BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 Rhif 2244 (Cy.176)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072244w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2244 (Cy.176)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Gorffennaf 2007 
  Wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Gorffennaf 2007 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2007 

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1].

     Mae Gweinidogion Cymru yn cael eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau yn y maes milfeddygol er amddiffyn iechyd y cyhoedd[2].

     Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi a Chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.
    
2. —(1) Diwygier Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006[4] yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn lle Atodlen 6 (deunydd risg penodedig, cig wedi'i adfer yn fecanyddol a dulliau cigydda) rhodder yr Atodlen a geir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Dirymu
     3. Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2007[5] wedi'u dirymu.


G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Gorffennaf 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 2(2)


YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 6 I REOLIADAU ENSEFFALOPATHÏAU SBYNGFFURF TROSGLWYDDADWY (CYMRU) 2006






    " ATODLEN 6
    Rheoliad 9


    Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei wahanu drwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda




    CYNNWYS

    1. Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys
    2. Dyletswyddau awdurdodau lleol o ran siopau cigyddion
    3. Hyfforddiant
    4. Cig sydd wedi ei wahanu drwy ddulliau mecanyddol
    5. Pithio
    6. Cynaeafu tafodau
    7. Cynaeafu cig y pen
    8. Tynnu deunydd risg penodedig
    9. Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy
    10. Defaid a geifr mewn lladd-dy
    11. Stampiau ŵ yn a geifr ifanc
    12. Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr
    13. Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
    14. Awdurdodi a chofrestru siopau cigyddion gan awdurdodau lleol
    15. Tynnu deunydd risg penodedig mewn safleoedd torri a awdurdodwyd o dan 13(1)
    16. Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig ar safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a)
    17. Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig mewn siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14
    18. Cig o Aelod-wladwriaeth arall
    19. Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig
    20. Anifeiliaid Cynllun
    21. Diogelwch deunydd risg penodedig
    22. Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl
    23. Diffiniadau o ddeddfwriaeth y Gymuned
    Penodi'r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys
         1. —(1) Heblaw mewn siopau cigyddion mae'n rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd weithredu mewn perthynas â'r Atodlen hon y dyletswyddau sydd ar yr aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11.1 a phwynt 11.2 o Atodiad V i Reoliad TSE y Gymuned fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007[6] ("Rheoliadau Diwygiedig TSE y Gymuned"), ac mae'n rhaid iddi roi awdurdod at ddibenion pwynt 4.3(a) o'r Atodiad hwnnw.

        (2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae arolygydd mewn lladd-dy neu safle torri yn —

      (a) filfeddyg swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno ac fe'i penodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd;

      (b) gweithiwr cynorthwyol swyddogol sydd â chymwysterau yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 i weithredu yn y swyddogaeth honno, wedi ei benodi gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn gweithio o dan awdurdod a chyfrifoldeb milfeddyg swyddogol; neu

      (c) unrhyw berson arall a benodir at y pwrpas gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

        (3) Gall penodiad fel arolygydd fod yn gyfyngedig i bwerau a dyletswyddau sydd wedi eu nodi yn y penodiad.

        (4) Mae gan unrhyw berson sy'n gweithredu pwerau arolygydd o dan yr Atodlen hon yr amddiffyniad a nodir yn rheoliad 18(3).

    Dyletswyddau awdurdodau lleol o ran siopau cigyddion
         2. Rhaid i awdurdodau lleol gyflawni dyletswyddau'r Aelod-wladwriaeth ym mhwynt 11.1 a phwynt 11.2 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned o ran yr Atodlen hon i'r graddau y mae'n ymwneud â thynnu mewn siopau cigyddion y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo roi awdurdodiadau a rhoi effaith i gofrestriadau at ddibenion pwynt 4.3(b) yn y Rhan honno.

    Hyfforddiant
         3. Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw ladd-dy, safle torri neu siop cigydd lle y mae deunydd risg penodedig yn cael ei dynnu —

      (a) sicrhau bod staff yn cael unrhyw hyfforddiant sydd ei angen i sicrhau bod y meddiannydd yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau yn yr Atodlen hon; a

      (b) cadw cofnod am hyfforddiant pob person tra bydd y person yn gweithio yno,

    ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

    Cig wedi'i wahanu drwy ddulliau mecanyddol
         4. —(1) Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 5 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned (mesurau ynghylch cig wedi ei wahanu yn fecanyddol) yn euog o dramgwydd.

