BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040999w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif999 (Cy.105) (C.43)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 30 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 93(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2004
    
2. Mae darpariaethau canlynol Rhan 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn dod i rym ar 31 Mawrth 2004 mewn perthynas â Chymru  - 

    (a) adran 40 (cau mangreoedd swnllyd);

    (b) adran 41 (cau mangreoedd swnllyd: atodol);

    (c) adran 42 (ymdrin â swcirc n yn y nos);

    (ch) adran 43 (hysbysiadau cosbau ar gyfer graffiti a gosod posteri);

    (d) adran 44 (ystyr tramgwydd perthnasol);

    (dd) adran 45 (derbynebau a derbyniadau cosbau);

    (e) adran 47 (dehongli etc.);

    (f) adran 48 (hysbysiadau cael gwared ar graffiti);

    (ff) adran 49 (adennill gwariant);

    (g) adran 50 (canllawiau);

    (ng) adran 51 (apelau);

    (h) adran 52 (esemptiad rhag atebolrwydd mewn perthynas â hysbysiadau cael gwared ar graffiti);

    (i) adran 55 (gwastraff a adawyd yn anghyfreithiol etc.); ac

    (l) adran 56 (estyn pwerau awdurdod sbwriel i gymryd camau adfer).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2004, mewn perthynas â Chymru, ddarpariaethau penodol o Ran 6 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (" y Ddeddf"), sef:

    (a) adran 40, sy'n rhoi pwcircer i awdurdodau lleol i wneud gorchmynion cau mewn perthynas â mangreoedd swnllyd;

    (b) adran 41, sy'n gwneud darpariaethau atodol mewn perthynas â gorchmynion cau;

    (c) adran 42, sy'n diwygio Deddf Swcirc n 1996 i estyn y cymhwysiad adrannau 2 i 9 o'r Ddeddf honno at ardal pob awdurdod lleol, i roi disgresiwn i ymchwilio i gwynion am swcirc n yn y nos yn lle'r ddyletswydd y mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn ddarostyngedig iddi, ac i roi pwcircer i wneud darpariaeth, drwy reoliadau, ar gyfer pa ddibenion y ceir defnyddio'r derbyniadau cosb sy'n dod i law o dan adran 8 o'r Ddeddf honno;

    (ch) adran 43, sy'n rhoi pwcircer i awdurdodau lleol i ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig i bersonau sydd wedi cyflawni tramgwydd perthnasol yn ardal yr awdurdod;

    (d) adran 44, sy'n diffinio ystyr "relevant offence" at ddibenion adran 43;

    (dd) adran 45, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r cosbau sy'n daladwy yn unol â'r hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;

    (e) adran 47, sy'n gwneud darpariaeth o ran dehongli termau penodol ac sy'n rhoi pwcircer i'r person priodol (a ddiffinnir, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru) i gyhoeddi canllawiau mewn perthynas â hysbysiadau cosbau penodedig o dan adran 43;

    (f) adran 48, sy'n rhoi pwcircer i awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cael gwared ar graffiti i bersonau sy'n gyfrifol am arwynebau a ddifwynwyd gan graffiti;

    (ff) adran 49, sy'n rhoi pwcircer i awdurdodau lleol adennill oddi wrth y personau y cyflwynwyd hysbysiadau cael gwared ar graffiti iddynt unrhyw wariant a dynnwyd yn rhesymol gan yr awdurdod wrth gael gwared ar y difwyniad;

    (g) adran 50, sy'n gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion adrannau 48 a 49, ac sy'n gosod dyletswydd ar yr awdurdodau lleol hynny i roi sylw i'r canllawiau hynny;

    (ng) adran 51, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn hysbysiadau cael gwared ar graffiti;

    (h) adran 52, sy'n esemptio awdurdodau lleol a phersonau penodol rhag atebolrwydd dros ddifrod a ddaw o arfer neu honni arfer pwerau penodol ynghylch hysbysiadau cael gwared ar graffiti;

    (i) adran 55, sy'n diwygio Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 a Deddf yr Amgylchedd 1995 i estyn pwerau gorfodi awdurdodau casglu gwastraff, ac sy'n mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i roi pwerau i'r Ysgrifennydd Gwladol gyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch y categorïau o wastraff a ddylai gael blaenoriaeth o dan adran 59 o'r Ddeddf honno a dyroddi hysbysiadau yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu gwybodaeth mewn perthynas ag arfer pwerau o dan adrannau 33(1) a 59 o'r Ddeddf honno; ac

    (l) adran 56, sy'n diwygio adran 92 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i estyn y categorïau o dir y caiff prif awdurdodau sbwriel gymryd camau mewn perthynas â hwy.



    NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

    (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi cael neu yn cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru yn ogystal â Lloegr gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu Atodlen Dyddiad cychwyn Rhif O.S.
1 i 11 20 Ionawr 2004 2003/3300
18 27 Chwefror 2004 2003/3300
23 27 Chwefror 2004 2003/3300
25 i 29 27 Chwefror 2004 2003/3300
30 i 38 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(1), (2), (3) (yn rhannol), (4), (5) a (6) 20 Ionawr 2004 2003/3300
39(3) (y gweddill) 30 Ebrill 2004 2003/3300
53 20 Ionawr 2004 2003/3300
57 i 59 20 Ionawr 2004 2003/3300
60 i 64 27 Chwefror 2004 2003/3300
85(1), (2), (3) a (4) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
85(8) 27 Chwefror 2004 2003/3300
86(3) (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
87 20 Ionawr 2004 2003/3300
89(1), (2), (3), (4), (6) a (7) 20 Ionawr 2004 2003/3300
92 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300
Atodlen 3 (yn rhannol) 20 Ionawr 2004 2003/3300


Notes:

[1] 2003 p. 38.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090918 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010