BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041576w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1576 (Cy.162)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004

  Wedi'u gwneud 22 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym 1 Awst 2004 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

RHAGARWEINIOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso.
2. Dehongli.

RHAN 2

CYNIGION A WNAED O DAN ADRAN 113A
3. Newidiadau y ceir gwneud cynigion ar eu cyfer.
4. Ymgynghori.
5. Cyhoeddi'r cynigion.
6. Gwrthwynebu'r cynigion.
7. Cyflwyno'r cynigion etc. i'r Cynulliad Cenedlaethol.
8. Tynnu cynigion yn ôl.
9. Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
10. Gweithredu'r cynigion.

RHAN 3

CYNIGION A WNAED O DAN ATODLEN 7
11. Gwybodaeth i'w chynnwys yn y cynigion a gyhoeddir.
12. Dull cyhoeddi'r cynigion.
13. Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol.
14. Cyrff y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt  -  ysgolion arbennig.
15. Gwrthwynebu'r cynigion.
16. Cymeradwyaethau amodol.
17. Darparu gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol.
18. Cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7.

RHAN 4

ATODOL
19. Newid categori ysgol.
20. Diwygiad canlyniadol.
21. Dirymu.

YR ATODLENNI:

  Atodlen 1  -  Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir o dan adran 113A.

  Atodlen 2  -  Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir o dan Atodlen 7.

  Atodlen 3  -  Yr wybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 113A neu Atodlen 7.
 Rhan 1  -  Dehongli
 Rhan 2  -  Yr wybodaeth sydd i'w hanfon mewn cysylltiad â chynigion o dan adran 113A neu Atodlen 7 os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd.
 Rhan 3  -  Yr wybodaeth sydd i'w hanfon mewn cysylltiad â chynigion o dan adran 113A neu Atodlen 7 os yw'r ysgol yn ysgol arbennig.
 Rhan 4  -  Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w hanfon os gwneir y cynigion o dan adran 113A i gau chweched dosbarth neu i newid terfyn uchaf oedran ysgol neu o dan Atodlen 7 i gau chweched dosbarth.
 Rhan 5  -  Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w hanfon os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7 i gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed.
 Rhan 6  -  Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w hanfon os gwneir y cynigion o dan adran 113A i ehangu mangre presennol chweched dosbarth neu sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed, i ddarparu addysg chweched dosbarth ychwanegol, neu i sefydlu chweched dosbarth newydd.

  Atodlen 4  -  Cynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 5 o Atodlen 8 iddi[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 113A a 152(5) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a pharagraffau 20(2), 21, 22, 28(2), 29, 30, 39(2), 40, 41, 42(4) a 43(4) o Atodlen 7 iddi, a pharagraff 1 o Atodlen 7A iddi[3].



RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    ystyr "addysg chweched dosbarth" ("sixth form education") yw addysg llawnamser mewn ysgol sy'n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ond yn is na 19 oed;

    ystyr "coleg addysg bellach" ("further education college") yw sefydliad o fewn y sector addysg bellach (yn ystyr adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992)[4];

    ystyr "y Cyngor" ("the Council") yw Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;

    mae i "cynigion i gau chweched dosbarth" yr ystyr a roddir i "proposals to discontinue a sixth form" fel a grybwyllir ym mharagraff 20(1) o Atodlen 7;

    ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    ystyr "datganiad o achos anghenion addysgol arbennig" ("statement of special educational needs") yw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan Ran IV o Deddf Addysg 1996[5];

    ystyr "Deddf 1998" ("the 1998 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

    ystyr "Deddf 2000" ("the 2000 Act") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 2000;

    ystyr "grwcirc p oedran chweched dosbarth perthnasol" ("relevant sixth form age group") yw grwcirc p oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn yn arferol (neu, yn ôl y digwydd, y byddir yn eu derbyn yn arferol) i'r ysgol ar gyfer addysg chweched dosbarth;

    mae i "grwcirc p oedran perthnasol" yr ystyr a roddir i ("relevant age group") gan adran 142(1) o Ddeddf 1998;

    ystyr "sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed" ("16 to 19 institution") yw ysgol a gynhelir  - 

    (a) sy'n darparu addysg llawnamser addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, a

    (b) nad yw'n darparu addysg llawnamser addas i ofynion disgyblion oedran ysgol gorfodol;

    ystyr "terfyn uchaf oedran" ("the upper age limit") ysgol yw oedran uchaf disgyblion y darperir addysg ar eu cyfer fel arfer yn yr ysgol.

    mae i "ysgol a gynhelir" yr ystyr a roddir i "maintained school" yn Neddf 1998;

    ystyr "ysgol arbennig" ("special school") yw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig;

    ystyr "ysgol brif ffrwd" ("mainstream school") yw ysgol a gynhelir heblaw ysgol arbennig;

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad at adran 113A, Atodlen 7 neu Atodlen 7A yn gyfeiriad at adran 113A o Ddeddf 2000 neu Atodlen 7 neu Atodlen 7A iddi fel y bo'n briodol.

    (3) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae faint o leoedd sydd gan ysgol i'w benderfynu yn unol ag Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[6].

    (4) At ddibenion y Rheoliadau hyn dyddiad cyhoeddi'r cynigion yw  - 

    (a) y dyddiad pan fodlonir gofynion rheoliad 5 neu 12 (yn ôl y digwydd); neu

    (b) os bodlonir gofynion gwahanol ar ddyddiadau gwahanol, y diweddaraf o'r dyddiadau hynny.