        (2) Mae unrhyw berson sy'n defnyddio unrhyw gig sydd wedi'i wahanu drwy ddulliau mecanyddol a gynhyrchir yn groes i'r pwynt hwnnw wrth baratoi unrhyw fwyd ar gyfer ei werthu i'w fwyta gan bobl neu unrhyw fwydydd anifeiliaid yn euog o dramgwydd.

        (3) Yn y paragraff hwn ystyr "cig wedi'i wahanu drwy ddulliau mecanyddol" yw'r cynnyrch a geir wrth grafu cig oddi ar esgyrn sy'n cynnal cnawd ar ôl tynnu'r esgyrn, gan ddefnyddio dulliau mecanyddol sy'n arwain at golli neu addasu strwythur ffibr y cyhyrau.

    Pithio
         5. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 6 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned (mesurau ynghylch rhwygo'r meinweoedd) yn euog o dramgwydd.

    Cynaeafu tafodau
         6. Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 7 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned (cynaeafu tafodau oddi wrth anifeiliaid buchol) yn euog o dramgwydd.

    Cynaeafu cig pen
         7. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 8.1 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned (cynaeafu cig pen buchol) yn euog o dramgwydd.

    Tynnu deunydd risg penodedig
         8. —(1) Mae unrhyw berson sy'n tynnu deunydd risg penodedig mewn unrhyw fangre ar wahân i fangre lle y caniateir tynnu'r deunydd risg penodedig hwnnw o dan bwynt 4.1, neu bwynt 4.3(a) neu bwynt 4.3(b) o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned yn euog o dramgwydd.

        (2) Yn achos safle torri, mae tynnu'r canlynol yn dramgwydd —

      (a)

        (i) unrhyw ran o asgwrn cefn, sydd yn ddeunydd risg penodedig, unrhyw anifail buchol sydd dros 30 mis oed pan gaiff ei gigydda; neu

        (ii) mewn amgylchiadau pan fo'r cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig wedi ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ran o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig ac sy'n dod o unrhyw anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda,

      onid yw'r safle wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(a); neu

      (b) llinyn asgwrn cefn unrhyw ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed pan gaiff ei chigydda neu y mae un neu fwy o'i dannedd blaen parhaol wedi torri drwy gig y dannedd, onid yw'r safle wedi'i awdurdodi at ddiben y cyfryw weithred o dynnu o dan baragraff 13(1)(b).

        (3) Yn achos siop cigydd, mae tynnu unrhyw ran o asgwrn cefn anifail buchol, a honno'n rhan sy'n ddeunydd risg penodedig, os nad yw'r siop wedi'i hawdurdodi a'i chofrestru at y diben hwnnw o dan baragraff 14, neu os yw'r cig sy'n cynnwys y deunydd risg penodedig wedi'i ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, yn dramgwydd.

    Anifeiliaid buchol mewn lladd-dy
         9. —(1) Pan gaiff anifail buchol ei gigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i'r rhannau hynny o asgwrn y cefn sy'n ddeunydd risg penodedig) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

        (2) Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi unrhyw gig sy'n cynnwys y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol —

      (a) yn achos unrhyw anifail sydd dros 30 mis oed pan gaiff ei gigydda, i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) neu i Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned; a

      (b) yn achos unrhyw anifail sydd yn 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda, i safle torri, neu i siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14, neu i Aelod-wladwriaeth arall yn unol â phwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned.

        (3) Rhaid i feddiannydd y lladd-dy nodi cig sy'n cynnwys asgwrn cefn nad yw'n ddeunydd risg penodedig yn unol â phwynt 11.3 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned, a rhaid iddo neu iddi ddarparu gwybodaeth yn unol â phwynt 11.3(b) yn y Rhan honno.

        (4) Ni chaniateir i unrhyw berson gynnwys streipen las yn y label y cyfeirir ato yn Erthygl 13 o Reoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1760/2000 sydd yn sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ar gyfer labelu eidion a chynhyrchion eidion ac sydd yn dirymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97[7] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006[8] ac eithrio yn unol â phwynt 11.3(a) o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned.

