BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041000w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif1000 (Cy.106)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2].

Cymhwyso, enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

Prisio ar sail y contractiwr
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989[3] fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl paragraff (1B) mewnosoder - 

        " (1C) Paragraph (2C) of this regulation applies in relation to a hereditament shown in a non-domestic rating list compiled on or after the 1st of April 2005 the rateable value of which is being ascertained using the contractor's basis of valuation."

    (3) Ar ôl paragraff (2B) mewnosoder  - 

        " (2C) In applying the provisions of the Act referred to in paragraph (2) of this regulation in circumstances where paragraph (1C) of this regulation applies, the appropriate rate shall be assumed to be - 

      (a) in the case of a defence hereditament, an educational hereditament or a healthcare hereditament, 3.3%; and

      (b) in any other case, 5.0%".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Paragraff 2 o Atodlen 6 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ("Deddf 1988") yn darparu bod gwerth ardrethol hereditament annomestig yn cael ei benderfynu trwy gyfeirio at y rhent y gellid disgwyl yn rhesymol ei ddefnyddio, yn ôl yr amcangyfrif, i osod yr hereditament o flwyddyn i flwyddyn.

Yn yr achosion hynny lle nad oes tystiolaeth fwy uniongyrchol o werth rhent, yn hytrach, penderfynir ar werth ardrethol hereditament annomestig trwy ddatgyfalafu cyfanswm gwerth cyfalaf amcangyfrifedig yr hereditament (yr enw ar hyn yw "sail prisio'r contractiwr"). Rhagnodir y cyfraddau datgyfalafu gan Reoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988. Y prif Reoliadau a wnaed o dan y pwcircer hwn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989 (fel y'u diwygiwyd) ("Rheoliadau 1989"), y mae Rheoliad 2 ohonynt yn rhagnodi'r cyfraddau presennol.

I'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, mae'r pwcirc er i wneud Rheoliadau o dan baragraff 2(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 1988 wedi'i drosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999. Drwy ddibynnu ar y pwcirc er hwn, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i ddiwygio, gydag effaith o 1 Ebrill 2005, y cyfraddau datgyfalafu a ragnodwyd gan Reoliad 2 o Reoliadau 1989.


Notes:

[1] 1988 p.41.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 143(1) a 143(4A) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi.back

[3] O.S. 1989/2303.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090919 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010