BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005 Rhif 1269 (Cy.89)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051269w.html

[New search] [Help]

OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1269 (Cy.89)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005

  Wedi'u gwneud 4 Mai 2005 
  Yn dod i rym 5 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2005. Deuant i rym ar 5 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001
    
2. Diwygir Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001[3] yn unol â rheoliadau 3 i 9 o'r Rheoliadau hyn.

     3. Yn rheoliad 2 (Diffiniadau), ym mharagraff (1)  - 

    (a) dileer y diffiniad o "cais am gymorth arwynebedd" ("area aid application");

    (b) yn y diffiniad o "arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano" ("claimed forage area") yn lle'r geiriau "cais am gymorth ardal" rhodder y geiriau "cais sengl";

    (c) mewnosoder y diffiniadau canlynol yn eu lle priodol yn nhrefn yr wyddor  - 

      " ystyr "Cod Ymarfer Ffermio Da ("Code of Good Farming Practice") yw'r darpariaethau Ymarfer Ffermio Da a nodir yn adran 9.1 o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000  -  2006[4];

      ystyr "Rheoliad y Comisiwn 796/2004" ("Commission Regulation 796/2004") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004[5] sy'n gosod rheolau manwl ar drawsgydymffurfio, modwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar ei chyfer yn Rheoliad y Cyngor 1782/2003;";

    (ch) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniadau o "Rheoliad y Comisiwn 1750/1999" ("Commission Regulation 1750/1999")  - 

      " "ystyr "Rheoliad y Comisiwn 817/2004" ("Commission Regulation 817/2004") yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004[6] sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 ar gymorth i ddatblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF);";

    (d) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor  - 

      " "ystyr "Rheoliad y Cyngor 1254/1999" ("Council Regulation 1254/1999") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999[7]1254/1999 ar gyd-drefniadaeth y farchnad mewn cig eidion a chig llo;";

    (dd) dileer y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor 3508/92" ("Council Regulation 3508/92");

    (e) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor  - 

      " "ystyr "Rheoliad y Cyngor 1782/2003" ("Council Regulation 1782/2003") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003[8] sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr;";

    (f) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor  - 

      " "ystyr "Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel" ("Hill Livestock Compensatory Allowances") neu ("HLCA") yw lwfansau a delir o dan y Rheoliadau Da Byw Tir Uchel (Lwfansau Iawndal);";

    (ff) rhodder y diffiniad canlynol yn lle'r diffiniad o "IACS"  - 

      " ystyr "IACS" yw System Integredig Gweinyddu a Rheoli a sefydlwyd o dan Bennod 4 o Reoliad y Cyngor 1782/2003;";

    (g) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor  - 

      " mae i "cais sengl" yr ystyr a roddir i "single application" yn erthygl 2(11) o Reoliad y Comisiwn 796/2004;".

     4. Yn rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys), ym mharagraff (1)  - 

    (1) yn is-baragraff (a), yn lle'r geiriau "cais dilys am gymorth arwynebedd" rhodder y geiriau "cais sengl dilys";

    (2) yn is-baragraff (b)  - 

    (a) o flaen y geiriau "y ceisydd" mewnosoder y geiriau "yn ddarostyngedig i is-baragraff (d) isod,";

    (b) ar ôl y geiriau "wedi cyflwyno cais" mewnosoder y gair "dilys";

    (c) yn lle'r geiriau "mewn perthynas â'r flwyddyn" mewnosoder y geiriau "mewn perthynas â chynllun blwyddyn 2004";

    (ch) dileer y geiriau "y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd".

    (3) Yn is-baragraff (c) ar ôl y geiriau "ffermio cynaliadwy" mewnosoder y geiriau "ac wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da".

    (4) Ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder yr is-baragraff canlynol  - 

      " (d) gofyniad is-baragraff (b) uchod ynghylch cyflwyno cais dilys am gymorth ar gyfer da byw heb fod yn gymwys  - 

        (i) os yw'r ceisydd wedi gwneud cais ac wedi derbyn Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel am y flwyddyn 2000 ac os yw wedi gwneud cais ac wedi derbyn taliad Tir Mynydd ar gyfer pob blwyddyn ar ôl hynny; neu

        (ii) os nad yw'r ceisydd cyn hynny wedi gwneud cais am daliad Tir Mynydd.".

