrill 2000 i'r Awdurdod Iechyd. (2) Ar 1 Ebrill 2000 amnewidir yr Awdurdod Iechyd fel deiliad cyfrif y cyfrif deiliad-cronfa. (3) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn ymdrin â'r swm dynodedig a drosglwyddwyd o dan baragraff (1) yn unol ag erthyglau 4 i 8. Trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau 3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) trosglwyddir -
(b) unrhyw rwymedigaethau yr oedd cyn-aelodau practis deiliad-cronfa yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellid eu gorfodi yn eu herbyn yn union cyn y dyddiad hwnnw,
i'r Awdurdod Iechyd ar y dyddiad hwnnw, neu yn ôl y digwydd, gellir eu gorfodi ar y dyddiad hwnnw neu wedyn gan yr Awdurdod Iechyd neu yn ei erbyn.
(b) taliadau o dan gytundebau prydlesu a hurbwrcasu er mwyn prynu nwyddau a defnyddiau.
Defnyddio asedau a drosglwyddir 4. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fydd -
(b) yn unol ag erthyglau 3, 5 neu 6, gellir gorfodi unrhyw rwymedigaeth yn erbyn yr Awdurdod Iechyd, neu mae unrhyw gost i'w thalu gan yr Awdurdod Iechyd,
bydd yr Awdurdod Iechyd yn sicrhau bod y rhwymedigaeth neu'r gost yn y lle cyntaf yn cael ei thalu o'r asedau a drosglwyddwyd.
(b) y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a gadwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa fel y'u nodir yn erthygl 6; (c) y gost o fod yn atebol am hawliau a rhwymedigaethau a drosglwyddwyd i'r Awdurdod Iechyd yn unol ag erthygl 3.
Costau a dynnir wrth baratoi cyfrifon y practisiau deiliad-cronfa gweddilliol
(b) taliadau naill ai -
(ii) i ymarferydd meddygol cofrestredig ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol i gleifion y practis deiliad-cronfa gweddilliol blaenorol sydd wrthi'n paratoi'r cyfrifon;
(c) ffioedd archwilwyr;
(2) Caiff yr Awdurdod Iechyd secondio unrhyw un o'i swyddogion neu ei weithwyr hefyd i gynorthwyo cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa gweddilliol wrth baratoi cyfrifon blynyddol y practis deiliad-cronfa ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, ac yn yr achos hwnnw bydd yn talu cost y secondiad.
(b) yn cael ei thynnu cyn 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny yn unol â chydsyniad ysgrifenedig a roddwyd cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhwym i dalu am rwymedigaeth cyn-aelodau o'r practis deliaid-cronfa o dan baragraff (1) hyd at yr isafswm o unrhyw derfyn sydd ar y swm i'w ddefnyddio a nodir yn y cydsyniad ysgrifenedig neu ym mharagraffau 3(B) a 3(C) o reoliad 25[12] o Reoliadau 1996 fel y cafodd y paragraffau hynny effaith ar y dyddiad y rhoddwyd cydsyniad yr Awdurdod Iechyd.
(b) gweithredu yn ôl gofyniad rhesymol yr Awdurdod Iechyd er mwyn osgoi, dadlau, gwrthwynebu, cyfaddawdu, amddiffyn neu apelio yn erbyn yr hawliad.
