BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041827w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1827 (Cy.203)

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU

Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 14 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 154(5) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31Gorffennaf 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio'r prif Reoliadau
    
2. Diwygir Rheoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) 2002[2] ("y prif Reoliadau") fel a ddarperir yn rheoliadau 3 a 4.

Diwygio'r darpariaethau dehongli
     3. Yn rheoliad 2 o'r prif Reoliadau, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, rhodder - 

      " ystyr "man aros gosodedig" ("fixed stopping place") yw man aros mewn lleoliad gosodedig; a

      ystyr "gwasanaeth hyblyg" ("flexible service") yw gwasanaeth:

        (i) sy'n gwasanaethu un neu fwy o gymunedau neu gymdogaethau lleol o fewn ardal ddaearyddol benodedig,

        (ii) sydd, er bod iddo rannau gosodedig ar y llwybr teithio, yng nghyfanrwydd ei weithredu mor hyblyg fel nad yw'n ymarferol i ddynodi ymlaen llaw pob ffordd a dramwyir ar unrhyw adeg benodedig,

        (iii) a ddarperir yn bennaf at ddibenion cario teithwyr sydd wedi archebu ar gyfer y daith ymlaen llaw ac y mae eu hanghenion cyfunol yn penderfynu llwybr pob taith er y gall fod pobl eraill hefyd yn teithio,

        (iv) y mae pob sedd ar ei gyfer ar gael i'w defnyddio gan aelodau o'r cyhoedd, a

        (v) a ddarperir am gydnabyddiaeth a delir gan deithwyr unigol am deithio ac nad yw'r prisiau hynny'n ddarostyngedig i amrywiad yn ôl nifer y teithwyr sy'n cael eu cario ar y daith.".

Diwygio'r amodau ar gyfer talu'r grant
    
4.  - (1) Diwygir rheoliad 3 o'r prif Reoliadau (cymhwyster i gael grant) fel a ganlyn - 

    (2) Ym mharagraff (1)(b), hepgorer y geiriau o "ac sy'n defnyddio cerbyd" i "yn unol ag amserlen) ac".

    (3) Yn lle paragraff (2)(b) rhodder y canlynol  - 

      " (b) bod y trefniadau aros yn gweithredu fel a ganlyn - 

        (i) lleolir yr holl fannau aros gosodedig (os ydynt wedi'u marcio neu'n cael eu cydnabod yn gyffredinol fel arall), heblaw'r rhai lle mae terfynfaoedd gwasanaeth, mewn lleoliad lle y mae'n debygol y defnyddir hwy yn rhesymol aml gan aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, a

        (ii) mewn unrhyw ran o ardal gweithredu'r gwasanaeth lle nad oes mannau aros gosodedig, mae'r trefniadau ar gyfer penderfynu pa le a pha bryd y gellir codi a gollwng teithwyr yn rhai y gall aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol fanteisio arnynt yn rhesymol aml;".

    (4) Yn lle paragraff (2)(c) rhodder - 

      " (c) bod yr aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud taith unigol rhwng dau fan aros (i'r graddau y darperir ar gyfer y teithiau hynny yn y manylion cofrestredig gan gofio am gyfyngiadau esgyn a disgyn) wrth dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth,

      (ca) yn achos gwasanaeth hyblyg, bod y trefniadau archebu ymlaen llaw o'r math fel nad ydynt yn rhwystro aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol rhag gwneud taith unigol y darperir fel arall ar ei chyfer yn y manylion cofrestru;".

    (5) Ym mharagraff (2)(ch), yn lle "yr aelodau hynny" rhodder "aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol ".

    (6) Yn lle paragraff (3)(b) rhodder  - 

      " (b) mae'r trefniadau aros yn gweithredu fel a ganlyn - 

        (i) lleolir yr holl fannau aros gosodedig (os ydynt wedi'u marcio neu'n cael eu cydnabod yn gyffredinol fel arall) mewn lleoliad lle y mae'n debygol y defnyddir hwy yn rhesymol aml gan aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol, a

        (ii) mewn unrhyw ran o ardal gweithredu'r gwasanaeth lle nad oes mannau aros gosodedig, mae'r trefniadau ar gyfer penderfynu pa le a pha bryd y gellir codi a gollwng teithwyr yn rhai y gall aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol fanteisio arnynt yn rhesymol aml;".

    (7) Yn lle paragraff (3)(c) rhodder - 

      " (c) bod yr aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol yn gallu gwneud taith unigol rhwng dau fan aros (i'r graddau y darperir ar gyfer y teithiau hynny yn y manylion cofrestredig gan gofio am gyfyngiadau esgyn a disgyn) wrth dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth,

      (ca) yn achos gwasanaeth hyblyg, bod y trefniadau archebu ymlaen llaw o'r math fel nad ydynt yn rhwystro aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol rhag gwneud taith unigol y darperir fel arall ar ei chyfer yn y manylion cofrestru;".

    (8) Ym mharagraff (3)(ch), yn lle "aelodau felly o'r cyhoedd" rhodder "aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Grant Gweithredwyr Gwasanaeth Bysiau (Cymru) 2002 drwy:

    (a) gwneud darpariaeth ar gyfer talu grant i weithredwyr gwasanaethau bysiau hyblyg, y ceir cofrestru manylion amdanynt o dan Reoliadau Cerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) 1986 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Cerbydau'r Gwasanaeth Cyhoeddus (Cofrestru Gwasanaethau Lleol) (Diwygio) (Lloegr a Chymru) 2004, drwy gymryd i ystyriaeth y trefniadau aros gwahanol sy'n gymwys yn achos gwasanaethau o'r fath, a

    (b) dileu y ddarpariaeth sy'n darparu bod rhannau o lwybr teithio bysiau sydd â chyfyngiadau ar esgyn a disgyn yn anghymwys ar gyfer grant ar y sail nad yw'r teithwyr yn gallu teithio rhwng parau penodol o fannau aros.


Notes:

[1] 2000 p. 38.back

[2] O.S. 2002/2022 (Cy.206), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/943 (Cy.124).back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090990 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 21 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010