BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041803w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1803 (Cy.191)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 8 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2004 


TREFN YR ERTHYGLAU

1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Hysbysiadau
4. Eithriadau
5. Defnyddio mangre ar gyfer crynoadau anifeiliaid
6. Cyfyngiad o 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
7. Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 diwrnod ar gyfer mangre ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
8. Terfynau amser
9. Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthiant
10. Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig
11. Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
12. Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
13. Gorfodi
14. Dirymu

  YR ATODLEN Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7 ac 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Tachwedd 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ond heb gynnwys buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;

    mae i "ardal i anifeiliaid" ("animal area") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 5(2)(c);

    ystyr "crynhoad anifeiliaid" ( "animal gathering") yw achlysur pan gaiff anifeiliaid eu crynhoi ynghyd at un neu fwy o'r dibenion canlynol  - 

    (a) gwerthiant, sioe neu arddangosfa;

    (b) llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr;

    (c) archwiliad i gadarnhau bod gan yr anifeiliaid nodweddion brid penodol;

    ystyr "diheintydd a gymeradwywyd" ("approved disinfectant") yw diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[2] sydd o'r cryfder y mae ei angen o dan y Gorchymyn hwnnw ar gyfer "Gorchmynion Cyffredinol ";

    mae "cyfarpar" ("equipment") yn cynnwys llociau a chlwydi; ac

    ystyr mangre "wedi'i phalmantu" ("paved") yw mangre ac iddi arwyneb o sement, concrid, asffalt neu ddeunydd caled anhydrin arall y gellir ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol.

Hysbysiadau
     3. O ran hysbysiad neu drwydded o dan Gorchymyn hwn  - 

    (a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig;

    (b) gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu drwy hysbysiad a ddyroddir gan arolygydd milfeddygol; ac

    (c) cânt fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol fod eu hangen i atal cyflwyno clefyd i'r fangre drwyddedig neu i atal lledaenu clefyd o fewn y fangre drwyddedig neu'r tu allan iddi.

Eithriadau
    
4. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys os  - 

    (a) yr un person sy'n berchen ar bob anifail y daethpwyd ag ef i'r crynhoad;

    (b) bydd yr anifeiliaid i gyd yn dod o un set o fangreoedd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei awdurdodi fel grwp meddiannaeth unigol o dan Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 [
    3]; ac

    (c) bydd y crynhoad anifeiliaid yn digwydd ar fangre y mae perchennog yr anifeiliaid yn berchen arni neu yn ei meddiannu.

Defnyddio mangreoedd ar gyfer crynoadau anifeiliaid
     5.  - (1) Ni chaiff neb ddefnyddio mangre ar gyfer crynhoad anifeiliaid oni bai bod y fangre honno wedi ei thrwyddedu i'r perwyl hwnnw gan arolygydd milfeddygol.

    (2) Rhaid i drwydded bennu  - 

    (a) enw'r trwyddedai;

    (b) y fangre lle y caniateir crynhoi anifeiliaid, ac

    (c) yr ardal y mae'r anifeiliaid i gael mynediad ("yr ardal anifieliaid")

Cyfyngiad o 27 diwrnod ar gynnal crynhoad anifeiliaid
    
6. Ni chaiff neb ganiatáu crynhoad anifeiliaid ar fangre y mae anifeiliaid wedi cael eu cadw arni nes bydd 27 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod  - 

    (a) y gadawodd yr anifail olaf y fangre honno; a

    (b) ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre, pan fydd yr holl gyfarpar a ddefnyddiwyd gan yr anifeiliaid wedi ei lanhau fel nad oes unrhyw arwydd weledol ei bod wedi'i halogi.