Cyfrifo a dosrannu'r balans terfynol 7. - (1) Pan fodlonir Awdurdod Iechyd fod yr holl rwymedigaethau a'r costau a drosglwyddwyd iddo neu y mae'n gyfrifol amdanynt wedi eu rhyddhau yn unol ag erthyglau 4, 5 a 6, bydd yr Awdurdod Iechyd yn penderfynu a fydd unrhyw ran o'r asedau a drosglwyddwyd iddo o dan erthygl 2 yn aros. (2) Bydd yr Awdurdod Iechyd yn rhoi gwybod i bob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y gyfran nas gwariwyd o asedau a drosglwyddwyd, gan gynnwys unrhyw arbedion o bractis deiliad-cronfa gweddilliol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000, fel balans terfynol cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa. (3) Pan gynhwysir un neu ragor o'r cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa ar restrau meddygol un neu fwy o'r Awdurdodau Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, bydd balans terfynol y practis deiliad-cronfa hwnnw'n cael ei ddosrannu rhwng yr Awdurdod Iechyd perthnasol a'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny yn unol â pharagraffau (5) i (7) a bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn trosglwyddo i'r Awdurdod neu i'r Awdurdodau Iechyd eraill hynny y gyfran honno o'r balans terfynol y mae gan bob un hawl iddi. (4) Pan ddosrennir y balans terfynol o bractis deiliad-cronfa blaenorol rhwng Awdurdodau Iechyd bydd yr Awdurdod Iechyd perthnasol yn rhoi gwybod i bob Awdurdod Iechyd sy'n ymwneud â'r mater a phob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa drwy hysbysiad am y dosraniad a swm cyfran pob cyn-aelod. (5) Hawl pob Awdurdod Iechyd fydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa sydd ar ei restr feddygol a gyfrifir yn unol â pharagraffau (6) a (7). (6) Pan oedd cytundeb ysgrifenedig mewn grym ar 31 Mawrth 2000, rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa a wnaeth ddarpariaeth benodol i ddosrannu'r arbedion rhwng yr aelodau hynny, dosrennir y balans terfynol yn unol â'r cytundeb hwnnw. (7) Pan nad oedd cytundeb o'r fath mewn grym ar 31 Mawrth 2000, dosrennir y balans terfynol rhwng cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa, fel y bydd cyfran pob cyn-aelod o'r practis deiliad-cronfa o'r balans terfynol yr un gyfradd o falans terfynol cyflawn y practis â'r gyfradd yr oedd ei faint rhestr yn ei ddwyn i swm holl feintiau rhestr cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa ar y dyddiad dosrannu. (8) Pan fydd cyn-aelod o bractis deiliad-cronfa yn marw neu'n ymddeol neu'n gadael y practis ar ôl dosrannu balans terfynol y practis -
(b) pan nad oes gytundeb o dan baragraff (6) neu pan nad yw'r cytundeb yn gwneud darpariaeth ar gyfer y digwyddiad perthnasol, bydd cyfran y cyn-aelod i'w benderfynu gan yr Awdurdod Iechyd ac ni fydd erthygl 8 yn gymwys i'r gyfran honno.
(9) Yn yr erthygl hon ystyr "dyddiad dosrannu" yw -
(b) 31 Mawrth 2000, yn achos practisiau deiliad-cronfa gweddilliol a oedd yn dal i gael eu cydnabod ar y dyddiad hwnnw.
Dylanwad dros y balans terfynol
(b) pan na wnaethpwyd cytundeb balans cyn dyddiad y cytundeb wrth ryddhau'r rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau practis deiliad-cronfa at y dibenion a bennir ym mharagraff (4) ond hyd at fwyafswm ar gyfer pob blwyddyn ariannol o £90,000, a sicrheir y bydd y swm hwnnw ar gael -
(ii) pan fydd paragraff (9)(b) yn gymwys, ym mhob un o'r blynyddoedd ariannol 2000-2001 i 2002-2003, gan ychwanegu'r swm ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000 at y swm y trefnir y bydd ar gael yn unrhyw un o'r blynyddoedd hynny.
(2) Ac eithrio lle mae cytundeb balans yn dal i fod mewn grym ar y dyddiad hwnnw, pan fydd unrhyw ran o'r balans terfynol heb ei wario ar 1 Ebrill 2003, ni fydd gofyn bellach i'r Awdurdod Iechyd ei wario i ryddhau rhwymedigaethau a dynnwyd gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa.
(b) pan fydd angen dosrannu'r balans terfynol yn unol ag erthygl 7, mae'r Awdurdod Iechyd wedi anfon hysbysiadau yn ôl gofynion erthygl 7(4).
(4) Ni cheir defnyddio'r balans terfynol ond at un neu ragor o'r dibenion canlynol -
(ii) sy'n gwella cysur neu gyfleuster cleifion cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa,
(b) taliadau i -
(ii) ymgynghorwyr yn darparu cyngor ar ddeiet, traul alcohol, ysmygu neu faterion iechyd personol eraill,
(c) prynu cyfrifiaduron, yn cynnwys caledwedd a meddalwedd
(ii) cynghori ar ledaenu addysg iechyd i gleifion,
(e) mewn perthynas ag unrhyw adeilad y mae'r cyn-aelodau yn cynnal eu practis ohono -
(ii) adeiladu estyniad,
lle mae'r gwelliant neu'r estyniad arfaethedig yn gyson â'r cynllun buddsoddi a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod Iechyd sy'n arfer swyddogaethau yngln â chleifion practis deiliad-cronfa blaenorol.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), lle tynnodd cyn-aelod o bractis deiliad-cronfa allan o'r practis deiliad-cronfa cyn 1 Ebrill 1999 mewn amgylchiadau ar wahân i farwolaeth neu ymddeoliad a bod cyfran o arbedion y practis deiliad-cronfa wedi'i throsglwyddo i'r Awdurdod Iechyd yn unol â rheoliad 9(5) o Reoliadau 1996[14], caiff unrhyw arbedion felly sy'n parhau gyda'r Awdurdod Iechyd ar 1 Ebrill 2000 eu gwario ar unrhyw un o'r dibenion a nodir ym mharagraff (4) y gall y cyn-aelod ofyn amdano ac ni fydd paragraff (1) yn gymwys.