    (5) Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gymwys at ddibenion dehongli'r termau sydd yn Rhannau 2 i 6 o'r Atodlen honno.



RHAN 2

Cynigion a wneir o dan adran 113A

Newidiadau y ceir gwneud cynigion ar eu cyfer
     3.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi'r disgrifiadau o newidiadau i ysgolion a gynhelir at ddibenion adran 113A(4)(b).

    (2) Dyma'r disgrifiadau o'r newidiadau  - 

    (a) ehangu mangre sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed a fyddai'n cynyddu lleoedd mewn ysgol gan 25% neu fwy;

    (b) ehangu mangre unrhyw ysgol uwchradd arall gyda'r bwriad o greu cynnydd o 25% neu fwy yn nifer y disgyblion y rhoddir addysg chweched dosbarth iddynt yn yr ysgol;

    (c) newid terfyn uchaf oedran ysgol fel y bydd  - 

      (i) yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth, neu

      (ii) yr ysgol yn peidio â darparu addysg chweched dosbarth; neu

    (ch) newid yn nherfyn uchaf oedran ysgol (sy'n derfyn uwch na'r oedran ysgol gorfodol) o flwyddyn neu fwy (na ddaw o fewn is-baragraff (c) uchod).

Ymgynghori
    
4. Cyn gwneud cynigion o dan adran 113A rhaid i'r Cyngor ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried sy'n briodol, yn nodi'r ystyriaethau a arweiniodd at y cynnig a'r dystiolaeth gefnogol.

Cyhoeddi'r cynigion
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gynigion a wna o dan adran 113A yn y dull a bennir ym mharagraffau (2) a (3) isod, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1.

    (2) Os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad  - 

    (a) drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal i'w gwasanaethu gan yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol y cynigir a ddylai gynnal yr ysgol, os yw'r ysgol i fod yn ysgol arbennig; a

    (b) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno.

    (3) Os yw'r cynigion ar gyfer gwneud newid i ysgol a gynhelir neu gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad  - 

    (a) drwy ei osod mewn lle amlwg yn yr ardal a wasanaethir gan yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol brif ffrwd, neu yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol, os yw'r ysgol sy'n destun y cynigion yn ysgol arbennig;

    (b) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; ac

    (c) drwy ei arddangos wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.

    (4) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y personau canlynol  - 

    (a) y Cynulliad Cenedlaethol;

    (b) corff llywodraethu unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);

    (c) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal, unrhyw ysgol sy'n destun y cynigion;

    (ch) unrhyw awdurdod addysg lleol cyffiniol;

    (d) y Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig;

    (dd) personau eraill y mae'r Cyngor yn barnu sy'n briodol.

    (5) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r hysbysiad at  - 

    (a) bob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (b) rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (c) unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ysgol yn ei ardal; ac

    (ch) unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau eraill yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

    (6) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig arfaethedig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (5).

    (7) Yn y rheoliad hwn mae i "rhiant" yr ystyr a roddir i "parent" yn adran 576 o Deddf Addysg 1996.

Gwrthwynebu cynigion
    
6. Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i gynigion a wnaed o dan adran 113A i'r Cyngor o fewn dau fis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Cyflwyno cynigion etc. i'r Cynulliad Cenedlaethol
    
7. O fewn mis ar ôl diwedd y cyfnod y ceir gwrthwynebu o dan reoliad 6 rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (a) copïau o bob gwrthwynebiad a gafwyd yn unol â rheoliad 6 (heblaw gwrthwynebiadau a dynnwyd yn ôl yn ysgrifenedig o fewn y cyfnod a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw), ynghyd â'i sylwadau arnynt; a

    (b) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd;

    (c) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig;

    (ch) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os cynigir cau'r chweched dosbarth; neu

    (d) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r cynigion ar gyfer ehangu mangre chweched dosbarth presennol neu sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed neu ar gyfer darparu addysg chweched dosbarth ychwanegol neu sefydlu chweched dosbarth newydd.

Tynnu cynigion yn ôl
    
8. Caiff y Cyngor dynnu cynigion yn ôl ar unrhyw adeg cyn y penderfynir arnynt o dan adran 113A(4) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol
    
9.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan adran 113A  - 

    (a) y Cyngor;

    (b) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir iddo gynnal yr ysgol arfaethedig;

    (c) os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig bresennol, pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (ch) corff llywodraethu'r ysgol (ac eithrio os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed);

    (d) Bwrdd Addysg Esgobaethol (neu gorff arall sy'n gyfrifol am addysg) ar gyfer unrhyw esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru ac Esgob unrhyw esgobaeth yr Eglwys Gatholig, y mae unrhyw rhan ohonynt o fewn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol neu (yn achos cynigion i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed) y bwriedir a ddylai gynnal yr ysgol arfaethedig; ac

    (dd) yn ddarostyngedig i baragraff (2), pob gwrthwynebydd.

    (2) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) drwy  - 

    (a) hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod wedi trefnu anfon y ddeiseb at y Cyngor (os rhoddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw); neu

    (b) os nad oes person o'r fath (neu os na roddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw), hysbysu unrhyw un o'r gwrthwynebwyr y mae ei enw'n ymddangos ar y ddeiseb.

    (3) Dim ond os yw'r Cyngor wedi cydsynio i addasiadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cynigion gydag addasiadau.

