BAILII
British and Irish Legal Information Institute


Freely Available British and Irish Public Legal Information

[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040996w.html

[New search] [Help]

2004 Rhif996 (Cy.104)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 30 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2004 


TREFN YR ERTHYGLAU


RHAN 1

RHAGARWEINIOL
1. Teitl, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Trwyddedau, awdurdodiadau a chymeradwyaethau

RHAN 2

CADW COFNODION
4. Hysbysiadau daliadau
5. Cofnodion symud
6. Cofnodion lladd-dai
7. Cofnodion gwerthu mewn arwerthiant
8. Cofnod o'r nifer o foch ar ddaliad
9. Cadw cofnodion

RHAN 3

MARCIAU ADNABOD
10. Marc adnabod
11. Gofynion ar gyfer tagiau clust
12. Slapfarc
13. Marciau ychwanegol

RHAN 4

GOFYNION ADNABOD CYFFREDINOL
14. Adnabod moch dros 12 mis a symudir oddi ar ddaliad
15. Adnabod moch o dan 12 mis a symudir oddi ar ddaliad
16. Adnabod moch a symudir i ddaliad o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd

RHAN 5

GOFYNION ADNABOD Y CHWANEGOL
17. Gofynion adnabod ychwanegol
18. Symud moch 12 mis oed neu'n iau i ladd-dy
19. Symud moch i sioeau, arddangosfeydd, ac at ddibenion bridio
20. Symud moch i'w hallforio

RHAN 6

RHEOLEIDDIO SYMUDIADAU
21. Symud moch
22. Trwyddedau cerdded ar gyfer moch anwes
23. Daliadau cymeradwy

PART 7

AMRYWIOL
24. Dileu marc adnabod
25. Amnewid marc adnabod
26. Cyflwyno dogfennau a chofnodion
27. Gorfodi
28. Dirymu

  ATODLEN COFNOD SYMUDIADAU'R DALIAD

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[
1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:



RHAN 1

RHAGARWEINIOL

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004; mae'n gymwys i Gymru, a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

    ystyr "ceidwad" ("keeper") yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch; a

    "ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    ystyr "daliad" ("holding") yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;

    mae i "daliad cymeradwy" ("approved holding") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 23;

    mae i "marc adnabod" ("identification mark") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 10;

    ystyr "marc y genfaint" ("herdmark") yw'r cod alffaniwmerig a ddyrennir i genfaint o foch gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag erthygl 4(2);

    ystyr "rhif CPH" ("CPH number") yw rhif daliad a neilltuir o dro i dro i unrhyw ddaliad neu ran o unrhyw ddaliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Trwyddedau, awdurdodiadau a chymeradwyaethau
    
3. Rhaid i unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, gall fod yn amodol ar amodau a chaniateir ei hatal, diwygio neu ddirymu yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.



RHAN 2

CADW COFNODION

Hysbysiadau daliadau
    
4.  - (1) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol Cynulliad am yr wybodaeth ganlynol o fewn un mis ar ôl sefydlu daliad  - 

    (a) cyfeiriad y daliad; a

    (b) enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad ("marc y genfaint"), ar ôl i'r wybodaeth ym mharagraff (1) gael ei darparu.

    (3) Rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newid neu y chwanegiad at yr wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl y newid neu'r ychwanegiad.

    (4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i geidwad sydd eisioes wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae ei angen o dan yr erthygl hon fod yn ysgrifenedig.

Cofnodion symud
    
5.  - (1) Rhaid i geidwad gofnodi pob un o symudiadau mochyn i'w ddaliad ac oddi yno o fewn 36 awr ar ôl y symud.

    (2) Rhaid i'r cofnod fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen.

    (3) Os yw'r symud ar gyfer unrhyw ddiben y cyfeirir ato yn erthyglau 19 neu 20 rhaid i'r ceidwad hefyd gofnodi'r rhif adnabod unigol unigryw.

