BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041804w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1804 (Cy.192)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004

  Wedi'u gwneud 13 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
    
2. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3] yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" rhodder y diffiniad canlynol - 

      " "the Commission Decision" means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China[4]) as amended by Commission Decision 2002/233/EC [5], Commission Decision 2002/678/EC[6], Commission Decision 2003/550/EC[7] and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community [8];".

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
     3. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) Rheoliadau 2002[9]) yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" rhodder y diffiniad canlynol  - 

      "the Commission Decision" means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey[10] as amended by Commission Decision 2002/233/EC, Commission Decision 2002/679/EC[11]), Commission Decision 2003/552/EC[12] and Commission Decision 2004/429/EC amending Decisions 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC and 2002/80/EC as regards the points of entry through which the products concerned may only be imported into the Community [13];".

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
     4. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[14]) yn lle'r diffiniad o " Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Brasil neu a draddodir oddi yno[15] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno[16];".

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
     5. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[17] yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 97/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran neu a draddodir oddi yno[18] fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC[19]), Penderfyniad y Comisiwn 2000/238/EC[20], Penderfyniad y Comisiwn 2003/551/EC[21]) a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/ EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw[22];".

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
     6. Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[23] yn lle'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" rhodder y diffiniad canlynol  - 

      " ystyr "Penderfyniad y Comisiwn" ("the Commission Decision") yw Penderfyniad y Comisiwn 2000/49/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 1999/356/EC ac sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio pysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o bysgnau sy'n tarddu o'r Aifft neu a draddodir oddi yno[24]) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/580/EC[25] a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw[26];".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[27].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Gorffennaf 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio  - 

    Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2296 fel y'i diwygiwyd eisoes), Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288) a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/429/EC sy'n diwygio Penderfyniadau 97/830/EC, 2000/49/EC, 2002/79/EC a 2002/80/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned y cynhyrchion dan sylw (rheoliadau 2, 3, 5 a 6); a

    Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 fel y'i diwygiwyd eisoes) er mwyn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn 2004/428/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2003/493/EC o ran yr unig bwyntiau mynediad y caniateir mewnforio drwyddynt i'r Gymuned gnau Brasil sydd yn eu plisg ac sy'n tarddu o Frasil neu a draddodir oddi yno (rheoliad 4).

Mae pob un o'r offerynnau a ddiwygir gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith mewn perthynas â Chymru Benderfyniad y Comisiwn sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio math penodol o fwyd.

Mae pob un o'r offerynnau hynny'n darparu ei bod yn rhaid i'r bwyd dan sylw gael ei fewnforio drwy bwyntiau mynediad penodol a restrir yn y Penderfyniad perthnasol.

Caiff y pwyntiau mynediad hynny eu hadolygu gan y Penderfyniadau a roddir ar waith gan y Rheoliadau hyn.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yngŷn â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2002/2295 (Cy.224), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2299 (Cy.229).back

[4] OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.21.back

[5] OJ Rhif L78, 21.3.2002, t.14.back

[6] OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.33.back

[7] OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.39.back

[8] OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.back

[9] O.S. 2002/2296 (Cy.225), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2292 (Cy.228).back

[10] OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.26.back

[11] OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.37.back

[12] OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.47.back

[13] OJ No. L154, 30.4.2004, t.20.back

[14] O.S. 2003/2254 (Cy.224).back

[15] OJ Rhif L168, 5.7.2003, t.33.back

[16] OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.14.back

[17] O.S. 2003/2288 (Cy.227).back

[18] OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30.back

[19] OJ Rhif L176, 20.6.1998, t.37.back

[20] OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59.back

[21] OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.43.back

[22] OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.back

[23] O.S. 2003/2910 (Cy.276).back

[24] OJ Rhif L19, 25.1.2000, t.46back

[25] OJ Rhif L197, 5.8.2003, t.31.back

[26] OJ Rhif L154, 30.4.2004, t.20.back

[27] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090984 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 20 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010