(b) yn achos cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa a oedd yn bractisiau deiliad-cronfa gweddilliol, yw 1 Ebrill 2001.
Paratoi cyfrifon 9. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd y ddyletswydd yn adran 98(2B)(c) o Ddeddf 1977[15] yn gymwys i gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a oedd yn bractis deiliad-cronfa gweddilliol (gan gynnwys y cyn-aelodau o bractis felly a roes y gorau i'w cydnabyddiaeth yn unol â rheoliad 11 o Reoliadau 1996[16]) yngln â'r flwyddyn ariannol 1999 - 2000 fel y mae'n gymwys i flynyddoedd ariannol eraill. (2) Pan dynnir cydnabyddiaeth yn ystod y flwyddyn ariannol 1999-2000, oddi wrth gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa yn unol â rheoliadau 13 ac 14 neu 15 ac 16 o Reoliadau 1996, cyflawnir y ddyletswydd a osodir o dan adran 98(2B)(c) o Ddeddf 1977 gan yr Awdurdod Iechyd. (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd adran 98(2B) o Ddeddf 1977 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na ddiddymwyd darpariaethau y deiliad-cronfa. (4) Bydd y cyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a oedd yn bractis deiliad-cronfa gweddilliol yn cyflwyno cyfrifon blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999-2000 i'r Awdurdod Iechyd ar 13 Mai 2000 neu cyn hynny. Archwilio cyfrifon 10. Bydd unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar gyn-aelodau practis deiliad-cronfa gan Ran II o Ddeddf Comisiwn Archwilio 1998[17] nas cyflawnwyd erbyn 1 Ebrill 2000 yn cael ei chyflawni gan gyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa yn unol â darpariaethau'r Rhan honno ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir o bosibl gan y Cynulliad Cenedlaethol fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu. Ymchwilio i gynion gan Gomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd 11. Gellir ymchwilio i gyn a wnaed i Gomisiynydd y Gwasanaeth Iechyd dros Gymru o dan Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993[18] mewn perthynas â chyn-aelodau practis deiliad-cronfa p'un a wnaed y gyn cyn diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa neu wedi hynny, neu os na chwblhawyd y mater, bydd yr ymchwiliad yn parhau gan y Comisiynydd hwnnw yn unol â'r Ddeddf honno fel pe bai effaith adran 3(1B) o'r Ddeddf honno yn parhau. Ymchwilio i gynion eraill 12. Bydd y drefn ymchwilio i gynion a sefydlwyd o dan baragraff 47A o Atodlen 2 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[19] ac a weithredir odanynt yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw g yn yngln â defnydd y swm dynodedig gan gyn-aelodau practis deiliad-cronfa, p'un a'i a wnaed y g yn cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, neu ar y dyddiad y daw i rym neu wedi hynny, ac, er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa, bydd cyn-aelodau'r practis deiliad-cronfa'n cydweithredu â'r ymchwiliad i'r gyn gan yr Awdurdod Iechyd yn ôl gofynion paragraff 47B o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny. Adennill cyfraniad at y swm dynodedig 13. Pan oedd hawl gan Awdurdod Iechyd, cyn 1 Ebrill 2000, i adennill cyfran o daliad gan Awdurdod Iechyd arall o dan adran 15(4) o Ddeddf 1990[20], er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa bydd hawl gan yr Awdurdod Iechyd hwnnw i adennill y swm hwnnw yn unol â'r adran honno ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol; ac at ddibenion adennill o'r fath bydd adran 15(4) o Deddf 1990 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai wedi'i diddymu. Amrywio a phenderfynu'r swm dynodedig 14. - (1) Bydd y drefn ar gyfer amrywio swm dynodedig a arfaethir o dan baragraffau (4A) i (4C) o reoliad 18 o Reoliadau 1996[21]) yn gymwys, er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa, i'r swm dynodedig a arfaethir am y flwyddyn ariannol 1999 - 2000. (2) Bydd y drefn ar gyfer penderfynu swm dynodedig o