BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041748w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1748 (Cy.185)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) ac (8) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] ac adrannau 17A(1), (3) a (4) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[2] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. O ran y Rheoliadau hyn  - 

    (a) eu henw yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004;

    (b) deuant i rym ar 1 Tachwedd 2004;

    (c) maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    dehonglir "awdurdod cyfrifol" yn unol â "responsible authority" yn adran 57(2) o Ddeddf 2001 neu (yn ôl y digwydd) adran 17A(2) o Ddeddf 1989[3];

    ystyr "Deddf 1983" ("the 1983 Act") yw Deddf Iechyd Meddwl 1983[4];

    ystyr "Deddf 1984" ("the 1984 Act") yw Deddf Iechyd Meddwl (Yr Alban)1984[5];

    ystyr "Deddf 1989" ("the 1989 Act") yw Deddf Plant 1989;

    ystyr "Deddf 1995" ("the 1995 Act") yw Deddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[6]);

    ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000[7];

    ystyr "Deddf 2001" ("the 2001 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001;

    mae i "gwasanaeth perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant service" gan reoliad 5(2);

    ystyr "person rhagnodedig" ("prescribed person") yw person sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir gan reoliad 3 neu (yn ôl y digwydd) reoliad 4;

    ystyr "Rheoliadau 2003" ("the 2003 Regulations") yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Lloegr) 2003[8]); a

    dehonglir "taliad uniongyrchol" ("direct payment") yn unol â rheoliad 5.

    (2) Yn y rheoliadau hyn - 

    (a) mae cyfeiriad at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu'r Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

    (b) mae cyfeiriad mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n;

    (c) mae cyfeiriad mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau  -  gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr
     3.  - (1) At ddibenion adran 57(1) o Ddeddf 2001, mae person sy'n dod fewn adran 57(2) o'r Ddeddf honno[9] o ddisgrifiad rhagnodedig - 

    (a) os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; a

    (b) os daw o fewn disgrifiad ym mharagraff (2); oni bai

    (c) ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

    (2) Dyma'r disgrifiadau  - 

    (a) person y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 [10] yn gymwys iddo;

    (b) person (nad yw'n berson sy'n dod o fewn is-baragraff (a)) y cyfeirir ato yn adran 57(2)(a) o Ddeddf 2001(personau y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu mewn perthynas â hwy bod eu anghenion yn galw am ddarparu gwasanaeth gofal cymunedol penodol) sydd dros 65 oed;

    (c) person y mae'r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu mewn perthynas ag ef o dan adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau i ofalwyr) i ddarparu gwasanaeth penodol o dan y Ddeddf honno ar ei gyfer.

Disgrifiadau rhagnodedig o bersonau  -  gwasanaethau plant
     4. At ddibenion adran 17A(1) o Ddeddf 1989, mae person sy'n dod fewn adran 17A(2) o'r Ddeddf honno[11] o ddisgrifiad rhagnodedig  - 

    (a) os yw'n berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ar ei ben ei hun, neu gyda'r cymorth hwnnw a all fod ar gael iddo; oni bai

    (b) ei fod yn berson y mae Atodlen 1 yn gymwys iddo.

Dyletswydd i wneud taliadau uniongyrchol
     5.  - (1) Os bodlonir yr amodau ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol wneud y taliadau hynny ("taliadau uniongyrchol") y penderfynir arnynt yn unol â rheoliad 6 mewn perthynas â'r canlynol  - 

    (a) person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(a) neu (c) o'r rheoliad hwnnw;

    (b) ar 1 Mawrth 2005 ac ymlaen, person rhagnodedig o dan reoliad 3 sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) o'r rheoliad hwnnw; a

    (c) person rhagnodedig o dan reoliad 4;

o ran sicrhau darparu gwasanaeth perthnasol.

    (2) Yn y rheoliadau hyn ystyr gwasanaeth perthnasol yw  - 

    (a) gwasanaeth gofal cymunedol yn ystyr adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[12]; neu

    (b) gwasanaeth o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000[13]; neu

    (c) gwasanaeth y ceir ei ddarparu wrth arfer swyddogaethau o dan adran 17 o Ddeddf 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).