Esemptiad i'r cyfnod cyfyngiad o 27 diwrnod ar gyfer mangre ag ardal i anifeiliaid sydd wedi'i phalmantu
    
7.  - (1) Nid yw'r cyfyngiadau yn erthygl 6 yn gymwys os yw'r ardal i anifeiliaid yn fangre drwyddedig wedi'i phalmantu a'i glanhau a'i diheintio ac y gwaredir gwastraff yn unol â'r erthygl hon cyn y cynhelir crynhoad anifeiliaid arall.

    (2) O ran y gwaith glanhau a diheintio  - 

    (a) rhaid iddo beidio â dechrau nes bydd pob anifail wedi ei symud o'r rhan o'r ardal i anifeiliaid sy'n cael ei glanhau a'i diheintio; a

    (b) rhaid iddo gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre drwyddedig a chyn i grynhoad anifeiliaid gael ei gynnal ar y safle eto.

    (3) Mae'n rhaid ysgubo neu grafu'n lân bob rhan o'r ardal i anifeiliaid (yn cynnwys unrhyw gyfarpar), a'i glanhau drwy olchi a'i diheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

    (4) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, a'r holl sarn, y dom a'r deunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid ac halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid sydd yn yr ardal i anifeiliaid, cyn gynted ag y bo modd a chyn i anifeiliaid gael mynd mewn i'r fangre drwyddedig eto  - 

    (a) a'u distrywio,

    (b) yn cael eu trin er mwyn sicrhau nad oes perygl y byddant yn trosglwyddo clefydau; neu

    (c) eu gwaredu fel nad yw anifeiliaid yn gallu mynd atynt.

    (5) Os, ar ôl yr achlysur diwethaf pan gafodd yr ardal i anifeiliaid ei glanhau a'i diheintio yn unol â'r erthygl hon, y'i halogir â dom anifeiliaid neu ddeunydd arall sy'n deillio o anifeiliaid neu unrhyw halogyn sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid ysgubo neu grafu'n lân yr ardal i anifeiliaid neu'r rhannau hynny ohoni sydd wedi eu halogi felly, a'u glanhau drwy olchi a thrwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd ar y fangre drwyddedig eto.

Terfynau amser
    
8.  - (1) Rhaid i grynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre ag iddi ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu beidio â phara am fwy na 48 awr, gen ddechrau ganol dydd.

    (2) Caiff arolygydd milfeddygol estyn cyfnod crynhoad anifeiliaid o dan baragraff (1) os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni - 

    (a) bod angen yr estyniad er lles yr anifeiliaid; neu

    (b) mai bach yw'r perygl o gyflwyno clefydau yn y gwerthiant ac o ledaenu clefydau wedi hynny.

    (3) Yn achos crynhoad anifeiliaid nad yw paragraff (1) yn gymwys iddo, os un o ddibenion y crynhoad yw crynhoi anifeiliaid ynghyd i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr, rhaid i'r crynhoad beidio â phara am fwy na 48 awr, gan ddechrau ganol dydd.

Newid ar amser dechrau crynoadau anifeiliaid at ddibenion gwerthu
    
9.  - (1) Yn achos crynhoad anifeiliaid a gynhelir at ddibenion gwerthiant (boed y gwerthiant yn unig ddiben neu beidio) ar fangre ag ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu caiff y trwyddedai newid yr amser dechrau am ganol dydd, drwy o leiaf ddwy wythnos ymlaen llaw - 

    (a) hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol o ddyddiad ac amser dechrau a diweddu y crynhoad anifeiliaid; a

    (b) rhoi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel y bydd y sawl sy'n dod ag anifeiliaid yno yn cael gwybod am yr amser dechrau a diweddu newydd.

    (2) Os yw'r crynhoad anifeiliaid yn un sy'n digwydd ar sail reolaidd, gall yr hysbysiad a'r cyhoeddusrwydd fod ar gyfer cyfres o grynoadau anifeiliaid.

Gwerthiant cigydda dynodedig a chasgliadau cigydda dynodedig
    
10.  - (1) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig onid yw ar fangre ag ardal i anifeiliaid wedi'i phalmantu.

