Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1, 2(2) a 6A(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru[3]: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 20 Mawrth 2000. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygiadau i'r prif Reoliadau
The effect of successful proposals or appeals against new rateable values for 1st April 2000 will be backdated to 1st April 2000 provided that they are made before 1st October 2000. The effect of successful proposals or appeals made after 30th September 2000 but before 1st April 2001 will be backdated to a day falling on or after 1st October 2000. The effect of successful proposals or appeals made in a later financial year will be backdated to a day falling on or after 1st April in that financial year. Information about the circumstances in which a change in rateable value may be proposed and how such a proposal may be made is available from the local valuation office shown above. Further information about the new appeal arrangements may be obtained from name of billing authority or from the National Assembly for Wales, Local Taxation Team, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ.".
(6) Ym mharagraff 1 o Ran I o Atodlen 2 yn lle'r nodyn â'r pennawd "Transitional Arrangements" rhowch y canlynol -
Transitional arrangements will phase in the effect of significant changes in liability which arise from the 2000 revaluation of non-domestic property. Where appropriate, these arrangements will operate until March 2003. There are limits on the percentage by which bills may increase or decrease each year. Special rules deal with changes in rateable value. Further information about transitional arrangements may be obtained from name of billing authority or from the Valuation Office Agency website at www.voa.gov.uk".
(7) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn y nodyn â'r pennawd "Trethi Annomestig" yn lle "y Llywodraeth" rhowch "Gynulliad Cenedlaethol Cymru".
Bydd effaith cynigion neu apelau llwyddiannus yn erbyn y gwerthoedd ardrethol newydd ar gyfer 1 Ebrill 2000 yn cael ei hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2000 ar yr amod eu bod yn cael eu gwneud cyn 1 Hydref 2000. Bydd effaith cynigion neu apelau llwyddiannus sydd wedi'u gwneud ar ôl 30 Medi 2000 ond cyn 1 Ebrill 2001 yn cael ei hôl-ddyddio i ddiwrnod sy'n syrthio ar neu ar ôl 1 Hydref 2000. Bydd effaith cynigion neu apelau llwyddiannus a wneir mewn blwyddyn ariannol ddiweddarach yn cael ei hôl-ddyddio i ddiwrnod sy'n syrthio ar neu ar ôl 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol honno. Mae gwybodaeth am yr amgylchiadau y gellir cynnig newid yn y gwerth ardrethol odanynt ac am sut y gellir gwneud cynnig o'r fath ar gael o'r swyddfa brisio leol a ddangosir uchod. Gellir cael gwybodaeth bellach am yr apelau newydd oddi wrth enw'r awdurdod bilio neu oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Tîm Trethiant Lleol, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.".
(11) Ym mharagraff 1 o Ran II o Atodlen 2 yn lle'r nodyn â'r pennawd "Trefniadau trosiannol" rhowch y canlynol -
Bydd trefniadau trosiannol yn graddol-gyflwyno effaith newidiadau sylweddol i'r hyn sy'n daladwy sy'n deillio o ail-brisio eiddo annomestig yn 2000. Lle bo'n briodol, bydd y trefniadau hyn ar waith tan fis Mawrth 2003. Ceir terfynau ar ganran y cynnydd neu'r gostyngiad y gellir eu cael ar filiau pob blwyddyn. Mae rheolau arbennig yn trafod newidiadau yn y gwerth ardrethol. Gellir cael gwybodaeth bellach am y trefniadau trosiannol oddi wrth enw'r awdurdod bilio neu oddi ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn www.voa.gov.uk.".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn darparu yngln â chynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi sy'n cael eu cyhoeddi gan awdurdodau bilio yng Nghymru a bod gwybodaeth yn yr iaith briodol yn cyd-fynd â'r hysbysiadau hynny. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r wybodaeth esboniadol y mae rhaid i awdurdodau bilio yng Nghymru ei darparu i adlewyrchu'r ffaith bod swyddogaethau perthnasol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bod hereditamentau sy'n ddarostyngedig i ardrethi annomestig yn cael eu hailbrisio yn 2000. Notes: [1] 1988 p.41; gwnaed y diwygiadau perthnasol i Atodlen 9 gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, Atodlen 5, paragraff 44, a chan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, Atodlen 13, paragraff 87.back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [4] O.S. 1993/252, y gwnaed diwygiadau perthnasol iddo gan O.S. 1995/284.back
|