Cofnodion Lladd-dai
    
6.  - (1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy, yn ychwanegol at ofynion erthygl 5, gofnodi manylion unrhyw fochyn y deuir ag ef i ladd-dy  - 

    (a) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 14, yn achos mochyn dros 12 mis oed;

    (b) nad yw wedi'i farcio yn unol ag erthygl 18 yn achos mochyn 12 mis oed neu'n iau; ac

    (c) nad yw'r ddogfen sy'n ofynnol gan erthygl 21 gydagef.

    (2) Rhaid i'r manylion i'w cofnodi gael eu cadw ar wahân i'r wybodaeth sy'n ofynnol gan erthygl 5 a rhaid iddynt gynnwys hefyd  - 

    (a) enw ceidwad y mochyn; a

    (b) y daliad yr anfonwyd y mochyn oddi arno i'w gigydda.

Cofnodion gwerthu mewn arwerthiant
    
7.  - (1) Mewn marchnad lle gwerthir moch trwy arwerthiant rhaid i feddiannydd y farchnad, ar gyfer pob lot of foch, gofnodi  - 

    (a) yr wybodaeth yn yr Atodlen;

    (b) enw'r gwerthwr a'r prynwr; a

    (c) rhif y lloc lle y daliwyd pob lot.

    (2) Rhaid i'r cofnod gael ei wneud o fewn 36 awr ar ôl y gwerthiant.

Cofnod o'r nifer o foch ar ddaliad
    
8. O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gadw cofnodion uchafswm nifer y moch sy'n bresennol fel rheol ar y daliad.

Cadw cofnodion
    
9.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud cofnodion o dan y Gorchymyn hwn eu cadw am o leiaf 6 blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod ynddi.

    (2) Caiff cofnodion fod yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig.



RHAN 3

MARCIAU ADNABOD

Marc adnabod
    
10.  - (1) Marc adnabod yw  - 

    (a) tag clust sydd wedi'i stampio neu wedi'i argraffu â'r llythrennau "UK" ac ar ôl hynny marc y genfaint; neu

    (b) tatw o farc y genfaint sy'n ddarllenadwy am oes y mochyn.

    (2) At ddibenion erthyglau 19 a 20 rhaid i farc y genfaint ym mharagraff (1) gael ei ddilyn gan rif adnabod unigol unigryw a neilltuir i'r mochyn gan y ceidwad.

Gofynion ar gyfer tagiau clust
    
11. Rhaid i dag clust  - 

    (a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;

    (b) bod wedi'i wneud naill ai o fetel neu blastig neu gyfuniad o fetel a phlastig;

    (c) bod yn amhosibl ymhêl ag ef;

    (ch) bod yn amhosibl ei ail-ddefnyddio;

    (d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi'i stampio arno;

    (dd) fod o ddylunwaith a fydd yn dal i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.

Slapfarc
    
12. Tatw o farc y genfaint a roddir ar ddwy ysgwydd flaen y mochyn yw slapfarc.

Marciau ychwanegol
    
13. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal ceidwad rhag marcio'r mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu rhag ychwanegu gwybodaeth ychwanegol at y marc adnabod, ar yr amod nad yw'r marciau hyn yn effeithio ar y gallu i darllen y marc adnabod neu'r slapfarc.



RHAN 4

GOFYNION ADNABOD CYFFREDINOL

Adnabod moch dros 12 mis oed a symudir oddi ar ddaliad
    
14. Ni chaiff neb symud mochyn dros 12 mis oed oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i farcio â'r canlynol  - 

    (a) marc adnabod; neu

    (b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.

Adnabod moch o dan 12 mis oed a symudir oddi ar ddaliad
    
15.  - (1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol ag erthygl 14 neu â marc dros dro.

    (2) Rhaid i farc dros dro - 

    (a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sydd gyda'r mochyn yn ystod y symud, alluogi'r daliad y symudwyd y mochyn oddi arno ddiwethaf i gael ei adnabod; a

    (b) para nes y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.

Adnabod moch a symudir i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
    
16.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n mewnforio mochyn o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd roi tag clust neu datw ar y mochyn sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn ganlynol  - 

    (a) y llythrennau "UK";

    (b) marc cenfaint y genfaint y cyflwynir y mochyn a fewnforiwyd iddi;

    (c) unrhyw wybodaeth arall, os yw'r ceidwad yn dymuno defnyddio gwybodaeth o'r fath; a

    (ch) y llythyren "F".