    (2) Ni chaiff neb gynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig fel rhan o grynhoad anifeiliaid sy'n cael ei gynnal at unrhyw ddiben arall.

    (3) Rhaid i'r trwyddedai hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r awdurdod lleol fod y trwyddedai yn bwriadu cynnal gwerthiant cigydda dynodedig neu gasgliad cigydda dynodedig o leiaf 3 diwrnod cyn y gwerthiant neu'r casgliad

    (4) Rhaid i'r trwyddedai roi cyhoeddusrwydd i'r crynhoad anifeiliaid fel bod y sawl sy'n dod ag anifeiliaid iddo yn cael gwybod ei fod yn werthiant cigydda dynodedig neu'n gasgliad cigydda dynodedig.

    (5) At ddibenion yr erthygl hon  - 

    (a) ystyr "gwerthiant cigydda dynodedig" yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd yn at ddibenion gwerthiant yn unig cyn eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr;

    (b) ystyr "casgliad cigydda dynodedig" yw achlysur pan grynhoir anifeiliaid ynghyd yn unig at ddibenion eu traddodi ymlaen yn uniongyrchol i'w cigydda ym Mhrydain Fawr.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
    
11. Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid (heblaw mewn sioe neu arddangosfa) mae darpariaethau'r Atodlen (gofynion ynghylch crynhoad anifeiliaid) yn effeithiol.

Cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid
    
12.  - (1) Mae darpariaethau'r erthygl hon yn gymwys unwaith y bydd yr anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid wedi gadael y fangre drwyddedig.

    (2) Ni chaiff unrhyw berson ganiatáu i anifeiliaid fynd ar y fangre drwyddedig hyd nes bydd pob cyfarpar y daeth yr anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef wedi'i lanhau fel nad oes arno arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi.

    (3) Ni chaiff unrhyw berson symud o'r fangre drwyddedig unrhyw gyfarpar y daeth anifeiliaid mewn crynhoad anifeiliaid i gyffyrddiad ag ef  - 

    (a) onid yw'r halogion gweladwy wedi eu glanhau oddi ar y cyfarpar ac os nad yw cyfnod 27 diwrnod wedi dod i ben ers i'r anifail olaf mewn crynhoad anifeiliaid adael y fangre drwyddedig; neu

    (b) oni chafodd y cyfarpar ei ysgubo a'i grafu'n lân, ei lanhau drwy ei olchi a'i ddiheintio â diheintydd a gymeradwywyd.

Gorfodi
    
13.  - (1) Mae'r Gorchymyn hwn i gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion penodol neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid yr awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan yr erthygl hon.

Dirymu
    
14. Dirymir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003[4].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004


Ben Bradshaw
Yr Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
8 Gorffennaf 2004



YR ATODLEN
Erthygl 11


Gofynion mewn crynhoad anifeiliaid


Dyletswyddau trwyddedai
     1.  - (1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y safle'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.

    (2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu baddonau traed ac ynddynt ddiheintydd a gymeradwywyd wrth y ffyrdd allan o'r ardal i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho, a darparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.

    (3) Mae'n rhaid i'r trwyddedai  - 

    (a) sicrhau mai yn yr ardal i anifeiliaid y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u hail-lwytho, a

    (b) sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael yr ardal i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.

    (4) Yn achos crynhoad anifeiliaid y mae erthyglau 8 i 9 yn gymwys, rhaid i'r trwyddedai sicrhau  - 

    (a) na ddeuir â'r un anifail i'r fangre cyn dechrau'r crynhoad anifeiliaid; a

    (b) bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.

Y dyletswyddau sydd ar bersonau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid
     2.  - (1) Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol y mae arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid.

    (2) Os bydd person yn yr ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union ar ôl gadael yr ardal i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad (onid yw'r dillad i gael eu taflu) a naill ai  - 

    (a) eu diheintio;

    (b) newid ei ddillad am ddillad glân;

    (c) eu taflu; neu

    (d) ymadael â'r fangre drwyddedig.

