BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041744w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1744 (Cy.183)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 133, 134, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymiadau, arbedion a darpariaethau trosiannol
    
3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae'r Rheoliadau a grybwyllir yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael eu dirymu i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.

    (2) Mae'r arbedion a'r darpariaethau trosiannol a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i gael effaith.

Dehongli
    
4. Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2];

    ystyr "Rheoliadau 1959" ("the 1959 Regulations") yw Rheoliadau Ysgolion 1959[3];

    ystyr "Rheoliadau 1982" ("the 1982 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1982[4]);

    ystyr "Rheoliadau 1989" ("the 1989 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1989[5];

    ystyr "Rheoliadau 1993" ("the 1993 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Athrawon) 1993[6];ac

    ystyr "Rheoliadau 1999" ("the 1999 Regulations") yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999[7].

Y gofyniad i fod yn gymwysedig
     5. Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgol onid ydynt  - 

    (a) yn athrawon cymwysedig, neu

    (b) yn bodloni'r gofynion a bennir yn Atodlen 2.

Gwaith penodedig
    
6.  - (1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn  - 

    (a) cynllunio a pharatoi gwersi a chyrsiau ar gyfer disgyblion;

    (b) cyflwyno gwersi i ddisgyblion;

    (c) asesu datblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion; ac

    (ch) adrodd ar ddatblygiad, cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion.

    (2) Ym mharagraff (1)(b) mae "cyflwyno" yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu dechnegau drwy gymorth cyfrifiadur.

Y gofyniad i fod yn gofrestredig
    
7. Dim ond os ydynt wedi'u cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol)[8]) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 3



RHAN 1

DIRYMU

Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu Cyfeirnod Graddau'r Dirymu
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 O.S. 1999/2817 (Cy.18) Paragraffau 4, 6 a 7 o Ran II o Atodlen 1; Atodlen 2
Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 O.S. 2000/3122 (Cy. 200) Y Rheoliadau cyfan



RHAN 2

ARBEDION A DARPARIAETHAU TROSIANNOL CYFFREDINOL

Penderfyniadau prawf gan y Cynulliad Cenedlaethol
     1.  - (1) Yn achos personau a oedd, ar 1 Medi 1992, wedi cychwyn ond heb gwblhau cyfnod prawf o dan reoliad 14 o Reoliadau 1989, ac Atodlen 6 iddynt, bydd rheoliad 14 ac Atodlen 6 yn parhau i gael effaith hyd nes y cydymffurfir â'u holl ddarpariaethau.

    (2) Nid yw athrawon  - 

    (a) y dyfarnwyd eu bod yn anaddas i gael eu cyflogi ymhellach fel athrawon cymwysedig yn unol â pharagraff 2(c) o Atodlen 2 i Reoliadau 1959; neu

    (b) a gafodd rybudd ysgrifenedig o dan baragraff 5(2) o Atodlen 6 i Reoliadau 1982,

i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Athrawon trwyddedig, athrawon sydd wedi'u hyfforddi dramor ac athrawon cofrestredig
     2.  - (1) Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997[
10], Rheoliadau 1999, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004[11] a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion  - 

    (a) caniatáu cyflogi fel athrawon mewn ysgol athrawon anghymwysedig a oedd yn athrawon trwyddedig neu'n athrawon a hyfforddwyd dramor fel y'u diffiniwyd ynddynt ar 30 Tachwedd 1997, a bydd y dyletswyddau a osodwyd ar y personau mewn cysylltiad â hynny yn parhau i fod yn gymwys; a

    (b) penderfynu a oedd personau, a oedd ar 30 Tachwedd 1997 neu unrhyw bryd cyn hynny yn athrawon trwyddedig, athrawon a hyfforddwyd dramor neu'n athrawon cofrestredig fel y'u diffiniwyd ynddynt, yn athrawon cymwysedig.

    (2) Caiff personau sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol yn rhinwedd paragraff (1)(a) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes iddynt beidio â bod yn gyflogedig felly.

Athrawon Graddedig
     3. Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Athrawon Cofrestredig
     4. Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.



ATODLEN 2
Rheoliad 5


Y GOFYNION SYDD I'W BODLONI GAN BERSONAU NAD YDYNT YN ATHRAWON CYMWYS ER MWYN CYFLAWNI'R GWAITH A BENNWYD YN RHEOLIAD 6


Dehongli
     1. Yn yr Atodlen hon  - 

    ystyr "athrawon cofrestredig" ("registered teachers") yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004;

    ystyr "athrawon graddedig" ("graduate teachers") yw personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004; ac

    ystyr "cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth" ("employment-based teacher training scheme") yw'r cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004[12].

Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin
     2.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos  - 

    (a) athrawon cynorthwyol mewn ysgol feithrin, neu

    (b) athrawon dosbarth meithrin,

y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.