        (5) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

    Defaid a geifr mewn lladd-dy
         10. —(1) Pan gaiff defaid neu eifr eu cigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i linyn yr asgwrn cefn) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

        (2) Mewn achos dafad neu afr dros 12 mis oed adeg cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri drwy gig y dannedd, mae'n rhaid i'r meddiannydd cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda —

      (a) dynnu llinyn yr asgwrn cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem;

      (b) anfon y cig i safle torri sydd wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b), neu

      (c) yn unol â'r paragraff cyntaf o bwynt 10.1 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned anfon y cig i safle torri mewn aelod-wladwriaeth arall cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gydag awdurdod cymwys yr aelod-wladwriaeth sy'n ei dderbyn, ac yr anfonir y cig yn unol â'r cytundeb hwnnw.

        (3) Yn is-baragraff (2)(c), ystyr "safle torri" ("cutting plant") yw mangre —

      (a) a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel mangre o'r fath o dan Erthygl 31(2) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004; neu

      (b) sy'n gweithredu fel mangre o'r fath o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004 hyd onis cymeradwyir felly.

        (4) Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

    Stampiau ŵ yn a geifr ifanc
         11. —(1) Gall arolygydd stampio dafad neu afr mewn lladd-dy gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc os nad oes gan yr anifail flaenddant parhaol sydd wedi torri drwy gig y dannedd ac os nad yw'r ddogfennaeth, os oes dogfennaeth o'r fath, sy'n gysylltiedig â'r anifail yn dangos ei fod dros 12 mis oed adeg cigydda.

        (2) Mae'n rhaid i'r stamp y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) farcio'r cig gyda chylch 5 centimetr mewn diamedr gyda'r canlynol mewn llythrennau bras 1 centimetr o ran uchder—

      (a) "MHS"; a

      (b) mewn achos defaid, "YL"; neu

      (c) mewn achos gafr, "YG".

        (3) Mae'n drosedd i unrhyw berson ar wahân i arolygydd ddefnyddio'r stamp neu farc sy'n debyg i'r stamp, neu iddynt feddu cyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio.

        (4) Mae'n drosedd marcio dafad neu afr gyda stamp oen ifanc neu stamp gafr ifanc neu stamp sy'n debyg iddynt oni bai ei fod yn anifail y caniatawyd ei farcio yn unol ag is-baragraff(1).

    Tynnu llinyn asgwrn y cefn o ddefaid a geifr
         12. Mae'n drosedd tynnu llinyn asgwrn y cefn neu unrhyw ran ohono o ddafad neu afr sydd dros 12 mis oed adeg eu cigydda neu ddafad neu afr oedd ag un neu fwy o flaenddannedd parhaol a oedd wedi torri drwy gig y dannedd (ar wahân i ddibenion archwiliad milfeddygol neu wyddonol) ac eithrio drwy —

      (a) hollti holl asgwrn y cefn yn hydredol; neu

      (b) tynnu darn hydredol o holl asgwrn y cefn gan gynnwys llinyn asgwrn y cefn.

    Awdurdodi safleoedd torri gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
         13. —(1) Rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd awdurdodi safle torri i dynnu —

      (a) y rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid buchol sydd dros 30 mis oed pan gânt eu cigydda, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig; neu

      (b) llinyn asgwrn cefn defaid a geifr sydd dros 12 mis oed pan gânt eu cigydda neu y mae un neu fwy o'u dannedd blaen parhaol wedi torri drwy gig y dannedd,

    os yw'r Asiantaeth wedi'i bodloni y cydymffurfir â darpariaethau Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.

        (2) Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13 a 14 yn gymwys, ond mae pob cyfeiriad at Weinidogion Cymru i'w ddehongli fel cyfeiriad at yr Asiantaeth.

    Awdurdodi a chofrestru siopau cigyddion gan awdurdodau lleol
         14. —(1) Rhaid i awdurdod lleol awdurdodi siop cigydd i dynnu'r rhannau hynny o asgwrn cefn anifeiliaid sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gânt eu cigydda, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, a rhaid iddo gofrestru'r siop at y diben hwnnw, os yw'r awdurdod wedi'i fodloni y cydymffurfir â darpariaethau Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned ac â'r Atodlen hon.

        (2) Mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 10, 12, 13, a 14 yn gymwys, ond rhaid dehongli pob cyfeiriad at Weinidogion Cymru fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol dan sylw.