    (3) Dyma'r amodau  - 

    (a) bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y gellir bodloni anghenion y person am y gwasanaeth perthnasol drwy sicrhau ei ddarparu drwy daliad uniongyrchol; a

    (b) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni y bydd lles y plentyn y mae angen y gwasanaeth mewn perthynas ag ef yn cael ei ddiogelu neu ei hybu drwy sicrhau ei ddarpariaeth drwy daliad uniongyrchol.

Swm a thaliad taliadau uniongyrchol
     6.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), gwneir taliad uniongyrchol yn daliad gros[14] oni fydd yr awdurdod cyfrifol yn penderfynu y dylid ei wneud yn daliad net[15].

    (2) At ddibenion gwneud y taliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i'r awdurdod cyfrifol benderfynu, ar ôl ystyried modd y person rhagnodedig, pa swm neu symiau (os o gwbl) y mae'n rhesymol ymarferol iddo'u talu tuag at sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol (boed drwy ad-daliad fel y crybwyllir yn adran 57(4) o Ddeddf 2001 neu drwy gyfraniad fel y crybwyllir yn adran 57(5) o'r Ddeddf honno)[16].

    (3) Os yw'r gwasanaeth perthnasol yn un a ddarperid, heblaw am y rheoliadau hyn, o dan adran 117 o Ddeddf 1983 (ôl-ofal)  - 

    (a) rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001; a

    (b) ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno yn gymwys.

    (4) Os gwneir taliad uniongyrchol i berson sy'n dod o fewn adran 17A(5) o Ddeddf 1989[17])  - 

    (a) rhaid gwneud y taliad ar y raddfa a grybwyllir yn is-adran (4)(a) o adran 57 o Ddeddf 2001[18]; a

    (b) ni fydd is-adran (4)(b) o'r adran honno[19]) yn gymwys.

    (5) Ceir talu taliad uniongyrchol  - 

    (a) i'r person rhagnodedig; neu

    (b) i berson a enwebwyd ganddo i dderbyn y taliad ar ei ran.

Amodau mewn perthynas â thaliadau uniongyrchol
     7.  - (1) Bydd taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod na sicrheir y gwasanaeth a wneir mewn perthynas ag ef gan berson a grybwyllir ym mharagraff (2) oni bai  - 

    (a) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(a) neu (b), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau'r gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i ddiwallu angen y person rhagnodedig am y gwasanaeth yn foddhaol;

    (b) yn achos gwasanaeth perthnasol a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(c), bod yr awdurdod cyfrifol wedi'i fodloni bod sicrhau gwasanaeth oddi wrth berson o'r fath yn angenrheidiol i hybu lles y plentyn mewn angen.

    (2) Dyma'r personau  - 

    (a) priod y person rhagnodedig;

    (b) person sy'n byw gyda'r person rhagnodedig fel ei briod;

    (c) person sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig sy'n sy'n dwyn y berthynas ganlynol iddo  - 

      (i) rhiant neu riant-yng nghyfraith;

      (ii) mab neu ferch;

      (iii) mab-yng-nghyfraith neu ferch-yng-nghyfraith;

      (iv) llysfab neu lysferch;

      (v) brawd neu chwaer;

      (vi) modryb neu ewythr; neu

      (vii) tad-cu neu fam-gu neu daid neu nain;

    (ch) priod unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) sy'n byw ar yr un aelwyd â'r person rhagnodedig; a

    (d) person sy'n byw gydag unrhyw berson sy'n dod o fewn is-baragraff (c) fel pe bai'n briod i'r person hwnnw.

    (3) Nid yw paragraff (2)(c)(ii) a (iii) yn gymwys yn achos person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c) o Ddeddf 1989[20].

    (4) Caiff awdurdod cyfrifol wneud taliadau uniongyrchol yn ddarostyngedig i amodau eraill (os oes rhai) fel y gwêl orau.

    (5) Gall yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), yn benodol, ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r talai  - 

    (a) beidio â sicrhau'r gwasanaeth perthnasol oddi wrth berson penodol;

    (b) roi'r wybodaeth honno i'r awdurdod cyfrifol y maent o'r farn ei bod yn angenrheidiol mewn cysylltiad â thaliadau uniongyrchol.