    (2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn yr un swyddogaeth ag yr oedd yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.

Hyfforddwyr gyda chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig
     3.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol), y mae angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn cyflawni'r gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.

    (2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol os, ar adeg eu penodiad  - 

    (a) y mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol nad oes ganddi gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), y corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol y mae ganddi gyllideb ddirprwyedig), neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nad yw'n cael ei chynnal gan awdurdod addysg lleol), yn ôl fel y diwgydd, wedi'i fodloni ynglyn â'u cymwysterau neu eu profiad neu'r ddau; a

    (b) nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw.

    (3) Dim ond am y cyfnod pan nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw y caiff personau sy'n cael eu penodi yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).

    (4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982  - 

    (a) os oedd eu penodiad am gyfnod penodedig, os a thra na fydd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben; neu

    (b) os oedd eu penodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.

Athrawon a Hyfforddwyd Dramor
     4.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caiff personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) os ydynt wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.

    (2) Ni fydd is - baragraff (1) yn gymwys yn achos personau a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddirwyn i ben, gan ddechrau ar ba un bynnag o'r canlynol yw'r cynharaf  - 

    (a) y diwrnod y maent yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol yn rhinwedd y paragraff hwn am y tro cyntaf, neu

    (b) y diwrnod y cawsant eu cyflogi gyntaf fel athrawon mewn ysgol yn rhinwedd paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999.

Athrawon graddedig
     5.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.

    (2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y pargraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Athrawon cofrestredig
     6.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.

    (2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.

Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth
     7.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

    (2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod yn cwblhau'r hyforddiant hwnnw'n llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.

Personau eraill sy'n cael cyflawni gwaith penodedig
     8.  - (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi'u crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.

    (2) Dim ond os yw'r amodau canlynol yn cael eu bodloni y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol  - 

    (a) eu bod yn cyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 er mwyn cynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn yr ysgol;

    (b) eu bod yn dod o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth y cyfryw athrawon cymwysedig neu athrawon a enwebir yn unol â threfniadau a wnaed gan bennaeth yr ysgol; ac

    (c) bod y pennaeth wedi'i fodloni bod ganddynt y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.

    (3) Os ydynt yn barnu bod yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu'n athrawon a enwebir at ddiben is-baragraff (2) bersonau a grybwyllwyd ym mharagraff 3, 4, 5, 6 neu 7 o'r Atodlen hon.

    (4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, caiff penaethiaid ystyried  - 

    (a) unrhyw safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel-uwch, neu ganllawiau ynglyn â staff cynnal ysgol, a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad Cenedlaethol; a

    (b) unrhyw ganllawiau ynglyn â materion contract sy'n berthnasol i staff cynnal ysgol a gyhoeddir o bryd i'w gilydd gan unrhyw awdurdod addysg lleol neu gyflogwr arall.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu gwaith y caiff athrawon cymwysedig a phersonau sy'n bodloni gofynion penodedig ei gyflawni mewn ysgolion. Mae'r gofynion sydd i'w bodloni wedi'u pennu yn Atodlen 2.

Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bellach fod y mwyafrif o'r personau hynny a grybwyllwyd yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 yn cael cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion, o dan yr un amgylchiadau ag o'r blaen. Mae paragraff 8 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn darparu bod personau eraill yn cael cyflawni gwaith penodedig mewn ysgolion os caiff yr amodau a grybwyllir yn y paragraff hwnnw eu bodloni. Ni chaiff personau yn y categori "myfyrwyr-athrawon" o dan Reoliadau 1999 (h.y. y rhai sy'n aros am gael lle ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon neu sy'n gohirio cwblhau'r cwrs hwnnw) gyflawni gwaith penodedig o dan yr un amgylchiadau ag o'r blaen, ond rhaid iddynt fodloni'r amodau ym mharagraff 8.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hefyd fod athrawon cymwysedig sy'n cyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgolion i gael eu cofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.


Notes:

[1] 2002 p.32. Ystyr "regulations" yw rheoliadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 212(1)).back

[2] 1998 p.30.back

[3] O.S. 1959/364 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.back

[4] O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back

[5] O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.back

[6] O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.back

[7] O.S. 1999/2817 (Cy. 18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy. 158), 2002/2938 (Cy. 279), 2003/140 (Cy. 12), 2003/2458 (Cy. 240) ac fel y'i dirymwyd yn rhannol gan O.S. 2004/1729 (Cy173).back

[8] Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, O.S. 2000/1979 (Cy. 140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy. 200) ac O.S. 2004/1741 (Cy.180).back

[9] 1998 p.38.back

[10] O.S. 1997/2679.back

[11] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back

[12] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back



English version



ISBN 0 11090977 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010