    (2) Rhaid i'r tag clust neu'r tatw gael ei roi ar y mochyn o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.



RHAN 5

GOFYNION ADNABOD Y CHWANEGOL

Gofynion adnabod ychwanegol
    
17. Mae'r gofynion adnabod ar gyfer symud a bennir yn erthyglau 18 i 20 yn gymwys yn ychwanegol at y gofynion yn Rhan 4.

Symud moch 12 mis oed neu'n iau i ladd-dy
    
18.  - (1) Ni chaiff neb symud mochyn 12 mis oed neu'n iau oddi ar ddaliad i ladd-dy neu farchnad gigydda oni bai ei fod wedi'i farcio â  - 

    (a) marc adnabod; neu

    (b) slapfarc sy'n ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn a thrwy gydol prosesu ei garcas.

    (2) Yn yr erthygl hon, ystyr marchnad gigydda yw marchnad i werthu moch y bwriedir eu cigydda yn ddiymdroi.

Symud moch i sioeau, arddangosfeydd ac at ddibenion bridio
    
19. Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad  - 

    (a) i sioe neu arddangosfa; neu

    (b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud oddi arno

oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2).

Symud moch i'w hallforio
    
20.  - (1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnach neu allforio rhyng-Gymunedol oni bai ei fod wedi'i farcio â marc adnabod sy'n cynnwys  - 

    (a) rhif adnabod unigol unigryw yn unol ag erthygl 10(2); a

    (b) y llythrennau "UK" o flaen marc y genfaint.

    (2) Mae paragraff (1) yn gymwys p'un ai tag clust ynteu tatw yw marc adnabod.



RHAN 6

RHEOLEIDDIO SYMUDIADAU

Symud moch
    
21.  - (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad sy'n pennu  - 

    (a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r moch yn cael eu symud oddi arnynt ac iddynt;

    (b) y dyddiad y mae'r symud yn digwydd;

    (c) y nifer o foch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu;

    (ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir; ac

    (d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhif lot y moch sy'n cael eu symud.

    (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo mochyn roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am o leiaf 6 mis.

    (3) Rhaid i geidwad daliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol, a hynny o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.

    (4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.

Trwyddedau cerdded i foch anwes
    
22.  - (1) Caiff ceidwad mochyn anwes wneud cais i'r Ysgrifennydd Gwladol am drwydded ("trwydded gerdded") sy'n caniatáu i'r ceidwad symud y mochyn heb gydymffurfio ag erthyglau 5 a 21.

    (2) Rhaid i'r person sy'n symud y mochyn o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symud.

Daliadau cymeradwy
    
23.  - (1) Daliad y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gymeradwyo at ddibenion symud moch y bwriedir eu bridio neu eu pesgi yw daliad cymeradwy.

    (2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y gellir symud moch oddi arnynt a pha ddaliadau y gellir eu symud iddynt.

    (3) Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi'u cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 [
2].



RHAN 7

AMRYWIOL

Dileu marc adnabod
     24. Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, ddileu marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn.

Amnewid marc adnabod
    
25.  - (1) Ni chaiff neb, oni bai ei fod yn cael ei awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol, amnewid marc adnabod a roddir neu a atodir o dan y Gorchymyn hwn oni bai  - 

    (a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen;

    (b) ei fod wedi'i ddileu am resymau lles; neu

    (c) ei fod wedi mynd ar goll.

    (2) Rhaid i unrhyw berson sy'n amnewid marc adnabod naill ai - 

    (a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu

    (b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.

Cyflwyno dogfennau a chofnodion
    
26. Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael eu cyflwyno os gwneir cais ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.

Gorfodi
    
27.  - (1) Mae'r Gorchymyn hwn i'w orfodi gan yr awdurdod lleol.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y Gorchymyn hwn i'w gyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol (yn ôl y digwydd) ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu
    
28.  - (1) Dirymir y canlynol - 

    (a) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3];

    (b) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro ) (Cymru) (Rhif. 2) (Diwygio) 2003[4]; a

    (c) Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003[5].