    (3) Os bydd person y tu allan i'r ardal i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi eu halogi â dom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n deillio o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union  - 

    (a) glanhau ei ddillad allanol,

    (b) newid ei ddillad am ddillad glân,

    (c) gwaredu dillad y gellir eu taflu, neu

    (d) ymadael â'r fangre drwyddedig.

Esgidiau i'w gwisgo yn yr ardal i anifeiliaid
     3. Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r ardal i anifeiliaid lanhau a diheintio ei esgidiau yn y baddon traed sydd wedi'i ddarparu.

Cerbydau
     4.  - (1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd nac offer a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os ydynt wedi'u halogi â dom anifeiliaid.

    (2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar sy'n dod ar fangre drwyddedig  - 

    (a) ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom yr anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid a oedd yn cael eu cludo ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y fangre drwyddedig;

    (b) yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os yr eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.

    (3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar sy'n ymadael â mangre drwyddedig  - 

    (a) ac arnynt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid sydd wedi cael eu dadlwytho o'r cerbyd ar y fangre drwyddedig;

    (b) ac arnynyt arwyddion gweledol eu bod wedi'u halogi â dom yr anifeiliaid neu halogiad arall sy'n deillio o anifeiliaid a oedd yn cael eu llwytho ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2003. Dyma'r newidiadau y mae'n eu gwneud i'r Gorchymyn hwnnw  - 

  • mae'n darparu y caiff y trwyddedai newid amser dechrau'r cyfnod o 48 awr o werthiant ar fangre wedi'i phalmantu, ar yr amod bod y trwyddedai'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â'r awdurdod lleol ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r newid (erthygl 9);

  • mae'n darparu na all gwerthiant o gigydda dynodedig a chasgliadau o gigydda dynodedig ddigwydd ond ar fangre wedi'i phalmantu ac na ellir eu cynnal ar fangre lle mae unrhyw werthiant o fath arall, llwyth o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen neu arddangosfa yn digwydd (erthygl 10);

  • mae'n darparu eithriad ychwanegol at y gwaharddiad na cheir dod â cherbyd halogedig gan dom anifeiliaid i'r fangre drwyddedig nac ohoni (paragraff 4 o'r Atodlen).

Mae'n ei gwneud yn ofynnol cael trwydded am grynoadau anifeiliaid, fel y bu hi'n ofynnol eisoes (erthygl 5). Mae'n pennu na cheir cynnal crynhoad anifeiliaid os nad yw'n digwydd 27 diwrnod ar ôl i'r anifail olaf adael y fangre honno ac ar ôl i halogiad gweladwy gael ei lanhau oddi ar gyfarpar ar y fange honno (erthygl 6). Os ar fangre wedi ei phalmantu y cynhelir y crynhoad, mae erthygl 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer glanhau a diheintio'r fangre honno ac yn caniatáu cynnal crynhoad o fewn y terfynau amser arferol. Mae'n gosod terfyn amser o 48 awr ar grynoadau at ddibenion gwerthiant sy'n cael ei gynnal ar fangre wedi'i phalmantu (erthygl 8) a llwythi o anifeiliaid i'w traddodi ymlaen a gedwir ar unrhyw fangre. Mae'n gosod dyletswyddau ar y personau sy'n bresennol mewn crynhoad anifeiliaid (erthygl 7 a'r Atodlen). Mae'n gosod cyfyngiadau yn sgil crynhoad anifeiliaid (erthygl 12).

Mae'n cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 13).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn a gellir ei archwilio yn swyddfeydd Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1993/3141). Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 1978/32, O.S. 1999/919, O.S. 2002/3195, O.S. 2001/641.back

[3] O.S. 2003/1966 (Cy.211).back

[4] O.S. 2003/1967 (Cy.212).back



English version



ISBN 0 11090981 X


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010