Gweithredu'r cynigion
    
10.  - (1) Rhagnodir y Cyngor at ddibenion paragraff 1(3) o Atodlen 7A (sy'n darparu y caiff personau a ragnodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion neu bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd).

    (2) At ddibenion paragraffau 1(3) a (4) o Atodlen 7A (sy'n darparu ar ôl iddo ymgynghori â phersonau rhagnodedig caiff y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion a gymeradwywyd, pennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd, neu benderfynu na ddylai paragraff 1(2) o Atodlen 7A fod yn gymwys) rhagnodwyd y personau canlynol  - 

    (a) y Cyngor;

    (b) corff llywodraethu ysgol (neu, yn achos cynnig i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed y corff llywodraethu dros dro yn ystyr Deddf 1998 neu Ddeddf 2002);

    (c) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal, neu y bwriedir iddo gynnal, yr ysgol; a

    (ch) os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.



RHAN 3

Cynigion a wnaed o dan Atodlen 7

Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir
    
11.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7, yr wybodaeth y mae'n rhaid i gynigion a gyhoeddir o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7 ei chynnwys.

    (2) Rhaid i gynigion o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Dull cyhoeddi'r cynigion
    
12.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 20(2) a 28(2) o Atodlen 7 y dull i gyhoeddi'r cynigion y mae'n ofynnol eu cyhoeddi o dan baragraff 20 neu 28 o Atodlen 7.

    (2) Os yw ysgol yn ysgol a gynhelir, mae cynigion o'r fath i'w cyhoeddi  - 

    (a) drwy gael eu gosod mewn man amlwg yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu;

    (b) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; a

    (c) drwy gael eu gosod wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.

    (3) Os yw ysgol yn ysgol arbennig, mae cynigion o'r fath i'w cyhoeddi  - 

    (a) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol; a

    (b) drwy gael eu gosod wrth brif fynedfa'r ysgol neu gerllaw iddi neu, os oes mwy nag un prif fynedfa, y cyfan ohonynt.

Yr wybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol
    
13.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 21(1)(b) a 29(1)(b) o Atodlen 7, yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd, neu Ran 3 o'r Atodlen honno, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, ynghyd â'r canlynol  - 

    (a) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 4 o'r Atodlen honno, os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth; neu

    (b) yr wybodaeth a bennir yn Rhan 5 o'r Atodlen honno, os cynigion ydynt i gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed.

Cyrff y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt  -  ysgolion arbennig
    
14.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 y cyrff neu'r personau, yn achos ysgol arbennig, y mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd anfon atynt gopi o'r cynigion a gyhoeddir.

    (2) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir at y canlynol  - 

    (a) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;

    (b) pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (c) rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (ch) unrhyw Fwrdd Iechyd Lleol y mae'r ysgol yn ei ardal; a

    (d) unrhyw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros berchenogaeth neu reolaeth unrhyw ysbyty neu sefydliad arall neu gyfleusterau eraill yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

Gwrthwynebu cynigion
    
15.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraff 41 o Atodlen 7 y cyfnod pan geir anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion at y Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Mae gwrthwynebiadau i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.

Cymeradwyaethau amodol
    
16.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi mathau o achlysuron at ddibenion paragraff 42(4) o Atodlen 7 (sy'n darparu y gall cymeradwyo cynigion fod yn ddarostyngedig i achlysur penodedig yn digwydd sydd o fath a ragnodwyd erbyn amser penodedig).

    (2) Y mathau o achlysuron yw unrhyw rai o'r achlysuron canlynol sy'n ymwneud ag unrhyw ysgol arall neu ysgol arfaethedig y cyhoeddwyd cynigion mewn perthynas â hwy o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998  - 

    (a) cael caniatâd cynllunio o dan Ran III o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[7];

    (b) caffael safle er mwyn adeiladu ysgol newydd, ehangu arfaethedig ar fangre'r ysgol neu newid arall ar fangre'r ysgol;

    (c) caffael meysydd chwarae i'w darparu ar gyfer yr ysgol;

    (ch) diogelu unrhyw fynedfa angenrheidiol i safle neu feysydd chwarae y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) ac (c) yn y paragraff hwn;

    (d) ymrwymo mewn trafodiad ariannol preifat yn ystyr rheoliad 16 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfalaf Ariannol) 1997[8]; ac

    (dd) gwneud unrhyw gynllun sy'n ymwneud ag unrhyw elusen sy'n gysylltiedig â'r ysgol neu'r ysgol arfaethedig.

Darparu gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol
     17.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan baragraff 42(1) neu 43(2) o Atodlen 7  - 

    (a) y Cyngor;

    (b) yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol;

    (c) os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, pob awdurdod addysg lleol sy'n cadw datganiad o achos anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol;

    (ch) corff llywodraethu'r ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi; a

    (d) yn ddarostyngedig i baragraff (3), pob gwrthwynebydd a roddodd ei gyfeiriad i'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (1), yn hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw am benderfyniad rhaid iddo hefyd eu hysbysu am y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

    (3) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1)(d) drwy  - 

    (a) hysbysu'r person (os oes un) y mae'n ymddangos i'r Cynulliad ei fod wedi trefnu anfon y ddeiseb at y Cynulliad Cenedlaethol (os rhoddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw); neu

    (b) os nad oes person o'r fath (neu os na roddwyd cyfeiriad ar gyfer y person hwnnw), hysbysu unrhyw un o'r gwrthwynebwyr y mae ei enw'n ymddangos ar y ddeiseb.

Cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7
    
18. Mae Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7 (cynigion a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd yn flaenorol o dan Atodlen 7 nad ydynt i'w gweithredu).



RHAN 4

Atodol

Newid categori ysgol
    
19. Os bydd ysgol, ar ôl i gynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 113A neu Atodlen 7 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, yn newid categori o dan Atodlen 8 i Ddeddf 1998 o ysgol gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol mae'r cynigion (i'r graddau na weithredwyd hwy) i'w gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol (er gwaethaf paragraff 44 o Atodlen 7 neu baragraffau 3 neu 4 o Atodlen 7A).

Diwygiad canlyniadol
    
20.  - (1) Drwy hyn diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau mewn perthynas ag Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) 1999[9] mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3(2)(c) ar ôl paragraff (ii) mewnosoder y paragraff canlynol  - 

        " (iii) any proposals for an alteration to a school published under section 113A of the Learning and Skills Act 2000 approved under subsection (5) of that section; or".

Dirymu
     21. Drwy hyn dirymir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002[10].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Mehefin 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 5


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CYNIGION A GYHOEDDIR O DAN ADRAN 113A


     1. Datganiad bod y cynigion yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor.

     2. Manylion o'r amcan neu'r amcanion perthnasol a nodir yn adran 113A y bwriedir i'r cynigion eu hybu a manylion o sut y byddai'r cynigion yn hybu'r amcan neu'r amcanion a nodwyd.

     3. Y dyddiad y bwriedir gweithredu'r cynigion neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, y dyddiad y bwriedir gweithredu pob cam.

     4. Os cynigion ydynt i sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed neu i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel y bydd yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth  - 

    (a) gwybodaeth am nifer y myfyrwyr y darperir addysg chweched dosbarth ar eu cyfer;

    (b) y terfyn uchaf oedran ysgol a gynigir; a

    (c) y trefniadau arfaethedig ar gyfer cludo disgyblion i'r ysgol.

     5. Dadansoddiad o effaith hirdymor y cynigion ar yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi.

     6. Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol â chymeriad crefyddol, manylion y grefydd neu 'r enwad crefyddol o dan sylw.

     7. Os bydd y cynigion yn cael yr effaith y bydd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addysg chweched dosbarth i ddod i ben, manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y gall myfyrwyr sydd yn yr ysgol ac y mae'r ddarpariaeth ar eu cyfer i ddod i ben eu mynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.

     8. Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.

     9. Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i ddod â'r darpariaethau i ben.

     10. Ac eithrio os yw'r cynigion  - 

    (a) i gau ysgol;

    (b) i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel y bydd yr ysgol yn peidio â darparu addysg chweched dosbarth; neu

    (c) yn ymwneud ag ysgol arbennig;

mae nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol (neu, yn ôl y digwydd, i'r ysgol newydd) ym mhob grwcirc p oedran chweched dosbarth perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd y cynigion ynddi neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn felly yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd pob un o'r camau.

     11. Os cynigion ydynt i newid ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, datganiad a yw'r cynigion i'w gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu ac, os yw'r cynigion i'w gweithredu gan y ddau, datganiad ar i ba raddau y mae'r ddau gorff i'w gweithredu.

     12. Datganiad y bydd gofyn i'r cynnig gael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.

     13. Datganiad o effaith rheoliad 6 gan gynnwys y cyfeiriad y dylid anfon gwrthwynebiad i'r cynigion iddo.



ATODLEN 2
Rheoliad 11


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CYNIGION A GYHOEDDIR O DAN ATODLEN 7


     1. Datganiad bod y cynigion yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor.

     2. Y dyddiad y bwriedir gweithredu'r cynigion neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, y dyddiad y bwriedir gweithredu pob cam.

     3. Manylion yr ysgolion neu golegau addysg bellach y caiff disgyblion sydd yn yr ysgol y mae'r ddarpariaeth ar ei chyfer i ddod i ben eu mynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.

     4. Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.

     5. Dadansoddiad o effaith hirdymor y cynigion ar yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi.

     6. Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i ddod â'r ddarpariaeth i ben.

     7. Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol ym mhob grwcirc p oedran perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd y cynigion ynddi neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn felly yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd pob un o'r camau.

     8. Os cynigion ydynt i gau chweched dosbarth  - 

    (a) mewn ysgol gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol, datganiad mai dyletswydd yr awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion;

    (b) mewn ysgol wirfoddol, ysgol sefydledig neu ysgol arbennig, dyletswydd y corff llywodraethu yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion.

     9. Os cynigion ydynt i gau  - 

    (a) sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed sy'n ysgol gymunedol neu'n ysgol gymunedol arbennig, datganiad mai dyletswydd ar yr awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion;

    (b) sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed sy'n ysgol wirfoddol neu'n ysgol sefydledig, datganiad mai dyletswydd wedi'i rhannu gan y corff llywodraethu a'r awdurdod addysg lleol yw'r ddyletswydd i weithredu'r cynigion.

     10. Datganiad yn esbonio effaith paragraff 41 o Atodlen 7 a rheoliad 15, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ar y Cynulliad Cenedlaethol.

