BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 Rhif 1860 (Cy.152)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051860w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1860 (Cy.152)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 7 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 8 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd mewn Sefydliadau Addysg Uwch (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn —

    mae i "cwrs rhyngosod" yr ystyr a roddir i "sandwich course" yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr;

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

    ystyr "y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr" ("the Student Support Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005[2] fel y'u diwygir o dro i dro, ac unrhyw reoliadau o dan adran 22 o'r Ddeddf sy'n disodli'r rheoliadau hynny gydag addasiadau neu hebddynt.

Dosbarth rhagnodedig o bersonau
     3. Y dosbarth o bersonau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o'r Ddeddf yw'r dosbarth o'r personau hynny a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr onid ydynt —

    (a) yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 4(3) o'r rheoliadau hynny;

    (b) yn bersonau nad ydynt yn gymwys ar gyfer grant ar gyfer ffioedd o dan y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr oherwydd rheoliad 11(3) o'r rheoliadau hynny; ac

    (c) yn bersonau nad ydynt, cyn neu yn ystod y flwyddyn academaidd o dan sylw, yn gwneud cais am gymorth yn unol â rheoliadau 8 a 9 o'r Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr mewn cysylltiad â mynychu cwrs sy'n cynnwys y flwyddyn academaidd honno.

Disgrifiad rhagnodedig o gyrsiau
    
4. —(1) Y disgrifiad o gyrsiau a ragnodir at ddibenion adran 26(4) o Ddeddf 1998 yw cyrsiau sy'n gyrsiau dynodedig o fewn ystyr y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ac a ddarperir gan sefydliad yng Nghymru.

    (2) At ddibenion paragraff (1) dehonglir cyfeiriad at sefydliad yng Nghymru yn unol ag adran 62(7) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[
3].

Swm rhagnodedig
     5. —(1) O ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006, y swm rhagnodedig at ddibenion adran 26(4) yw

    (a) yn achos cwrs neu flwyddyn academaidd nad ymdrinnir â hwy gan unrhyw is-baragraff arall o'r paragraff hwn, £1200;

    (b) am flwyddyn olaf cwrs y gofynnir ei gwblhau fel arfer ar ôl ei fynychu am lai na 15 wythnos, £600;

    (c) am flwyddyn academaidd cwrs rhyngosod pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

    (ch) am flwyddyn academaidd cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf, pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos, £600;

    (d) am flwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser mewn sefydliad yng Ngymru yn llai na 10 wythnos, £600; ac

    (dd) yn achos cwrs rhyngosod neu gwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor pan fydd cyfnodau astudio llawnamser mewn sefydliad yng Nghymru yn 10 wythnos neu fwy ond, o ran y flwyddyn academaidd ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol o'r fath, pan fydd cyfanswm unrhyw un cyfnod o bresenoldeb neu ddau nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos, £600.

Dirymu
    
6. Dirymir Rheoliadau Addysg (Ffioedd Sefydliadau Addysg Uwch) 1999[4] o ran Cymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Gorffennaf 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi symiau'r ffi y gellir eu codi am gyrsiau mewn sefydliadau addysg uwch pan fydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gosod amod ar gyllido sefydliadau o'r fath yn unol ag adran 26(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Maent hefyd yn rhagnodi'r dosbarth o bersonau a'r disgrifiad o'r cyrsiau y mae amod o dan adran 26(4) o Ddeddf 1998 yn gymwys iddynt.


Notes:

[1] p. 30. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 26(4) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Dirymwyd adran 26(5) o'r Ddeddf sy'n diffinio'r "prescribed amount" fel swm hafal i fwyafswm y grant a ragnodwyd o dan adran 22(2)(b) o'r Ddeddf gydag effaith o 7 Gorffennaf 2005 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.back

[2] O.S. 2005/52.back

[3] p. 13back

[4] O.S. 1999/603.back

[5] p.38.back



English version



ISBN 0 11 091181 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 25 July 2005
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010