BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 Rhif 2799 (Cy.238)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062799w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2799 (Cy.238)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

DIWYDIANT PYSGOD MÔR

Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006

  Wedi'i wneud 18 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 15 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], yn gwneud y Cynllun canlynol gyda chymeradwyaeth y Trysorlys:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Dyfeisiau Olrhain Drwy Loeren) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 20 Hydref 2006.

    (2) Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Cynllun hwn—

    ystyr "cais" ("application") yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae "ceisydd" ("applicant") i'w ddehongli'n unol â hynny;

    ystyr "cymeradwyaeth" ("approval") yw cymeradwyaeth i gais;

    mae i "Cymru" yr ystyr a roddir i "Wales" yn adran 155(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3];

    ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "cwch pysgota Cymreig" ("Welsh fishing boat") yw cwch pysgota—

    (a) sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995[4],

    (b) neu—

      (i) sydd o dan berchenogaeth lwyr neu rannol personau sy'n gymwys i berchenogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno, ond

      (ii) nad yw'n gwch sydd, yn unig o ganlyniad i gymhwyso iddo adran 1(1)(c) o'r Ddeddf honno yn rhinwedd ei gofrestru o dan ddeddf unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, yn cyfrif fel llong Brydeinig at ddibenion y Ddeddf honno;

    ac y mae ei borthladd gweinyddu yng Nghymru ar y dyddiad cymhwyso;

    ystyr "darparwr y Cynulliad" ("the Assembly provider") yw darparwr a gosodwr dyfeisiau olrhain drwy loeren a ddewisir gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliad;

    mae i "dyfais olrhain drwy loeren" yr ystyr sydd i "satellite-tracking device" yn y Rheoliad;

    ystyr "person perthnasol" ("relevant person") mewn perthynas â chwch pysgota, yw ei berchennog, ei siartrwr (os oes un), neu ei feistr neu gynrychiolydd unrhyw un ohonynt;

    ystyr "porthladd gweinyddu" ("port of administration") yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir o ran cwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967[5];

    ystyr "y Rheoliad"("the Regulation") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren[6]; ac

    ystyr "swyddog awdurdodedig" ("authorised officer") yw unrhyw swyddog a awdurdodir yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Cynllun hwn.

    (2) Mae unrhyw rwymedigaeth sydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yn rhwymedigaeth i sicrhau bod y deunydd ar gael mewn dull a fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ei gwneud yn rhesymol debygol y bydd y deunydd yn cael ei weld gan y rhai y gallai'r Cynllun hwn fod yn gymwys iddynt, ac mae cyhoeddi'r deunydd ymlaen llaw a chyn i'r Cynllun ddod i rym i'w drin at ddibenion y Cynllun hwn fel pe bai wedi'i gyflawni o dan y Cynllun.

Cymhwyster
     3. —(1) Caiff unrhyw berson sy'n berson perthnasol mewn perthynas â chwch pysgota Cymreig y mae'r Rheoliad yn gymwys iddo wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am grant o ran y cwch hwnnw—

    (a) os darparwyd ac y gosodwyd ar gyfer y person hwnnw gan ddarparwr y Cynulliad ddyfais olrhain drwy loeren; a

    (b) os yw'r person yn ymgymryd â chydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ac sy'n ymwneud â'r Cynllun hwn.

    (2) Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi hysbysiad yn pennu darparwr y Cynulliad.

Ceisiadau
    
4. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, o bryd i'w gilydd, gyhoeddi gwahoddiad am geisiadau a phan fydd yn gwneud hynny bydd darpariaethau canlynol y paragraff hwn yn gymwys.

    (2) Rhaid i gais gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel a bennir yn y gwahoddiad ar neu cyn y dyddiad cau er mwyn i'r cais gael ei ystyried ar gyfer ei gymeradwyo ac eithrio pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon—

    (a) bod amgylchiadau arbennig y ceisydd yn ei gwneud yn afresymol i ddisgwyl bod ei gais yn cael ei gyflwyno erbyn y dyddiad cau, a

    (b) bod y dyddiad erbyn pryd y cyflwynir y cais mor gynnar ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl, yn yr amgylchiadau hynny.

    (3) Yn y Cynllun hwn ystyr "y dyddiad cau" ("the closing date") yw'r cyfryw ddyddiad a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol pryd neu cyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau.

    (4) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wrthod unrhyw gais sy'n ymwneud â chwch pysgota os yw o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi'i newid ac mai prif ddiben ei newid oedd gwneud y cwch yn gymwys i gais gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef.

    (5) Yn sgil rhoi cymeradwyaeth, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant sy'n gyfwerth â chyfanswm y canlynol, fel y cytunwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r ceisydd llwyddiannus—

    (a) pris y ddyfais olrhain drwy loeren;

    (b) costau gosod y ddyfais olrhain drwy loeren ar fwrdd y cwch y cyflwynwyd y cais mewn cysylltiad ag ef, ac

    (c) pris gwarant tair blynedd ar gyfer y ddyfais olrhain drwy loeren,

a fydd yn daladwy yn unol â darpariaethau canlynol y Cynllun hwn.