     11. Cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ato.



ATODLEN 3
Rheoliadau 7 ac 13


YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON AT Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL MEWN CYSYLLTIAD Â CHYNIGION A GYHOEDDIR O DAN ADRAN 113A NEU ATODLEN 7




RHAN I

DEHONGLI

     1. Yn yr Atodlen hon  - 

    ystyr "y flwyddyn ysgol gyfredol" ("the current school year") yw'r flwyddyn ysgol y cyhoeddir y cynigion ynddi;

    ystyr "arholiadau TAG Safon Uwch" ("GCE "A" level examinations") ac "arholiadau TAG Uwch Gyfrannol" ("GCE "AS" examinations") yw arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Safon Uwch ac arholiadau Tystysgrif Addysg Gyffredinol Uwch Gyfrannol yn eu trefn;

    ystyr "TGAU" ("GCSE") yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

    ystyr "GNVQ" ("GNVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol;

    ystyr "NVQ" ("NVQ") yw Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol;

    "y radiws perthnasol" ("the relevant radius") yw radiws o 4.828032 cilometr (tair milltir); a

    mae i "rhif safonol perthnasol" yr ystyr a roddir i "relevant standard number" gan adran 84(6) o Ddeddf 1998.



RHAN 2

YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON MEWN CYSYLLTIAD Â CHYNIGION O DAN ADRAN 113A NEU ATODLEN 7 OS YW'R YSGOL YN YSGOL BRIF FFRWD

     2. Amcanion y cynnig.

     3. Manylion yr ymgynghori a fu cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys  - 

    (a) copïau o'r dogfennau ymgynghori; a

    (b) barn ac ymatebion y personau yr ymgynghorwyd â hwy.

     4. Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion a phob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol ac ysgol sefydledig arall o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol.

     5. Rhestr o bob ysgol uwchradd o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol sy'n destun y cynigion, sy'n datgan pa rai o'r ysgolion hynny a gynhelir gan awdurdod addysg lleol gwahanol, ynghyd â'r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ysgol o'r fath am y flwyddyn ysgol gyfredol, ac am y flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch));

    (a) y rhif safonol perthnasol ar gyfer pob grwcirc p oedran perthnasol;

    (b) nifer y grwpiau blwyddyn;

    (c) faint o leoedd sydd yn yr ysgol; ac

    (ch) nifer y disgyblion yn yr ysgol,

a rhagolwg o'r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     6. Os yw'r cynnig yn ymwneud â newid yn yr addysg chweched dosbarth presennol, manylion canlynol yr addysg chweched dosbarth a ddarperir yn gyfredol yn yr ysgol  - 

    (a) cyrsiau sy'n arwain at arholiadau TAG Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol,

    (b) cyrsiau sy'n arwain at gymwysterau galwedigaethol uwch (GNVQs uwch yn benodol),

    (c) cyrsiau eraill, ac

    (ch) nifer y disgyblion sy'n mynychu pob cwrs.

     7. Manylion unrhyw effaith a gaiff y cynigion ar yr ysgol o ran darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

     8. Os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7, copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[
12] y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol yn eu sgil.

     9. Os cynigion ydynt i ddod â darpariaeth i ben y mae'r awdurdod addysg lleol yn cydnabod yn un a gedwir ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig  - 

    (a) manylion y ddarpariaeth amgen ar gyfer disgyblion y gwneir darpariaeth o'r fath ar eu cyfer yn gyfredol;

    (b) manylion nifer y disgyblion y gwnaed darpariaeth o'r fath iddynt yn ystod pob un o'r pedair blwyddyn ysgol o flaen y flwyddyn ysgol gyfredol;

    (c) cynigion i ddiwygio datganiadau ac anghenion addysgol arbennig y disgyblion y gwneir y ddarpariaeth ar eu cyfer yn gyfredol; ac

    (ch) manylion y ddarpariaeth a wneir y tu allan i ardal awdurdod addysg lleol ar gyfer disgyblion na ellir diwallu eu hanghenion yn ardal yr awdurdod hwnnw am fod y ddarpariaeth wedi dod i ben.

     10. Os cynigion ydynt i sefydlu darpariaeth y mae awdurdod addysg lleol yn cydnabod ei bod yn cael ei chadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig  - 

    (a) disgrifiad o'r mathau o anawsterau dysgu y mae'r addysg i'w darparu mewn perthynas â hwy;

    (b) manylion unrhyw nodweddion arbenigol ychwanegol i'w darparu;

    (c) nifer arfaethedig y disgyblion y gwneir y ddarpariaeth ar eu cyfer;

    (ch) manylion ar sut y mae'r ddarpariaeth i'w hariannu;

    (d) datganiad a fydd yr addysg yn cael ei darparu i blant ag anghenion addysgol arbennig nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol y mae'r cynigion yn berthnasol iddynt;

    (dd) datganiad a fydd costau'r ddarpariaeth yn cael eu talu o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol; ac

    (e) lleoliad y ddarpariaeth os na sefydlir hi ar safle presennol yr ysgol.



RHAN 3

YR WYBODAETH SYDD I'W HANFON MEWN CYSYLLTIAD Â CHYNIGION O DAN ADRAN 113A NEU ATODLEN 7 OS YW'R YSGOL YN YSGOL ARBENNIG

     11. Amcanion y cynnig.

     12. Manylion yr ymgynghori cyn i'r cynigion gael eu cyhoeddi gan gynnwys - 

    (a) copïau o'r dogfennau ymgynghori; a

    (b) barn ac ymatebion y personau yr ymgynghorwyd â hwy.

     13. Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion.