    (2) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud 1995[6]) mewn perthynas â Chymru yn unig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Mawrth 2004


Ben Bradshaw
Is-ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
30 Mawrth 2004



ATODLEN
Erthygl 5


COFNOD SYMUDIADAU'R DALIAD


Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004

Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod

―

Dyddiad y Symud Marc adnabod, slapfarc neu farc dros dro Nifer y moch Daliad y cawsant eu symud oddi arno Daliad y cawsant eu symud iddo
                        



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L 355, 5.12.92, t.0032) ac yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002. (O.S. 2002/2303 (Cy.228), fel y'i diwygiwyd). Mae'n gwneud y newidiadau sylweddol a ganlyn  - 

  • Mae'n dileu'r ddarpariaeth ddarfod fel bod gan y Gorchymyn bellach effaith barhaol (erthygl 1).

  • Mae'n diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud ag adnabod moch  - 

        
  • fel bod rhaid i fochyn dros 12 mis oed fod wedi'i farcio â marc adnabod neu slapfarc (erthygl 14), cyn cael ei symud oddi ar ddaliad, a bod rhaid i fochyn 12 mis oed neu'n iau fod wedi'i farcio yn y ffordd honno neu â marc dros dro (erthygl 15); a

        
  • fel bod rhaid i fochyn sy'n cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei adnabod yn naliad y gyrchfan â thag clust neu datw sy'n cynnwys y llythrennau "UK" ac ar ôl hynny y llythyren "F" (erthygl 16).

    Yn ychwanegol at y gofynion uchod, mae'r Gorchymyn yn darparu  - 

        
  • bod rhaid i fochyn 12 mis oed neu'n iau sy'n cael ei symud i ladd-dy neu farchnad gigydda gael ei farcio â marc adnabod neu slapfarc (erthygl 18);

        
  • bod rhaid i fochyn sy'n cael ei symud i sioe, arddangosfa neu i'w allforio a hefyd i'w fridio, lle bwriedir i'r mochyn gael ei ddychwelyd i'r daliad y cafodd ei symud oddi arno, gael ei farcio â marc adnabod unigryw sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw (erthyglau 19 a 20).

  • Mae'n ychwanegu erthygl 6 sy'n ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr lladd-dai gofnodi manylion moch sydd heb eu hadnabod o dan y Gorchymyn hwn.

  • Mae'n estyn y cyfnod y mae rhaid cadw cofnodion o 3 blynedd i 6 mlynedd (erthygl 9).

Mae Rhan 2 yn nodi gofynion o ran cadw cofnodion, gan gynnwys y gofyniad i gadw cofnodion symud (erthygl 5), cofnodion gwerthu mewn arwerthiant (erthygl 7) a chofnodion am y nifer o foch ar ddaliad (erthygl 8).

Mae Rhan 3 yn diffinio marciau adnabod (erthygl 10) a slapfarciau (erthygl 12) ac yn pennu'r gofynion ar gyfer tagiau clust (erthygl 11). Mae Rhan 6 yn rheoleiddio symud moch (erthygl 21) a moch anwes (erthygl 22) ac yn darparu ar gyfer cymeradwyo daliadau y gellir symud moch oddi arnynt heb sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966) (Cy. 211) yn naliad y gyrchfan (erthygl 23).

Mae Rhan 7 yn gwahardd dileu ac amnewid marciau adnabod, ac eithrio o dan rai amgylchiadau (erthyglau 24 a 25).

Mae'r Gorchymyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol (erthygl 27).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, ac yn dwyn cosb yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn ac fe'i lleolir yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1981 p. 22. Trosglwyddwd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i " the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Alban mewn perthynas â Chymru, i'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141) ac fe'u trosglwyddwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2003/1966 (Cy.211).back

[3] O.S. 2002/2303 (Cy. 228).back

[4] O.S. 2003/170 (Cy.30).back

[5] O.S. 2003/2763 (Cy.268).back

[6] O.S. 1995/11.back



English version



ISBN 0 11 090917 8


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004
About BAILII - FAQ - Copyright Policy - Disclaimers - Privacy Policy amended on 25/11/2010