    Tynnu deunydd risg penodedig ar safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)
         15. Bydd meddiannydd safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1) yn tramgwyddo oni fydd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cig gyrraedd y safle, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud oddi ar y safle, yn tynnu o'r cig —

      (a) pob deunydd risg penodedig o fath y mae'r awdurdodiad yn ymwneud ag ef; a

      (b) os yw'r cig yn deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda, y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig.

    Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig ar safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a)
         16. Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd safle torri nas awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a) yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig a hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a beth bynnag cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.

    Tynnu asgwrn cefn anifail buchol sy'n ddeunydd risg penodedig mewn siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14
         17. Yn achos cig sy'n deillio o anifail buchol sy'n 30 mis oed neu'n iau pan gaiff ei gigydda ac na chafodd ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, bydd meddiannydd siop cigydd a awdurdodwyd ac a gofrestrwyd o dan baragraff 14 yn tramgwyddo oni fydd yn tynnu o'r cig y rhannau hynny o'r asgwrn cefn sy'n ddeunydd risg penodedig cyn i'r cig gael ei symud o'r fangre.

    Cig o Aelod-wladwriaeth arall
         18. At ddibenion pwynt 10.1 a phwynt 10.2 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned , os caiff cig sy'n cynnwys y rhannau hynny o asgwrn cefn anifail buchol, sef y rhannau hynny sy'n ddeunydd risg penodedig, ei ddwyn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r sawl sy'n ei fewnforio ei anfon ar ei union i safle torri a awdurdodwyd o dan baragraff 13(1)(a), ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

    Staenio a gwaredu deunydd risg penodedig
         19. —(1) Bydd meddiannydd unrhyw fangre lle y caiff deunydd risg penodedig ei dynnu sy'n methu â chydymffurfio â phwynt 3 o Atodiad V i Reoliad Diwygiedig TSE y Gymuned (marcio a gwaredu) yn euog o dramgwydd.

        (2) At ddibenion y pwynt hwnnw —

      (a) mae staenio'n ymwneud â thrin y deunydd (p'un ai drwy ei drochi, ei chwistrellu neu daenu drwy ddull arall) gan ddefnyddio —

        (i) toddiant 0.5% yn ôl pwysau/cyfaint o'r asiant lliwio Patent Blue V (E131, 1971 Colour Index Rhif 42051[9]; neu

        (ii) y cyfryw asiant lliwio arall ag y gallo Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo'n ysgrifenedig; a

      (b) rhaid taenu'r staen yn y fath fodd fel y bo'r lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy —

        (i) dros y cyfan o'r wyneb a dorrwyd a'r rhan fwyaf o'r pen yn achos pen dafad neu afr; a

        (ii) yn achos pob deunydd risg penodedig arall, dros wyneb cyfan y deunydd.

        (3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd risg penodedig y bwriedir ei ddefnyddio yn ôl fel y darperir yn Erthygl 1(2)(b) ac (c) o Reoliad TSE y Gymuned.

    Anifeiliaid Cynllun
         20. —(1) Ar ôl i'r deunydd risg penodedig gael ei dynnu o anifail buchol a gafodd ei gigydda at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96, sydd yn mabwysiadu mesurau cynnal eithriadol ar gyfer y farchnad eidion yn y Deyrnas Unedig[10] fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005[11] rhaid i'r gweddill (ac eithrio'r croen) gael ei staenio ar unwaith yn unol â pharagraff 1 a hynny yn y fath fodd fel y bydd y lliwiad yn hollol weladwy ac yn parhau'n hollol weladwy dros wyneb cyfan y deunydd.

        (2) Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

    Diogelwch deunydd risg penodedig
         21. —(1) Hyd oni thraddodir neu y gwaredir y deunydd o'r fangre lle y'i tynnwyd, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau bod deunydd risg penodedig yn cael ei gadw'n ddigon ar wahân i unrhyw fwyd, bwydydd anifeiliaid neu gynnyrch cosmetig, fferyllol neu feddygol a'i gadw mewn cynhwysydd anhydraidd ac iddo gaead a bod arno label yn nodi —

      (a) bod ynddo deunydd risg penodedig; neu

      (b) bod ynddo sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 a bod y geiriau "For disposal only" yn cael eu cynnwys ar y label.

        (2) Rhaid iddo sicrhau bod y cynhwysydd yn cael ei olchi'n lân cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol bob tro y caiff ei wagu, a'i fod yn cael ei ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

        (3) Bydd methu cydymffurfio â'r paragraff hwn yn dramgwydd.