     5. Yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ym mharagraff (1)  - 

    (1) ar ôl y geiriau "rhaid bod" mewnosoder y geiriau "wedi bod";

    (2) ar ôl y geiriau "am bob hectar" mewnosoder y geiriau "ar sail nifer y defaid a/neu fuchod sugno a oedd yn denu premiwm o dan y cynllun premiwm blynyddol defaid a/neu'r cynllun Premiwm Buchod Sugno ar gyfer cynllun blwyddyn 2004".

    
6. Yn rheoliad 8 (Categorïau sy'n gymwys ar gyfer y taliad chwyddo amgylcheddol), dileer paragraff (b).

    
7. Yn rheoliad 10 (Ceisiadau)  - 

    (1) dileer paragraff (2);

    (2) ym mharagraff (3), yn lle'r geiriau " Erthygl 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2419/2001 dyddiedig 11 Rhagfyr 2001 sy'n cyflwyno rheolau manwl er mwyn cymhwyso'r system integredig gweinyddu a rheoli ar gyfer rhai cynlluniau o blith Cynlluniau cymorth y Gymuned a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 3508/1992" rhodder y geiriau "Erthygl 21 o Reoliad y Comisiwn 796/2004".

    
8. Ar ôl rheoliad 13 (Cadw'n ôl neu adennill taliadau) mewnosoder y rheoliad canlynol  - 

    " Cymhwyso cosbau
        
    13A. Yn unol ag Erthygl 73 o Reoliad y Comisiwn 817/2004 bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu, a chyhoeddi yn y dull y gwêl yn dda, system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion os bydd y ceiswyr yn methu cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.".

     9. Yn rheoliad 16 (Pwerau personau awdurdodedig) ym mharagraff (3)  - 

    (1) yn is-baragraff (c), dileer y gair "ac";

    (2) yn is-baragraff (ch), yn lle'r marc atalnodi "." rhodder y marc atalnodi a'r gair "; a"; a

    (3) ar ôl is-baragraff (ch), mewnosoder yr is-baragraff canlynol  - 

      " (d) cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 5 Mai 2005, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") er mwyn:

    (a) gwneud diwygiadau canlyniadol yn sgil newidiadau i'r polisi amaethyddol cyffredin o ran y Cynllun Taliad Sengl.

    (b) darparu y gellir gwneud taliadau Tir Mynydd i geiswyr a gafodd Lwfansau Iawndal Da Byw Tir Uchel ar gyfer Lwfansau cynllun blwyddyn 2000 hyd yn oed os nad ydynt wedi hawlio cymorth da byw o ran defaid neu fuchod sugno neu'r ddau yn ystod y flwyddyn y cyflwynir y cais Tir Mynydd (Rheoliad 4(4)).

    (c) tynnu rheoliad 8(b) er mwyn osgoi'r posibiliad o gyllido dwbl (Rheoliad 6).

    (ch) sicrhau bod cymhwyster ar gyfer y cynllun yn cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Ymarfer Ffermio Da a nodir yng Nghynllun Datblygu Gwledig Cymru 2000  -  2006, a gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu system o gosbau cymesur a fydd yn gymwys mewn achosion pan na chydymffurfir â'r Cod. (Rheoliad 4(3) a Rheoliad 8).

    (d) darparu ar gyfer mân newidiadau a newidiadau yn y diffiniadau o ganlyniad i'r diwygiadau a nodir uchod.


Notes:

[1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn").back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/1154 (Cy.61) ac O.S. 2002/1806 (Cy.176).back

[4] Paratowyd ef gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef gan y Comisiwn Ewropeaidd yn gyntaf ar 11 Hydref 2000 drwy Benderfyniad y Comisiwn C(2000) 2932 gydag addasiadau dilynol a gymeradwywyd gan Benderfyniadau'r Comisiwn C(2002) 1743 a C(2003) 1432.back

[5] OJ Rhif L141, 30.4.2004, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 239/2005 (OJ Rhif L042, 12.2.2005, t.3).back

[6] OJ Rhif L153, 30.4.2004, t.30, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L231, 30.6.2004, t.24).back

[7] OJ Rhif L160, 26.6.1999, t.21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1899/2004 (OJ Rhif L328, 30.10.2004, t.67).back

[8] OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 118/2005 (OJ Rhif L024, 27.1.2005, t.15).back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091122 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 10 May 2005
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010