Mwyafswm cyfnodau llety preswyl y gellir eu sicrhau drwy daliadau uniongyrchol
     8.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3(1) ar gyfer darparu llety preswyl iddo am gyfnod sy'n fwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

    (2) Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), mewn unrhyw gyfnod o 12 mis - 

    (a) ychwanegir cyfnod dechreuol mewn llety preswyl am lai na 4 wythnos (cyfnod A) at gyfnod dilynol (cyfnod B) yn unig os bydd cyfnod B yn dechrau o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd cyfnod A; a

    (b) cynhwysir unrhyw gyfnod mewn llety preswyl ar ôl cyfnod B wrth gyfrifo.

    (3) Ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 4 ar gyfer darparu llety preswyl  - 

    (a) am unrhyw gyfnod sengl sy'n fwy na 4 wythnos; a

    (b) am unrhyw gyfnod sy'n fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

Disodli swyddogaethau a rhwymedigaethau'r awdurdod cyfrifol
    
9.  - (1) Ac eithrio'r hyn a ddarperir gan baragraff (2), ni fydd y ffaith bod awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol yn effeithio ar ei swyddogaethau o ran darparu'r gwasanaeth, o dan y deddfiad perthnasol, y mae'r taliad yn ymwneud ag ef.

    (2) Os bydd yr awdurdod cyfrifol yn gwneud taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth o ran y darparu'r gwasanaeth o dan y deddfiad perthnasol y mae'r taliad yn ymwneud ag ef cyhyd â'i fod yn fodlon fod yr angen sy'n galw am ddarparu'r gwasanaeth yn dod o drefniadau'r talai ei hun.

    (3) Ym mharagraff (1) a (2), mae cyfeiriadau at ddeddfiad perthnasol, mewn perthynas â darparu gwasanaeth, yn gyfeiriad at ddeddfiad y byddai'r gwasanaeth yn cael ei darparu odano heblaw am y Rheoliadau hyn.

Ad-dalu taliad uniongyrchol
    
10.  - (1) Os bydd awdurdod cyfrifol sydd wedi gwneud taliad uniongyrchol wedi'i fodloni, mewn perthynas â'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad  - 

    (a) na ddefnyddiwyd ef i sicrhau darparu'r gwasanaeth perthnasol y mae'n ymwneud ag ef; neu

    (b) na chydymffurfiwyd ag amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7;

gall ei gwneud yn ofynnol i'r taliad neu, yn ôl y digwydd, ran o'r taliad gael ei ad-dalu.

    (2) Gellir adennill unrhyw swm sydd i'w ad-dalu yn rhinwedd paragraff (1) fel dyled sy'n ddyledus i'r awdurdod.

Terfynu taliadau uniongyrchol
    
11.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson  - 

    (a) os yw'n peidio â bod yn berson rhagnodedig; neu

    (b) os oes amod a grybwyllir yn rheoliad 5(3) yn peidio â chael ei fodloni.

    (2) Caiff awdurdod cyfrifol beidio â gwneud taliadau uniongyrchol i berson rhagnodedig os na chydymffurfir ag unrhyw amod a osodwyd gan neu o dan reoliad 7 neu y cyfeirir ato yn adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001[21].

    (3) Os bydd y person y gwneir y taliadau uniongyrchol mewn perthynas ag ef yn peidio â bod yn alluog i reoli taliadau o'r fath, caiff awdurdod cyfrifol serch hynny barhau i wneud taliadau o'r fath  - 

    (a) os yw'n rhesymol fodlon y bydd analluedd y person yn un dros dro;

    (b) os oes person arall yn barod i dderbyn a rheoli taliadau o'r fath ar ran y person analluog; a

    (c) os yw'r person y gwnaed trefniadau gydag ef i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol yn cytuno i dderbyn tâl am y gwasanaethau oddi wrth y person a grybwyllir yn is-baragraff (b).

Diwygiadau canlyniadol
     12. Bydd y diwygiadau a wnaed gan reoliad 11 o Reoliadau 2003 ac a gynhywsir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn hefyd yn gymwys yng Nghymru.

Dirymu
    
13.  - (1) Dirymir drwy hyn Reoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) 1997[22], i'r graddau nas dirymwyd hwy gan Reoliadau 2003, a Rheoliadau Gofal Cymunedol (Taliadau Uniongyrchol) Diwygio (Cymru) 2000[23].