    Gwaharddiad ar gyflenwi deunydd risg penodedig i'w fwyta gan bobl
         22. Mae gwerthu neu gyflenwi'r canlynol yn dramgwydd —

      (a) unrhyw ddeunydd risg penodedig, neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys deunydd risg penodedig a hwnnw'n ddeunydd neu'n fwyd i'w fwyta gan bobl; neu

      (b) unrhyw ddeunydd risg penodedig i'w ddefnyddio i baratoi unrhyw fwyd i'w fwyta gan bobl.

    Diffiniadau deddfwriaeth y Gymuned
         23. Yn yr Atodlen hon —

      ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[12] a hynny fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006[13] ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor[14], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005[15], Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005[16] a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005[17];

      ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[18] a hynny fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005[19] a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005; ac

      ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau[20] a hynny fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 (fel y'i diwygiwyd yntau gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2005) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 (fel y'i diwygiwyd yntau gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2005)".



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2007 (O.S. 2007/2043 Cy. 168 ) ac yn eu hail-wneud gyda diwygiadau. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1226), sy'n darparu ar gyfer gorfodi, o ran Cymru, Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygir gan yr offerynnau Cymunedol a geir yn Atodlen 1 i O.S. 2006/1226 ac fel y'i darllenir gyda hwy.

     2. Y diwygiad yw bod Atodlen 6 ddiwygiedig yn cael ei mewnosod yn O.S. 2006/1226.

     3. Mae Atodlen 6 i O.S. 2006/1226 ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer gorfodi Atodlen XIA i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (ynghylch deunydd risg penodedig, cig wedi'i adfer yn fecanyddol a dulliau cigydda).

     4. Yn rhinwedd Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) 999/2001, roedd y darpariaethau a geid yn Atodiad XIA i'r Rheoliad hwnnw o natur drosiannol hyd nes y mabwysiedid penderfyniad o dan Erthygl 5(2) neu (4) o'r Rheoliad hwnnw sy'n dyfarnu ar statws BSE gwledydd yn unol â'u risg BSE, ac ar ôl hynny byddai Atodiad V i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (a gyflwynwyd gan Erthygl 8 o'r Rheoliad hwnnw) yn gymwys o ran deunydd risg penodedig.

     5. Mae Penderfyniad bellach wedi ei fabwysiadu o dan Erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (Penderfyniad y Comisiwn 2007/453/EC sy'n sefydlu statws BSE Aelod-wladwriaethau neu drydydd gwledydd neu ranbarthau ohonynt yn unol â'u risg BSE (OJ Rhif L 172, 30.6.2007, t.84)).

     6. Mae Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007 sy'n diwygio Atodiadau II, V, VI, VIII, IX a XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a chael gwared ar enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L164, 26.6.2007, t.7) wedi diddymu Atodiad XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 ac mae wedi mewnosod Atodiad V diwygiedig ("deunydd risg penodedig") yn y Rheoliad hwnnw.

     7. Mae Atodlen 6 ddiwygiedig i O.S. 2006/1226 yn darparu ar gyfer gorfodi Atodiad V diwygiedig yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 722/2007.

     8. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn hwn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2003/1246. Yn rhinwedd adran 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy'r dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol Parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[4] O.S. 2006/1226 Cy. 117back

[5] (O.S. 2007/ 2043) Cy. 168back

[6] OJ Rhif L164,26.6.2007, t.7.back

[7] OJ Rhif L 204, 11.8.200, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodi y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithuania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt (OJ Rhif L 236, 23.9.2003, t. 33).back

[8] OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.back

[9] Cyhoeddir Colour Index gan The Society of Dyers and Colourists at Perkin House, 82 Grattan Road, Bradford, West Yorkshire BD1 2JB.back

[10] OJ Rhif L 99, 20.4.1996. t.14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t.25.)back

[11] OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t.25.back

[12] OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[13] OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.back

[14] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[15] OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.back

[16] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.back

[17] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.back

[18] OJ Rhif L 139 , 30.4.2004, t. 206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 83).back

[19] OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.back

[20] OJ Rhif L 165, 30.4.2004 , t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L 191, 28.5.2004, t.1).back



English version



ISBN 978 0 11 091596 8


 © Crown copyright 2007

Prepared 10 August 2007
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010