     14. Rhestr o'r canlynol  - 

    (a) yr holl ysgolion arbennig sy'n darparu addysg ar gyfer disgyblion dros oedran ysgol gorfodol, a

    (b) yr holl ysgolion eraill a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol y mae darpariaeth ynddynt a gydnabyddir gan yr awdurdod addysg lleol yn un a gedwir ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig,

yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.

     15. Gwybodaeth o ran  - 

    (a) nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff 14(a), a

    (b) nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff 14(b) y gwneir y ddarpariaeth y cyfeirir ati yn yr is-baragraff hwnnw ar eu cyfer,

yn y flwyddyn ysgol gyfredol a rhagolwg o'r nifer hwnnw am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     16. Gwybodaeth o ran nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ag anghenion addysgol arbennig o bob un o'r mathau y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol gyfredol ar eu cyfer ynghyd â rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.

     17. Manylion unrhyw effaith a gaiff y cynigion ar yr ysgol o ran darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

     18. Os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7, copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.



RHAN 4

YR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN WNEIR Y CYNIGION O DAN ADRAN 113A I GAU CHWECHED DOSBARTH NEU I NEWID TERFYN UCHAF OEDRAN YSGOL NEU O DAN ATODLEN 7 I GAU CHWECHED DOSBARTH

     19. Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (c)),  - 

    (a) nifer y grwpiau blwyddyn,

    (b) faint o le sydd yn yr ysgol, ac

    (c) nifer y disgyblion sydd yn yr ysgol,

a rhagolwg o'r niferoedd hynny ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn, gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

     20. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r bedair blwyddyn ysgol flaenorol  - 

    (a) nifer y disgyblion yn yr ysgol,

    (b) nifer y disgyblion ym mhob grwcirc p oedran ac o bob rhyw, ac

    (c) nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol,

a rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.

     21. Pan fydd y cynigion yn ymwneud ag ysgol wirfoddol, datganiad a fydd, o ganlyniad i'r cynigion, angen mwyach am y fangre a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol ac os na fydd angen  - 

    (a) datganiad a yw'r fangre honno i'w gwerthu, ac os felly, amcangyfrif o arenillion y gwerthiant, a

    (b) os nad yw'r fangre i'w gwerthu, datganiad ar ddefnydd arfaethedig y fangre,

os trefnwyd bod yr wybodaeth honno ar gael i'r Cyngor.

     22. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grwcirc p blwyddyn sy'n aros yn yr ysgol sy'n destun cynigion yn y ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.

     23. Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grwcircp oedran sydd wedi trosglwyddo o'r ysgol sy'n destun y cynigion i sefydliad arall sy'n darparu addysg llawnamser neu ran-amser yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 22.

     24. Manylion y sefydliadau y trosglwyddodd y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 23 iddynt gan ddangos faint o ddisgyblion a aeth i bob sefydliad felly.

     25. Nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 22 a 23 ym mhob grwcirc p blwyddyn fel cyfran o gyfanswm y disgyblion yn y grwcirc p blwyddyn hwnnw.

     26. Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y bwriedir y gall disgyblion sy'n cael addysg chweched dosbarth ar hyn o bryd drosglwyddo iddynt os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

     27. Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau canlynol ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 24  - 

    (a) canlyniadau arholiadau TGAU wedi'u cyfyngu, yn achos ysgolion heblaw'r ysgol sy'n destun y cynigion a cholegau addysg bellach, i ganlyniadau arholiadau TGAU a gymerwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

    (b) canlyniadau arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol TAG, ac

    (c) NVQs, GNVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill a enillwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

     28. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 24 a 26 sydd yn ysgolion.

     29. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr teithio byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 24 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 26 (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 neu baragraff 4 o Atodlen 2).

     30. Cynllun datblygu sy'n nodi effaith tymor hir y cynnig.

     31. Manylion unrhyw gostau cylchol yn dilyn gweithredu'r cynigion ac unrhyw arbedion mewn gwariant o ganlyniad gweithredu'r cynigion.



RHAN 5

YR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON PAN WNEIR Y CYNIGION O DAN ATODLEN 7 I GAU SEFYDLIAD I DDISGYBLION 16 I 19 OED

     32. Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch)),  - 

    (a) y rhif safonol perthnasol ar gyfer pob grwcirc p oedran perthnasol;

    (b) nifer y grwpiau blwyddyn;

    (c) faint o le sydd yn yr ysgol; ac

    (ch) nifer y disgyblion yn yr ysgol.

     33. Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r bedair blwyddyn ysgol flaenorol  - 

    (a) nifer y disgyblion yn yr ysgol;

    (b) nifer y disgyblion ym mhob grwcirc p oedran ac o bob rhyw; ac

    (c) nifer y disgyblion â phob un o'r mathau o anghenion addysgol arbennig y mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar eu cyfer yn yr ysgol.

     34. Yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ystafelloedd yn yr ysgol  - 

    (a) lleoliad yr ystafelloedd;

    (b) a yw'r ysgol ar safle sengl neu ar safle wedi'i rannu; ac

    (c) manylion yr ystafelloedd cyffredinol ac arbenigol.

     35. Manylion yr ysgolion a'r colegau addysg bellach y gellid yn rhesymol, ym marn y Cyngor, ddisgwyl i'r disgyblion a fyddai fel arall wedi mynychu'r ysgol allu eu mynychu ar ôl darfod oedran ysgol gorfodol os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.

     36. Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 27 am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 35.