    (2) Dirymir drwy hyn reoliadau 3 a 4 o Reoliadau Gofalwyr (Gwasanaethau) a Thaliadau Uniongyrchol (Diwygio) (Cymru) 2001[24].

    (3) Dirymir drwy hyn Reoliadau Plant Anabl (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2001[25].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[26].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2004



ATODLEN 1
Rheoliadau 3(1) a 4


PERSONAU NA CHEIR GWNEUD TALIADAU UNIONGYRCHOL IDDYNT


Mae'r Atodlen hon yn gymwys i'r canlynol  - 

    (a) person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn adsefydlu cymunedol yn ystyr adran 41 o Ddeddf 2000 neu orchymyn cosb gymunedol ac adsefydlu yn ystyr adran 51 o'r Ddeddf honno;

    (b) person sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 52 o Ddeddf 2000;

    (c) person a gafodd ei ryddhau ar drwydded o dan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991[
    27]) yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyflwr ei feddwl neu ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol;

    (ch) person a gafodd ei leoli o dan warcheidiaeth yn unol â'r canlynol - 

      (i) cais a wnaed yn unol ag adran 7 o Ddeddf 1983; neu

      (ii) gorchymyn a wnaed o dan adran 37 o'r Ddeddf honno;

    (d) person sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd yn unol ag adran 17 o Ddeddf 1983;

    (dd) person sy'n destun ôl-ofal o dan oruchwyliaeth yn ystyr adran 25A o Ddeddf 1983[28];

    (e) person y mae amod a osodwyd mewn perthynas ag ef mewn grym yn unol ag adran 42(2) neu 73(4) o Ddeddf 1983 (gan gynnwys amod o'r fath a amrywiwyd yn unol ag adran 73(5) neu 75(3) o'r Ddeddf honno);

    (f) person y mae gorchymyn goruchwylio a thriniaeth mewn grym mewn perthynas ag ef yn ystyr Rhan 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Gorffwylledd ac Anffitrwydd i Bledio) 1991[29];

    (ff) person sy'n glaf ac yn destun ôl-ofal o dan orchymyn gofal cymunedol o dan adran 35A o Ddeddf 1984[30];

    (g) person sy'n glaf sy'n absennol o ysbyty gyda chaniatâd o dan adran 27 o Ddeddf 1984;

    (ng) person sy'n destun gorchymyn gwarcheidiaeth yn ystyr adran 57 o Ddeddf Oedolion ag Analluedd (yr Alban) 2000[31]) oherwydd, neu am resymau sy'n cynnwys, analluedd drwy anhwylder meddwl;

    (h) person sy'n glaf cyfyngedig yn ystyr adran 63(1) o Ddeddf 1984 y rhoddwyd rhyddhad amodol iddo o dan adran 64 neu 68 o'r Ddeddf honno;

    (i) person sy'n destun gorchymyn llys o dan adran 57(2)(a), (b), (c) neu (d), 58 neu 59 o Ddeddf 1995;

    (j) person y mae angen iddo fynd i gael triniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol yn rhinwedd gofyniad gorchymyn prawf yn ystyr adrannau 228 i 230 o Ddeddf 1995, neu sy'n destun gorchymyn trin a phrofi cyffuriau yn ystyr adran 234B o'r Ddeddf honno[32];

    (l) person a ryddhawyd ar drwydded o dan adran 22 neu 26 o Ddeddf Carcharau (yr Alban) 1989[33]) neu o dan adran 1 o Ddeddf Carcharorion a Gweithdrefnau Troseddol (yr Alban) 1993[34] a'i fod yn ddarostyngedig i amod ei fod yn mynd am driniaeth ar gyfer cyflwr ei feddwl neu ei ddibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol.



ATODLEN 2
Rheoliad 12


DIWYGIADAU CANLYNIADOL


     1. Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl "Community Care (Direct Payments) Act 1996", mewnosoder "or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)"  - 

     1. Teitl y deddfiad

     2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio

Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol Sifil (Asesu Adnoddau) 1989[35] Atodlen 2, paragraff 6(2)

Atodlen 3, paragraff 8(b)

Rheoliadau Cyngor a Chymorth Cyfreithiol 1989[36] Atodlen 2, paragraff 9A(2)
Rheoliadau Cymorth Cyfreithiol mewn Achosion Troseddol ac Achosion Gofal (Cyffredinol) 1989[37] Atodlen 3, paragraff 6(2)
Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol (Ariannol) 2000[38]) Rheoliadau 19(b) a 33(b)
Rheoliadau Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol (Cyffredinol) (Rhif 2) 2001[39] Atodlen 1, paragraff 8(1)(d)