dan baragraff (5) a (6) o reoliad 18 o Reoliadau 1996[22] yn gymwys i'r swm dynodedig a gafodd ei amrywio ar gyfer y flwyddyn ariannol 1999 - 2000, er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa. (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd paragraff (4A) i (6) o reoliad 18 o Reoliadau 1996 yn parhau yn gymwys fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu. Ceisiadau heb eu cwblhau yngln ag arbedion 15. - (1) Bydd unrhyw geisiadau a wnaed cyn 1 Ebrill 2000 i'r Awdurdod Iechyd i ddefnyddio'r swm dynodedig ar gyfer diben a bennwyd yn rheoliad 25(2) o Reoliadau 1996 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa yn cael eu penderfynu gan yr Awdurdod Iechyd, a bydd y penderfyniad hwnnw'n ddarostyngedig i hawl apêl, yn unol â rheoliad 25[23]. (2) Bydd unrhyw apêl a wnaed cyn 1 Ebrill 2000 i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu pan fo'r hawl i apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn codi ar 1 Ebrill 2000 neu wedi hynny, yn erbyn gwrthodiad yr Awdurdod Iechyd i gydsynio â defnyddio unrhyw ran o'r swm dynodedig at ddiben a bennwyd yn rheoliad 25(2) o Reoliadau 1996 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa yn cael ei phenderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 25. (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), bydd paragraffau (3) i (7) o reoliad 25 o Reoliadau 1996 yn parhau i fod yn gymwys fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu. Adennill symiau a gamddefnyddiwyd 16. - (1) Er gwaethaf diddymu'r darpariaethau deiliad-cronfa, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ar 1 Ebrill 2000 ddefnyddio'r drefn yn rheoliad 26 o Reoliadau 1996[24] i benderfynu a gafodd unrhyw ran o'r swm dynodedig ei gamddefnyddio gan gyn-aelodau o bractis deiliad-cronfa a gall yr Awdurdod Iechyd yn unol â'r Rheoliad hwnnw adennill unrhyw swm a ddefnyddwyd a bydd rheoliad 26 o Reoliadau 1996 yn gymwys i'r penderfyniadau hynny fel pe na bai'r darpariaethau deiliad-cronfa wedi'u diddymu. (2) Bydd paragraff (1) yn gymwys p'un a gychwynnwyd y gweithdrefnau i benderfynu a gafodd swm ei gamddefnyddio neu i adennill y fath swm cyn 1 Ebrill 2000 neu beidio. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[25]. D. Elis Thomas Llywydd y Cynulliad Cenadlaethol 27 Mawrth 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â diddymu, drwy adran 1 o Ddeddf Iechyd 1999, system ddeiliad-cronfa gan Ymarferydd Cyffredinol yng Nghymru, fel y'u sefydlwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990. Yn benodol, mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer trosglwyddo asedau, hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â deiliad-cronfa i'r Awdurdod Iechyd perthnasol o bractis deiliad-cronfa blaenorol (erthyglau 2 a 3) ac ar gyfer defnydd yr Awdurdod Iechyd o'r asedau hynny drwy fod yn atebol am y rhwymedigaethau a drosglwyddir iddo a'r rheini a gedwir gan y cyn-aelodau o bractisiau deiliad-cronfa (erthyglau 4 a 6). Pan fydd asedau yn dal yno ar ôl i holl rwymedigaethau'r practis deiliad-cronfa blaenorol gael eu cyflawni, mae'r balans i'w ddosrannu, lle mae cyn-aelodau o bractis mewn ardal Awdurdod Iechyd heblaw'r Awdurdod Iechyd perthnasol, rhwng yr Awdurdodau Iechyd hynny (erthygl 7), a beth bynnag mae i'w gymhwyso gan yr Awdurdod Iechyd at y dibenion a bennwyd yn unol â dymuniadau cyn-aelodau'r practis (erthygl 8). Yn ychwanegol, yn Rhannau V a VI, gwneir darpariaeth fel bod y rhwymedigaethau yngln â chyfrifo, er gwaethaf diddymu deiliad-cronfa, yn dal yn gymwys hyd nes bod cyfrifon terfynol wedi cael eu harchwilio a'u cyflwyno. Gellir o hyd archwilio i gynion mewn perthynas â chynnal practis deiliad-cronfa. Gellir datrys y materion sydd dros ben yngln â defnyddio'r arbedion o ddeiliad-cronfa a gellir adennill symiau dynodedig a gamddefnyddiwyd, ar 1 Ebrill 2000 neu cyn hynny. Notes: [1] 1999 p.8. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd o dan adran 63 o Ddeddf Iechyd 1999 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gwnaed y diwygiad perthnasol gan adran 66(5)(c) o Ddeddf Iechyd 1999.back [2] Diwygiwyd rheoliad 25 (1) gan O.S. 1999/261, rheoliad 22. Diwygiwyd rheoliad 25(2) gan O.S.1997/747 rheoliad 14; gan O.S. 1998/693 a diwygiwyd rheoliad 11 gydag eithriadau gan O.S. 1999/261, rheoliadau 22 a 29 yn ôl eu trefn.back [3] O.S. 1993/567; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/693. Diddymwyd yr offerynnau hynny gan O.S 1998/706.back [6] Diwygiwyd adrannau 14, 15, 16 ac 17 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") gan, yn eu trefn, baragraffau 73, 74, 75 a 76 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995(p.17) ac, ar gyfer adrannau 14 ac 15, paragraff 65 o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46); diddymwyd yr adrannau hynny i gyd gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), adran 1, a ddaeth i rym gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) Cymru 2000, O.S 2000/1026(Cy.62) (C.26).back [9] (ch) Estynwyd adran 29 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) ("Deddf 1977") gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a diwygiwyd hi gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 1, paragraff 42(b); gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2; gan Ddeddf Feddygol 1983 (p.54), adran 56(1) ac Atodlen 5, paragraff 16(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraff 8.back [10] O.S 1996/706, a ddiwygiwyd gan O.S 1997/747, 1997/1678, 1998/693 a 1999/261.back [11] Ychwanegwyd adran 15(1B) o Ddeddf 1977 gan adran 12(1) o Ddeddf 1990 ac amnewidiwyd hi gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46) Atodlen 2, paragraff 4(3); ychwanegwyd is-adran 1(C) o Ddeddf 1997 gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 6.back [12] Mewnosodwyd paragraffau 3B a 3C o reoliad 25 gan O.S. 1998/693, Rheoliad 11(4). Diwygiwyd paragraff 3(B) gan O.S. 1999/261, rheoliad 22(7) ac amnewidiwyd paragraff 3(C) gan O.S. 1999/261, rheoliad 22(8).back [13] O.S. 1992/635, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r erthygl hon.back [14] Diwygiwyd rheoliad 9(5) o Reoliadau 1996 gan O.S. 1997/747, rheoliad 7 a 1998/693, rheoliad 4. Diddymwyd paragraffau (2) i (6) o reoliad 9 gan O.S. 1999/261, rheoliad 13, ond yn rhinwedd rheoliad 29(1) o'r offeryn hwnnw maent yn parhau i fod yn gymwys lle tynnodd aelod o'r practis deiliad-cronfa allan o'r practis hwnnw mewn amgylchiadau heblaw marwolaeth neu ymddeoliad cyn 1 Ebrill 1999.back [15] Mewnosodwyd adran 98(2B)(c) o Ddeddf 1977 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 20(2)(b), ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 50(c);back [16] Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/261, rheoliad 14.back [18] Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd (p.46) ("Deddf 1993"), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd (Diwygio) 1996 (p.5). Hepgorwyd cyfeiriad at adran 3(1B) o Ddeddf 1993 gan Ddeddf Iechyd 1999, Adran 65(1) ac Atodlen 4, paragraff 85 fel y doed â hi i rym gan Orchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2000 (OS. 2000/1026 (Cy.62) (c.26)).back [19] O.S. 1992/635. Mewnosodwyd paragraffau 47A a 47B gan O.S. 1996/702, rheoliad 5.back [20] Amnewidiwyd adran 15(4) o Ddeddf 1990 gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 74(d) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997, Atodlen 2, paragraff 65(5).back [21] (ch) Mewnosodwyd paragraffau (4A) i (4C) gan O.S. 1997/1678, rheoliad 3(2).back [22] Diwygwyd paragraff (5) gan O.S. 1997/1678, rheoliad 3, paragraffau (3) a (4) a mewnosodwyd paragraff (6) ganddo.back [23] Diwygwyd rheoliad 25 gan O.S. 1997/747, 1997/1678, 1998/693 a 1999/261.back [24] Diwygwyd rheoliad 26 o Reoliadau 1996 gan O.S. 1999/261, rheoliad 24.back
|