     37. Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 35 sydd yn ysgolion.

     38. Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a bennir ym mharagraff 35 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2).



RHAN 6

YR WYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W HANFON OS GWNEIR Y CYNIGION O DAN ADRAN 113A I EHANGU MANGRE CHWECHED DOSBARTH PRESENNOL NEU SEFYDLIAD I DDISGYBLION 16 I 19 OED, I DDARPARU ADDYSG YCHWANEGOL CHWECHED DOSBARTH, NEU I SEFYDLU CHWECHED DOSBARTH NEWYDD

     39. Os cynigion ydynt i ehangu mangre'r ysgol neu sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed  - 

    (a) manylion o sut y bwriedir ariannu gweithredu'r cynigion;

    (b) manylion o unrhyw gostau cludiant neu gostau cylchol eraill neu unrhyw arbedion o ganlyniad i'r cynigion.

     40. Os cynigion ydynt i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel bod yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth neu addysg chweched dosbarth ychwanegol, yr wybodaeth ganlynol  - 

    (a) nifer y disgyblion a gynigir dros oedran ysgol gorfodol yn y flwyddyn ysgol y bwriedir gweithredu'r cynigion ynddi a'r flwyddyn ysgol ganlynol os cymeradwyir y cynigion;

    (b) manylion of unrhyw addysg chweched dosbarth llawnamser a ddarperir yn gyfredol;

    (c) manylion o nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grwcirc p blwyddyn sy'n gadael yr ysgol ac yn trosglwyddo i sefydliadau eraill sy'n darparu addysg llawnamser ynghyd ag enwau'r sefydliadau o dan sylw ar gyfer y flwyddyn ysgol ddiweddaraf sy'n diweddu cyn y flwyddyn pan gyhoeddwyd y cynigion;

    (ch) nifer y disgyblion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) ym mhob grwcirc p blwyddyn fel cyfran o gyfanswm nifer y disgyblion yn y grwcircp blwyddyn hwnnw;

    (d) manylion yr arholiadau canlynol, am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol, yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas a phob sefydliad yn y sector addysg bellach a enwir yn unol ag is-baragraff (c)  - 

      (i) canlyniadau arholiadau TGAU wedi'u cyfyngu, yn achos ysgolion heblaw'r ysgol sy'n destun y cynigion a sefydliadau yn y sector addysg bellach, i ganlyniadau arholiadau TGAU a safwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

      (ii) canlyniadau arholiadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol TAG,

      (iii) NVQs, GNVQs a chymwysterau galwedigaethol eraill a enillwyd gan ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

    (dd) cynllun datblygu ar gyfer yr ysgol sy'n nodi effaith tymor hir y cynigion;

    (e) manylion o'r cyrsiau sydd i'w cynnig (os cymeradwyir y cynigion) sy'n arwain i arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol TAG a chymwysterau galwedigaethol uwch rhagolwg o'r galw am bob cwrs o'r fath, gan gynnwys manylion o sut y diwellir y gofyn am addysg grefyddol i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;

    (f) nifer y disgyblion arfaethedig y darperir addysg chweched dosbarth iddynt os cymeradwyir y cynigion;

    (ff) faint o leoedd a arfaethir ar gyfer disgyblion y darperir addysg chweched dosbarth iddynt os cymeradwyir y cynigion;

    (g) nifer y lleoedd sydd ar gael mewn sefydliadau a enwir yn unol ag is-baragraff (c) sydd yn ysgolion;

    (ng) manylion unrhyw gostau cylchol yn dilyn gweithredu'r cynigion ac unrhyw arbedion mewn gwariant o ganlyniad i weithredu'r cynigion; a

    (h) manylion  - 

      (i) unrhyw adnoddau arbenigol ychwanegol i gefnogi'r ddarpariaeth arfaethedig,

      (ii) trefniadau i hysbysu disgyblion a rhieni am y cyfleoedd ar gyfer addysg sy'n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol yn yr ardal, a

      (iii) y trefniadau presennol a'r rhai arfaethedig i gydweithredu a chyfnewid gwybodaeth rhwng yr ysgol sy'n destun y cynigion, ysgolion eraill a gynhelir a sefydliadau yn y sector addysg bellach.



ATODLEN 4
Rheoliad 18


CYNIGION O DAN BARAGRAFF 43(4) O ATODLEN 7


     1. Yn yr Atodlen hon  - 

    ystyr "y cynigion gwreiddiol" ("the original proposals") yw'r cynigion a gymeradwywyd o dan Ran III o Atodlen 7 y mae'r cynigion newydd yn ymwneud â hwy; ac

    ystyr "y cynigion newydd" ("the new proposals") yw'r cynigion hynny a grybwyllir ym mharagraff 43(4) o Atodlen 7.

     2. Rhaid i'r cynigion newydd  - 

    (a) pan fydd yr ysgol yn ysgol brif ffrwd gael eu cyhoeddi  - 

      (i) drwy gael eu gosod mewn man amlwg yn yr ardal y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu;

      (ii) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal honno; a

      (iii) drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

    (b) pan fydd yr ysgol yn ysgol arbennig gael eu cyhoeddi  - 

      (i) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol; a

      (ii) drwy gael eu gosod ym mhrif fynedfa'r ysgol neu wrth ei hymyl, neu os oes mwy nag un brif fynedfa, pob un ohonynt.