     2. Yn y deddfiadau a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl canlynol, yn y darpariaethau a bennir yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw, ar ôl "Social Work (Scotland) Act 1968", rhodder "or under regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments)" - 

     1. Teitl y deddfiad

     2. Y darpariaethau sydd i'w diwygio

Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987[40] Atodlen 9, paragraff 58
Rheoliadau Budd-dal Tai (Cyffredinol) 1987[41] Atodlen 4, paragraff 67
Rheoliadau Credyd Teulu (Cyffredinol) 1987[42] Atodlen 2, paragraff 57
Rheoliadau Lwfans Gweithio i'r Anabl (Cyffredinol) 1991[43]) Atodlen 3, paragraff 55
Rheoliadau budd-dal Treth (Cyffredinol) 1992[44] Atodlen 4, paragraff 62
Rheoliadau Cynnal Plant (Asesiadau Cynnal ac Achosion Arbennig)1992[45]) Atodlen 2, paragraff 48C
Rheoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996[46] Atodlen 7, paragraff 56
Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996[47] Atodlen 3, paragraff 59
Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[48]) Atodlen, paragraff 43A

     3. Yn rheoliad 19 o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002[
49] yng nghofnod 14 yn nhabl 6, ar ôl "Health and Personal Social Services (Direct Payments) (Northern Ireland) Order", ychwaneger "or regulations made under section 57 of the Health and Social Care Act 2001 (direct payments).".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol Cymru wneud taliadau uniongyrchol i bobl benodol er mwyn iddynt allu sicrhau'r ddarpariaeth o wasanaethau cymdeithasol penodol eu hunain. Rhestrir y gwasanaethau o dan sylw yn rheoliad 5(2).

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi pobl benodol at ddibenion y Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i bersonau y mae awdurdod lleol wedi penderfynu bod eu hanghenion yn galw am ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol neu mae awdurdod lleol wedi penderfynu darparu gwasanaeth gofalydd mewn perthynas â hwy. Rhagnodir person o dan reoliad 3 os yw'n ymddangos i'r awdurdod lleol ei fod yn gallu rheoli taliadau uniongyrchol a'i fod yn dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau yn rheoliad 3(2), onid yw yn berson y mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi pobl benodol at ddibenion y Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i wasanaethau ar gyfer plant mewn angen a'u teuluoedd. Dylid darllen rheoliad 4 ar y cyd ag adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989. O dan adran 17A(2) o Ddeddf 1989 dylid gwneud taliadau uniongyrchol yn unig i'r personau o'r disgrifiadau canlynol ac mewn achosion lle mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu bod anghenion y plentyn o dan sylw yn galw am ddarparu gwasanaeth o dan adran 17 o Ddeddf 1989: (i) person â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl; (ii) person anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn; (iii) plentyn anabl 16 neu 17 oed. Mae rheoliad 4 yn nodi pa rai o'r personau hyn a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn. Rhagnodir person o dan reoliad 4 os yw'n ymddangos i awdurdod lleol ei fod yn gallu rheoli taliad uniongyrchol ac nad yw'n berson y mae Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.

Mae rheoliad 5 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud taliadau uniongyrchol i bersonau rhagnodedig. Dylid ei ddarllen ar y cyd ag adran 57(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac adran 17A(1) o Ddeddf Plant 1989. O dan y darpariaethau hynny, ni cheir gwneud taliadau uniongyrchol i berson heb ei ganiatâd.

O 1 Tachwedd 2004, o dan reoliad 5 rhaid i awdurdod lleol, os bodlonir yr amodau yn rheoliad 5(3), wneud taliadau uniongyrchol i'r canlynol: (i) personau a ragnodwyd o dan reoliad 3 y mae adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yn gymwys iddynt (mae adran 29 yn gymwys i oedolion sydd, er enghraifft, o dan anfantais sylweddol a pharhaus oherwydd salwch, anaf neu nam cynhenid neu'n dioddef o anhwylder meddwl); (ii) personau a ragnodwyd o dan reoliad 3 y penderfynodd yr awdurdod lleol ddarparu gwasanaethau iddynt o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr); a (iii) personau a ragnodwyd o dan reoliad 4. Ac o 1 Mawrth 2005 ymlaen rhaid i awdurdod lleol wneud taliadau uniongyrchol i bersonau eraill a ragnodwyd o dan reoliad 3 sydd dros 65 oed y mae'r awdurdod lleol wedi penderfynu darparu gwasanaethau gofal cymunedol mewn perthynas â hwy.