    (6) Rhaid i'r costau a bennir yn is-baragraff (5)(b) beidio â chynnwys unrhyw gost a dynnir yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn cysylltiad â chuddio'r ddyfais olrhain drwy loeren, y ceblau a'r gwifrau sy'n gysylltiedig â hi, neu unrhyw ddeunyddiau neu gyfarpar cysylltiedig arall, a hynny at ddibenion cosmetig.

Cymeradwyo ceisiadau
    
5. —(1) Hysbysir pob ceisydd llwyddiannus yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r gymeradwyaeth mewn cysylltiad â chwch pysgota'r ceisydd ac o unrhyw amodau y mae'n rhaid i'r ceisydd gydymffurfio â hwy.

    (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), bydd cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol i'r cwch pysgota o dan sylw yn dod i ben os bydd y ceisydd llwyddiannus yn methu cydymffurfio ag unrhyw amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).

    (3) Os bydd y ceisydd llwyddiannus yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol o resymau am y methiant hwnnw (neu, yn ôl y digwydd, resymau am rag-weld y methiant hwnnw) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddiwygio'r amodau a osodir o dan baragraff 3(1) neu baragraff 5(1).

Taliadau o dan y Cynllun
    
6. —(1) Cyn gynted ag y bydd y cais wedi'i gymeradwyo ac y bydd y ceisydd llwyddiannus wedi cydymffurfio â'r holl amodau a osodir o dan baragraffau 3(1) a 5(1), bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn talu swm y pris y cytunwyd arno o dan baragraff 4(5) i'r ceisydd llwyddiannus.

    (2) Ni wneir unrhyw daliad onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn fodlon bod y ddyfais olrhain drwy loeren wedi'i darparu ac yr ymgymerwyd â'i gosod yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gyda darparwr y Cynulliad.

Cymorth i swyddogion awdurdodedig
    
7. Rhaid i unrhyw geisydd neu unrhyw gyflogai neu asiant unrhyw geisydd roi i swyddog awdurdodedig y cyfryw gymorth ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdano er mwyn iddo arfer y pŵer a roddir i'r swyddog gan baragraff 8.

Pwerau swyddogion awdurdodedig
    
8. —(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar bob adeg resymol, ac o gyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog, arfer y pwerau a bennir yn y paragraff hwn at ddiben sicrhau —

    (a) p'un a oes gan berson hawl i wneud cais o dan baragraff 3 ac i ba raddau y mae ganddo hawl;

    (b) p'un a gydymffurfiwyd ag amodau o dan baragraffau 3(1) a 5(1) ac i ba raddau y cydymffurfiwyd â hwy;

    (c) p'un a gafodd tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 ei gyflawni, neu a yw'n cael ei gyflawni, ac i ba raddau, ac

    (ch) p'un a yw'r ddyfais olrhain drwy loeren yn gweithio ac i ba raddau.

    (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3) caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre berthnasol.

    (3) Dim ond pan fydd rhybudd rhesymol o'r bwriad i arfer y pŵer wedi'i roi i holl breswylwyr yr anhedd-dy hwnnw y caniateir arfer y pŵer a roddir gan is-baragraff (2) mewn perthynas â mangre a ddefnyddir fel anhedd-dy.

    (4) Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol ag is-baragraff (2) arolygu'r fangre honno ac unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae'n rhesymol i swyddog fod o'r farn eu bod yn ddogfennau perthnasol.

    (5) Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y paragraff hwn fynd â'r cyfryw berson arall y mae'r swyddog o'r farn ei fod yn angenrheidiol gydag ef ac mae is-baragraffau (2), (4), (6) a (7) yn gymwys mewn perthynas â'r cyfryw berson arall pan fydd hwnnw'n gweithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai ef yn swyddog awdurdodedig.

    (6) Caiff swyddog awdurdodedig—

    (a) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n geisydd neu'n gyflogai neu'n asiant ceisydd gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a chyflenwi'r cyfryw wybodaeth ychwanegol ag y byddo'n rhesymol i'r swyddog ofyn amdanynt neu amdani, sydd ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â'r cais;

    (b) arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os cedwir y cyfryw ddogfennau drwy gyfrwng cyfrifiadur, gael mynd at unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny i arolygu a gwirio eu gweithrediaeth;

    (c) ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu ddetholiadau ohonynt, gael eu cyflwyno, ac

    (ch) arolygu unrhyw gyfarpar ar y cwch pysgota y gwnaed y cais mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys y ddyfais olrhain drwy loeren, a mynd â'r cyfarpar i ffwrdd i'w arolygu ymhellach.

