BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042879w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif2879 (Cy.249)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 2 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 3 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2004.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Tachwedd 2004.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992[
3].

    (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau
     2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli), mewnosoder y canlynol yn ôl trefn yr wyddor - 

      " "the health service" has the same meaning as in section 128(1) of the National Health Service Act 1977[4]".

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (Symiau sydd i'w diystyru wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion)
     3. Ar ôl paragraff 28I o Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau, mewnosoder y paragraff a ganlyn - 

         " 28J. Any payment made to the resident under section 63(6)(b) of the Health Services and Public Health Act 1968 ("the 1968 Act")[5] (travelling and other allowances to persons availing themselves of instruction) for the purpose of meeting child care costs where the instruction is provided pursuant to - 

      (a) section 63(1)(a) of the 1968 Act; or

      (b) section 63(1)(b) of the 1968 Act and where the resident is employed, or has it in contemplation to be employed, in an activity involved in or connected with a service which must or may be provided or secured as part of the health service.".

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (Cyfalaf sydd i'w ddiystyru)
     4. Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, ar ôl paragraff 24, ychwaneger y paragraffau a ganlyn - 

         " 25. Any payment made to the resident under section 2 or 3 of the Age-Related Payments Act 2004 (entitlement: basic or special cases)[6].

         26. Any payment made to the resident under section 63(6)(b) of the Health Services and Public Health Act 1968 ("the 1968 Act")[7] (travelling and other allowances to persons availing themselves of instruction) for the purpose of meeting child care costs where the instruction is

    Provided pursuant to - 

      (a) section 63(1)(a) of the 1968 Act; or

      (b) section 63(1)(b) of the 1968 Act and where the resident is employed, or has it in contemplation to be employed, in an activity involved in or connected with a service which must or may be provided or secured as part of the health service.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 ("y Prif Reoliadau").

Mae'r Prif Reoliadau yn pennu sut y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae rheoliad 3 yn diwygio'r Prif Reoliadau drwy gyflwyno modd o ddiystyru incwm o ran taliadau tuag at gost gofal plant o dan adran 63(6)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 a wneir i breswylydd sydd o dan hyfforddiant sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth iechyd, yn rhinwedd y trefniadau a wneir o dan yr adran honno.

Mae rheoliad 4 yn darparu i'r un taliadau gael eu diystyru fel cyfalaf, a hefyd yn cyflwyno modd o ddiystyru cyfalaf o ran taliadau a wneir o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004.


Notes:

[1] 1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/2977; ac O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy.94) ac O.S. 2003/897 (Cy. 117) yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back

[4] 1977 p.49.back

[5] 1968 p.46. Mae adran 63(6) yn darparu i'r Gweinidog dalu ffioedd a dyroddi grantiau mewn perthynas â hyfforddi'r sawl a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu sy'n ystyried cael ei gyflogi ganddo, ac mae is-adran (6)(b) yn caniatáu talu lwfansau teithio a lwfansau eraill i'r sawl sy'n derbyn hyfforddiant. Datganolwyd pwerau'r Gweinidog o dan y Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[6] 2004 p. 10.back

[7] 1968 p.46. Mae adran 63(6) yn darparu i'r Gweinidog dalu ffioedd a dyroddi grantiau mewn perthynas â hyfforddi'r sawl a gyflogir gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, neu sy'n ystyried cael ei gyflogi ganddo, ac mae is-adran (6)(b) yn caniatáu talu lwfansau teithio a lwfansau eraill i'r sawl sy'n derbyn hyfforddiant. Datganolwyd pwerau'r Gweinidog o dan y Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091017 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 9 November 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010