Mae rheoliad 6 yn darparu y gwneir taliad uniongyrchol naill ai yn daliad gros, neu'n net o'r swm hwnnw y mae'r awdurdod yn penderfynu sydd yn ddyledus gan y person o ran y gwasanaeth. Mae hefyd yn darparu mewn achosion penodol mai dim ond taliadau gros a wneir. Mae rheoliad 6 yn darparu ymhellach y ceir talu'r person rhagnodedig neu berson arall a enwebwyd gan y person hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn pennu'r amodau y ceir gwneud y taliadau uniongyrchol. Yn benodol, mae'n gwahardd defnyddio taliad uniongyrchol i sicrhau gwasanaeth gan y personau a restrir yn rheoliad 7(2), ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 7(1).

Mae rheoliad 8 yn pennu mwyafswm y cyfnodau o lety preswyl y gellir eu sicrhau drwy daliad uniongyrchol.

Mae rheoliad 9 yn darparu os bydd awdurdod yn gwneud taliad uniongyrchol nid yw'n colli ei gyfrifoldebau tuag at y person rhagnodedig o dan y deddfiad y penderfynodd yr awdurdod bod y person i dderbyn gwasanaethau. Er hynny, os bydd awdurdod lleol wedi'i fodloni y bydd anghenion person rhagnodedig yn cael eu diwallu gan y trefniadau a waned gan dderbynnydd y taliad uniongyrchol, ni fydd o dan unrhyw rwymedigaeth o ran darparu'r gwasanaethau a gafodd eu sicrhau drwy'r taliad uniongyrchol.

Mae rheoliad 10 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan gaiff awdurdod ei gwneud yn ofynnol i daliad uniongyrchol gael ei ad-dalu.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer amgylchiadau pan fo'n rhaid i awdurdod, neu pan gaiff, derfynu taliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 12 ac Atodlen 2 yn diwygio amrywiol Reoliadau.

Mae rheoliad 13 yn dirymu amrywiol Reoliadau.

Mae Atodlen 1 yn pennu'r personau na ddylid gwneud taliadau uniongyrchol iddynt o dan y Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] 2001 t.15. Mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn diffinio "regulations" fel "regulations made by the relevant authority", a "relevant authority" fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru (a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr). Gweler adran 57(8) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] 1989 t.41. Amnewidiwyd adran 17A o Ddeddf 1989 gan adran 58 o Ddeddf 2001. Rhoddwydd y pwcircer i wneud rheoliadau o dan adran 17A i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 68(1) o Ddeddf 2001, ymdrinnir â'r cyfeiriad at Ddeddf 1989 yng Ngorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel cyfeiriad at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 2001. Yn unol â hynny, mae pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 17A o Ddeddf 1989, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, yn arferadwy gan y Cynulliad: gweler Erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 a'r cofnod o ran Deddf 1989 yn Atodlen 1 iddo. Gweler adran 17(6) o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[3] O dan adran 57(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac adran 17A(2) o Ddeddf Plant 1989, yr "awdurdod cyfrifol" mewn perthynas â'r person rhagnodedig yw'r awdurdod lleol a benderfynodd: (i) bod ei anghenion yn galw am iddynt ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol penodol ar ei gyfer; (ii) darparu gwasanaethau ar ei gyfer yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000; neu (iii) bod anghenion plentyn anabl yn galw am ddarparu gwasanaethau i berson rhagnodedig o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989.back

[4] 1983 p.60.back

[5] 1984 p.36.back

[6] 1995 p.46.back

[7] 2000 p.6.back

[8] O.S. 2003/672back

[9] Daw person o fewn adran 57(2) o Ddeddf 2001 os yw'r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu: (i) bod ei anghenion yn galw am iddynt ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol penodol ar ei gyfer; neu (ii) darparu gwasanaeth penodol iddo yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000.back

