BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041825w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1825 (Cy.201)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 14 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 19 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 200 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (Mesur Trosiannol sy'n Ymwneud â Phartneriaid Anghlinigol) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2];

    ystyr "partner anghlinigol" ("non-clinical partner") yw partner mewn partneriaeth nad yw'n ymarferydd meddygol cofrestredig nac yn broffesiynolyn gofal iechyd;

    dehonglir "partner anghlinigol perthnasol" ("relevant non-clinical partner") yn unol ag erthygl 2;

    ystyr "proffesiynolyn gofal iechyd" ("health care professional") yw person sy'n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[3]; ac

    ystyr "ymarferydd unigol" ("sole practitioner") yw ymarferydd meddygol cofrestredig a oedd, cyn 1 Ebrill 2004, yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977[4] (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol) ond nid fel rhan o gymdeithas o ymarferwyr meddygol cofrestredig a oedd, fel practis grŵp, yn cydlynu eu rhwymedigaethau priodol i ddarparu gwasanaethau o dan yr adran 29 a enwyd.

Partneriaid anghlinigol perthnasol
     2. Os  - 

    (a) bydd Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol gydag ymarferydd meddygol cofrestredig fel un o ddau neu fwy o unigolion sy'n ymarfer mewn partneriaeth;

    (b) oedd yr ymarferydd meddygol cofrestredig hwnnw yn rhedeg busnes ar 31 Mawrth 2004, ac os oedd yng nghwrs y busnes yn darparu gwasanaethau o dan adran 29 o Ddeddf 1977 (trefniadau a rheoliadau ar gyfer gwasanaethau meddygol cyffredinol)  - 

      (i) mewn partneriaeth gydag un unigolyn a oedd yn bartner anghlinigol, neu gyda dau neu fwy o unigolion yr oedd un ohonynt yn bartner anghlinigol,

      (ii) mewn partneriaeth gydag un neu fwy o ymarferwyr meddygol cofrestredig eraill neu unigolion eraill, a bod y bartneriaeth honno'n cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; neu

      (iii) fel ymarferydd unigol a'i fod wedi cyflogi person sydd neu a fydd yn bartner anghlinigol yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol; ac

    (c) ar y dyddiad y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo neu wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol y mae neu yr oedd - 

      (i) y partner anghlinigol a grybwyllir ym mharagraff (b)(i), neu

      (ii) y person a grybwyllir ym mharagraff (b)(ii) neu (b)(iii),

    yn bartner yn y bartneriaeth sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,

mae'r partner hwnnw yn y bartneriaeth, fel y crybwyllir yn is-baragraff (c), at ddibenion erthygl 3, yn "bartner anghlinigol perthnasol".

Partneriaid anghlinigol perthnasol a oedd yn bartneriaid mewn partneriaethau a ymrwymodd, cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i gontract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a ddaeth yn effeithiol at ddibenion talu ar 1 Ebrill 2004
    
3.  - (1) Os  - 

    (a) oedd partner anghlinigol perthnasol cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yn bartner mewn partneriaeth a ymrwymodd i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol a ddechreuodd fod yn effeithiol at ddibenion talu ar 1 Ebrill 2004; a

    (b) oedd pob partner yn y bartneriaeth honno, ar wahân i'r partner anghlinigol perthnasol, yn unigolyn a oedd yn dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977 ar yr adeg pan ymrwymodd y bartneriaeth i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol,

mae paragraff (2) yn gymwys.

    (2) Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym  - 

    (a) rhaid trin y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fel contract yr ymrwymodd partneriaeth iddo a'r bartneriaeth honno wedi'i ffurfio'n unig o unigolion sy'n dod o fewn adran 28S(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1977; a

    (b) os yw'r partner anghlinigol perthnasol y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym yn dal i fod yn bartner mewn partneriaeth sydd wedi ymrwymo i gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol, rhaid ei drin, o'r dyddiad hwnnw ymlaen, fel pe bai'n unigolyn sy'n dod o fewn adran 28S(2)(b)(iv) o Ddeddf 1977, ond rhaid peidio ag ymdrin ag ef felly os nad yw'n darparu gwasanaethau o'r math a grybwyllir yn adran 28D(1)(bc) o'r Ddeddf honno am gyfnod parhaus o chwe mis ar ôl y dyddiad hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae pwerau gan Fyrddau Iechyd Lleol i ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol gyda phartneriaethau, ar yr amod bod cyfansoddiad y bartneriaeth yn bodloni gofynion adran 28S o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau lle caiff unigolion anghlinigol a oedd yn gweithio i bartneriaethau ymarferwyr cyffredinol cyn 1 Ebrill 2004 (y dyddiad cynharaf y caiff contract gwasanaethau meddygol cyffredinol fod yn effeithiol) ond nad ydynt fel arall yn bodloni gofynion adran 28S fod, serch hynny, yn rhan o bartneriaethau sy'n ymrwymo neu sydd wedi ymrwymo i gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol.


Notes:

[1] 2003 p.43.back

[2] 1977 p.49.back

[3] 2002 p.17.back

[4] 1977 p.49. Diddymwyd adran 29 ar 1 Ebrill 2004 ond cyn y diddymiad hwnnw cawsai ei diwygio gan: Deddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 7; Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), Atodlen 6, paragraff 2; Deddf Feddygol 1983 (p.54), Atodlen 5, paragraff 16(a); O.S. 1985, erthygl 7; Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1, paragraff 18; Deddf Feddygol (Perfformiad Proffesiynol) 1995 (p.51), yr Atodlen, paragraff 28; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), Atodlen 2, paragraffau 8 a 71, ac Atodlen 3, Rhan I; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 23, ac Atodlen 6, Rhan 1; a Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, paragraff 3, ac Atodlen 8, paragraff 2.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090994 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 26 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010