     3. Rhaid i'r cynigion newydd gynnwys  - 

    (a) yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y cynigion gwreiddiol, a

    (b) datganiad paham y bwriedir na ddylid gweithredu'r cynigion gwreiddiol.

     4. Cyn cyhoeddi'r cynigion newydd rhaid i'r Cyngor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghori â'r personau hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.

     5. Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol  - 

    (a) copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd;

    (b) copi o'r wybodaeth a anfonir at y Cynulliad Cenedlaethol o dan baragraff 21(1)(b) neu 29(1)(b) o Atodlen 7 a rheoliad 13 pan gyhoeddwyd y cynigion gwreiddiol; ac

    (c) yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 13 a fyddai'n gymwys pe bai'r cynigion gwreiddiol wedi'u cyhoeddi pan gyhoeddwyd y cynigion newydd.

     6. Pan fydd yr ysgol sy'n destun y cynigion newydd yn ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd at y cyrff neu'r personau yr anfonwyd copi o'r cynigion gwreiddiol atynt o dan baragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 a rheoliad 14.

     7. Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion newydd at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


O dan adran 113A o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ("Deddf 2000") ac Atodlen 7A iddi, fel y'u menwnosodwyd gan adran 72 o Ddeddf Addysg 2002, caiff Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant ("y Cyngor"), mewn amgylchiadau penodedig, wneud cynigion ar gyfer  - 

  • sefydlu ysgol chweched dosbarth a gynhelir,

  • newid disgrifiad a ragnodwyd i ddarpariaeth chweched dosbarth mewn ysgol neu ysgolion a gynhelir, neu

  • cau ysgol chweched dosbarth a gynhelir.

O dan Atodlen 7 i Ddeddf 2000 caiff y Cyngor, mewn amgylchiadau penodedig, gyhoeddi cynigion ar gyfer newid ysgol a gynhelir fel na fydd bellach yn darparu addysg chweched dosbarth, neu ar gyfer cau ysgol chweched dosbarth a gynhelir.

Mae Ddeddf 2000 yn nodi gweithdrefnau ar gyfer arfer y pwerau hyn gan y Cyngor. Yn benodol, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi cynigion sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Nodir y fframwaith ar gyfer y gweithdrefnau hyn yn Deddf 2000, ond mae llawer o'r manylion i'w rhagnodi mewn Rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny ac, yn achos darpariaethau a wneir yn Rhan 3 (o ran Atodlen 7 i Ddeddf 2000), yn disodli (gyda rhai newidiadau) y darpariaethau a geir yn Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002.

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.

Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth o ran cynigion o dan adran 113A.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r disgrifiadau o newidiadau i ysgolion a gynhelir y gellir gwneud cynigion ar eu cyfer.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer y broses ymgynghori gan y Cyngor cyn gwneud cynnig.

Mae rheoliad 5 ynghyd ag Atodlen 1 yn rhagnodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynnig a'r gofynion i gyhoeddi'r cynigion a hysbysu'r personau a bennir yn y rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwrthwynebu'r cynigion.

Mae rheoliad 7  -  ynghyd â rhannau 2, 3, 4 a 6 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth i'r Cyngor gyflwyno cynigion ynghyd â gwrthwynebiadau a chyda gwybodaeth ychwanegol a ragnodwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff y Cyngor dynnu cynigion yn ôl cyn penderfynu arnynt.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth am ei benderfyniadau i bersonau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn rhagnodi'r Cyngor fel y person a all ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion ac mae'n rhagnodi'r personau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â hwy cyn penderfynu y bydd y gofyniad i weithredu'r cynigion yn peidio â bod yn gymwys.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth o ran cynigion o dan Atodlen 7.

Mae rheoliad 11 ynghyd ag Atodlen 2 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y cynigion a gyhoeddir.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi'r dull y mae'n rhaid cyhoeddi'r cynigion.

Mae rheoliad 13 ynghyd â rhannau 2 i 5 o Atodlen 3 yn rhagnodi gwybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â'r cynigion a gyhoeddwyd.

Mae rheoliad 14 yn rhagnodi cyrff eraill y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion atynt yn achos ysgolion arbennig.

Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer y terfynau amser i wrthwynebu'r cynigion.

Mae rheoliad 16 yn rhagnodi digwyddiadau y gellir eu pennu yn achos cymeradwyaeth amodol o'r cynigion.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth am ei benderfyniadau i'r personau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.

Mae rheoliad 18 ynghyd ag Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynigion gan y Cyngor na ddylid gweithredu cynigion blaenorol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau atodol.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer gweithredu cynigion os bydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol arbennig gymunedol.

Mae rheoliad 20 yn gwneud diwygiad canlyniadol ac mae rheoliad 21 yn diddymu Rheoliadau blaenorol.


Notes:

[1] 1998 p.31.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 2000 p.21; mewnosodwyd adran 113A ac Atodlen 7A gan adran 72 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 9 iddi. Diwygiwyd Atodlen 7 gan baragraffau 11 a 15 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg 2002.back

[4] 1992 p.13.back

[5] 1996 p.56.back

[6] O.S. 1999/1671.back

[7] 1990 p.8.back

[8] O.S. 1997/319; diwygiwyd gan O.S. 1998/371.back

[9] O.S. 1999/2020 y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[10] O.S. 2002/432 (Cy.55).back

[11] 1998 p.38.back

[12] 1996 p.57.back



English version



ISBN 0 11 090958 5


  © Crown copyright 2004

Prepared 29 June 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010