[10] 1948 p.47. Mae adran 29 yn gymwys i "persons aged eighteen or over who are blind, deaf or dumb or who suffer from mental disorder of any description, and other persons aged eighteen or over who are substantially and permanently handicapped by illness, injury, or congenital deformity or such other disabilities as may be prescribed…".back

[11] Daw person o fewn adran 17A(2) o Ddeddf 1989: (a) os yw'n berson â chyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl; (b) os yw'n berson anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn; neu (c) os yw'n blentyn anabl 16 neu 17 oed.back

[12] 1990 p.19.back

[13] 2000 p.16.back

[14] Gweler adran 57(4) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "gross payments".back

[15] Gweler adran 57(5) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "net payments".back

[16] Mae adran 17A(3) o Ddeddf 1989 yn cymhwyso adrannau 57(3) i (5) a (7) o Ddeddf 2001 i reeoliadau a wnaed o dan adran 17A o Ddeddf 1989.back

[17] Daw person o fewn adran 17A(5) os oes ganddo gyfrifoldeb rhiant am blentyn anabl 16 neu 17 oed neu os yw'n berson anabl â chyfrifoldeb rhiant am blentyn o'r oed hwnnw neu os yw'n derbyn cymhorthdal incwm, credyd treth i deuluoedd sy'n gweithio neu gredyd treth i bobl anabl.back

[18] Y raddfa a grybwyllir yn adran 57(4)(a) yw'r raddfa honno y mae'r awdurdod yn amcangyfrif sy'n hafal i gost resymol sicrhau darparu'r gwasanaeth o dan sylw.back

[19] Mae adran 57(4)(b) yn caniatáu i awdurdod wneud taliadau uniongyrchol gros yn ddarostyngedig i'r amod bod y talai yn talu i'r awdurdod, drwy ad-daliad, swm neu symiau y penderfynir arnynt o dan y rheoliadau.back

[20] Plentyn anabl 16 neu 17 oed yw'r person a grybwyllir yn adran 17A(2)(c).back

[21] Mae adran 57(4)(b) o Ddeddf 2001 yn caniatáu i'r awdurdod cyfrifol wneud taliad gros uniongyrchol yn ddarostyngedig i amod bod y talai yn talu iddo, drwy ad-daliad, swm neu symiau y penderfynir arnynt o dan y rheoliadau. Mae adran 17A(3) o Ddeddf 1989 yn cymhwyso adran 57(4)(b) i daliadau uniongyrchol o dan y Ddeddf honno.back

[22] O.S. 1997/734.back

[23] O.S. 2000/1868 (Cy.127).back

[24] O.S. 2001/2186 (Cy.150).back

[25] O.S. 2001/2192 (Cy.154).back

[26] 1998 p.38.back

[27] 1991 p.53.back

[28] Mewnosodwyd adran 25A gan adran 1(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 (p.52) ("Deddf 1995").back

[29] 1991 p.25.back

[30] Mewnosodwyd adran 35A gan adran 4 o Ddeddf 1995.back

[31] 2000 dsa 4.back

[32] Mewnosodwyd adran 234B gan adran 90 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p.37).back

[33] 1989 p.45.back

[34] 1993 p.9.back

[35] O.S. 2000/516.back

[36] O.S. 1989/338; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/778, 1996/2309, 1997/753; gweler hefyd O.S. 2000/774, erthygl 5.back

[37] O.S. 1989/340; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/790 ac 1997/751; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.back

[38] O.S. 1989/344; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/789 ac 1997/752; gweler hefyd O.S. 2000/774 erthygl 5 ac O.S. 2001/916, erthygl 4 a Atodlen 2.back

[39] O.S. 2000/516.back

[40] O.S. 1987/1967; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back

[41] O.S. 1987/1971; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/2863.back

[42] O.S. 1987/1973; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back

[43] O.S. 1991/2887; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back

[44] O.S. 1992/1814; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back

[45] O.S. 1992/1815; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/3196. Dirymwyd O.S. 1992/1815 gydag arbedion gan O.S. 2001/155.back

[46] O.S. 1996/207; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/65.back

[47] O.S. 1996/2890; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/808.back

[48] O.S. 1997/2847.back

[49] O.S. 2002/2006.back



English version



ISBN 0 11090993 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 26 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010