    (7) Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth i'r swyddog, yn honedig, arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y Cynllun hwn os yw'r llys sy'n gwrando'r cyfryw achos yn fodlon—

    (a) bod y weithred wedi ei gwneud mewn modd didwyll;

    (b) bod seiliau rhesymol dros ei gwneud, ac

    (c) ei bod wedi ei gwneud gyda sgil a gofal rhesymol.

    (8) Yn y paragraff hwn—

    ystyr "dogfennau perthnasol" ("relevant documents") yw unrhyw ddogfennau sy'n ymwneud â'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef,

    mae "mangre" ("premises") yn cynnwys unrhyw gwch pysgota neu gyfrwng cludo arall, ac

    ystyr "mangre berthnasol" ("relevant premises") yw'r cwch pysgota y gwnaed cais mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw fangre lle y cedwir y dogfennau perthnasol neu lle y mae'n rhesymol i swyddog awdurdodedig fod o'r farn y byddo'r cyfryw ddogfennau'n cael eu cadw.

Dirymu cymeradwyaeth
    
9. —(1) Ar unrhyw adeg ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cais o ran unrhyw gwch pysgota, os ymddengys iddo—

    (a) na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu rai o'r amodau a osodir o dan baragraffau 3(1) a 5(1);

    (b) bod person perthnasol, mewn perthynas â chwch pysgota—

      (i) ac yntau'n honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw un neu rai o ddarpariaethau'r Cynllun, wedi rhoi gwybodaeth neu wedi cyflwyno dogfen a'i fod yn gwybod bod yr wybodaeth neu'r ddogfen yn anwir mewn manylyn perthnasol, neu

      (ii) wedi bod yn ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir mewn manylyn perthnasol;

    (c) bod y person perthnasol neu ei gyflogai neu ei asiant wedi methu cydymffurfio â pharagraff 7;

caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw ran o'r taliad mewn perthynas â'r cais.

    (2) Os dirymir cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) ar ôl i unrhyw daliad gael ei wneud o dan y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill ar gais oddi wrth y ceisydd swm sy'n gyfwerth â'r cyfan neu ag unrhyw ran o'r cyfryw daliad.

Llog
    
10. —(1) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff 9(2), yn penderfynu adennill swm ar gais, caiff hefyd adennill llog ar y swm hwnnw ar sail ddyddiol ac ar gyfradd o 1% yn uwch na'r LIBOR am y cyfnod yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd y swm ac yn diwedd ar y diwrnod y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei adennill.

    (2) Yn y paragraff hwn ystyr "LIBOR", mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau, ac sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw, wedi'i thalgrynnu os bydd angen i ddau le degol.

    (3) Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r LIBOR o dan sylw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)


Mae'r Cynllun hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ariannu dyfeisiau olrhain drwy loeren ar gychod pysgota a weinyddir yng Nghymru a'r rheini'n ddyfeisiau y mae'n ofynnol eu cael ar fwrdd cychod pysgota sydd dros 15 metr o hyd, o ganlyniad i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2244/2003 sy'n gosod darpariaethau manwl ynghylch Systemau Monitro Llongau ar sail lloeren. Ym mharagraff 3 gosodir y meini prawf cymhwyster ar gyfer y Cynllun ac ym mharagraff 4 ceir manylion am y dull o geisio am gyllid o dan y Cynllun. Mae paragraff 5 yn ymdrin â rhoi cymeradwyaeth i'r cyfryw geisiadau. Ym mharagraff 6 gwneir darpariaeth ar gyfer y taliad o dan y Cynllun a nodir hefyd o dan ba amgylchiadau na roddir taliadau i geiswyr llwyddiannus. Ym mharagraff 8 nodir beth yw pwerau swyddog awdurdodedig ac ym mharagraff 7 fe'i gwneir yn ofynnol i unrhyw geisydd neu i unrhyw gyflogai unrhyw ceisydd gynorthwyo swyddog awdurdodedig. Mae paragraff 9 yn ymdrin â dirymu cymeradwyaeth i gais ac yn nodi amodau a chanlyniadau dirymu ac mae paragraff 10 yn ymdrin â chyfraddau llog pan adenillir symiau.


Notes:

[1] 1981 p.29. Gweler adran 18(1) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 i gael diffiniad o "the Ministers" sy'n berthnasol at ddibenion y Cynllun hwn. Diwygiwyd adrannau 15(2) a 18(1) gan Orchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 1999 (O.S. 1999/1820) Atodlen 2, paragraff 68(1), (2) a (3).back

[2] Yn rhinwedd erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau sy'n arferadwy o dan adran 15 o Ddeddf 1981 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back

[3] 1998 p.38.back

[4] 1995 p.21.back

[5] 1967 p.84.back

[6] OJ Rhif L333, 20.12.2003, t.17.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091414 7


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 October 2006
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010