BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043232w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif3232 (Cy.280)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 8 Rhagfyr 2004 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1992" ("the 1992 Regulations") yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[2].

Diwygio Rheoliadau 1992
     3. O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: - 

    (a) ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle "0.998" rhoddir "1.009"; a

    (b) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Rhagfyr 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 2





    " SCHEDULE 4
    Regulation 6


    ADULT POPULATION FIGURES


    Billing authority area Prescribed figure
    Blaenau Gwent 52,800
    Bridgend 100,400
    Caerphilly 129,500
    Carmarthenshire 137,600
    Cardiff 245,500
    Ceredigion 62,900
    Conwy 88,100
    Denbighshire 74,100
    Flintshire 115,600
    Gwynedd 92,300
    Isle of Anglesey 53,600
    Merthyr Tydfil 42,300
    Monmouthshire 67,000
    Neath Port Talbot 105,700
    Newport 105,100
    Pembrokeshire 90,000
    Powys 101,600
    Rhondda Cynon Taf 178,200
    Swansea 177,400
    Torfaen 69,400
    Vale of Glamorgan (The) 92,500
    Wrexham 101,300"




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[
4] mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[5] ("Rheoliadau 1992").

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (Rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).


Notes:

[1] 1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[2] O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289) a 2003/3211 (Cy.304).back

[3] 1998 p.38.back

[4] 1988 p.41.back

[5] O.S. 1992/3238back



English version



ISBN 0 11 091047 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 15 December 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010