BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041734w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1734 (Cy.177)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym
  ac eithrio erthygl 4(3) 31 Gorffennaf 2004 
  erthygl 4(3) 31 Awst 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 69(3) a (4) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ar ôl dilyn y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998[3]:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol a Diwygiadau (Cymru) 2004.

    (2) Ac eithrio erthygl 4(3) daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2004.

    (3) Daw erthygl 4(3) i rym ar 31 Awst 2004

    (4) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "yr enwad crefyddol perthnasol" ("the relevant religious denomination") yw'r enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau mewn ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Dynodi
    
2. Dynodir yr ysgolion a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn ysgolion sydd â chymeriad crefyddol.

    
3. Yr enwad crefyddol perthnasol mewn perthynas ag ysgol a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yw - 

    (a) Yr Eglwys yng Nghymru, yn achos ysgol a restrir yn Rhan I o'r Atodlen;

    (b) Catholig, yn achos ysgol a restrir yn Rhan II o'r Atodlen; ac

    (c) Eglwys Loegr yn achos ysgol a restrir yn Rhan III o'r Atodlen.

Diwygio Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999
    
4.  - (1) Diwygir Gorchymyn Dynodi Ysgolion Sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999[4] fel a ganlyn.

    (2) Yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw  - 

    (a) hepgorwch y cofnodion ar gyfer:

      (i) Jeffreyston Voluntary Controlled Primary School;

      (ii) Manordeifi Upper Voluntary Controlled Primary School;

      (iii) Ysgol Gynradd Wirfoddol Myddfai; a

      (iv) Portskewett Voluntary Controlled Infants School; a

    (b) hepgorwch y cofnod ar gyfer St. Paul's Primary School o'r rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir a mewnosodwch gofnod union debyg ar gyfer St. Paul's Primary School yn y rhestr o Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir.

    (3) Yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwnnw hepgorwch y cofnod ar gyfer St Winefrides Roman Catholic School, Sir Ddinbych.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



YR ATODLEN
Rheoliadau 2 a 3



RHAN I

YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL YR EGLWYS YNG NGHYMRU

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Sir Fynwy Ysgol Gynradd yr Archesgob Rowan Williams  -  Ysgol Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru a Gynorthwyir Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
Sir Benfro Ysgol Gynradd Sant Oswallt  -  Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir
Powys Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Llanelwedd -  Ysgol Wirfoddol a Reolir Ysgol Wirfoddol a Reolir



RHAN II

YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL CATHOLIG

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Sir Ddinbych Ysgol y Santes Ffraid Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir



RHAN III

YSGOLION SYDD Â CHYMERIAD CREFYDDOL EGLWYS LOEGR

AALl Enw'r Ysgol Categori'r Ysgol
Powys Ysgol Eglwys Loegr Sarn Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Gorffennaf 2004, yn dynodi ysgolion yng Nghymru sydd â chymeriad crefyddol yn unol ag adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Dynodir yr ysgolion hyn yn ogystal â'r ysgolion hynny a restrir eisoes yng Ngorchymyn Dynodi Ysgolion sydd â Chymeriad Crefyddol (Cymru) 1999 ("Gorchymyn 1999").

Mae dynodi ysgol sydd â chymeriad crefyddol yn berthnasol ar gyfer nifer o ddibenion o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("y Ddeddf"), yn arbennig:

    (a) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addysg grefyddol sydd i'w darparu o dan Atodlen 19 i'r Ddeddf;

    (b) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar ffurf yr addoli ar y cyd sydd i'w ddarparu o dan Atodlen 20 i'r Ddeddf;

    (c) fel rhan o'r mecanwaith ar gyfer penderfynu ar faterion staffio ysgol o dan adrannau 58-60 o'r Ddeddf;

    (ch) at ddibenion penderfynu ar y trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion o dan adran 89 o'r Ddeddf; a

    (d) at ddibenion cael gwared ar asedau o dan baragraff 5 o Atodlen 3 i'r Ddeddf, er mwyn ailgyfeirio asedau er lles ysgolion o'r un crefydd neu o'r un enwad crefyddol.

Nid yw'r dynodiad gan y Gorchymyn hwn ynddo'i hun yn fodd i ennill cymeriad crefyddol na newid cymeriad crefyddol. Mae dynodiad yn cydnabod nodweddion presennol penodol yr ysgol neu ei chorff llywodraethu fel y disgrifir hwy yn Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Y Weithdrefn Ddynodi) 1998 (O.S. 1998/2535). O dan y Ddeddf rhaid i ysgol gau yn gyntaf os yw i ennill cymeriad crefyddol, onid oes ganddi un eisoes fel cwestiwn o ffaith, neu os yw i newid ei chymeriad crefyddol.

Nid yw datganiad yn y Gorchymyn mewn perthynas ag ysgol fod yr enwad crefyddol y mae'n ofynnol, neu y gall fod yn ofynnol, darparu addysg grefyddol yn unol â'i ddaliadau yn yr ysgol yn unol ag Atodlen 19 i Ddeddf 1998, yn Gatholig yn penderfynu a yw ysgol yn ysgol Gatholig neu beidio yn unol â chyfraith ganon.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud diwygiadau i Orchymyn 1999 er mwyn adlewyrchu'r ffaith:

      (i) bod rhai ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi cau: a

      (ii) bod un o'r ysgolion sydd wedi'u rhestru yn y Gorchymyn hwnnw wedi newid categori.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddi (O.S.1999/672).back

[3] O.S. 1998/2535.back

[4] O.S. 1999/1814.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090968 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 13 July 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010