BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041013w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1013 (Cy.110)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 iddi[1], ac adran 143 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi [2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) ac Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau bilio yng Nghymru yn unig.

Diwygiadau
    
2. Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992")[3] a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989")[4] yn unol â rheoliad 3.

Taliadau ynghylch atafaelu
     3. Yn Atodlen 5 o Reoliadau 1992 ac yn Atodlen 3 o Reoliadau 1989:

    (a) yng ngholofn (2) o'r Tabl i baragraff 1 - 

      (i) mewn perthynas â phennawd A (ymweliad pan na wneir atafaeliad), yn lle "£20.00" rhodder "£22.50", ac yn lle "£15.00" rhodder "£16.50";

      (ii) mewn perthynas â phennawd E (meddiant o nwyddau), yn lle "£12.50" rhodder "£14.00" ac yn lle "£10.00" rhodder "£11.00"; a

      (iii) mewn perthynas â phennawd H (taliad blaenorol etc.), yn lle "£20.00" rhodder "£22.50"; a

    (b) yn is-baragraff (1) o baragraff 2 (symiau mewn perthynas ag atafaeliad) - 

      (i) ym mharagraff (a), yn lle "£20" rhodder "£22.50"; a

      (ii) ym mharagraff (b), yn lle "20 per cent" rhodder "22.5 per cent".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 ("Rheoliadau 1989") mewn perthynas â Chymru.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio lefelau ffioedd penodol y gellir eu codi mewn perthynas ag atafaelu. Mae'r cynnydd hwn yn unol â chwyddiant ers 1998 pan gynyddwyd y ffioedd ddiwethaf.


Notes:

[1] 1992 p.14. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn Atodlen 1.back

[2] 1988 p.41. Datganolwyd y pwerau hyn, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1.back

[3] O.S. 1992/613, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/773, 1998/295.back

[4] O.S. 1989/1058, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1990/145, 1992/474 a 1993/616.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090936 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 20 April 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010