BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007 Rhif 854 (Cy.78)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070854w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 854 (Cy.78)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 14 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 23 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 51(3) ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [2]):

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2007.

    (3) Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a)
    
2. —(1) Mae'r materion a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1)) —

    (a) rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi (yn unol ag is-baragraff (b) a pharagraff (3) is-baragraffau (a) i (c)) dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol;

    (b) rhaid i grynodeb o'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi —

      (i) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir, neu a fydd yn cael ei gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef,

      (ii) drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno, a

      (iii) yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sydd eisoes yn bod, drwy ei osod mewn lle amlwg wrth brif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu gerllaw iddi.

    (2) Rhaid i'r crynodeb ddatgan y gellir cael copi o'r Gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    (3) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r gorchymyn drafft—

    (a) at awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir y sefydliad o'i mewn neu lle y bwriedir ei leoli; a

    (b) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg addas at ofynion pobl dros oed ysgol gorfodol nad ydynt dros bedair ar bymtheg mlwydd oed, ac yn y ddau achos sydd yn yr ardal a wasanaethir neu a fydd yn cael ei gwasanaethu gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef; ac

    (c) unrhyw berson arall yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant; ac

    (ch) unrhyw berson sy'n gofyn amdano.

Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)
    
3. —(1) Mae'r materion ym mharagraff (2) wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion a wneir o dan adran 16(3)).

    (2) Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol drwy anfon copi at—

    (a) corff llywodraethu'r sefydliad y cyfeirir ato ynddo;

    (b) yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd o natur grefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol dan sylw; ac

    (c) unrhyw berson yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


J. Marek
Dirprwy Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Mawrth 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Rheoliadau hyn (sydd yn gymwys o ran Cymru) yn rhagnodi amser a dull cyhoeddi gorchmynion drafft y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu'u gwneud ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 16(1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.


Notes:

[1] 1992 p.13back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672)back

[3] 1998 p38back



English version



ISBN 978 0 11 091537 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 21 March 2007
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010