BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005 Rhif 2835 (Cy.200)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052835w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2835 (Cy.200)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005

  Wedi'u gwneud 11 Hydref 2005 
  Yn dod i rym 25 Tachwedd 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e) ac (f), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
    
2. Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996[4] (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â rheoliadau 3 i 7.

     3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Directive 2000/13", yn lle'r geiriau o "and Commission Directive 2002/67/EC" hyd at y diwedd rhodder y geiriau "Commission Directive 2002/67/EC[5] on the labelling of foodstuffs containing quinine, and of foodstuffs containing caffeine and Commission Directive 2005/26/EC[6] establishing a list of food ingredients or substances provisionally excluded from Annex IIIa of Directive 2000/13/EC".

     4. Yn rheoliad 13(8)(c) (trefn y rhestr gynhwysion) mewnosoder ar y diwedd y geiriau "other than, until 25 November 2007, ingredients which originate from an allergenic ingredient and are listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient".

    
5. Yn rheoliad 34B (bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig neu gynhwysion sy'n dod o gynhwysion alergenig)—

    (a) ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau "Subject to paragraph (2)" rhodder y geiriau "Subject to paragraphs (2) and (3)";

    (b) ym mharagraff (2)(b) mewnosoder ar y dechrau y geiriau "subject to paragraph (3) of this regulation";

    (c) mewnosoder ar y diwedd y paragraff canlynol—

        " (3) Paragraphs (1) and (2)(b) of this regulation shall not apply before 25th November 2007 as respects any ingredient which originates from an allergenic ingredient and is listed in column 2 of Schedule 2A in relation to that allergenic ingredient.".

     6. Yn rheoliad 50(12)(b)(iii) (darpariaeth drosiannol) mewnosoder ar ôl y rhif "12" y geiriau "(as read with regulation 5 of the Food Labelling (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2005)".

    
7. Ar ôl Atodlen 2 (dangosiadau o driniaeth) mewnosoder fel Atodlen 2A gynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Hydref 2005



YR ATODLEN
Rheoliad 7


ATODLEN 2A NEWYDD I'W MEWNOSOD YN RHEOLIADAU LABELU BWYD 1996


          



    " SCHEDULE 2A
    Regulations 13(8)(c) and 34B(3)


    LIST OF INGREDIENTS WHICH ORIGINATE FROM ALLERGENIC INGREDIENTS AND IN RESPECT OF WHICH THE ALLERGEN LABELLING REQUIREMENTS DO NOT APPLY


    Column 1 Column 2
    Allergenic ingredient

    Cereals containing gluten

    Exempt ingredients originating from allergenic ingredient

    Wheat based glucose syrups including dextrose¹.

    Wheat based maltodextrins¹.

    Eggs Glucose syrups based on barley.

    Cereals used in distillates for spirits.

    Lysozym (produced from egg) used in wine.

    Albumin (produced from egg) used as fining agent in wine and cider.

    Fish Fish gelatine used as carrier for vitamins and flavours.

    Fish gelatine or Isinglass used as fining agent in beer, cider and wine.

    Soybean Fully refined soybean oil and fat¹.

    Natural mixed tocopherols (E306), natural D-alpha tocopherol, natural D-alpha tocopherol acetate, natural D-alpha tocopherol succinate from soybean sources.

    Phytosterols and phytosterol esters derived from vegetable oils obtained from soybean sources.

    Plant stanol ester produced from vegetable oil sterols from soybean sources.

    Milk Whey used in distillates for spirits.

    Lactitol.

    Milk (casein) products used as fining agents in cider and wines.

    Nuts Nuts used in distillates for spirits.

    Almonds and walnuts used as flavour in spirits.

    Celery Celery leaf and seed oil.

    Celery seed oleoresin.

    Mustard Mustard oil.

    Mustard seed oil.

    Mustard seed oleoresin.


    Note
         1 And their products, in so far as the process that they have undergone is not likely to increase the level of allergenicity assessed by the European Food Safety Authority for the relevant product from which they originated."



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ("y prif Reoliadau") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau hynny'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/26/EC sy'n llunio rhestr o gynhwysion bwyd neu sylweddau a eithriwyd dros dro o Atodiad IIIa o Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33).

     2. Mae'r Rheoliadau hyn—

    (a) yn rhoi esemptiad tan 25 Tachwedd 2007 o'r gofynion i labelu alergen yn rheoliad 34B o'r prif Reoliadau yn achos cynhwysion penodol sy'n dod o gynhwysion alergenig (rheoliadau 5 a 7 a'r Atodlen);

    (b) yn gwneud rhai diwygiadau canlyniadol (rheoliadau 4 a 6) ac yn diweddaru'r diffiniad o "Directive 2000/13" (rheoliad 3).

     3. Paratowyd arfarniad rheoleiddiol ar yr effaith y bydd y Rheoliadau hyn yn ei chael ar gostau busnes ac fe'i gosodwyd yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddeb 2005/26/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28) ac O.S. 2004/2990.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] O.S. 1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483, 2003/832 (Cy.104), 2004/249 (Cy.26), 2004/3022 (Cy.261).back

[5] OJ Rhif L191, 19.7.2002, t.20.back

[6] OJ Rhif L75, 22.3.2005, t.33.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091191 1


 © Crown copyright 2005

Prepared 19 October 2005
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010